Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y lili yn llatai
| ← Ddoe a heddyw | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Priflys y gwyllnos → |
V.
Y LILI YN LLATAI.
Anfonaf wen lili'r dyffrynnoedd
At Olwen liw ewyn y don,
O ganol y gwyllt anialdiroedd
I adrodd dwys hanes fy mron.
Dos, lili, yn llatai i'r awen,
Llefared dy wynder glân, hardd,
Serch neges wrth galon fy Olwen,
Mor bur ydyw cariad ei bardd.
Dwêd wrthi fod atgof yn gweled
Y wên all droi'n wynfyd bob loes,
A'r wefus yn hanner agored
Fel rhosyn foreuddydd ei oes,
Y llygaid sydd ganmil mwy tyner
Na goleu'r sêr clysion a fydd
Yn crynnu ar lesni'r eangder
Pan ddiosg y nos lenni'r dydd.
Ar ambell awr dawel mewn breuddwyd,
Byw eto 'rwyf trwy'r amser gynt,
Yn eistedd yng nghongol yr aelwyd,
Yn gwrando ar gwynfan y gwynt,
Yn darllen, dan wylio grudd Olwen,
Am Hywel ab Einion a'i gân,
A difyr helyntion peithynnen
Myfanwy o Gaer Dinas Brân.
Mi welaf oleuni 'i gwên olaf,
A theimlaf wasgiadau 'i llaw bur;
Mae'r cof am ei chusan diweddaf
Fel neithdar yn dofi fy nghur.
Enillais un trysor diderfyn
Wrth adael fy nghariad a 'ngwlad,
Pan welais yng ngloewder deigryn
Gyfrinach ei chalon ddifrad.
Prysura, y lili wen swynol,
I ddweyd wrth y landeg ei llun,—
Anwylach na'm henaid anfarwol
I mi ydyw Olwen, fy mun;
A chyn y daw'r gwanwyn a meillion
I fritho gwyrddlesni'r ddôl hardd,
Dychwelaf i gartref fy nghalon,
Bydd Olwen ym mreichiau ei bardd.