Tir y Dyneddon/Y Cyfaill a Gafodd Di
| ← Darganfod y Rhosynnau Cudd | Tir y Dyneddon gan Edward Tegla Davies |
Y Telynor Bach → |
VII.—Y CYFAILL A GAFODD DI.
DYNAN bach unig a digalon oedd Di, a phawb yn ei erlid. Crwydro llwybrau Tir y Dyneddon ar ei ben ei hun, a synfyfyrio dan brennau a chreigiau, ymhell o olwg pawb, oedd ei hanes bob dydd, o'r bore gwyn tan nos, nes o'r diwedd iddo gael cyfaill. Yna gwenodd, a gwên Di wedi cael cyfaill oedd y brydferthaf a welodd dynan erioed.
A dyma'r paham yr oedd yn unig. Yr oedd dau deulu mawr yn Nhir y Dyneddon,—teulu Aa, El, Aitsh, a'u perthynasau, a theulu Ec, Oo, a'r eiddynt hwythau. Ac wedi gweled Di yr oedd yn amlwg i bawb ar ffurf ei gorff na pherthynai i'r un o'r ddau deulu. Er bod rhai o nodweddion y ddau deulu'n cydgyfarfod ynddo, anffurfio'r nodweddion a wnai, ac nid oedd digon ohonynt, pe baent ynddo'n briodol, iddynt ymfalchio ynddo. Yr oedd ychydig ddyneddon yn rhyw lun o berthyn iddo, megis Bi, Er, ac un neu ddau eraill, ond llwyddent hwy i dynnu at ryw un o'r teuluoedd yn fwy na'i gilydd. Eithr am Di, ni hawliai neb berthynas ag ef. A rhaid oedd perthyn i un o'r ddau os am gyfaill a chysur bywyd yn Nhir y Dyneddon. Felly dynan bach unig, digalon, a syn oedd Di, yn cael ei erlid a'i wawdio gan bawb. Dirmygid ef gan deulu Aa am ei fod yn gefngrwm, a chan deulu Ec am fod ei fron yn rhy syth. Creadur afluniaidd oedd yng ngolwg pawb, a phob un yn cywilyddio ei weled ei hun yn ei gwmni, ac yn enwedig os yn ei gwmni yn siarad yn gyfeillgar ag ef.
Wrth grwydro'n hir ar ei ben ei hun, felly, daeth rhyw welediad pell a dieithr i'w lygad, i beri i bobl ameu bod rhywbeth o'i le ar ei feddwl, heblaw ei fod yn afluniaidd a hagr. Ymlusgai rhyw hanner ofn tros ddyneddon, o'i gyfarfod ar ryw lwybr unig wedi nos. Ac un ydoedd fyddai ar ei draed yn hwyr ac yn codi'n fore, a chredid gan hynny fod iddo gymdeithas â rhyw fodau gelynol i'r dyneddon, a daeth ofn yn gymysg â'r dirmyg a goleddent tuagato. Pe gwelent Di yn dyfod i'w cyfarfod yn y llwydwyll, ceisient ymguddio oni phasiai, neu droi ar hyd llwybr arall. Eithr pan fyddai dau neu dri o'r dyneddon mwyaf direidus ynghyd, gwawdient a phoenydient ef hyd yn oed yn y nos; a gwnaethant hynny mor ffyrnig un tro nes tynnu dagrau i'w lygaid.
