Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Merch y winllan
| ← Priflys y gwyllnos | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Cloch y bugail → |
VII.
MERCH Y WINLLAN.
Rhof fy mysedd ar y tannau,
Tannau telyn aur fy nhadau;
Seinia, delyn anwyl Cymru,
Felus gerdd i'r fun wy'n garu.
Dywed wrthi fod fy nghalon.
Iddi'n curo'n bur a ffyddlon;
Fod pob curiad yn llefaru
Am swyn serch y ferch wy'n garu.
Cwyno wna yr awel unig
Yn y cymoedd pell mynyddig,
Cwyno 'nghangau mud y deri
Fel fy nghalon heb fy Mary.
Llef alarus sydd gan wylan
Unig ar anghysbell forlan;
Trist wyf finnau yn Eryri
Pan heb gwmni difyr Mary.
Tlysed yw a glân angyles,
Gwen ei grudd a gwen ei mhynwes;
Ac mae calon bur yn curo
Yn y fynwes wennaf honno.
Gwyn yw ewyn dig y weilgi,
Gwen a hardd yw'r wylaidd lili,
Gwyn ar fryn yw lluwch yr eiry,
Gwynnach, gwynnach dwylaw Mary.
Tyner esmwyth yw sidanwe,
Gloewbur yw gwlith y bore,
Glân a chlaer yw llygad ffynnon,
Gwell na'r oll yw'r llygaid duon.
Chwery hardd a nefol loewder
Ysbryd benyw yn eu dyfnder,
Darllen mil o serch gyfrinion
Wnaf yng ngwenau'r llygaid duon.
Caraf syllu ar y wenlloer
Yn y nef ar noson iasoer,
Gwenu wna hên leuad Cymru
Mewn estron dir ar ferch wy'n garu.
Dywed imi, leuad dirion,
Welaist ti f' anwylyd wenfron?
Roddodd hi ryw neges iti?
Pa sawl cusan yrrodd imi?
Dywed wrthi nos yfory
Iti gael ar fryniau Cymru
Gusan serch gan grwydryn unig.
I'w roi ar fin y ferch fonheddig.
Dwêd fod baich o hiraeth creulon
Am ei gweld yn llethu ei galon,
Mai trist a fydd hyd nes cael cusan
Gan delediw wenlliw'r Winllan.