Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Seiadau natur

← Tro yn Eryri Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Ffarwel Catullus i Lesbia →

LV.
SEIADAU NATUR.

"Great God! I'd rather be
A pagan suckled in a creed outworn;
So might I, standing on this pleasant lea,
Have glimpses that would make me less forlorn;
Have sight of Proteus rising from the sea;
Or hear old Triton blow his wreathed horn."
Wordsworth.


Chwibaniad y llanc tros y dyfroedd
Wrth byncio'n ddifeddwl ei dôn,
Hên alaw bruddglwyfus y Cymry
Ymhell yn ynys werdd Môn,
Cwynfannus acenion y wylan
Oedd athrist a nosawl i'm clyw,
Pan wyliwn ar forlan y Fenai
I wrando ar Natur a Duw.

Pa beth yw'r gyfrinach sibryda
Yr hwyrnos ar fynwes y lli?
Ai llais tragwyddoldeb sy'n siarad
O'r nos wrth fy enaid i?
Ar ôl i'r heulwen dy adael
A'r deigryn ddod ar ruddiau'r rhos,

Fy enaid, ai'r un yw dy gredo
Yn oedfa'r môr yn y nos?

Ysbrydion a grwydrant o'th amgylch
Gan furmur yn dyrfa drist;
Ddarllennaist ti rywdro am danynt
Ym Meibl ysbrydol dy Grist?
Pa beth yw dy gredo di heno
Yn seiat ddiadnod yr hwyr?
Wnaeth cipdrem o'r nef it' anghofio
Delfrydau'r ddaear yn llwyr?

O fyd, cymer funud o seibiant,
Yn nwndwr tinciadau'r bunt,
I wrando yn eglwys y tonnau
Hyawdledd pregethwr y gwynt.
O natur, fy mamaeth anwylaf,
Cusana fi, sibrwd i mi
Mai'th dân di sy'n llosgi'n fy enaid
I'm gwneud yn ddiofryd i ti.


Nodiadau

[golygu]