Wedi un o'r troeon hyn y dechreuodd Di gael cwmni a'i deallai ac a gydymdeimlai ag ef. A dechreuodd hefyd godi mor fore nes i'r dyneddon gredu'n sicr mai dyrysu yr oedd neu gynllunio rhyw ddrwg yn eu herbyn. Bu un diwrnod yn crwydro'n hir ar ei ben ei hun heibio godre'r mynydd mawr (a gwyddoch pwy oedd hwnnw). Yna o dro i dro gwelwn ef yn cilio ymhell oddiwrthyf draw i gysgod eithin a brwyn gan ymwthio i'w canol o'r golwg, ac y mae eithin a brwyn byrion yn goed mawr yn Nhir y Dyneddon. Pan oedd y wlad yn hollol dawel ym min yr hwyr daeth allan o'i loches, ac ymhyfhaodd gan gerdded yn ysgafnach ac edrych yn loywach nag arfer. Eithr wrth iddo ddyfod heibio congl carreg fach a elwid Y Graig Fawr, pwy a'i cyfarfu'n hollol sydyn ond tri dynan mwyaf direidus y tir i gyd. Dechreuasant ei wawdio a'i boenydio nes iddo wneuthur yr hyn na wnaeth mohono erioed o'r blaen,—wylo. A pheth dieithr yw wylo yn Nhir y Dyneddon. Rhedai ei ddagrau'n gyflym i lawr ei ruddiau, ac yntau'n methu â'u deall. Ac wrth ei weld felly trodd y tri dynan ar eu sodlau, a chiliasant ymaith. Ymgodai a gostyngai ei fynwes fel aderyn bach dan lygaid yr heliwr; ac yr oedd y teimladau newyddion hyn yn ddieithr hyd yn oed iddo ef oedd mor gyfarwydd â phoen a digalondid. Llonyddodd y ffrwd yn ei thro, ac arhosai un deigryn yng nghil ei lygad, a phan darawodd ei amrant disgynnodd hwnnw ar gefn ei law. Syllodd Di arno'n drwm, ac wedi syllu'n hir gwelodd rywbeth ynddo a aeth â'i anadl, gwelodd greadur bach, bach, yn llochesu yng nghanol y deigryn—creadur bach afluniaidd a hagr fel ef ei hun, ond ei fod filwaith llai, er mai anodd yw dychmygu am greadur rhesymol llai na dynan. Symudodd Di ei ben, a symudodd y creadur bach ei ben. Lliniarodd y galar ar ei ruddiau, a lliniarodd galar y creadur bach ar ei ruddiau yntau. Daeth golwg lariaidd ar ei wyneb, a llareiddiodd wyneb y creadur bach yn y deigryn yn syth. Daeth gobaith newydd i fynwes Di. Yn sicr, er na ddëellid ef gan neb o'r Dyneddon, am nad oedd neb afluniaidd yn y wlad ond ef, dëellid ef i'r dim gan y creadur bach hwn, oherwydd yr un gwendid oedd i'r ddau, ac yr oedd ôl wylo a gofid hir ar wynepryd y creadur bach yntau hefyd. At hynny, ef oedd y cyntaf erioed i edrych yn llariaidd ar Di. Ysgafnhaodd mynwes Di mewn modd na wnaeth erioed felly o'r blaen, wrth edrych ar y creadur bach, ac ysgafnhaodd mynwes y creadur bach hefyd. Onid oedd yntau yn unig ac yn hiraethus am gydymdeimlad? Dechreuodd Di siarad ag ef, a gwelodd y creadur yn siarad yn ol, ond ni chlywai air,— dim ond gweled ei wefusau'n symud. Eto, cysur oedd gweled rhywun yn rhywle yn ceisio siarad ef mewn rhyw ddull ond mewn bygwth a gwawd a cherydd. Cyn hir sylwodd Di, er ei ddychryn, fod y diferyn dwfr dieithr a ddaeth o'i lygad, na welodd ef erioed ei gyffelyb, yn lleihau. Daeth braw newydd i'w fynwes, a gwerthfawrocach nag aur bellach oedd pob eiliad, hyd yn oed eiliadau'r Dyneddon, o gwmni'r creadur bach yn y deigryn. O'r diwedd diflannodd y deigryn yn hollol, a'r creadur bach afluniaidd a gydymdeimlai ag ef mor fawr, gydag ef, a daeth hiraeth amdano i lethu Di bron yn llwyr.
Crwydrai'n awr ymhellach o'i gynefin nag erioed gan feddwl a hiraethu ddydd a nos am y cyfaill bach a ddaeth unwaith i gydymdeimlo ag ef ei ofid. Ac mor fawr oedd ei ofid nes i'r dyneddon a'i gwawdiai gymaint fagu rhyw fath ar gydymdeimlad ag ef, canys curiai wrth ben ei draed.
