Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Llyn Geirionnydd

← Dagrau'r nos Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Swn yr afon yn y dolydd →

XV.
LLYN GEIRIONNYDD.

Hyd lwybrau'r awelon i gartref y grug
Yn nwfwn ddistawrwydd y mynydd,
Mi grwydraf mewn breuddwyd i'r amser dedwydd fu,
Lle chwery glasliw don Llyn Geirionnydd.
Anesmwyth a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd;
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.

Daw'r awel i ganu ar delyn y grug,
A dychwel y gwanwyn i'r dolydd,
A chyfyd yr heulwen i wenu ar ei llun
Ym mynwes dawel, ddofn Llyn Geirionnydd.
Ond tywyll a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd;
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.

Ymlwybraf yn unig a thrist tua'r bedd,
Ac yno caf hedd i fy nghalon,
A'm hysbryd o'i gadwyn a'i holl ofidiau'n rhydd
Gaiff grwydro 'nghwmni'r haul a'r awelon.

Pan ddianc y niwl a chysgodion y gwyllnos
O flaen goleu nefol y wawrddydd,
Ar edyn yr awel a gawn ni gwrdd, fy nhlws,
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd?


Nodiadau

[golygu]