Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Mynd a dod
Gwedd
| ← Gair o bell | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Cariadon → |
XLII.
MYND A DOD.
Mae'r wennol lon yn dilyn
Troadau'r rhod;
Ni chaiff ei haden ysgafn
Ond mynd a dod.
Cadd ambell enaid freuddwyd
Am serch a chlod;
Deffrodd; ni chadd y breuddwyd
Ond mynd a dod.
Bu goleu tragwyddoldeb
Ar ambell fod;
Ond ni chai'r goleu llachar
Ond mynd a dod.
'Rwyf yma yn unigrwydd
Fy oes ddi-nod;
'Rwy'n canu am na raid im'
Ond mynd a dod.