Neidio i'r cynnwys

Tir y Dyneddon/Y Telynor Bach

Oddi ar Wicidestun
Y Cyfaill a Gafodd Di Tir y Dyneddon

gan Edward Tegla Davies

VIII. Y TELYNOR BACH.

NID oedd canrif i'r dyneddon ond llai nag un dydd i mi,―y mynydd mawr. Gwyliwn genedlaethau'n mynd heibio megis mewn darn diwrnod, ac yr oedd oesoedd lawer o'u hamser hwy er pan ddeuthum i'r wlad, a hyd yn oed y traddodiad am fy nyfod wedi diflannu.

A chyhyd y bum yno nes imi fynd i gyfrif amser yn ol eu calendr hwy, ac anghofio ddarfod trigo ohonof erioed yn ein byd ni. Anghofiais fy machgendod yn lân, a thybiwn mai mynydd oeddwn mewn gwirionedd. Fel y gwelsoch ambell fachgen wrth chwarae ceffyl yn anghofio mai bachgen oedd, ac yn teimlo'n hollol fel ceffyl, arferaswn innau fod yn fynydd cyhyd nes teimlo yn hollol fel mynydd, ac anghofiais fod y dyneddon mor ryfeddol o fach. Croesâwn yr eira pan guddiai fi fel y croesawir ef gan fynydd, a'r unig deimlad a'm gorchfygai oedd pa mor hardd yr edrychwn yn fy ngwisg wen.

Bum yno'n ddigon hir i weled newid hinsawdd y wlad. Clywsoch yr hen bobl yn dywedyd lawer tro fod eira mwy yn y gaeaf, a dyddiau mwy hafaidd yn yr haf, yn eu plentyndod hwy, nag sydd heddyw. Camgymryd y maent. Nid yw trigain mlynedd, wedi'r cwbl, yn ddigon inni weled eu dylanwad ar yr hinsawdd. Ac nid oedd trigain mlynedd i'r dyneddon, hwythau, yn ddim, cyn belled ag yr âi'r hinsawdd. Eithr amdanaf i, y mynydd mawr, nid oedd eu trigain mlynedd hwy ond megis darn diwrnod imi; ac wedi byw ganrifoedd a chanrifoedd yno, ni theimlais fy mod wedi heneiddio dim. Yr unig un o deimladau fy machgendod a lynodd wrthyf oedd y teimlad o ieuengrwydd. Er trigo cymaint yn y wlad ni theimlais ddylanwadu o'r blynyddoedd ddim arnaf; ac er mai mynydd hen iawn oeddwn i'r dyneddon, teimlo'n ieuanc a wnawn i,—yn ieuengach na'r dynan ieuengaf yno, gan y gwyddwn y byddai ef yn hen, ac wedi hir farw, cyn imi ymarfer â'i fod.

Er hynny, bum innau'n ddigon hir yn y wlad i deimlo cyfnewidiad. O ganrif i ganrif cynhesai'r hinsawdd yn raddol, ac o dipyn i beth gwelwn y deml rew'n lleihau. Ni sylwodd y dyneddon ar hynny am rai o'u hoesoedd hwy, ond gwyddwn i mai mynd lai-lai a wnai.

Un diwrnod sylwodd dynan ar ddarn o graig, fod ôl rhew yno mewn lle nad oedd y rhew erbyn hyn yn ei gyrraedd o lawer, a haerodd mai lleihau yr oedd y deml. Eithr y fath oedd cri'r anghredadun nes iddo gadw ei syniad iddo ei hun. Ymhen oes neu ddwy wedyn dywedodd un arall yr un peth, a bu bron iddo yntau gael ei ladd gan lid y lliaws. Mewn oes neu ddwy wedyn sylwyd fod un o'r adenydd hanner agor oedd i angylion ymyl y deml, yn llai na'r llall, nes gwneuthur yr olwg arno braidd yn chwerthinllyd. Canys nid yw angel yn hardd oni bydd yn gymhesur. Ac o dipyn i beth aeth yr angel hwnnw a'r angylion oll yn eu tro yn gyff gwawd y di-râs. Wedi anghofio'r helynt hwn gan oesoedd dyfodol, disgynnodd darn o'r wisg wen a guddiai wyneb un o'r saint gweddigar, cerfiedig, un diwrnod, a gwelwyd mai draenen oedd oddi— tanodd, mai eira wedi rhewi dros gangen ddraenen oedd y cerfwaith prydferth i gyd—a chollodd y di-râs eu ffydd o hynny allan mewn saint.

