Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Priflys y gwyllnos

← Y lili yn llatai Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Merch y winllan →

VI.
PRIFLYS Y GWYLL NOS.

I lawr i briflys y gwyllnos
O'r byd y crwydrodd y bardd,
Lle'r eistedd ysbrydion breuddwydiol
Ar seddau o farmor hardd;
Brenhines gororau'r cysgodion
Sydd yno'n arlwyo gwledd
O seigiau marwolaeth mewn bywyd,
A gwinoedd perllannau'r bedd.

Prydferthach brenhines y gwyllnos
Na'r lili yng ngerddi'r glyn,
Ei mhynwes sydd ddwyfol luniaidd
Ac oer fel y marmor gwyn;
Pob un a welodd ei thlysni
Fyn yfed o gariad hon,
Er gwybod fod swyn ei gwenau
Yn fferru ei waed tan ei fron.

Y gwanwyn yng ngwisgoedd yr hydref
Ni ŵyr am wyrddlesni'r haf,
A gwelw yw gruddiau'r holl ddeiliaid,
Anobaith wna'r galon yn glaf;

Heb haul yn codi na machlud,
Mewn gwyll y breuddwydiant hwy.
O Dduw, ai priflys y gwyllnos
Fydd cartref fy ysbryd mwy?


Nodiadau

[golygu]