Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y gerdd ddienw
Gwedd
| ← Y seren | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Dagrau'r nos → |
XIII.
Y GERDD DDIENW.
Cas yw'r beddau gleision
Er yn Lleindir Duw;
Oer yw'r gorffwys distaw
Am mai angof yw.
Fan bu'r goleu tyner
Yn y llygaid byw,
Nos sy'n llwyd freuddwydio,
Am mai angof yw.
Nos heb sêr na lleuad,
Distaw nos y bedd,
Cas yw gan fy nghalon
Orffwys yn ei hedd.
Hedd, lle nad oes cathlau'n
Hwian yn fy nghlyw?
Na, nid hedd ond uffern,
Am mai angof yw.
Gaf fi oleu'th wyllnos
Olaf, Menna lân?
Gaiff dy enw berlio'n
Anfarwoldeb cân?
Tra bo 'nwylaw egwan
Ar eurdannau serch,
Cerdd dy gariad ganaf,
Fen, anfarwol ferch.
Codaf fi fy mhabell
Rywdro fin yr hwyr,
Ac i'r gwyllnos crwydraf
I'm anghofio'n llwyr.
Bu gan Laura'r Eidal
Betrarch fardd yn gaeth;
Rhywun fydd gan Fenna
Ganodd ac a aeth.