Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y ddwy lili

Oddi ar Wicidestun
Tynged Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Diwedd y daith

XLVI.
Y DDWY LILI.

Blodeuyn aur y banadl
A garodd lili wen,
A hithau'r lili wylaidd
Yn serchog blygai 'i phen.

Pan welais i Riannon,
Ei charu'n union wnes,
Rhois oreu 'nghalon iddi
A mwynder ganddi ges.

Cusanodd angau'r lili,
A llwydodd gwawr ei gwedd;
Ffarwelio wnaeth Rhiannon
A phlygu i waelod bedd.

Tros rudd y blodyn euraidd
Disgynna'r dagrau'n lli;
Ond rhewodd angau ffynnon
Fy nagrau heilltion i.


Nodiadau

[golygu]