Erbyn hyn credai eraill mai lleihau yr oedd y deml, ac ofnai llawer fynd iddi. Eithr parhai rhai ymhob oes am oesoedd wedi dechreu'r meiriol i gredu nad oedd dim cyfnewidiad. Ond fel y disgynnai darn ar ol darn, bu raid credu nad oedd pethau megis cynt. Daeth galar dwys tros y rhai yr ymlynai eu calonnau fwyaf wrth y deml, ac edrychent i'r dyfodol mewn ofn tywyll, du.

Credai'r anghredadun erbyn hyn mai diogelach fuasai tynnu'r deml i lawr, nad oedd hi'n ddim ond perygl, ac ar y goreu yn ddim ond addurn hen oesoedd; a cheisiai eraill daro ar gynllun i'w hatgyweirio. A minnau'n gwylio ac yn gwybod nad oedd raid i'r un ochr bryderu—nad oedd raid ei thynnu i lawr, y meiriolai ohoni ei hun yn llwyr yn ei thro; ac er iddi fynd, na leihai colli'r deml ddim ar y ffrwd a roddodd fod iddi. Bu'n gyfyng ar y dyneddon lawer tro am ddwfr i'w yfed, gan ei fod ar ambell adeg bron i gyd wedi rhewi'n deml, ond cynhyddu a wnai'r dwfr o oes i oes fel y lleihai'r deml. A'r dwfr a lifai odditani oedd ffynhonnell y wlad. Deuai'r dyneddon o bell ac agos ati, a digonid hwynt.

Sylwn hefyd, o dipyn i beth, fel y toddai'r deml, y meiriolai'r eira a'r barrug ar fy ysgwyddau a'm llethrau i, ac yr âi hwnnw hefyd yn llai o genhedlaeth i genhedlaeth. Un diwrnod daeth darn mawr o biler y deml i lawr a chrynodd y wlad dan y codwm, a thyrrodd dyneddon o bell ac agos yno. Afluniaidd iawn oedd y deml wedi hyn,—wedi methu ohoni ddal ei phwysau ei hun—ac eithriad oedd i neb fynd yn agos ati. Ciliasai'r hen gwynfanwyr, a'i cofiai hi ar ei goreu, oll o'r byd, a chodasai oes na wyddai am ei gogoniant,—dim ond ei chofio'n hanner parchus, hanner dirmygedig a wnaent. Aeth pigyn i'm calon innau wrth weled yr harddwch yr arferaswn gymaint ag ef yn diflannu, yn enwedig gan mai teml a ffurfiwyd o'm dagrau ydoedd. Cysur imi er hynny lawer tro yn y galar cudd yn fy mynwes, o golli'r deml, oedd ddarfod iddi am lawer oes fod yn gysgod cysegredig i ddyneddon, ac yn gysur di-drai iddynt.

Daeth dyneddon o bell i weled ôl y gyflafan, dyneddon a ddeuai yno am eu dwfr i'w yfed, ac a gwynai fod yn rhaid mynd mor bell amdano, canys dyma unig ffynhonnell ddwfr y wlad. Tyrrai y rhai hyn o'u bodd i weld y gyflafan.

Gwyddwn i nad y deml yn unig a leihai, ond y lleihai'r eira hefyd, ac y gwelai'r dyneddon ffrydiau eraill cyn bo hir i'w digoni. Aeth cenhedlaeth heibio, â'r dyneddon wedi dysgu dygymod â'r darn teml a'r ffrwd gynhyddol. Un diwrnod daeth cri trwy'r wlad am ddarganfyddiad mawr,— fod ffrwd arall mewn ochr arall i'r mynydd, cyn gryfed a ffrwd y deml rew. Aethpwyd yno, a dyna lle yr oedd ffynnon loyw yn byrlymu wrth fy ngodre i ddyneddon y rhanbarth hwnnw gael dwfr. A thorrai rhyw ffrwd newydd allan ohonof ymhob oes. Fel y pellhai'r traddodiad am ddarganfod un ffynnon, darganfyddid ffynnon newydd.

