Neidio i'r cynnwys

Tir y Dyneddon/Paham Nad Ydyw Bywyd i Gyd yn Chwarae

Oddi ar Wicidestun
Paham y Mae Pob Nodyn yn Canu yr Un Peth Tir y Dyneddon

gan Edward Tegla Davies

A Fo Dedwydd Bid Ferfa

IV.—PAHAM NAD YDYW BYWYD I GYD YN CHWARAE.

DAU ddynan bach o'r enw Ec ac Ii oedd y rhai mwyaf direidus a welais erioed. Nid Ii y llygaid bach oedd hwn, ond ŵyr neu or-ŵyr iddo, oherwydd treuliai'r dyneddon eu hoes mor gyflym nes eich bod yn colli pob cyfrif yn eu cylch. Deuai un ohonynt ger eich bron yn blentyn, ac wedi i chwi synfyfyrio ychydig ac edrych arno drachefn byddai'n hen ddyn. Treulient eu hoes gymaint cyflymach na ni ag y gwnawn ni yn gyflymach na'r Wyddfa. Am hynny nid wyf yn siwr iawn beth oedd perthynas yr Ii hwn â'r un y soniais amdano o'r blaen, ond eu bod o'r un deulu. Pan sonnid y bechgyn direidus " gwyddai pawb pwy oedd ym meddwl y siaradwr. Bechgyn drwg y gelwid hwy gan yr hen ddyneddon, a dywedent eu bod yn fyw i bob drwg, ond yr oeddynt yn rhy lawen o lawer i fod yn ddrwg. Yr oedd eu chwerthin yr un fath yn union a sŵn mintai o glychau iâ yn torri a disgyn i lawr i'r ddaear, ac wedyn yn rholio am bellter ar draws ei gilydd ar hyd y rhew. Ac ni all chwerthin felly byth ddyfod o galon ddrwg. Nid hwy oedd yr unig rai direidus. Dilynai tri arall hwy i bobman, o'r enwau Aets, ac El, ac Aa; ond hwy oedd yr arweinwyr. Ac yr oedd eu hysbryd anturiaethus a rhyfygus yn ddihareb. Bu bron i Ec ddifetha gorymdaith briodas y brenin a'r frenhines. Pan oedd pawb yn disgwyl am y brenin, dringodd i fyny i ben un o'r pryfed genwair a ffurfiai bolion i ddal y baneri, ac Ii yn dal ei draed. Eisiau cael golwg glir ar y brenin oedd arno, eb ef, ond ni thrafferthodd i egluro paham y treuliodd yr amser aros i gosi'r pryf druan nes iddo ei ddyblu ei hun gan chwerthin, a thorri'r rhaff a gollwng y baneri i'r baw. Ac nid oedd olwg am Ec ac Ii pan ddaeth y pryf ato ei hun wedi'r ffit chwerthin a gafodd dan y gosfa. Y ddau hyn, ynghyda'r tri arall, a gaffai'r bai am bob drwg. Bu bron iddynt daflu'r orymdaith i helbul arall cyn diwedd dydd coroni'r brenin a'r frenhines. Yr oeddynt yn edmygwyr mawr ohonynt, ac aent trwy ddwfr a thân, os byddai raid, er eu mwyn. Pan ddaeth dynan y wisg ddieithr i'r deml ar gyfer derbyn y brenin a'r frenhines, beth a welai ond Ec yn sefyll ar ei draed ar y bluen eira oedd i fod yn goron y brenin, ac Ii ar yr un oedd i fod yn goron y frenhines, ac Aets ar gefn Ec, ac El ar gefn Ii, ac Aa yn archwilio'r coronau. Bu bron i ddynan y wisg ddieithr lewygu, ond yr oedd eu heglurhad yn eithaf diniwed—ddim am i'r brenin a'r frenhines gael coronau gwan yr oeddynt, ac am eu profi cyn i'r coroni ddigwydd. A gurodd gŵr y wisg ddieithr hwy fel y gwneir i blant felly yn ein gwlad ni? Naddo. Gwelodd fod eu bwriad yn iawn os camgymerwyd ganddynt wrth ei weithio. A lle iawn i blant yw Tir y Dyneddon—bernir hwy bob amser yn ol eu bwriad. Am hynny ni churir neb am fwyta eiren Fair oddiar y pren i edrych a ydynt yn ddigon aeddfed i'w casglu, neu am osod gwê pryf copyn (sy'n rhaff yno) ar draws y ffordd yn yr eira i edrych a ydyw'n ddigon cref i daflu pobl i lawr, ac ni raid mynd i wely'n gynnar heb ddim swper am fynd i'r ardd bob dydd i godi'r hadau o'r pridd i edrych a ydynt yn tyfu, na dim o'r fath. Am fod eu calonnau yn iawn cododd dynan y wisg ddieithr bob un o'r pump hyn fyny, a chusanodd hwy bob yn un ac un, canys credai mai profi ei waith ef a wnaent, am ddarfod iddo eu cymryd ar eu gair, a bodlon oedd i'w waith fynd o dan bob prawf. Gwahoddodd hwy i aros yng nghanol y deml i weled priodi a choroni 'r brenin a'r frenhines.

