Neidio i'r cynnwys

Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Luc VI

Oddi ar Wicidestun
Luc V Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Luc VII

PENNOD VI.

1 Crist yn argyhoeddi dallineb y Phariseaid ynghylch cadw y Sabbath, trwy ysgrythyrau, a rheswm, a gwyrthiau: 13 yn dewis deuddeg apostol: 17 yn iachau y cleifion: 20 a cher bron y bobl, yn pregethu i'w ddisgyblion fendithion a melldithion. 27 Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion: 46 a chyssylltu ufudd-dod gweithredoedd da ynghyd a gwrandaw y gair; rhag, yn nryg-ddydd profedigaeth, i ni syrthio fel tŷ wedi ei adeiladu ar wyneb y ddaear, heb ddim sylfaen.

A BU ar yr ail prif Sabbath, fyned o hono trwy yr ŷd: a'i ddisgyblion a dynnasant y tywys, ac a'u bwyttasant, gwedi eu rhwbio a'u dwylaw.

2 A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar y Sabbathau?

3 A'r Iesu gan atteb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef;

4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymmerth ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd âg ef; yr hwn nid yw gyfreithlawn ei fwytta, ond i'r offeiriaid yn unig?

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Sabbath hefyd.

6 ¶ A bu hefyd ar Sabbath arall, iddo fyned i mewn i'r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a'i law ddehau wedi gwywo.

7 A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.

9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynaf i chwi, Beth sydd gyfreithlawn ar y Sabbathau gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?

10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Iesu.

12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned o hono ef allan i'r mynydd i weddio; a pharhâu ar hyd y nos yn gweddio Duw.

13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddisgyblion: ac o honynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;

14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Petr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Phylip, a Bartholomeus;

15 Matthew, a Thomas; Iago mab Alpheus, a Simon a elwir Zelotes;

16 Judas brawd Iago, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17 ¶ Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir; a'r dyrfa o'i ddisgyblion, a llïaws mawr o bobl o holl Judea a Jerusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrandaw arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau,

18 A'r rhai a flinid gan ysprydion aflan: a hwy a iachâwyd.

19 A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef; am fod nerth yn myned o hono allan, ac yn iachâu pawb.

20 ¶ Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddy- wedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.

21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awrhon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.

22 Gwyn eich byd pan y'ch casao dynion, a phan y'ch didolant oddi wrthynt, ac y'ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.

23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, allemmwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r prophwydi.

24 Eithr gwae chwi y cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.

25 Gwae chwi y rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.

26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau-brophwydi.

27 ¶ Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrandaw, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt:

28 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, a gweddiwch dros y rhai a'ch drygant.

29 Ac i'r hwn a'th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.

30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.

31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.

32 Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u câr hwythau.

33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi oblegid y mae y pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi ? oblegid y mae y pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.

36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37 Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemniwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39 Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt: A ddichon y dall dywyso Ꭹ dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

40 Nid yw y disgybl uwch law ei athraw: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athraw.

41 A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.

44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.

45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a'r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.

46 ¶ Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?

47 Pwy bynnag a ddêl attaf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a'u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi ibwy y mae efe yn gyffelyb:

48 Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.

Nodiadau

[golygu]