Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Men
| ← Rhuo, rhuo mae y gwynt | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Gorffwys don → |
XVIII.
MEN.
Mae'r awel yn y brigau
Yn canu uwch fy mhen
Felodus gerddi 'nghalon,
Men, Men, Men.
O na bawn gyda'r awel
Yn canu ei henw glân,
Ar draethell bell yng Nghymru,
Gorffwysfa'r tonnau mân.
Mae'r lloer dros furiau'r castell
Yn synnu llu y nen
A'r gerdd a ddysgodd gennyf,
Men, Men, Men.
O dos, y wenlloer oleu,
A'm neges at y ferch;
Bydd foddlon fod am heno
Yn llatai i fy serch.
Mae si'r munudau euraidd,
Wrth ddawnsio ar aden wen,
Yn uno'r gân dragwyddol,
Men, Men, Men.
Pa hyd y bydd eu telyn
Yn eilio'r felus gerdd
Ym myd y brad a'r gofid
A chysgod ywen werdd?
A gaiff fy nghalon wirion,
Heb ddannod ac heb sen,
Ganu am orig eto,
Men, Men, Men?
Os cysgod ywen werddlas
Ac angof fydd fy mri,
A'r gân yn fwy na'r cerddor,
Men, mae'r oll i ti.