Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Merch y brenin
| ← Robert Burns | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Breuddwyd → |
XXVI.
MERCH Y BRENIN.
[IN MEMORIAM O. A. E.]
Ar farch o liw yr eira,
A'r blodau yn ei bron,
Trwy'r dyffryn pell ac unig,
Pwy ydyw hon?
"O dduwies y gorllewin
Mewn gwisg o bali gwyn,
Beth geisi yma heddyw
Ar lawr y glyn?
Mae'th lygaid oer yn greulon
Ac amnaid yn eu swyn,
Yw'th neges i wrando'r adar
Yng nghôr y llwyn ?"
"Mi gerais fab y dyffryn,—
Mae'r adar yn fud i mi;
Caiff ddilyn merch y brenin,
A'th adael di."
"A hoffaist ti fyfinnau?
Gaf fi dy ddilyn di?
Daw arall i geisio Arthur—
Brenhines Bri!"
"Na, ceisio'r goreu'n unig
Yw'm neges yn y glyn,
Efe gaiff rodio gerddi
Y palas gwyn."
****
Ffarwel, fy Arthur anwyl,
Arall fy enaid i,
Pan ddaw'r frenhines honno
Nis cenfydd di.
Yng nghwmni merch y brenin
Yr aeth o'r tywyll lyn,
A minnau heb fy Arthur
Yn wylo'n syn.