Eisteddodd yn syn tan gysgod deilen redynen un min hwyr yn hiraethu am y creadur bach dieithr a gartrefai yn ei ddeigryn. Myfyriai beth oedd y rheswm na allai dynnu dwfr o'i lygaid drachefn pan fynnai, heb wybod na ddaw dagrau a'u gweledigaeth ond pan fyddo Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr wedi rhwygo, ac ni ŵyr hyd yn oed dewin y Tir Tywyll (a ŵyr am y Rhosynnau Cudd), am y ffordd at Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr. Cofiodd yn y man ddarfod iddo sylwi lawer gwaith fod diferion cyffelyb ar y ddaear bob bore braf yn yr haf y codai ef i grwydro'r tir er mwyn cael llonydd cyn i'r dyneddon eraill ddeffro. Penderfynodd chwilio amdanynt bore drannoeth. Cododd cyn i'm llygad agor, a theimlwn ef yn ymbalfalu am ei ffordd ymlaen yn y tywyllwch. Agorais fy llygad yn ei dro, a gwelwn holl laswellt Tir y Dyneddon yn disgleirio dan berlau gwlith, a Di yn crwydro o un i un ac yn syllu i mewn iddynt, ac wrth godi oddiar y ddaear, rhyw dynerwch tebyg i wên ar ei wyneb oedd yn ddieithr iawn iddo ef, a goleuni newydd yn ei lygaid na welais erioed mohono o'r blaen ond unwaith. Yn llygaid mam y gwelais ef y tro hwnnw pan feddyliodd ychydig cyn i Annie Bach farw, ei bod yn dechreu troi ar wella. Ni welais y goleuni hwn yn ei lygaid o'r blaen hyd yn oed pan welodd creadur bach hwnnw yn ei ddeigryn. Gorweddai ar ei hyd o dro i dro yn ymyl hanner dwsin o'r diferion cyfrin hyn, a syllai'n hir a dwfn i bob un, a chan fod y darn rhew ar fy llygad, gwelwn gyfrinach y wedd newydd hon oedd arno. Ymhob un o'r diferion yr oedd creadur bach tebyg iddo ef ei hun, yn afluniaidd a hagr, a'r olwg ar wynebau'r creaduriaid hyn yr un ag a welid ar ei wyneb ef. Crwydrodd o'r naill i'r llall yn hir, ac ymfalchïai y tuhwnt i fesur wrth weled creadur bach ymhob un ohonynt. Yn y man dringodd i ben gwelltyn hwy na'i gilydd er mwyn medru gweled mwy nag un ar unwaith ohonynt. Gwelai oddiyno nifer fawr, a chreadur bach tebyg iddo ef ei hun ymhob un ohonynt,—a phob un yn cydvmdeimlo ag ef, ac yn edrych yn llariaidd arno fe yr edrychai ef arnynt hwy.
Ni chafodd Di y fath gwmni erioed, a chynhyrchodd nid yn unig ryw ysgafnder newydd yn ei lygaid ond hoywder newydd yn ei gorff. Ciliodd oddiyno cyn i'r Dyneddon ei weled. Ni buont hwy'n hir heb sylwi bod rhyw hyfrydwch cudd ym mywyd Di na wyddent hwy ddim amdano. Cynhyddai'r hoywder newydd hwn o ddydd i ddydd, a chodai Di bob dydd cyn agor ohonof fy llygad, a'r peth cyntaf a welwn bob dydd oedd ef yn aros yn bryderus, ac yn dechreu chwilio cyn gynted ag yr agorwn fy llygad ar y byd. Ar ei hyd ar lawr y byddai, ac arhosai wrth ambell ddiferyn mwy na'i gilydd yn hir iawn, yn troi a throsi o'i amgylch gan alw sylw'r creadur bach yn y tu mewn ymhob modd oedd yn bosibl iddo. A phan godai ar ei draed yr oedd yn wlyb diferol.
