Tir y Dyneddon/Paham y Mae Pob Nodyn yn Canu yr Un Peth
| ← Dewis Brenin | Tir y Dyneddon gan Edward Tegla Davies |
Paham Nad Ydyw Bywyd i Gyd yn Chwarae → |
III. PAHAM Y MAE POB NODYN YN CANU YR UN PETH
UN tro pan oedd fy syrthni ar gilio, a'm llygad ar agor, clywn sŵn mawr canu clychau, a theimlwn fel pe buasai tyrfaoedd ar dyrfaoedd yn dringo fy nhraed. Agorais fy llygad, a gwelwn ddegau o ddyneddon yn ysgwyd y clychau iâ a lynai wrth hoelion gwadnau f'esgidiau, a'm godre i gyd, a ffurfiwyd yn ddiau gan waith fy chwys yn rhewi wrth ffrydio allan. Cynhyrchai'r clychau bob nodyn y gellwch feddwl amdano wrth dincian yn ei gilydd. Clywn hefyd sŵn mathau eraill ar glychau yn dyfod o rywle o'r golwg, a deallais yn union mai clychau'r gôg a chennin y gwinwydd oeddynt. Methaswn â deall lawer gwaith cyn dyfod i'r wlad yma i ble yr âi clychau'r gôg a'r blodau eraill yn y gaeaf, ond gwelwn yn awr mai yma y deuent,—mai dyma eu cartref, a chartrefent yn llawen yma gyda blodau pob tymor, a chyda'r rhew a'r eira, heb neb yn tynnu'n groes, nac yn digio wrth ei gilydd a byw ar wahan fel y gwnant yn ein gwlad ni. Curai'r dafnau caddug a godai oddiar y barrug oedd arnaf ei gilydd â rhyw frwdfrydedd anghyffredin, a churai'r pelydrau sêr ar fy ngwallt yn drymach nag erioed, ac yr oedd eu sŵn fel pe baent yn chwerthin wrth y gwaith. Llifai fy nagrau'n gyflymach o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn yr oeddwn ynddo, a chanent wrth ddisgyn i lawr fy ngrudd a'm corff. Er nad oedd y llygad hwn am gydnabod bod y byd yr oeddwn ynddo, methai beidio â wylo'n drwm dan ei ddylanwad.
Yr oedd rhyw ganu anghyffredin yn yr awyr— gylch i gyd, ac unai trigolion y gaeaf a'r haf yn unllais yn y gân. Fel y cliriai'r caddug gwelwn dyrfa o ddyneddon mewn dillad geirwon, yn casglu o amgylch fy nhraed ac arfau gwaith ar eu hysgwyddau ac eu dwylo. Dechreuasant â'u holl egni dorri llwybr at y rhan o'm godre y disgynnai fy nagrau i'r llawr ynddi. Edrychais i'r fan, ac O! yr olygfa oedd yno. Ni ddychmygais erioed fod yn bosibl i ddagrau fynd mor hardd, gan na welais ddagrau erioed yn mynd yn ddim tebyg yn ein gwlad ni. Yn Nhir y Dyneddon y try dagrau i ganu ac i greu golygfeydd swynol. Llifent i lawr fy nghorff trwy'r barrug a'm cuddiai, ac fel y dynesent at y gwaelod mewn rhaeadr, dechreuent rewi, a'r rhew hwn a wnai'r olygfa. Cymerai'r rhew bob ffurf y gellwch feddwl amdani, a ffurfiau na feddyliasoch erioed amdanynt. Ar y chwith troes i ffurf mintai o angylion ar fin cau eu hadenydd wrth ddisgyn i'r ddaear. Ac yr oedd yr adenydd hanner agor hyn fel nenlenni godidog, ac ymylwe gain, gyfoethog, iddynt. Tua'r canol, troes fy nagrau i ffurf saint â'u dwylo ynghau ar eu hwynebau mewn gweddi. Uwch ben y rhai hyn ymestynnai llenni ysblennydd allan tros y gwagle, ac o dan eu traed yr oedd twmpathau marmor, a phob ochr iddynt bileri fel pileri teml, a'r cwbl yn disgleirio. Tros y cwbl yr oedd lliwiau gwyrdd a melyn a gwyn. O dan y rhew hwn disgynnai'r diferion dagrau oedd heb rewi, gan atseinio trwyddo a'i wneuthur yn fath ar gloch fawr, a deffroai hon y wlad i gyd. Wrth gwrs ni fuasai'r cwbl yn ein gwlad ni yn fwy na chragen go lew, ond yr oedd yn fawr iawn ac yn ardderchog iawn yn Nhir y Dyneddon, mor fawr ac ardderchog nes iddynt wneuthur teml ohoni. Try dagrau'n deml, wrth oeri, yn Nhir y Dyneddon.
