Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Pan af i'r bedd f' anwylyd

← Penillion telyn Ysbaen Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
→

IV.
PAN AF I'R BEDD F' ANWYLYD.
(C. G. ROSSETTI.)

Pan af i'r bedd, f' anwylyd,
Na chân im’ alargerdd,
Na phlan rosynnau uwch fy llwch
Na chypreswydden werdd;
Ond tyfed glaswellt trosof
Yn ir gan wlaw a gwlith;
Os mynni gelli 'nghofio,
Neu'm llwyr anghofio byth.

Ni welaf mo'r cysgodion,
Ni theimlaf oerni'r gwlaw,
Ni chlywaf gathlau'r eos ddwys,
Acenion poen a braw;
Heb wawr, heb nos, trwy'r gwyllnos
Breuddwydio'n hir a gaf,
Nis gwn pa un ai'th gofio
Ai'th lwyr anghofio wnaf.


Nodiadau

[golygu]