Torrai'r ffynhonnau hyn allan yn gyflym iawn ar ol ei gilydd i'm profiad i, ond yr oedd cenedlaethau rhyngddynt i'r dyneddon. Ymfalchïent ffynnon newydd, a rhuthrent i'w gweled, ac o dipyn i beth ymarferent â hi. A'r oes nesaf wedi hen ymarfer â hi, teimlai nad oedd digon o ddwfr wedyn yn y wlad, bod angen ffynnon mewn, rhanbarth arall. A phan fyddai'r teimlad yn angherddol, torrai ffynnon allan. Ac felly y bu o oes i oes, nes i'r deml rew doddi'n lân ac i'w ffrwd fynd yn ffrwd gyffredin yng nghanol llawer o ffrydiau cyffredin. O oes i oes hefyd toddai'r eira ar fy ysgwyddau, nes o'r diwedd nad oedd dim i'w weled ond fy nillad. Ac ymddangosent i'r dyneddon fel gwisg o rug a choed llus i chwi wrth edrych ar fynyddoedd y byd.

Gwelwch fod pethau, erbyn hyn, yn wahanol iawn i'r hyn fuont unwaith. Tarddai ffrydiau oddiwrthyf yn afonydd o'm hamgylch, a rhedent i bob cyfeiriad, ac yr oedd digonedd o ddwfr wrth annedd pob dynan i'w ddisychedu. Aeth hyd yn oed y cof am y deml rew ar goll ac nid oedd ei ffrwd bellach ond ffrwd gyffredin ymhlith miloedd o rai tebyg. Yr oedd hen draddodiad niwliog am deml rew fu unwaith yn y rhanbarth hwnnw ymysg y dyneddon, ond ni roddid mwy o bwys arno nag a roir gan y rhai callaf ohonoch chwi ar hen straeon ysbrydion yng nghilfachau'r wlad. Diddorai rhai eu hunain â'r hen draddodiad hwn, ond i'r lliaws coel ofer ydoedd i gyd. Arferasant â'r ffrydiau, digonid hwynt ganddynt, ac aeth bywyd yn gyffredin iawn iddynt. Mor gyffredin oedd nes iddynt flino byw. Er bod ganddynt ddigon o bopeth, blinder mawr iddynt oedd bywyd, oherwydd cyffredinedd popeth. A daeth dyhead dwfn am rywbeth tebyg i'r deml rew eto i harddu bywyd.

Wedi chwilio a chasglu'r hen draddodiadau, yr oedd ganddynt syniad go lew amdani. Disgrifid hi gan oreugwyr gwlad, a llawer dychymyg a luniodd ei hadfer. Eithr amhosibl oedd hynny, oherwydd newidiasai'r hinsawdd er na wyddent hynny, ac ar gyfer hinsawdd oer y trefnwyd y deml rew. Yr oedd hi yn amhosibl i hinsawdd gynhesach. Yr oedd hyd yn oed defnydd y deml erbyn hyn wedi mynd yn anhysbys canys ni wyddai neb beth oedd rhew. Yr unig rew mewn bod oedd y rhew tesni ar fy llygad, ac nid oedd neb yn yr oesoedd hynny yn meiddio dringo i fy mhen i archwilio hwnnw.

Blinasant ar bopeth. Arferasant gymaint â chanu y pelydrau sêr, a'r blodau wrth dyfu, a'r diferion niwl wrth daro yn ei gilydd, nes peidio â'u clywed. Ac ymdrech fawr bywyd oedd ffoi oddiwrth ei gyffredinedd, a dyheu am oes aur y deml rew, onid aeth oes y deml yn eu golwg yn oes wynfydedig. Ni wyddent am chwerwder a malais yr oes honno, a ddangoswyd pan ddarniwyd y deml i ddial ar Di, ac mewn llawer ffordd arall yn ei thro.

Wedi i'r cyffredinedd hwn fod yn y wlad yn hir, ac i fywyd fynd yn llwm a thlawd, ac i'r dyneddon ymarfer digon ag ef i feddwl nad oedd dim arall yn bod, ymddangosodd un yn eu mysg a newidiodd bopeth, ac a wnaeth iddynt anghofio hyd yn oed traddodiad y deml rew yn eu gwynfyd newydd.