Methai'r dyneddon â deall y llawenydd cudd hwn mewn un mor ddirmygus, ac a gyfrifid ganddynt heb fod mor gall ag eraill, a phenderfynasant wylio. Gwyliai rhywun ef trwy'r dydd, ond ni ddarganfuwyd cyfrinach ei wynfyd. Sylwasant o'r diwedd mai ar grwydr yr oedd ef bob dydd pan welent ef gyntaf, a phenderfynasant mai rhywbeth a gaffai yn y bore oedd cyfrinach y peth dieithr hwn a feddai. Arhosodd dau ar eu traed un noson gan wylio'n ddyfal y ddeilen y cysgai dani. Clywsant siffrwd yn nyfnder nos, ond ni welent ddim, ac er pob ymdrech i'w ddilyn, ei golli a wnaethant, ac ni welsant ef nes ei ddyfod heibio liw dydd goleu, a'r hyfrydwch dieithr hwn yn fwy tanbaid nag erioed ar ei wynepryd. Bu fel hyn mor hir nes i'r dirmyg a'r gwawd ddiflannu ac i ryw ffyrnigrwydd a llid angherddol tuagato gymryd eu lle. Gwyliai mwy ei symudiadau o hyd, ond heb fod i ddim pwrpas,— llwyddai i guddio cyfrinach ei wynfyd o'u golwg oll. Eithr rhyw fore sylwodd un a wyliai mewn congl unig pan agorais fy llygad, ar Di yn disgyn ar ei hyd ar lawr bron yn ei ymyl, ac yn syllu y ffordd hon a'r ffordd arall. Yna'n dringo i ben glaswelltyn mawr ac edrych o'i amgylch â rhyw wynfyd yn ei lygaid a gywilyddiodd ei erlidiwr. Ymgripiodd ei wyliwr ymlaen ar ei draed a'i ddwylo onid oedd yn ei ymyl. Gymaint yr ymgollasai Di yn ei waith ag na chlywodd ef yn dyfod o gwbl. Aeth y dynan y tu ol iddo, a syllodd tros ei ysgwydd, ac er ei syndod beth a welai yn y diferyn gwlith oedd o flaen wyneb Di, ond wyneb fel un Di yn union, ac un yn edrych tros ei ysgwydd. Gwelodd Di y ddau wyneb. Meddyliodd i ddechreu fod dau greadur bach wedi dyfod yn gwmni iddo i'r diferyn hwn, ac ymhyfrydodd yn fwy. Ond wrth iddo ymhyfrydu, yr wyneb isaf o'r ddau a ymhyfrydai gydag ef, ac edrychai'r uchaf yn chwerw. Trodd ei lygad at ddiferyn arall yn ei ochr i edrych a oedd dau wyneb yn hwnnw hefyd, a gwelodd gysgod y dynan oedd y tu ol iddo yn gwylio'r cwbl. O!'r digalondid ddaeth trosto wrth weled bod cyfrinach ei wynfyd. wedi ei darganfod. A rhoddodd waedd anobeithiol nes crynu o bob glaswelltyn a ddaliai'r diferion, gan fraw, ac yn y cryndod disgynnodd y diferion, a diflannodd y creaduriaid bach i gyd.
Trodd at y dynan a'i darganfu, ac edrychodd arno â holl anobaith ei fywyd yn ei lygaid. Nid oedd ganddo ddim i'w ddywedyd wrtho, dim ond dal i edrych felly arno. Ac mor fawr oedd ei anobaith ag y tosturiodd y dynan wrtho, ac addo na ddywedai i neb ddim o'r hanes. Llawenychodd Di, ond ni ddaeth y creaduriaid bach byth yn ol. Yr oedd cryndod yn y glaswellt bob dydd y daeth yno wedyn, cryndod eu cydymdeimlad ag ef, canys gwyddai'r glaswellt am ddolur ei galon. A chan y crynent ni allent ddal y diferion y cartrefai ynddynt y creaduriaid bach oedd yn gyfeillion iddo. Felly, fel y darfu'r hyfrydwch a gafodd yng nghwmni ei gyfaill o'i ddeigryn, y darfu hefyd yr hyfrydwch a gafodd yng nghwmni ei gyfeillion o berlau'r ddaear o dan ei draed.
