Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Tynged
Gwedd
| ← Olwen Glan Geirionnydd | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Y ddwy lili → |
XLV.
TYNGED.
Mae gofid yn nhawelwch gwyll y nos,
Pan eistedd hi tros ddyfnder pell y lli,
Yn brudd fel dail gwywedig coron bri,
Neu'r ddelw wen yn adfail yn y ffos.
'Roedd gofid distaw dan bob seren dlos
Ym mron y môr pan heddyw gwelais hi
Yn rhodio'r traeth yn swn y tonnog li
A'i gwedd yn wyw lle gynt y gwenai rhos.
'Roedd alaw glwyfus brudd y tonnau pell
Yn suo'n oer pan ddwedais wrth y ferch
Fod rhaid ymadael, pan y llysg y nyth,
Fel yr eryrod. Gwyddwn mai mil gwell
Fai ymgymodi eto wrth allor serch—
Ond murmur wnai y tonnau dwys, "Am byth!"