Neidio i'r cynnwys

Telynegion Maes a Môr/Perthi Mai

Oddi ar Wicidestun
Liw Dydd, liw Nos Telynegion Maes a Môr
Telynegion y Maes
gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Telynegion y Maes
Y Llanw

LIW DYDD, LIW NOS.

Ai hoff gennyt fyned, liw dydd,
I ddeffro’r ehedydd i ganu?
Ai hoff gennyt gyffro, liw dydd,
Y grug lle mae'i gymar yn nythu?
A welaist ti ef,
A'i aden yn wlithog yng nghanol y nef?
A glywaist ti 'i gân,
Tra'r cwmwl oedd rhyngoch yn wyn fel gwlân?

Ai hoff gennyt fyned, liw nos,
I ddisgwyl y sêr i dywynnu?
Ai hoff gennyt wrando, liw nos,
Ar fydoedd soniarus yn canu?
A welaist ti Dduw,
O'r sêr i'r ehedydd ym mhopeth byw?
A glywaist ti lef
Gyfriniol yng nghân a distawrwydd y nef?