Telynor oedd. Un diwrnod pan oedd pawb wrth eu gwaith, neu'n crwydro'n ddiamcan yn aros i'm llygad gau i ddarfod eu diwrnod, disgynnodd canu telyn perlewygol ar eu clybod oll, canu mor lesmeiriol nes i arfau gwaith rhai, llestri dwfr eraill, a phob offeryn arall, ddisgyn o'u dwylo dan ei gyfaredd. Swynwyd pob un tuag at y canu heb yn wybod iddo ei hun nac i neb arall. Tyrrai'r dyneddon o bobman o'm cymoedd i, ac o'r gwastadeddau, ac o gysgodion mynyddoedd eraill, tuag at y canu, a phob un wedi ei swyno'n lân ganddo,—yn mynd tros greigiau a chorsydd a diffeithleoedd heb deimlo na blinder na dim.

Ac mewn dyffryn rhyngof i a mynydd arall safodd y dyrfa, tyrfa na allai neb ei rhifo. O dan gysgod math ar ywen fawr ar fin llyn o ddwfr, eisteddai un o'r bodau tlysaf a welwyd erioed â thelyn yn ei law. Chwifiai ei wallt yn yr awel gan ddisgleirio fel pelydrau yng ngoleu'r haul, a fflamiai ei lygaid dan gyfaredd ei ganu ei hun. Symudodd y dorf fel un gŵr i ddawnsio dan ddylanwad y canu, a dawnsio y bu yn ddiflino am nas gwn i pa hyd. Dawnsio yr oedd pan gaeais fy llygad yr hwyr hwnnw. Clywn gynnwrf y dawnsio wedi i mi ei gau, a dawnsio yr oedd bore drannoeth, ac felly am ddyddiau, heb flinder na lludded.

O'r diwedd peidiodd y canu, a llonyddodd pawb. Dechreuasant siarad ynghylch y telynor, ac yntau'n gwrando, yn un bach hyd yn oed ymhlith dyneddon. Trodd at ei delyn a gorffennodd blethu tant newydd iddi. Tynhaodd y tant a chyffyrddodd ag ef â'i fys. Tynhaodd ef fwyfwy, a chyffyrddodd ef wedyn. O'r pellter mawr clywid sŵn curo morthwyl, a synnodd y dyrfa fod un dynan yn gweithio yng nghanol swyn o'r fath. Aethpwyd i gyrchu'r gweithiwr, ac wedi dyfod ohono yno gwelwyd mai hen ddynan byddar ydoedd heb ddim diddordeb mewn bywyd ond gweithio.

Wedi tynhau'r tant newydd i'w foddhau ei hun, dechreuodd y telynor bach ganu'r delyn eilwaith. Ac os melys cynt mil melysach yn awr â'r tant newydd. Cyfoethogai sain pob tant arall heblaw bod yn ardderchog o gyfoethog ei hun. Mor felys oedd y canu nes bod yn rhy gyfareddol i'r bobl ddawnsio odditano. Ac yno y buont yn gwrando heb wybod basio amser, ac heb fwyd na llyn am hanner oes. A'r telynor bach dieithr yn canu o hyd.

Peidiodd wedyn, ac edrychodd y dyneddon ar ei gilydd. O ba le y daeth y fath delynor, ebe hwy, y naill wrth y llall,—a'r telynor bach heb gymryd dim sylw ohonynt, dim ond gwrando i bob cyfeiriad, a phlethu tannau newyddion a'u tynhau yn ei delyn.

Cynhyddodd yr holi, a thyrrai'r dyrfa'n nes i'r telynor nes ei amgylchynu. Penodasant eu tywysog i'w holi pwy ydoedd, ac o ba le y cafodd ei gân. Gwrandawent mor astud am ateb oni chlywid curiadau eu calonnau yn gymysg â churiadau'r hen ddynan byddar o'r dyffryn pell.

Gofynnodd y tywysog iddo'n foesgar pwy ydoedd, ac ymhle y cafodd ei nefol gân.

"Mi a'm cân," ebe'r telynor, "onid adwaenoch ni ein dau?

"Na," ebe'r tywysog, ni'th welsom erioed o'r blaen, ac ni chlywsom dy gân."

"Do, ganwaith," ebe'r telynor.

"Na," ebe'r tywysog, "byd dieithr i ni yw byd dy gân, ac ni bu dy delyn yn Nhir y Dyneddon erioed."

