Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Tro yn Eryri

← Cyfrinach y beirdd Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Seiadau natur →

LIV.
TRO YN ERYRI.

A mi ar noson loergan haf,
Dan lwyth fy mhrudd feddyliau,
Yn araf grwydro'n drist fy nhrem
Hyd ddisathr wylltion lwybrau
Ymdroellant rhwng y creigiau crog
Ym mynwes lom Eryri,
Lle'r heria eco croch y graig
Y wen ewynnog genlli.

Ar erch ymylon gwylltion gant
Rhaeadrau hyfion chwarddent;

A thros binaclau'r trumau'n chwim
Corwyntoedd beilchion ddawnsient.
Urddasol lys y Wyddfa yw
Cadernid yr Eryri,
Lle'r eistedd mewn tragwyddol rwysg
Ar orsedd o glogwyni.

I Gymro cordial wella'i gur
Yw anadl y mynyddoedd;
Deffroi fy nheimlad marw swrth
Wnai awel iach y cymoedd;
A chyda pharch y sangwn i
Ar lethrau Arfon arw,—
Ar hyd-ddynt arwyr Cymru gynt
Fu'n gwaedu ac yn marw.

Ysbrydion y gwroniaid fu
Lefarent o'r awelon,
Gan alw ar feibion Cymru sydd
I fod i Gymru'n ffyddlon;
Taranu hyn wna'r rhaeadr gwyn,
A sisial hyn wna'r afon,
A dyma sibrwd blodau'r grug
Yng nghlustiau'r cerrig mudion.


Nodiadau

[golygu]