Telynegion (Silyn a Gruffydd)/Yr hên, hên hanes
| ← Endymion | Telynegion (Silyn a Gruffydd) gan R Silyn Roberts a William John Gruffydd (1881-1954) |
Ffarwel i gyfaill → |
XXIX.
YR HEN, HEN HANES.
Rhwng y dail a'r blodau'n
Rhodio yn y coed,
A'i chalon yn ddigadwen,
Ysgafn fel ei throed,
Gwelais feinir ieuanc,
Rhiain ugain oed;
Gwn na theimlodd honno
Archoll trist yn blino
Ei chalon hi erioed.
"Ffol yw'r fun," meddyliai,
"Deimla anaf serch;
Calon lân ddigadwen,
Dyna oreu merch;
Poenus ydyw cariad,
Gelyn creulon erch;
Gwell yw canu, canu,
'N iach, a pheidio caru,
Cyfaill gwael yw serch."
Gwelais rhwng y blodau
Ben breuddwydiol bardd,
Gwr na charai unpeth
Ond ei gân a'i ardd.
"Nid wy'n caru," meddai,
"Wedd un riain hardd;
Poen o garu meinwen,
Bedd dan gysgod ywen,
Dyna'n unig dardd."
Ac yn y coed y gwelsant
Eu gilydd lawer dydd;
A meddwl wnaeth y prydydd
Mai gallu rhyfedd sydd
Yn llygaid meinwen anwyl
I wneuthur dyn yn brudd,
A theimlodd hithau hefyd
Nas meddai mwyach wynfyd
Calon meinwen rydd.
Gan fod poen yn blino
Calon fach y fun,
I gael gwared bythol
Rhoddodd hi i'r dyn.
Teimlo'r ddwy wnai yntau'n
Ormod baichi un,
A rhodd, er mwyn ysgafnu,
I'r feinwen oedd yn garu
Ei galon lawn ei hun.