Daeth tymor y crwydro unig a'r curio wyneb a chorff yn ol wedyn. O dipyn i beth ciliodd ffyrniggrwydd a llid y dyneddon, a daeth yr hen ddirmyg a gwawd yn ol, ac edrychent arno eilwaith fel creadur gwyllt a diniwed yn rhedeg ar ol breuddwydion, heb fwy o fudd yn y gwaith na rhedeg ar ol yr enfys, ac yn Nhir y Dyneddon diflanna'r enfys o'ch dwylo hyd yn oed pan fyddoch wedi cael gafael ynddo. Fel yr arferent ag ef caffai ei adnabod fel math ar greadur syml na wnai ddrwg i neb pe caffai lonydd. A llonydd a gafodd. A gwaeth oedd y llonyddwch iddo hyd yn oed na'r gwawd a'r erlid. Crwydrai ddydd a nos i chwilio am gyfaill. Arhosai ar ei draed drwy'r nos, a hynny mor llonydd ag y medrai rhag ysgwyd ymaith y diferion gwlith, ond crynu'r oedd y glaswellt bellach yn ei gwmni, byth ar ol waedd honno a aeth i'w calonnau. A chrynu y mae'r glaswellt o hyd yn Nhir y Dyneddon. Ac nid oes reswm am hynny ond bod gwaedd Di wedi suddo i ddyfnder eu calonnau, a hwy'n methu peidio â chydymdeimlo ag ef. Eithr ni wyddai Di hynny gan nad oedd ganddynt wyneb bellach i ddangos eu gofid ynddo, wedi methu ohonynt gynnal y gwlith. Er y diwrnod hwnnw ni ddaeth gwlith byth i Dir y Dyneddon. Collodd y dyneddon y gwlith wrth wawdio a dirmygu Di.
Bu ef ar goll unwaith yn hir ac er nad oedd yn dda i ddim yng ngolwg neb, pan gollwyd ef teimlai pawb ryw wacter yn eu bywyd. Yr oedd mwy o le i'w grwydriadau a'i freuddwydion yn eu bywyd nag y meddyliasant. Er na chrwydrent ac na ddychmygent bethau rhyfedd eu hunain, caent gysur ynddynt heb yn wybod iddynt eu hunain wrth feddwl bod un yn eu plith yn gwneuthur hynny. Crwydrasant yn hir i edrych amdano, a hynny'n ofer am ddyddiau. Pan ar fin rhoddi'r gwaith heibio, tybiodd un weled ol ei droed yn y llaid ar ol cawod drom o law, a dilynodd ef. Daeth i fôn eithinen, ac yno peidiai'r ôl. Edrychodd i fyny, ac er ei syndod gwelodd rywbeth du'n llechu ym mrig yr eithinen, ac y mae eithinen yn bren mawr iawn yn Nhir y Dyneddon. Daeth yn nes i'r peth du yn llechwraidd, a phwy oedd ond Di yn edrych o'r naill gangen i'r llall, ac o'r naill flodyn i'r llall, a'r hen wynfyd rhyfedd ac annisgrifiol ar ei wynepryd. Dechreuodd y dynan ddringo ar ei ol, ond dringwr trwm ydoedd, ac nid ysgafndroed fel Di, a chrynodd y pren, a disgynnodd cawod o'r pren—diferion y glaw oeddynt, a Di wedi eu gweled yn hongian wrth y blodau eithin, a chanfod creadur bach fel ef ei hun ymhob un ohonynt, yna dringo i'w cwmni a sugno gwynfyd o gymuno â hwynt. Pan ddisgynnodd y gawod, collodd hwynt ar darawaid amrant. Yn ei golled sydyn rhoddodd waedd anobeithiol fel o'r blaen, a chwympodd y dynan a ddringasai'r pren, mewn braw, onid oedd yn ddiymadferth ar lawr, ac anafodd ei hun am ei oes. Yn ei gongl y bu yn efrydd ac afluniaidd, ond eto ni allai gydymdeimlo â Di. Ni awyddai am godi'n fore i weled cyfeillion tebyg iddo yn y gwlith, na dringo'r coed i'w gweled yn y diferion glaw. Am hynny, bywyd sur, chwerw oedd bywyd y dynan a dynnodd greaduriaid y diferion glaw oddiar Di. Chwerw fu teulu hwn wedyn wrth Di. Bob tro y glawiai aent i ysgwyd y coed rhag bod diferyn yn aros i roddi cyfaill iddo. Am hynny darfu'r cyfeillion hyn hefyd. Dyma dri math ar gyfeillion, bellach, wedi eu profi yn rhai na allent lynu wrtho, cyfaill ei ofid a gynhyrchwyd gan ei ddagrau, cyfeillion perlau'r ddaear o amgylch ei draed, a'r cyfeillion a gafodd yn y brig wedi dringo mor uchel ag y gallai.
