Neidio i'r cynnwys

Ti, O! Dduw, y gweddai mawl

Oddi ar Wicidestun
Erglyw, O! Dduw, fy llefain i Ti, O! Dduw, y gweddai mawl

gan Edmwnd Prys

Dy babell Di, mor hyfryd yw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

324[1] SALM LXV. 1, 2, 4.
M.S.

1 TI, O! Dduw, y gweddai mawl
Yn y sancteiddiawl Seion;
I Ti y telir, trwy holl Gred,
Bob gwir adduned calon.

2 Pawb sydd yn pwyso atat Ti,
A wrendy weddi dostur;
Ac atat Ti y daw pob cnawd
Er mwyn gollyngdawd llafur.

3 Dy etholedig, dedwydd yw,
Caiff nesnes fyw i'th babell;
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
A'th sanctaidd weddus gangell.

—Edmwnd Prys


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 324, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930