Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Paid a gofyn imi, Olwen
Gwedd
| ← Nos da | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Siom → |
XXXVIII.
PAID A GOFYN IMI, OLWEN.
Paid a gofyn imi, Olwen,
Ganu yr un gân i ti;
Alltud unig ydwyf yma,
Alltud gân yw 'mhennill i.
O na chlywwn swn dy ganu
Eilwaith yn yr awel iach;
Brysia i Lanymynydd eto,
Cartre'th galon, Olwen bach.
Gwelais yn dy lygaid duon
Oleu pell y dyddiau ddaw,
Pan y rhodi di a Rhywun
Lwybrau bywyd law yn llaw.
Boed fy mhennill iti i gofio
Cariad plant y dyddiau fu,-
Am y gwr na chadd yr Eden
Lenwai'r breuddwyd ger y lli
Olwen, pan belydra'th wenau'n
Wynfyd i ryw hapus ddyn,
Ac y taflant oleu'th galon
Ar helyntion caru bun,
Wnei di gofio'r adeg honno
Am yr alltud unig, pell,
Fu yn meddwl cael, fel tithau,
Aelwyd gynnes dyddiau gwell?