Daeth cri mawr i'w fynwes am gyfaill parhaol, ac un gwahanol i bob un a gafodd o'r blaen, canys blinodd arnynt oll am ei fod yn dechreu blino arno ei hun.
Blin oedd ei fyd yn hir ar ol hyn. Dull y dyneddon yn awr o'i wawdio oedd cymryd arnynt ysgwyd pren bob tro y gwelent ef, a galaru wrth weled diferion dychmygol yn disgyn oddiarno. Ac mor aml oedd hyn ag y blinodd Di yn llwyr ar ei bobl, ac ar ei ardal, a'i wlad. Nid oedd dim yn unman a'i bodlonai, ac yn ei flinder crwydrodd.
Un min nos eisteddodd yn grwydryn blin dan gysgod deilen redynen ar odre bryn. Nid oedd sŵn yn unman, na llais na neb yn ateb. Yr oedd tawelwch hyfryd tros y wlad—dim niwl i'w ddiferion ganu, ac eto caddug digon ysgafn i guddio pelydrau'r sêr rhag iddynt hwythau ganu. Llonyddasai'r blodau yn eu tyfu, ac ymddangosai fel pedfai rhyw ddisgwyl mud tros y tir i gyd. Yn y man tarawodd sŵn ar glust Di, oedd yn ddieithr iddo. Yr oedd yno erioed, a disgynnodd ar ei glust bob dydd a phob nos o'i oes, fel i bawb arall yn y fro. A dyna'r paham na chlywsai mohono—wedi ei fagu ynddo erioed yr ydoedd. Eithr pan ddarfu pob sŵn arall—y seiniau a ddeuai ac a âi—clywodd hwn yn glir. Ac iddo ef, y min nos hwnnw, yr oedd fel pe'n gwneuthur y wlad i gyd yn un gloch fawr, ac yntau'n crynu ar wefus y gloch honno. A'r sŵn oedd sŵn y rhaeadr ddagrau a lifai y tu ol i rew y deml. Ni bu ef yn y deml cyn amled ag eraill. Oni ddirmygid ef bob tro yr âi yno, am nad oedd ef fel addolwyr eraill? Ac onid cyff gwawd ydoedd yn ol a blaen yno? Yn y man aeth i adnabod y deml rew fel y lle y cyfarfyddai gwawdwyr a dirmygwyr ynddo i fwrw eu cynlluniau.
Hyfryd oedd miwsig y dwfr yn disgyn o ris i ris o'r rhew y min nos hwn, a phob gris â'i nodyn priod ei hun. A deuai cân ddofn, fawreddog, oddiyno, a ddeffrodd rywbeth ym mynwes Di na ddeffrowyd mohono erioed o'r blaen—rhywbeth mwy na hyd yn oed ef ei hun. Bu'n hoffi cydymdeimlad, a chafodd ef gan greaduriaid bach y deigryn, a'r gwlith, a'r dafnau glaw. Meddyliodd amdanynt heno, a theimlai, er y carai eu cydymdeimlad ag ef, mai rhy fach oeddynt i gymuno â'r peth hwn neu'r rhywun hwn a ymhyfrydai y tu mewn iddo yng nghân rhaeadr y deml rew. A disgyn ar ei glust a wnai'r gân fawreddog o hyd gan godi a gostwng a'r tawelwch yn wefr o'i amgylch. Dal i gynhyddu a wnai'r peth hwn yn ei fynwes na welodd erioed mohono, ac na feddyliodd erioed amdano. Dylanwadai'r gân fel hyn arno am mai cân oedd na ellid ei gosod mewn nodau cerdd.
