Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Menna glan y lli
| ← Cloch y bugail | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Deilen hydref → |
IX.
MENNA GLAN Y LLI.
Ar lan y Fenai dawel, ddistaw hwyrnos haf,
Fan mae'r tonnau'n wynion, unwaith eto af,
Gyda'r hên atgofion, troion dyddiau fu,
Dyddiau caru Men y Minfor, Menna glan y lli.
Ar lan y Fenai dawel, awel rydd y môr,
Anadla ar y draethell nodau'r tonnog gôr,
Fel yn y dyddiau basiodd, dyddiau'm gwynnaf fri,
Dyddiau caru Men y Minfor, Menna glan y lli.
Yma yn yr awel, crwydra 'nghalon brudd,
At y pell orffennol gwyn fel canol dydd.
O na ddeuai eto ddyddiau gwyn i mi,
Dyddiau caru Men y Minfor, Menna glan y lli.
Ar lan y Fenai dawel, cwyd y don ei phen,
Yn goch gan liw'r machludiad, rhosliw gruddiau Men;
Dyna liw ieuenctid, lliw y dyddiau fu,
Dyddiau caru Men y Minfor, Menna glan y lli.
Ar lan y Fenai dawel, tresi eurwallt Men
Chwifiai unwaith yma'n awel rydd y nen;
Ac mae hwnnw eto'n euraidd fel y bu
'Nyddiau caru Men y Minfor, Menna glan y lli.
Ar lan y Fenai dawel anfon neges wnaf,
Neges caru'r gwanwyn, neges gofid haf,
Ddoi di unwaith eto, er mwyn y dyddiau fu,
Dyddiau'th garu Men y Minfor, Menna glan y lli?