Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Nos da

← Blwyddyn serch Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Paid a gofyn imi, Olwen →

XXXVII.
NOS DA.

Mae'r oriau wedi hedeg,
A'r nos yn crwydro 'mlaen;
Rhaid mynd, mae cri'r ddylluan
Yn galw tros y waen.
Un gusan eto, gariad,
Dan leuad lawen ha,
Rhaid canu ffarwel wedyn,
Un gusan, a Nos Da.

Nos Da, mae swn yr awel
Yn rhyfedd yn y coed,
Ai tybed na fu'r geiriau
Yng nghoed y Waen erioed?
Nos Da am wythnos eto,
Un wythnos hirfaith brudd;
Ac yna, nos y gweunydd
Gaiff ganu cerddi'r dydd.

Nos Da hyd hynny, gariad;
Yng nghysgod clyd y coed
Cyfrinach gaiff yr awel
Felusach nag erioed.

Gaiff y dydd hwnnw wawrio,
O awel noson ha?
Gaf finnau'r gusan olaf
Gan Menna, a Nos Da?

Nos Da am wythnos, gariad,
Mae newid yn y byd,
Mae'r dyfroedd yn ymsymud
A'r sêr yn troi o hyd.
Fydd Men yn gariad imi,
Yn ffyddlon fel o'r blaen,
Yn disgwyl am fy ngweled
Yng nghysgod coed y Waen?


Nodiadau

[golygu]