Byth ar ol hyn, ac yn enwedig ar ol clywed y brenin yn egluro i'r dyrfa beth oedd meddwl popeth, meddylient y byd ohono, a phenderfynasant geisio gwneuthur popeth yr un fath ag ef, ond gan mai plant oeddynt, ni allent, wrth gwrs, wybod paham y gwnai ef y peth a ddynwaredent hwy. Wrth ddynwared y brenin heb wybod ei feddyliau, bu bron i Ec ac Ii ar ddamwain fynd yn fwy poblogaidd na hyd yn oed y brenin ei hun, ac i'r brenin oherwydd hynny orfod gadael ei orsedd.

Buasai hynny, fel y dywedais, yn drychineb mawr. Ond achubwyd y dyneddon mewn pryd o'r helynt hwnnw.

Ec a ddarganfu gyntaf ei bod yn amhosibl brifo wrth chwarae yn Nhir y Dyneddon, a'r darganfyddiad hwn a wnaeth yr helynt i gyd. Fel hyn y bu yn y rhialtwch ar ol y coroni yr oedd cystadleuaeth dringo'r enfys, ac un arall i ddringo pelydrau'r sêr, a mawr oedd yr hwyl gan eu bod mor ryfeddol o lithrig. Ni buasai'n anodd dringo'r enfys pe buasai ar ei hyd ar lawr, oherwydd gellid gwneuthur grisiau o'r lliwiau i gamu arnynt, ond gan eu bod ochr yn ochr, ac yn syth i fyny, y cwbl a ellid ei wneuthur oedd ceisio gafael yng nghonglau'r lliwiau. Eithr er mor anodd yr enfys yr oedd dringo pelydrau'r sêr yn galetach fyth, gan mor llithrig oeddynt. Ymgeisiodd llawer, ac o'r diwedd daeth Ec ymlaen. Aeth yn uwch na neb, ond gwyddoch pa mor ystrywgar yw'r enfys. Pan oedd ef yn yr uchelder, bron o'r golwg, diflannodd yr enfys, ac i lawr ag ef, a chwympodd dros chwe modfedd a hanner, ac y mae hynny'n gwymp aruthrol yn Nhir y Dyneddon. Caeodd pawb eu llygaid a rhoddasant eu dwylo ar eu clustiau gan arswyd, ond er syndod pawb nid oedd Ec ddim gwaeth. Ef aeth uchaf hefyd yng nghamp dringo pelydrau'r sêr, a phan oedd eto yn yr uchelder, bron mynd o'r golwg, daeth cwmwl oddiwrth fy mhen na fedrwn ddim oddiwrtho—pe medraswn rywbeth oddiwrtho ataliaswn ef rhag torri ar y chwarae—a chuddiodd y sêr o'r golwg. Tynasant hwythau eu pelydrau adref yn ol gan lusgo Ec i fyny gyda hwy. Dychrynodd pawb wedyn wrth weled Ec yn diflannu, ond rhaid ei fod wedi llwyddo i'w gollwng cyn cyrraedd eu cartref, canys daeth i'r golwg yn union, ac i lawr ag ef, a phan darawodd y ddaear, i fyny ag ef yn ol droeon, yn union fel pêl, eto nid oedd fymryn gwaeth.