Cododd, ac aeth yn nês i'r gân—ac yn nês o hyd bob yn gam a cham. O'r diwedd daeth dan gysgod y deml, ac ni feddyliodd erioed ei bod mor hardd pan fu yno â hithau'n llawn o ddyneddon. Edrychodd ar y fintai angylion a gerfiwyd ynddi, ac ar yr adenydd hanner agor. Edrychodd ar y nenlenni a'u hymylweoedd cain, ac ar y llenni a ymestynai tros y gwagle, ac ar y pileri rhew a gynhaliai'r cwbl i fyny, ac ar y lliwiau prydferth a ymdoddai i'w gilydd. Trodd i edrych yn is, ac yn ei ochr yr oedd cloch iâ fawr lefn, loyw, cyn ffyrfed ag ef ei hun, yn biler i ymylwe hyfryd ar ymyl y deml. Edrychodd arni gan feddwl nad oedd neb yn yr addurnedd hwnnw ond ef ei hun. Eithr yn y gloch iâ gwelai ŵr lluniaidd, hardd, talach o lawer nag ef ac nag un dynan a gyfarfu erioed, yn edrych arno'n dyner a hiraethus fel pedfai'n hiraethu am ei gwmni ef. Ni welodd Di neb erioed yn hiraethu am ei gwmni o'r blaen, ac yn ei syfrdandod pellhaodd oddiwrth y gloch iâ, a gwelai bellhau o'r gŵr lluniaidd, hardd, oddiwrtho yntau. Dynesodd ati wedyn, a gwelodd ddynesu ohono yntau ato mor agos ag y medrai, heb ddyfod allan o'r gloch iâ. Gwnaeth Di rywbeth y methodd erioed ei wneuthur o'r blaen—gwenodd ar y gŵr, a gwenodd yntau'n ol. Cymunai'r ddau â'i gilydd mewn pob ffordd ond siarad. Pan ddaeth yn dywyll, aeth Di adref, ond methodd gysgu gan mor fawr y dyheai am y bore. Cododd yn gynnar y bore, cyn ei dyddio, ac aeth at y deml i gwmni'r gŵr lluniaidd, hardd, oedd yn y gloch iâ. Fel y dynesai ati, gwelai'r gŵr yntau yn dynesu ato yntau, ac yno bu'r ddau drwy'r dydd, mewn cymundeb. Ac yno y diflannai Di o blith y dyneddon o ddydd i ddydd.
Deuai yn ol i'w plith, a gwelent yr hen hyfrydwch yn dyfod yn ol i'w lygaid, ac o dipyn i beth yn tyfu yn fath ar wynfyd na welsant erioed mohono ar ei wynepryd o'r blaen, nac ar wynepryd neb arall chwaith. A mwy na hynny, gwelent gorff Di yn cyfnewid yn tyfu ac yn mynd yn fwy lluniaidd. Diflanai bob dydd, a deuai'n ol â rhyw harddwch newydd wedi blaguro ynddo. Gwylient ef yn cilio o'u mysg, ond collent ef fel pedfai'r ddaear yn ei lyncu. A hynny gymaint o weithiau ag y bu raid ei adael iddo ei hun. Ciliodd y gwawd a'r dirmyg, a daeth y genfigen a'r llid yn eu lle. Ond cynhyddu a wnai'r gwynfyd ar ei ruddiau, yr olwg bell yn ei lygaid, a'r llunieidd-dra a'r harddwch yn ei gorff. Rhoddodd y genfigen a'r llid yn eu tro eu lle i ofn. Ac ofnid Di gan bawb yn y wlad. Tyfai o hyd, o hyd, a deuai'n harddach a mwy lluniaidd, ac mor wynfydedig nes magu gwên na welwyd mo'i thebyg ar wyneb dynan erioed. Hiraethai llawer un yn ddistaw am feddiannu gwên debyg i honno. Chwiliwyd llawer am ei chyfrinach, a dilynwyd Di yn ei holl deithiau, ond ofer fu'r cais am amser maith. Aeth yr hiraeth ar rai o dipyn i beth mor annioddefol nes troi'n gynddaredd mawr at Di, ac yn benderfyniad i ddwyn ei eiddo newydd oddiarno, costied a gostiai. Erlidiasant a phoenasant ef, ond cryfhau wnai ei wynfyd ef a'i harddwch o hyd, ac ni ellid ei ddolurio bellach. Ni wnai ergyd carreg ddim o'i hôl arno, ac ni allai llaid ei lychwino. Mynd yn harddach o hyd a wnai, mwy lluniaidd ei gorff, a hyfrytach ei wên. Erlidiwyd ef yn y nos a'r dydd. Taflwyd pethau ato yn y tywyllwch, ond pan dorrai'r wawr, yr un oedd ef o hyd, yn hardd a glân.
