Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Rhuo, rhuo mae y gwynt

← Swn yr afon yn y dolydd Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Men →

XVII.
RHUO, RHUO MAE Y GWYNT.

Rhuo mae y gwyntoedd oer,
Hedeg mae'r cymylau du,
Heddyw collais oleu'r lloer
Wyliai tros fy llwybrau i;
Tros y tonnau creulon aeth
Fy mrenhines gerais gynt;
Clyw fy ngruddfan ar y traeth,
Rhuo, rhuo mae y gwynt.


Aden wen y ddigwsg don,
Dygaist fy mrenhines lân,
Cwyno'n ddrylliog tan dy fron
Mae dolefus gri dy gân;
Ail i ti yw 'nghalon brudd,
Gura gerdd fy ngofid i;
Aeth fy mun dros ffiniau'r dydd,
Hedeg mae'r cymylau du.

Aeth fy mun dros ffiniau'r dydd
I'r gorllewin tywyll, pell,
Crwydrodd dros y cefnfor rhydd,
Chwilio, chwilio am gartref gwell.
Pan ddaw'n ôl i'w chartref hên,
Garodd yn y dyddiau gynt,
Ni chaiff yno groesaw'r wên,—
Rhuo, rhuo mae y gwynt.

Nid oes cartref iti mwy;
Heddyw, unwaith lle bu'r gerdd,
Cwyna'r hwyrwynt gân ei glwy
Dros yr aelwyd welltog, werdd;
Tithau, riain, wyli'n hir
Am y gwr a'th garodd gynt,
Cura'r tonnau ar y tir,
Rhuo, rhuo mae y gwynt.


Nodiadau

[golygu]