Canai adar bach, y rhai lleiaf a welsoch erioed, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt â dryw ag sydd rhwng dryw â cholomen. Tyfai ambell flodyn, ac yr oedd sŵn canu yn ei dyfiant. Ychydig o ganu pethau yn tyfu oedd yno. Peidiasai'r glaswellt a phethau eraill â thyfu ar ol rhyw ychydig o eiliadau wedi imi gyrraedd y wlad. Deffrodd y pryfed yn fawr a mân, a phopeth arall, yn sŵn y gloch ddagrau a drowyd yn deml, a'r sŵn curo, a rhuthrasant i gyd yno o rywle o'r golwg.
Plannai'r gweithwyr goed pinwydd bach, bach, o amgylch y deml rew wrth fy ngodre, a gwnaent lwybr trwyddynt dan y llenni ysblennydd o rew gwyrdd a melyn a gwyn, a than gysgod adenydd yr angylion oedd yn hanner agor. O'r diwedd daeth byddin o ddyneddon mewn dillad amryliw o amgylch y porth, â chleddyfau ganddynt wedi eu gwneuthur o odre pelydrau sêr. Bu'r gweithwyr wrthi am ryw ddau neu dri caead ar fy llygad,— rhyw dridiau, felly, yn eu gwlad hwy, a'r canu hwn wrthi hi o hyd, o hyd.
Wedi iddynt orffen dyblodd grym yr holl ganu ag angerdd newydd, a gwelwn y niwl gwibiog a welais droeon o'r blaen draw ac yma ymhobman,—y bobl oedd yn casglu at ei gilydd. Pan ddaethant ynghyd ffurfient dyrfa oedd bron yn ddiderfyn, a safasant bob ochr i'r ffordd a arweiniai at y deml rew. Yna gwelid gorymdaith yn dyfod o'r pellter. Ar flaen yr orymdaith yr oedd seindorf yn canu cyrn arian o glychau iâ â'u holl egni. Ar ei hol deuai un arall yn canu cennin y gwinwydd, ac mor fawr oeddynt nes bod rhaid i ddau ohonynt afael ymhob un. Ar ol y seindorf hon deuai un arall yn canu clychau'r gôg, ac ar ei hol hithau un arall yn canu cyrn aur wedi eu gwneuthur o wellt gwenith. Ar ol y seindyrf wele rês ddwbl hir o filwyr yn dyfod ar gefn gwybed amryliw, a milwr mawr tua modfedd a hanner o daldra o'u blaen ar gefn gwas neidr. Yr oedd yr arweinydd hwn a'i farch yn hardd iawn, gan eu bod wedi eu gwisgo â holl liwiau'r enfys. Yna daeth rhes ddwbl arall o filwyr mewn lliwiau tywyllach, ar gefn chwilod disglair, a chlywid sŵn y cerdded o bellter mawr. A gwisgai'r milwyr i gyd gleddyfau wedi eu torri o odre pelydrau sêr.
Tros y llwybr yr oedd llenni a gemau'n hongian oddiwrthynt, wedi eu gweu gan bryfed cop, a phryf copyn â helm goch yn gwylio pob congli bob llen. Rhwng y llenni hyn yr oedd pryfed gen— wair yn bolion syth yn dal baneri, ac arnynt bob math ar ysgrifen croeso, ac ymhlith eraill:
Croeso i'n Brenin a'n Brenhines."
Ar ol y rhai hyn oll gwelwn rywbeth fel cerbyd mawr yn dyfod, ond dim son am olwyn iddo. Wedi ei ddyfod yn nes gwelwn mai llyffant mawr lliwiog, gemog, ydoedd, a disgleiriai dwy gadair hardd ar ei gefn, a dau yn eistedd ynddynt,—mab a merch, y rhai harddaf a welais o gwbl ymysg y dyneddon. Adnabum y ddau yn syth gan mor wahanol oeddynt i bawb. Ef oedd y llanc a'm dringodd nes medru edrych i fyw fy llygad, a'r ferch oedd yr hon a anturiodd i olchi ei waed ac i drwsio ei friwiau cyn gwybod beth allasai fod teimladau'r gynulleidfa tuag ato, wedi clywed ei stori am ei daith i ben y mynydd, a'i waith yn clywed y mynydd yn siarad. A'r mynydd, fel y gwyddoch, oeddwn i.
O flaen y ddeuddyn hyn cerddai nifer o ddyneddon dan weiddi:
Lle i'r Brenin a'r Frenhines. Gwnewch le ar gyfer priodas y Brenin!
Fel y tynnai'r llyffant yn nes i deml fy nagrau, curai'r pelydrau sêr a dywynnai i lawr arnaf mor gyflym nes bod y pelydrau sêr a godai o'r llynnoedd dwfr yn y gwaelod yn canu fel telyn. Curai dafnau niwl anadl y creaduriaid yn ei gilydd hefyd nes canu fel clychau tros y wlad. Trwy'r cwbl yr oedd y ddaear a'r awyr yn ganu i gyd, a thrwy'r canu clywid sŵn cerdded araf, cyson, urddasol y gwybed a'r chwilod, a'r llyffant a gludai'r brenin a'r frenhines. A'r tu ol i'r orymdaith fawr, a thipyn o amser rhyngddynt, deuai mintai o forgrug a gwrachod lludw, yn cario bwyd ar gyfer y wledd.
