Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Penillion telyn Ysbaen
Gwedd
| ← Telyn Heine | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Pan af i'r bedd f' anwylyd → |
III.
PENILLION TELYN YSBAEN.
Tebyg iawn i gysgod gwisgi
Yw morwynion mwynion heini,
Os canlyni, hwy ddihangant,
Os dihengi, hwy ganlynant.
Dygwyd fi i'r carchar dulwyd
Hanner nos pan ddoe y'm dali wyd;
Hwy'm rhwymasant gyda'r ffunen
Roist yn anrheg imi, feinwen.
Da, fy merch, yw serch efrydydd,
Goreu cariad yn y gwledydd;
Ni bai gwell mab i'w gofleidio
Pe bai'i serch yn dal i'w wisgo.
Milwr ydwyf, nid wy'n cwyno
Os dyna mae fy Nuw'n ddymuno;
Nid fy nryll sy'n beichio 'nghalon
Ond ffarwelio hefo'r fannon.
Pan y byddi'n mynd i'r eglwys
Cadw'th orchudd ar dy rudd,
Rhag i'r seintiau ado'u celloedd
A dod atat, fun liw'r dydd.