Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Robert Burns

← Cerdd y gwanwyn Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Merch y brenin →

XXV.
ROBERT BURNS.

Bardd y bryniau a'r awelon,
Bardd y grug, y coed a'r afon,
Bardd y sêr, a thyner swynion
Glesni'r nef;
Ond yn bennaf, bardd y galon
Ydoedd ef.

Carai ryddid yn angherddol,—
Gwelai'n dod i'r teulu dynol,
O dywyllwch y dyfodol,
Amser gwell,
Pan alltudid gormes lethol
Ym mhell, bell.
Profodd chwerwder gwenwyn embyd
Coron ddrain a chroesau bywyd;
Teimlodd swynion nefol bennyd
Cariad merch,―
Wylodd dan gysgodion adfyd
Bedd ei serch.

A'i holl galon carodd Mary,
Canodd gerdd anfarwol iddi,

Carai 'i llwch ar ol ei cholli'n
Welw'i wedd;
Mynnai'i galon orlawn dorri
Ar ei bedd.

Trwy holl ferw treigliad oesoedd,
Tra bo tonnau yn y moroedd,
Tra bo eira ar fynyddoedd
Alban hardd,
Byw wna Mary'r Ucheldiroedd
Gyda'i bardd.


Nodiadau

[golygu]