Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Olwen

← Gorffwys don Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Ddaw Olwen byth yn ol →

XX.
OLWEN.

Fy nghariad ydyw Olwen,
'Rwy'n caru gwrid ei grudd,
Mae'i gwenau fel yr heulwen
Yn Ebrill ganol dydd;
'Rwy'n caru'i heurwallt melyn,
A'i chalon bur ddifrad,

Mae'i gwefus fel y rhosyn,
A'i llais fel tonau telyn
Hên Gymru wen fy ngwlad.

Y wên yn llygaid Olwen
Sy'n gwneud y byd yn hardd,
Yn deffro cân yr awen,
Yn agor llygaid bardd;
Ni welais dlysni'r meillion,
Na chlaerni sêr y nos,
Nes teimlais yn fy nghalon
Oleuni'r grymus swynion
Sy'n llygaid Olwen dlos.

Mae 'nghariad, fel yr eiddew
Sy'n clymu am y mur
Er gwaethaf gwynt a llwydrew,
Yn para o hyd yn bur.
A phan ddêl gaeaf bywyd
I oeri'r fynwes hon,
Atgofio serch ieuenctid
Bâr im' anghofio 'ngofid,—
Adennyn serch fy mron.


Nodiadau

[golygu]