O'r diwedd cyrhaeddodd yr orymdaith y deml rew, a safodd y llyffant a'i lwyth ychydig cyn cyrraedd y llen odidocaf o'r cwbl. Casglodd y dyrfa ynghyd oddiamgylch, ond heb ddyfod yn rhy agos rhag iddynt grynu'r ddaear â'u dwndwr nes i'r deml gwympo,—dyna'r ffordd y dinistrir temlau yn Nhir y Dyneddon, trwy ddwndwr y difeddwl. Daeth y mab a'r ferch oddiar gefn y llyffant, cerddasant yn ddiesgeulus dan y llen odidocaf honno, ac aethant ar eu gliniau. Tir rhyfedd yw Tir y Dyneddon,— o ddagrau y gwneir temlau yno, a'r bachgen fu'n gwaedu er mwyn clywed y mynydd yn adrodd ei gyfrinach, a'r ferch a olchodd ei waed ac a drwsiodd ei ddoluriau, o bawb, a wnaed yn frenin a brenhines. Ac yr oedd seindorf pob tymor ynghyd yn yr orymdaith.
Peidiodd pob sŵn pan blygodd y mab a'r ferch ar eu gliniau, ond sŵn y diferion a wnai'r deml rew yn un gloch fawr. Cyfododd rhywun ar ei draed, a eisteddai yn y pen pellaf o dan y llen fawr, ac yr oedd clychau iâ yn ymylwe ar odre ei fantell, ac ar ei llewys a'i gwddf. Dechreuodd hwn ddarllen a siarad, ac o'r diwedd dywedodd fod En y mab, ac Eg y ferch, yn ŵr a gwraig briod ynghyd. Estynnwyd dwy goron o blu eira iddo gan rywun, a rhoddodd hwy ar eu pennau, ac ni welwyd erioed blu eira â'u seithliw'n ddisgleiriach a'u plethiad yn fwy cain. Yna dywedodd y gŵr a'u coronodd mai hwy o hynny allan fyddai brenin a brenhines y wlad. Bellach, nid dau fyddent, ond un—un yn eu cartref, ac un ar yr orsedd.
Ar hyn dyna un floedd fawr yn diaspedain, nes crynu'r deml yn beryglus, ac enwau'r brenin a'r frenhines wedi toddi ynghyd yn un i'w glywed ar bob llaw. Ac wrth gwrs, yr enw hwnnw oedd Eng. Dyna'r gair a seinid yn yr holl nodau a genid, pa mor uchel neu mor isel bynnag y byddent. Eng a ganai fy nagrau a ddisgynnai o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn. Eng a genid gan wahanol nodau pelydrau'r sêr. Eng meddai'r diferion niwl a godai o'r barrug a'm cuddiai, wrth daro yn ei gilydd. Eng oedd sŵn tyfu pob blodyn wrth ymwthio o'r tir. Dyna hefyd a genid gan y clychau iâ, a chlychau'r gôg, a chennin y gwinwydd, a chyrn gwellt gwenith, yn eu gwahanol nodau. Ac O! y canu a glybûm pan gychwynnodd y brenin a'r frenhines yn ol. Ymunai popeth i ganu'n unllais mewn mil o nodau, ond yr un gair a glywid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng.
Wedi mynd dipyn o ffordd o'r deml safodd yr orymdaith, a chasglodd o amgylch y brenin, ac esboniodd yntau iddi feddyliau'r mynydd, a meddyliau'r sêr, a meddyliau'r coed a'r ddaear, fel yr adroddasant hwy wrtho ef o dro i dro, a synnai pawb fod y byd o'u hamgylch mor gyfoethog o feddyliau a hwythau heb wybod dim amdanynt. Ar ol i'r brenin orffen dechreuodd y canu wedyn, mewn mil o nodau, ond yr un gair a seinid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng. A pharhaodd y canu nes imi gau fy llygad.
Wedi dyfod yn ol i'm gwlad fy hun, sylwais mai Eng yw'r gair a genir gan bopeth yn y byd o'm hamgylch. Os gwrandewch, dyna'r gair a glywch gan yr ŷd dan yr awel, a'r nant wrth sisial, a'r dail wrth ysgwyd a churo'i gilydd, a hyd yn oed gan wifrau'r teligraff, a dwfr poeth mewn cwpan dê â chrac ynddi. A wnant hyn, tybed, mewn coffadwriaeth am briodas En ac Eg, brenin a brenhines y wlad lle cedwir popeth sy'n canu yn y byd yma, o'r rhew i'r blodau, nes ein bod mewn angen amdano? Os felly, y mae'n hyfryd gan bethau'r byd feddwl fod ei drysorau ynghadw yn y wlad a ddewisodd yn frenin fachgen a gollodd ei waed wrth geisio edrych i lygad yr haul, a chlywed meddyliau'r mynydd; ac yn frenhines yr eneth a aeth, heb gym— helliad y dyrfa, i olchi ei waed a thrwsio ei glwyfau. Gan hynny, gorfoledd wedi ei sylfaenu ar aberth yw holl ganu'r greadigaeth.