Telynegion Maes a Môr/Briallen Sul y Blodau

Oddi ar Wicidestun
Y Sêr Telynegion Maes a Môr

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Bardd a Blodeuyn

BRIALLEN SUL Y BLODAU.

UN fechan, croeso, croeso, —
Ai ti yw'r unig un
I gofio Sul y Blodau,
A deffro o dy hun?
Ni welais i un arall
Ar hyd y llwybr troed;
Briallen Sul y Blodau
Heb gymar yn y coed.

Un fechan, aros, aros
Yn hwy heb droi yn wyw;
Yr wyt rhy dlws i farw,
Os wyt rhy wan i fyw;
Eleni oer yw Ebrill —
Dy Ebrill cynta 'rioed,
Heb lesni yn yr awyr,
Heb lesni ar y coed.

Un fechan, gwywaist, gwywaist,
O hiraeth cyn y wawr;
Dy galon dyner dorraist,
A dyma'th ben ar lawr:
Mi daenaf fwsog drosot,
A gwyliaf ar fy nhroed;
Briallen Sul y Blodau
Yn farw yn y coed.