Neidio i'r cynnwys

Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Luc XV

Oddi ar Wicidestun
Luc XIV Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)

gan Cymdeithas y Beibl

Luc XVI

PENNOD XV.

1 Dammeg y ddafad a gollesid, 8 y darn arian, 14 a'r mab afradlon.

Ac yr oedd holl bublicanod a'r pechaduriaid yn nesâu atto ef, i wrandaw arno.

2 A'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt.

3 ¶ Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,

4 Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un o honynt, nid yw yn gadael yr amyn un pùm ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5 Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dŷd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyd â mi; canys cefais fy nafad a gollasid.

7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pùm ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

8 ¶ Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu ganwyll, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef?

9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhêwch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.

10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd y'ngŵydd angelion Duw am un pechadur a edifarhao.

11 ¶ Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw wr ddau fab:

12 A'r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13 Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei ddâ, gan fyw yn afradlon.

14 Ac wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr trwy y wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisieu.

15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a'i hanfonodd ef i'w feusydd i borthi moch.

16 Ac efe a chwennychai lenwi ei fol â'r cibau a fwyttâi y moch; ac ni roddodd neb iddo.

17 A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?

18 Mi a godaf, ac a âf at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;

19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fabiti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.

20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.

21 A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.

22 A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:

23 A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwyttâwn, a byddwn lawen.

24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.

25 Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.

26 Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynodd beth oedd hyn.

27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.

28 Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd âg ef.

29 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyd a'm cyfeillion:

30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.

31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32 Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.

Nodiadau

[golygu]