Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Yn ol at natur
| ← Y bedd dan fy mron | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Cerdd y gwanwyn → |
XXIII.
YN OL AT NATUR.
Bore'r deffro,—ni fu gwanwyn
Yn ei wyrdd erioed mor hardd;
Ond mae rhew caredig gaeaf
Wedi gwywo serch y bardd.
Bore'r deffro,—mae'r ysbrydion
Fu yn gwylio tros fy hun
Wedi hedeg; minnau'n ddistaw,
Am mai breuddwyd oedd y fun.
Bore'r—deffro, miwsig newydd
Sydd yn seinio yn fy nghlyw;
Deffro wnes i wrando eto
Nodau melus cerddi Duw.
Wedi caru merch y ddaear,
Hiraeth i fy nghalon ddaeth
Am y cariad deimlais unwaith
Cyn i 'nghalon fynd yn gaeth.
Cerais natur,—ymfoddlonais
Ym mreuddwydiol fêl ei mhin;
Ond gwrthgiliais, fel fy mrodyr,
Gwelais nef yng nglendid bun.
Cerais, ac anghofiais natur,
Trosais mewn anfeidrol serch;
Tybiais weled tragwyddoldeb
Ym meluster cariad merch.
Cariad merch,—O dwymyn hunllef
Hun anesmwyth noson ha,
Cenais ffarwel a'r dydd obaith,
Dyna'm holaf brudd Nos da.
Bore'r deffro, O mor hapus!
Natur, 'rwyt ti'r un o hyd,
Er ymgellwair oddiwrthyt.
Gyda gwael rianedd byd.
Cerais di, O natur oleu,
Caraf eto swyn dy wedd,
A bydd dedwydd fy mhriodas
Yn dy freichiau yn y bedd.