"Deuwch oll gyda mi," ebe'r telynor, a neidiodd i fyny, ac ymaith ag ef yn wisgi â'i delyn ar ei gefn. A'r dyrfa'n un rhuthr yn ei ddilyn. Safodd wrth ffrwd fy nagrau a gynhyrchodd gynt y deml rew, a tharodd dant mor felys ar ei delyn onid aeth sû trwy'r dyrfa fel chwa tros wenith Awst. "A glywaist ti'r nodyn yna rywdro?," eb ef wrth y tywysog. Ysgydwodd y tywysog ei ben, a phawb yn ysgwyd ei ben gydag ef. "Gwrando," ebe'r telynor, ar y ffrwd ddwfr." Gwrandawodd yntau, a phawb gydag ef. "Beth yw'r nodyn a gân y ffrwd?" ebe'r telynor. Wedi gwrando'n hir ar y bwrlwm tros y cerryg, na chlywsant mohono erioed gan mor hir eu hymarfer ag ef, trodd y tywysog at y telynor, a dywedodd tros y dyneddon oll, â'i wyneb yn welw, "Ie, nodyn y ffrwd ddwfr yw nodyn y tant."

Tyrd eto," ebe'r telynor, ac at ffrwd arall â hwy, tarawodd y telynor dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywodd ei debyg. Dywedodd yntau, "Naddo." "Gwrando ar y ffrwd," eb ef, ac wedi gwrando clywodd pawb nodyn y tant newydd yn y ffrwd, a gwelsant mai nodyn a fu'n canu'n hyfryd yn eu mysg erioed oedd y nodyn hyfryd yn y delyn.

"Tyrd eto," ebe'r telynor, ac i ffwrdd â hwy drachefn. Wedi cerdded ymhell, cododd ei law ar i'r dyneddon sefyll. Tarawodd dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywsai ei debyg. "Naddo erioed," eb ef, neu ni buasai'n bosibl i'n bywyd fod yn faich arnom." "Edrych yma," ebe'r telynor, a gwrando."

Wrth flaen troed y tywysog, ar fin cael ei fathru ganddo, yr oedd llygad dydd yn tyfu. "Oni chlywi ef yn tyfu? " ebe'r telynor. Ac wedi gwrando'n hir, a rhoddi eu bryd arno, daeth nodyn hyfryd o fynwes y llygad dydd na chlybuwyd ei hyfrytach erioed, a'r nodyn hwnnw oedd nodyn trydydd tant telyn y telynor.

Aeth y telynor â'r dyrfa o ffrwd i ffrwd ac o flodyn i flodyn, ac nid oedd y ffrwd a gynhyrchodd y deml rew gynt erbyn hyn ond un gyffredin ymysg eraill, yn cyfrannu ei nodyn ei hun i'r gân. Tynnodd y telynor yng ngwydd y dyneddon nodyn o belydrau'r sêr, a'r diferion niwl, ac o lu o bethau eraill. Tarawodd dant arall, yn y man, hyfrytach na'r cwbl, na chlywodd y dyneddon erioed ddim mor swynol.

"O! delynor mwyn," ebe'r tywysog, "O ble y cefaist y nodyn perlewygol hwn?

'O'ch mysg chwi," ebe'r telynor. "Ni chlywsom ni erioed mohono o'r blaen, delynor mwyn," ebe'r tywysog.

"Ymhle y mae'r plant oll?" ebe'r telynor.

"Dyma hwy yn ein mysg," ebe'r tywysog. A chasglwyd y plant o amgylch y telynor, yn edrych yn syn ac ofnus. Gadawodd ef ei delyn, ac aeth i chwarae â hwy. Ac ymhen ennyd mawr oedd y chwerthin a'r hwyl. Aeth y telynor at ei delyn yn ol, a tharawodd y tant mwyaf swynol hwnnw wedyn. Edrychodd pawb ar ei gilydd, canys adwaenent y nodyn erbyn hyn. O fiwsig chwerthin plant y cafodd ef y nodyn hwnnw. A gwyrodd y dyneddon a ataliai eu plant rhag chwarae a chwerthin fyth a hefyd eu pennau mewn cywilydd.

Daeth at dant olaf ei delyn.

"A glywaist ti hwn, dywysog?" eb ef.

'Naddo erioed," ebe'r tywysog.

'Ymhle mae'r dynan byddar?" eb ef.

Draw yn un o greigiau'r mynyddoedd wedi cilio at ei waith a'n galw ni oll yn ynfydion," ebe'r tywysog.

