Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Molawd merch

← Fy nghariad Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Haf a gaeaf →

XXXIII.
MOLAWD MERCH.

Swynol iawn yw'r lleuad dlos
Ar fron y nos yn gwenu;
Arddunol ydyw'r dymestl gref
Yn entrych nef yn gwgu;
Ond gwell na dim yw geneth wen
Am wneud i'r awen ganu.

Gwisgi yw dawns y lasliw don
Ar loew fron Geirionnydd;
Urddasol iawn ar ddwr y llyn
Yw'r alarch gwyn ysblennydd;
Ond clysach filwaith meinwen wâr
Yn rhodio ar y dolydd.

Claer ei wedd yw'r eira i
Eryri sy'n wen goron;
Arddunol wyn yw'r ewyn dig
A ferchyg frig y wendon;
Ond gwynnach, harddach pryd y ferch
A ddygodd serch fy nghalon.

Tyner iawn yw'r awel lon
Yng ngleision ddaily winllan;

Tyner iawn yw'r tonnau mân
Ar raean glân y forlan;
Tynerach oedd dau lygad du
Dan wenlloer gu ar Grinllan.


Nodiadau

[golygu]