Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Yr eiddew yn llatai
| ← Cedwch allan y wawr | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Goleu gobaith → |
XLIX.
YR EIDDEW YN LLATAI.
Mae'r eiddew ar furiau y castell
Yn crymu yn wylaidd ei ben;
Anfonaf un ddeilen yn llatai
O gariad fy nghalon at Men.
Mae meillion y dolydd gwyrddleision
Yn chwerthin yn wyneb y dydd;
Ond ni fedrant iaith fy nghyfrinach,
Mae meillion y dolydd yn rhydd.
Mae'r eiddew yn gaeth ar y muriau,
A chaeth yw fy nghalon i Men;
Mae'n gwasgu at galon y meini,
Wrth geisio dyrchafu i'r nen;
Mae'r eiddew yn gwenu ei neges
Yn newydd bob bore i mi,
'Rwyf finnau yn ceisio dyrchafu
Yng nghariad ei chalon bur hi.
Mae'r eiddew trwy'r flwyddyn yn wyrddlas,
Mewn gwanwyn a hydref a haf;
Mae'n anodd i ddeilen serch wywo
Pan fyddo'r galon yn glaf;
Mae aml ochenaid yn tystio
Mai claf yw fy nghalon drist i;
'Rwy'n anfon un ddeilen o eiddew
Hafwyrddlas o'm hiraeth i ti.