Neidio i'r cynnwys

Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y seren

← Y blodeu'n llateion Telynegion (Silyn a Gruffydd)

gan R Silyn Roberts


a William John Gruffydd (1881-1954)
Y gerdd ddienw →

XII.
Y SEREN.

Mae'r seren yn y nefoedd
Yn dlos yng nghyfnos ha;
Mae'n bell ac oer, ond heno
Mwyn wenu arnaf wna.
Meddyliais wrth fynd adref
Fod hon yn eiddo i mi;
Ond syllodd arall arni,
A gwenu wnelai hi.

Breuddwydiais am y seren
A wenai uwch fy mhen,
Ond ni chawn ddringo ati,-
Hyhi oedd bri y nen.
Ar lawer noson iasoer
Bu'n gwmni mwyn i mi,
Ond gwelais eraill hefyd
Yn dilyn wrthi hi.

Meddyliais pan fawn unig
Y cawn ei goleu mwyn,
Mi genais aml i ganig
Ym mreuddwyd gwyn ei swyn.

Bum unig, unig, unwaith
Ar nos gymylog ddu,
Ond nid oedd yno seren
I wenu arnaf fi.

Mi gerais eneth lawen,
Un oleu fel y nen,
Ond gwelais un diwrnod
Fod pawb yn caru Men;
Dywedais wrth fynd adref,
"Mae hon yn Fen i mi,"
Ond syllodd arall arni-
A gwenu wnelai hi.

Ymgollais yn ei chariad,
Ond pell ac oer oedd Men,
Mi fethais ddringo ati
I'r nefoedd uwch fy mhen.
Dilynais oleu'i llwybrau
Ym mhrudd-der gwallgof serch,
Ond O! 'roedd eraill hefyd
Yn dilyn ôl y ferch.

Mi yrrais gerddi iddi
Ar lawer hirddydd braf,
A gwên oedd ateb Menna
Yng ngoleu gwyllnos haf.

Ond pan y daeth y cymyl
I guddio'r glas uwchben,
Bum i yn unig, unig,
Heb oleu gwenau Men.


Nodiadau

[golygu]