Bu'r darganfyddiad hwn—bod yn amhosibl brifo wrth chwarae yn ddiwedd ar bob gwaith yn y wlad am yn hir iawn. Ymdaflai pawb, yn hen ac ieuanc, i chwarae, a gwnaent y pethau mwyaf annisgrifiol, eto ni frifai 'r un ohonynt byth yn y chwarae garwaf. Ac ymroddodd yr hen ddyneddon yn fwy i chwarae na hyd yn oed y rhai ieuainc. Y rheswm na chwaraeent hwy cyn hyn, ac y ceryddent yr ieuanc amdano, oedd nid am eu bod yn ei gashau, ond am y credent yn ddistaw eu bod wedi anystwytho gormod eu hunain i ymyrryd ag ef yn ddiogel. Cymaint oedd yr ymdaflu yma i chwarae nes i'r brenin fod bron colli ei afael ar y bobl. Ac er mor boblogaidd y bu ar ol dywedyd meddyliau popeth wrthynt, ni fu ond y dim na throisent arno a dywedyd wrtho am gadw ei feddyliau iddo ei hun, yn anterth y plesera hwn. Codent gymaint o lwch wrth ddawnsio a neidio nes llwydo'r llifeiriant dagrau na fedrwn eu hatal rhag dyfod o'm llygad a wrthodai agor. Aeth y deml rew yn bygddu, ac ataliwyd y pelydrau a ddisgleiriai o'r rhew trosti i gyd. O ddisgleirdeb y deml y deuai llawer iawn o'r goleuni a oleuai'r wlad, ond ni wyddai'r dyneddon hynny. Meddylient mai un goleuni oedd y cwbl, ac mai o'm llygad y deuai hwnnw. Ond heb sylwi yr oeddynt mai gwahanol oleuadau'n cydgymysgu eu goleuni ydoedd. Deuai goleuni o'r sêr, a'r diferion niwl, a'r llynnoedd dwfr, a'r glaswellt, a'r blodau, yn ogystal ag o'm llygad i a'r deml rew. Eithr ni sylwasant hwy ond ar oleuni fy llygad. Un diwrnod pan ar ganol chwarae, eisteddodd un dynan ieuanc i lawr yn sydyn, a dechreuodd grafu ei ochr chwith â'i holl egni, a chrafu y bu am hydoedd. Cyn bo hir gwelid un arall yn eistedd ar ganol ei chwarae ac yn crafu â'i holl egni, ac un arall ar ei ol yntau, ond methent yn eu byw gyrraedd y cosi, oherwydd y tumewn iddynt yr oedd, yn y lle y gwyddoch chwi fod eich calon ynddo, ond ni wyddent hwy mo hynny. Crafent a chrafent, yna rholient ar eu hyd ar lawr, ond methent ddifa'r cosi. Cynhyddodd y crafu hwn ymysg y bobl ieuainc—ac yn eu mysg hwy'n unig yr oedd—a chymaint y cynnydd cyflym nes arafu'r chwarae. Daeth yr hen rai heibio, cywilyddiai rhai ohonynt arddel eu perthynas â'r dyneddon ieuainc oedd yn crafu, gan ofni y dywedid mai rhywbeth amhriodol yn eu cartrefi, budreddi neu rywbeth felly, a achosai'r peth. Gwawdid hwy gan eraill, a dywedent mai dyrysu yr oeddynt. Eithr cynhyddu a wnai'r cosi yn nhu mewn y dyneddon ieuainc, a hwythau'n eu darnio eu hunain i geisio dyfod o hyd iddo. Dywedai rhai, dipyn mwy difrifol na'i gilydd o'r hen rai, mai'r gawod oedd arnynt, ac awgryment iddynt fynd i'w gwelyau wedi eu lapio mewn dail tafol. Gwnaeth rhai hynny, ond nid oedd y cosi ddim gwell. O'r diwedd peidiodd y chwarae yn llwyr, gostyngodd y llwch, a chliriodd yr awyr. Gloywodd y llifeiriant dagrau, ac o dipyn i beth gloywodd y deml rew, a fflachiodd pelydrau allan ohoni ymhobman drachefn i oleuo'r wlad. Gwelid y naill ar ol y llall o'r crafwyr yn codi, gan ddywedyd bod y cosi rhyfedd hwn yn gwella. Gwellhaodd pawb cyn bo hir, ac ail ddechreuwyd ar y chwarae yn wylltach nag erioed. A chanmolid y dail tafol, a phopeth arall a ddefnyddiwyd, am y gwella. Ond nid y dail tafol na dim arall felly a'u gwellhaodd o gwbl. Chwarae a chwarae oedd eu hanes, a dechreuodd y llwch godi wedyn, a'r cosi a'r crafu, a daeth yr helynt i gyd yn ol. Cerddai distawrwydd yn araf a chyson tros yr holl wlad. Mor drwm y cerddai nes i chwi fedru ei glywed. Ac o bob sŵn rhyfedd a glywais, nid oedd dim trymach, dyfnach, a dieithriach, na'r distawrwydd hwn wrth gerdded dros y fro.

