Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Telyn Heine
← Ffarwel Catullus i Lesbia | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Penillion telyn Ysbaen → |
II.
TELYN HEINE.
Ceir cyfieithiadau o'r penawdau Almaeneg ar y tudalen cynnwys
Ach, die Augen sind es wieder.
Llawn serch ei llygaid megis cynt,
A llawn o groeso hefyd,
A'r un yw'r minau mwynion mêl
Fu yn melysu 'mywyd.
Y llais ddymunwn glywed gynt
Sy'n para'r un, rhaid addef;
Ond nid wyf fi yr un o hyd,—
Newidiais oddicartref.
Parhau wna'r breichiau gwynion teg
Yn serchog i'm cofleidio,
'Rwyn gorffwys ar ei chalon lân,
A'm cariad wedi peidio.
Ich will meine Seele tauchen.
Tywalltaf fy serchog gyfrinion.
I gwpan y lili gain;
Ca'r lili anadlu'r dirgelion
Mewn cân gyfareddol ei sain;
A'r gân gaiff grynnu'n felusfwyn
Fel cusan gwefus fy merch,-
Y gusan anfarwol roes imi
Ar awr baradwysol serch.
Ein Fichtenbaum steht einsam.
Pinwydden yn y gogledd
A saif ar rewllyd fryn,
Ac mewn unigedd cysga
Dan gwrlid eira gwyn.
Breuddwydia am balmwydden,
Yn mroydd pell y wawr,
Alara'n syn ac unig
Ar graig eiriasboeth fawr.
Aus meinen Thränen spriessen.
Ymegyr o fy nagrau
Filoedd o flodau swyn;
A thry fy ocheneidiau
Yn gôr eosiaid mwyn.
Pan geri fi, fy rhiain,
I ti rhof y blodau i gyd;
Ac wrth dy ffenestr darstain
Wna'r eos gân o hyd.
Wenn ich in deine Augen seh'
Pan syllaf i dy lygaid pur
Diflannu'n llwyr wna 'mhoen a 'nghur;
Ond wrth gusanu'th felus fin
Ffy'r atgof am bob dolur blin;
Pan bwysaf ar dy fynwes wen
Daw trosof freuddwyd gwynna'r nen;
Ond pan ddywedi y ceri fi
Fy nagrau heilltion red yn lli.
Es liegt der heisse Sommer.
Gorwedda'r hafddydd tesog
Ar wrid dy ddwyrudd iach;
A gaeaf a rhew sy'n llenwi-
Yn llenwi'th galon fach.
Ond newid llwyr ddaw trosot,
Fy nhlos anwylyd lon!
Y gaeaf fydd ar dy ddwyrudd,
A'r haf o dan dy fron.
Du bist wie eine Blume.
Y fath flodeuyn ydwyt,
Mor lân a thlws a phur!
Dy weled, heb im' feddwl,
A ddwg im' calon gur.
Mi hoffwn gael plethu 'nwylaw
Trwy'th wallt sidanddu mân
Ac erfyn ar Dduw dy gadw
Yn bur, yn glws a glân.
Ein Jüngling liebt ein Mädchen.
Gwr ieuanc a garodd enethig,
Ond arall ddewisa'r fun,
A hwnnw yn caru un arall,
Ac unwyd y ddau yn un.
Yr eneth mewn digter briododd
Y cyntaf ddamweiniodd gael;
A'r llencyn a'i carodd mor gywir
A'i galon yn drom a gwael.
Hen stori yw honno, ond aros
Yn newydd wna loes ei chlwy;
A'r olaf o bawb aeth trwyddi
Gadd rwygo ei galon yn ddwy.
Ich hab' dich geliebet und liebe dich noch.
Dy garu wnes a'th garu wnaf!
Pe syrthiai'r byd yn ddarnau,
Cyfodai gwenffam fyw fy serch
Yn eirias o'i garneddau.
Im traum sah ich die Geliebte.
Mewn breuddwyd, gweld fy nghariad
Yn llwm a gwael ei drych,
Ei llun yn adfeiliedig,
Fu gynt mor hardd a gwych.
Un baban ar ei mhynwes,
Un arall yn llaw ei fam,
Ei gwisg a'i gwedd yn llwydaidd,
A gwendid yn ei cham.
Llesg gerddai trwy'r farchnadfa,
Ac yno cwrddodd fi;
Pan syllodd arnaf, methais
A pheidio'i chyfarch hi:
Tyrd hefo mi im' bwthyn,
Yr wyt yn welw a chlaf;
Trwy lafur diflin ennill
It' fwyd a diod wnaf.
Meithrinaf dy fabanod,
A gwyliaf dros eu ffawd,
Ond trosot ti yn bennaf,
Fy nhlws anffodus dlawd.
Byth ni ddywedaf wrthyt
Mor anwyl im' dy wedd;
Ond wedi'th golli deuaf
I wylo wrth dy fedd.
Am leuchtenden Sommermorgen.
Ar fore hafaidd hyfryd
Mi grwydrais yn yr ardd;
Siaradai, sisialai'r blodau,
Ond mud a phrudd oedd y bardd.
Mewn cu dosturi tyner
Sibrydai'r blodau claer:
Ti brydydd gwelw athrist,
Na ddigia wrth ein chwaer.