Daeth y brenin i sylwi ar Di, ac i gymryd diddordeb ynddo; a chynheuodd cynddaredd y rhai a ddisgwylient gael eu gwneuthur yn frenhinoedd wedi iddo ef farw, tuag at Di yn fwy fwy. Nid oedd dim i'w wneuthur ond ceisio dyfod o hyd i ffynhonnell ei wynfyd er pob aberth. Aethpwyd i'w wylio ddydd a nos, a gosodwyd dyneddon ymhobman. Llwyddodd yntau i'w guddio ei hun rhagddynt yn hir er hynny. Ond un bore, gwelodd dynan a ymguddiai o dan riniog y deml rew ef yn dyfod tuag ato. Gwyliodd ef yn eistedd a gwrando ar y gân fawreddog na chlywsai'r gwyliwr erioed mohoni. Gwelodd ef yn mynd at y gloch iâ, ac aeth yntau'n llechwraidd ar ei ol. Gwelodd ŵr lluniaidd hardd yn y gloch yn symud a dyfod i'w gyfarfod fel y dynesai. Fel y ciliai Di ciliai'r gŵr, ac fel y dynesai Di at y gloch, dynesai yntau i'w min at Di. A harddach oedd y gŵr nag y bu erioed. Fel yr harddai Di harddai yntau i ddenu Di i harddwch mwy.
Ymgripiodd yr ysbïwr at waelod y gloch, a gwelodd mai tebygu i ŵr y gloch yr oedd Di. Yr oedd o'r un ysgogiad ag ef yn union, a'r un llunieidd- dra yn ei gorff, a'r un wên hyfryd ar ei wyneb, nes eu bod bron fel gefeilliaid. Ymgripiodd yn ol, casglodd ei gyfeillion yno, a daethant o amgylch Di a'r gloch iâ heb yn wybod iddo. Cododd un garreg i falu'r gloch i ddinistrio'r gŵr oddimewn iddi yr aeth Di yn debyg iddo wrth fyw yn ei gwmni bob dydd. Mor fawr oedd swyn y cymundeb i Di ag na sylwodd beth a äi ymlaen o'i amgylch. Gafaelwyd yn y garreg, ac i'r awyr â hi dros ben Di. Disgynnodd ar ganol y gloch iâ nes ei malu'n deilchion, a chwympodd ei darnau o ris i ris yn y deml gan ganu cân a swynai bawb ond ysbiwyr. Neidiodd Di yn ol o ffordd y garreg, a chododd gwaedd o chwerthin gwawdlyd o fynwesau'r dinistrwyr. Eithr er eu braw beth welent ond gŵr y gloch iâ yn dyfod allan ohoni pan ddinistriwyd hi, ac yn cerdded tuag at Di. Yr oedd yr un fath ag ef yn union, yr un ysgogiad, yr un harddwch, yr un llunieidd-dra, a'r un gwynfyd.
Troesant i edrych ar y ddau, eithr nid oedd ond un i'w weled. Pa un ai gŵr y gloch iâ, na ellid ei ladd, ynteu Di oedd, ni wyddent. Y gwir yw bod y ddau yno. A fuoch rywdro'n edrych ar ddau lun yr un fath yn union yn ochrau ei gilydd, trwy wydrau, a'u gweled heb fod yn ddim ond un? Felly yr oedd Di a'i gyfaill. Yr oedd y ddau yno. Crwydrent ynghyd i bobman—yn lluniaidd a hardd, a gwynfydedig ond y dyneddon heb fod yn gweled dim ond un. A chan na wyddent pa un ai Di ynteu ei gyfaill a welent ofnent ei gyffwrdd, canys daeth ofn mawr tros yr holl dir pan glywsant am gyfaill Di ei fod yn ŵr na ellid ei ladd.
Aros wnaeth Di ar hyd ei oes yng nghwmni ei gyfaill o'r gloch iâ ar bwys y deml, a'r dyneddon yn ei ofni'n fwy-fwy, fel y syllent ar ei harddwch, a'i lunieidd-dra a'i wynfyd. Ac atgoffai'r rhwyg yn y deml rew hwy o hyd am eu hymdrech i ladd ei gyfaill, y gŵr na ellid ei ladd. Rhwyg hefyd na ellid ei gyfannu oedd hwnnw a wnaed yn y deml. A chofia'r dyneddon trwy'r oesoedd hyd heddyw, wrth weled y rhwyg, mai gŵr na ellid ei ladd oedd y cyfaill a gafodd Di.