Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Swn yr afon yn y dolydd
Gwedd
| ← Llyn Geirionnydd | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Rhuo, rhuo mae y gwynt → |
XVI.
SWN YR AFON YN Y DOLYDD.
Swn yr afon yn y dolydd,
Glas y coedydd uwch y lli,
Ffarwel wridog y gorllewin,-
Dyna gerais i.
Cân y dyfnder ar y draethell,
Priodas gerdd y tonnog gôr,
Milfyrdd ddawns y gwynt yng ngwenau'r
Lloer ar frig y môr.
Cu gen i rianedd Cymru
Garant ddistaw furmur serch;
Gwn mai bywyd llawn o gariad
Ydyw goreu merch.
Llawn o gariad ydyw natur,
Cariad ddeddfa i'r lleuad dlos,
A thywyniad cynnes cariad
Ddyru wrid i'r rhos.
"Cariad lawer iawn sydd oreu,"
Dyna adnod natur hên;
Gwell i tithau os bydd goleu
Hwnnw yn dy wên.
Fydd y tonnau'n cywilyddio
O dan gusan bell y lloer,
Neu yr haul yn ofni cyffwrdd
Min yr eira oer?