Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Y seren yn y nos
| ← Ffarwel i gyfaill | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Fy nghariad → |
XXXI.
Y SEREN YN Y NOS.
Cwsg gusana emrynt
Llesg blinedig fyd,
Hanner nos sy'n gwylio
Hun y bryniau mud.
Minnau'n effro, effro,
Gyda'th ddarlun di,
Hiraeth am dy weled
Leinw 'nghalon i.
Cofio mae fy enaid
Hardded yw dy lun,
Nid yw'r lili wylaidd
Glysed a fy mun.
Fu amheuon, Olwen,
Ar dy lwybrau di?
Wyddost ti am ofnau
Fel yr eiddof fi?
Creulawn ydyw loesion
Gwynfyd cariad merch
Pan y crwydra cwmwl
Tros ffurfafen serch.
Cysgod prudd lledrithiol
Dros fy mywyd ddaeth,
Teimlais yn fy nghalon
Fin gwenwynig saeth.
Ysbryd du gynghorodd
Adael Olwen dlos,
Gwawdio serch a cheisio
Ebargofus nos.
Os na fedrwn farw
Sefyll wnawn fy hun
Mewn gwrthryfel bythol
Gyda Duw a dyn.
Bod lle na chyrhaeddai
Un gysurol sain,
Gwisgo ar fy nhalcen
Nod collfarnol Cain.
Hunllef annwn deimlais
Yn y dyddiau syn
Pan feddyliais fachlud
Haul fy mreuddwyd gwyn.
Ond yng ngwyll y cyfnos
Twnnodd seren wen
Gyda neges gobaith
Cariad pur o'r nen.
Gloewon ddagrau lifodd
Dros fy ngwelw rudd,
Ffodd y nos gysgodion
O fy ysbryd prudd.
Pan y cilia cymyl
Gwg y dymestl erch,
Gloewach yw ffurfafen
Las anfarwol serch.
Ieuanc byth yw cariad,
Tlws fel blodau'r ddôl,
Gwynnach ydyw'r breuddwyd
Pan ddychwela'n ôl.