Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y bedd dan fy mron
| ← Ddaw Olwen byth yn ol | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Yn ol at natur → |
XXII.
Y BEDD DAN FY MRON.
Dan gysgod y brudd gypreswydden
Ymguddiaf o olwg y byd,
Nos fythol heb belydr seren
Ordoa fy enaid i gyd.
Mae caddug amheuaeth ac oerni marwolaeth
Yn gorlenwi'r galon fu unwaith yn llon,—
Bedd disglair freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.
Pan gollais gyfoedion caruaidd,
Pan wylais ar raean eu bedd,
Gobeithion a'u goleu angylaidd
Ddanghosent fro gwynfyd a hedd;
Ond canmil mwy'r alaeth pan laddodd marwolaeth
Anwylaf obeithion y galon lawn hon,—
Bedd ieuainc freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.
Rhy lawn yw dygy for y galon
I'r awen fynegi ei haeth,
Mae tonnau mor bell yn yr eigion
Na chlywir mo'u llais ar y traeth;
Acenion dyfnderau anhysbys bellterau
A dyr ar y glust ym murmuron y don,—
Bedd engyl freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.
Ond ni ddwg un gelyn yn anrhaith
Yr ysbryd anfarwol a rhydd;
Mi sarnaf ar falchter anobaith
A chreaf o'r nos oleu'r dydd;
Fy mysedd ar dannau melusber delynnau
Ddeffroant alawon perseiniol a llon
I swyno'r breuddwydion o'u bedd dan fy mron.