Yn clywed y distawrwydd ar ol y chwarae mawr, daeth y brenin a'r frenhines heibio i holi'r achos ohono. Yng nghanol y dirgelwch dieithr hwn parod iawn oedd y dyneddon ieuainc i wrando ar y brenin yn siarad, ond ymarhous iawn oedd yr hen rai, a thueddent i wawdio a dywedyd mai ffug rhai wedi blino ar y chwarae, am eu bod yn rhy wan i'w ddal, oedd y cwbl. Awgryment hefyd mai ofn colli ei orsedd oedd dan awydd y brenin i wella'r clwyf. Bron na thueddent i rwystro'r brenin rhag siarad, gan faint eu rhagfarn. Eithr daeth ef i'w canol yn hollol ddiofn, canys gwyddai ei fod yn hollol ddiogel—heb neb ond yr hen yn ei erbyn, a'r ieuanc yn awchus o'i blaid. Gwyddai, meddai, fod pob un yn ddiogel sydd â'r ieuanc o'i blaid, beth bynnag fyddo gwrthwynebiad yr hen. Pan ddechreuodd ef siarad, distawodd popeth fel y bedd. "Gwyddwn," meddai, na ellir brifo wrth chwarae; nid brifo a wnewch wrth i chwi chwarae, ond codi llwch y ddaear, a thrwy hynny golli golwg yn y cynnwrf ar bopeth ond y teganau chwarae sy'n eich dwylo. Cuddia'r llwch y pethau uwchlaw i chwi i gyd o'ch golwg, heblaw eu difwyno. Am y cosi, y tu mewn i chwi y mae, ac ofer yw ei grafu, canys ni ellir ei gyrraedd, ac ni wna dail tafol na dim arall les iddo. Nid oes dim ond un math ar bethau yn ddigon cain i dreiddio ato,—pelydrau goleuni. Ac nid pob pelydryn goleuni chwaith. Ni all pelydrau sêr wneuthur hynny, na phelydrau'r haul ar ben y mynydd mawr. Ni all dim pelydrau wneuthur hynny ond y rhai a ddaw o'r rhew sy'n y deml yng ngwaelod y mynydd. Goleuni'r deml unig sydd â'i belydrau'n ddigon cain i gyrraedd at y boen a'i wella. Tywynent hwy arnoch bob amser i'ch cadw'n iach, ond ni wyddech chwi hynny. Ac y mae'r llwch a godasoch wrth chwarae wedi diffodd y rhai hynny trwy ddifwyno'r dwfr."

Wedi i'r brenin dewi gorffwysodd tawelwch mawr tros y lle, ac edrychai pawb ar ei gilydd yn syn. O'r diwedd cododd yr hen ddyneddon bron gyd, ac aethant adref—rhai yn brudd, rhai yn edrych yn wawdlyd, eraill yn codi eu trwynau ar y brenin gan ei ddirmygu am awgrymu meddyginiaeth a gostiai iddynt roddi heibio eu chwarae,—a dail tafol, yn ol eu tyb hwy, yn gwneuthur y tro. Wedi iddynt hwy fynd cychwynodd y brenin ymaith, ae aeth y gweddill, yn hen ac ieuanc, i gyd ar ei ol. Arweiniodd ef hwy at y deml, ac aent iddi ar flaenau eu traed rhag ei hysgytio. Wedi aros yno'n hir, aeth pawb allan yn llawen, a'r cosi rhyfedd o'r tu mewn wedi ei gyrraedd, a'i symud gan belydrau'r deml rew. A phenderfynodd pob un beidio â chwarae gormod byth mwy, rhag codi llwch eto a duo'r dwfr. Dyna'r rheswm paham nad ydyw bywyd i gyd yn chwarae yn Nhir y Dyneddon.

Nodiadau

[golygu]