"Gwrandewch oll," ebe'r telynor, a gwrandawodd yr holl dyrfa. Disgynnodd sŵn curo ysgafn morthwyl o'r graig ar eu clyw, wedi ei dyneru gan y pellter. Tarawodd y telynor y tant olaf hwnnw a gyfareddodd y dyrfa mor llwyr wrth ei glywed yn cyfoethogi cymaint ar y gân, a syfrdanwyd hi wrth ddeall ohoni nad oedd yn ddim ond nodyn morthwyl ar y graig yr enillai dynan byddar ei damaid wrth ei churo.

"A phwy wyt ti, delynor mwyn?" ebe'r tywysog.

"Yn awr am y gân unwaith eto," ebe'r telynor. A dechreuodd daro'r tannau. Ni chlybuwyd erioed gân fel honno. Neidiai hen ddyneddon cloff fel ewigod dan ei swyn, a chrynai'r ddaear dan y dawnsio. Ymollyngodd pob un yn y canu fel na feddyliodd ddim am neb ond ef ei hun, a'r gwynfyd yr oedd ynddo. Tawodd y telynor. "Ni chawsoch oreu'r gân eto," meddai. "Edryched pob un am un i gyd—ddawnsio ag ef." Ond cyn i neb ddarganfod partner dechreuodd y gân drachefn. Eithr wrth iddynt weled ei gilydd tan ddylanwad y gân gweddnewidiwyd hwynt oll. Gwelai pob un hyd yn oed ei elyn pennaf yn ogoneddus, a thynnid hwynt ynghyd fel y tyn tynfaen ddur. Nid oedd nac eiddigedd na gelyniaeth yn eu mysg oll, ond pob un yn ymdoddi i'r llall. A chafodd y telynor dant a nodyn newydd i'w delyn o'r ddawns hon, na fu eu cyffelyb erioed yn Nhir y Dyneddon nac unrhyw dir arall o'r blaen. Ni bu cân erioed fel honno, ac nid oedd nodyn ffrwd y deml rew yr hir— aethid cymaint amdani, ond un nodyn ohoni.

Trodd y tywysog at y telynor, syllodd yn wyllt arno, ac ar un amnaid cofleidiodd ef a gwaeddodd, "Fy mhlentyn fy hun! fy mhentyn fy hun!" Ie, ei blentyn ef ydoedd y telynor, plentyn anymunolaf y teulu ganddo am mai breuddwydio oedd ei waith beunydd. Ond teg dywedyd na wyddai ef hyd yn hyn am y gân fawr hon a gasglodd ei blentyn ynghyd.

Mawr oedd y canu a'r dawnsio ac ymledodd yn heintus i galon y fro. Teimlwn innau fy hun yn cael fy nhynnu i'w canol i gyd-ddawnsio â hwy er mai mynydd oeddwn, a deffrowyd teimladau newydd yn fy mynwes a anghofiaswn yn lân,— teimladau'r bachgen fu â brodyr a chwiorydd iddo gynt.

Teimlwn y cynnwrf yn mynd i'm sylfeini, a chodais oddiarnynt i gyd—ddawnsio â'r dorf. A'r telynor yn dal i ganu ei delyn megis na chanodd mohoni erioed. Yn y dawnsio deuai gwres newydd i'm mynwes, a mynnai fy llygad fu ynghau cyhyd, agor. Disgynnai fy nillad yn dalpiau oddiar fy ysgwyddau hefyd, a disgynnodd y darn rhew oddiar y llygad a fu'n haul cyhyd.

Agorais fy nau lygad i weled Tir y Dyneddon yn well, canys dechreuasai fynd yn niwlog imi erbyn hyn, dan ddylanwad y cynnwrf yn fy mynwes —ac ymhle y cefais fy hun pan agorais hwy ond yn gorwedd ar y sgrîn wrth y tân yn ein tŷ ni, fy nillad yn diferu, a mam yn sefyll uwch fy mhen, yn golchi un llygad imi â dwfr, ac yn tynnu darn o rew oddiar y llall, a roddodd arno i'w rwystro i dduo.

Gwenodd arnaf â dagrau yn ei llygaid, a gofynnodd imi, "Wyt ti'n well 'machgen i?" Ac yna y cofiais am y chwarae ymguddio â'm brawd a'm chwaer, ac am y cwymp a gefais yn agen y graig.


Nodiadau

[golygu]