Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Olwen Glan Geirionnydd
| ← Cariadon | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Tynged → |
XLIV.
OLWEN GLAN GEIRIONNYDD.
Fe ruai'r corwynt balch yn hyll
Wrth ymladd hefo'r eigion,
Ond crwydrai goleu draws y gwyll
O gartref gem fy nghalon;
Yn swyn y goleu, llesmair serch
Ddaeth tros fy mron aflonydd,
A gwelais oleu gwenau'r ferch,
Y ferch o Lan Geirionnydd.
Gorweddais ar y draethell laith,
A hiraeth lond fy nghalon,
I geisio deall trystfawr iaith
Cyfrinach ddofn y wendon;
A chwynfan yr ewynnog don
Wrth guro ar y glennydd
Roi lais i'r hiraeth yn fy mron
Am Olwen Glan Geirionnydd.
Parhau wnai'r goleu dros y lli
I wasgar ei belydrau;
A gobaith roes i'm mynwes i
Wrth ddawnsio ar y tonnau;
A gofyn wnes i'r ewyn gwyn,
Gofleidid gan ystormydd,
Pa bryd cawn roi fy mreichiau'n dyn
Am Olwen Glan Geirionnydd.
Cyfodai'r môr ei donnau'n uwch
Nes cuddio, am funudyn,
Y goleu, yn nhrochionnog luwch
Y gwynt ym mwng y moryn;
A meddwl wnes fod tynged ddu
Yn codi cwmwl newydd
I guddio goleu 'ngobaith cu
Am Olwen Glan Geirionnydd.
Ond trwy'r cymylau wedi hyn
Pelydrai llewyrch cynnes
I atgyfodi'r breuddwyd gwyn
Fu farw yn fy mynwes;
Yn swn y môr ffarweliodd cur
A 'ngarw laith obennydd;
Murmurai'r gwynt fod calon bur
Gan Olwen Glan Geirionnydd.
Anghofiais fâr y môr a'r gwynt
A chrwydrais mewn perlewyg
Yng nghwmni awel ar ei hynt
I ogof bell fynyddig;
Ar hyd y wlad disgynnai'r gwlaw,
A'r nos oedd dros y broydd,
Ond nef i mi oedd gwasgiad llaw,—
Llaw Olwen Glan Geirionnydd.
Ac unwaith eto 'ngeneth wen
A'm gwnai yn ddwyfol ddedwydd,
Pan deimlwn dyner bwysau'i phen
Yn gorffwys ar fy ysgwydd,—
Anwylo'r gwallt sydd fel y nos
Tros bryd fel eira'r gweunydd,
Cusanu gwrid y wawr ar dlos
Rudd Olwen Glan Geirionnydd.
O Olwen anwyl, rhoist i'th fardd
Baradwys yn dy gusan,
A maddeu iddo, eneth hardd,
Os gwnaeth anghofio'i hunan;
'Roedd gwynfa yn yr ogof ddu
Yn nghesail lom y mynydd;
Yw'r atgof am y fan yn gu
Gan Olwen Glan Geirionnydd?
Pa iaith all draethu cyfrin swyn
Curiadau calon ffyddlon?
Ni chreodd Duw un llais mor fwyn
A geiriau tlws fy nwyfron.
F'anwylyd brydferth, pe cawn dân
Rhyw awen bur ysblennydd,
Mi dreuliwn ynni f'oes mewn cân
I Olwen Glan Geirionnydd.