Neidio i'r cynnwys

Tir y Dyneddon (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Tir y Dyneddon (testun cyfansawdd)

gan Edward Tegla Davies

Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Tir y Dyneddon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Tegla Davies
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tir y Dyneddon
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Tylwyth Teg
ar Wicipedia



TIR Y DYNEDDON.



TIR Y DYNEDDON

STORIAU AM DYLWYTH TEG,
gan E. TEGLA DAVIES





CAERDYDD:
WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF.

WRECSAM:
HUGHES A'I FAB.





PRINTED BY
WILLIAM LEWIS (PRINTERS) LIMITED
CARDIFF




CYFLWYNEDIG
I
D. A. a G.
A
PHLANT LLANRHAEADR MOCHNANT OLL;
YMYSG Y RHAI YR OEDDWN YN BYW
PAN GRWYDRAIS I DIR Y DYNEDDON



RHAGAIR.

Nid myfi yw'r cyntaf o lawer iawn i grwydro i dir rhyw ddyneddon neu'i gilydd. Bu plant dynion yn eu gwlad ymhob oes, o ddyddiau duwiau bach y coed, heibio i ddyddiau'r Tylwyth Teg, i lawr i'n dyddiau ni.

Eithr tybiwn nad oedd hynny'n unrhyw rwystr i minnau fynd i dir y dyneddon neilltuol hyn a agorodd eu drws i mi, ac adrodd hanes fy ymweliad yn fy ffordd fy hun.

Dro 'n ol dechreuodd bachgen bach ar ei ysgol, ac ymhen ychydig ddyddiau daeth adref yn llawn o lythrennau'r wyddor. Gofynnwyd iddo fynd drostynt, a dechreuodd fel hyn—A am Alun, B am Beti, &c.

Ymhen ychydig wedyn gwelais ef yn chwarae â blociau a'r llythrennau arnynt, a sylwais fod y llythrennau iddo ef yn fodau byw, a fodau byw, a gwahaniaethau personol rhyngddynt â'i gilydd i'w feddwl plentynaidd. Sylwais wedi hynny fod plant, at ei gilydd, yn arfer personoli llythrennau'r wyddor. A dyna lle yr oedd y bachgennyn hwn yn gawr ymhlith y llythrennau, yn chwarae â hwynt.

Ymhen tipyn ar ol hynny holwn ŵr cyfarwydd am uchter un o drumau'r Berwyn. "O'i droed i'w ben" meddai, "y mae'n hyn a hyn." Sylwais hefyd fod cae o ŷd yn tyfu'n lled uchel ar y mynydd; a phan ddatgenais fy syndod, yr ateb a gefais oedd fod "bron" y mynydd yn wynebu'r haul. Dyna fynydd â throed, a phen, a bron iddo. Bu'r mynydd hwnnw rywdro 'n fyw i drigolion y bröydd hyn.

Wrth edrych ar y mynydd mawr ni ellid peidio â chofio am y plentyn bach a'r llythrennau, a meddwl nad oeddym ni, ddynionach, i'n cymharu â'r mynydd yn ddim ond megis llythrennau'r wyddor yn ymyl y bachgen.

A dyna'r drws yn agor i Dir y Dyneddon.

Am yr enw ar y bodau bach yr wyf i ddiolch i'r Athro Ifor Williams, M.A. Hen air marw am ddynion ydyw; ond dywedai ef nad oedd dim i'm rhwystro i'w atgyfodi, a'i roddi ar y bodau hyn y cefais gyfleustra i grwydro i'w plith.

CYNNWYS




I—SUT YR EUTHUM YN FYNYDD



TIR Y DYNEDDON

I—Sut yr euthum yn Fynydd

Y MAE craig fawr ym mhen draw ein gardd ni, ac y mae fy mrawd a'm chwaer a minnau yn chwarae llawer yno. Weithiau dychmygwn mai castell ydyw, ac ymosodwn arni fel yr ymosodid gynt ar Gastell Rhuddlan, a lleoedd felly. Yn y graig hon y mae hollt fawr, digon o faint i ni ein tri ymguddio ynddi, ac y mae popeth rhyfeddach na'i gilydd yn yr hollt—llyffaint, a malwod, a phryfed genwair, a gwrachod lludw dan y cerryg, a rhedyn, a glaswellt, a gweoedd pryfed cop, a dwfr yn diferu i lawr yr ochrau o hyd, o hyd. Y mae hi'n dywyll yn yr hollt hon tan ganol dydd. Cawn gurfa o hyd am wlychu yn y dwfr, ond ni welsoch erioed le gwell i ymguddio ynddo, a chymryd arnoch mai chwi sy'n amddiffyn y castell, a'r lleill o'r tuallan yn lluchio cerryg, a saethu. Yn y gaeaf rhewa'r dwfr yn aml, ac er nad oes digon o le i sglerio yno, ni welsoch erioed ddim tlysach na'r clychau iâ sy'n hongian oddiwrth ddail y rhedyn ac ochrau'r graig. Weithiau, ar adeg felly, chwaraewn eglwys trwy eu curo yn ei gilydd, ac y mae'r sŵn fel llawer o glychau eglwys o wahanol nodau yn canu ynghyd.

Ryw fin nos y gaeaf diweddaf, chwaraeai fy mrawd a'm chwaer a minnau ymguddio, a rhedais i i hollt y graig. Yr oedd hi'n oer ryfeddol yno, ond yn dipyn gwell nag allan am fod cysgod gwynt. Rywsut wrth gilio wysg fy nghefn cyn belled ag y medrwn, llithrais ar y rhew, a tharewais fy mhen yn y graig. Neidiais i fyny, a gwrandewais, ond ni chlywn ddim,—ni chlywsai fy mrawd a'm chwaer fi'n llithro. Ymhen rhyw funud neu ddau daeth niwl tros y lle, a chuddiodd ein tŷ ni a'r ardd o'm golwg, ac yn y man ni welwn lewych o ddim ond yr hollt yn y graig yr oeddwn ynddi. Edrychais o'm hamgylch, a dechreuais ofni'n fawr. Yr oedd yn mynd yn dywyll iawn yn yr hollt, ac ar y funud aethai cyn dywylled a'r fagddu yno onibai am ryw belydrau gweiniaid a ddeuai oddiwrth y clychau iâ. Cyffyrddais ag un gloch a thorrodd yn fy llaw bron yn y bôn, ac er fy syndod fflachiodd pelydryn disglair o'r toriad. Rhoddais fy llygad wrtho a dychmygwch fy mraw pan welais trwyddo dwll mawr, digon o faint i ddyn, yn ochr y graig.

Gafaelais yn y darn rhew, ac edrychais y tu ol iddo, ond nid oedd dim yno. Teimlais y lle â'm llaw, ac ni theimlwn ddim tebyg i dwll ond un bychan, prin digon o faint i chwilen fynd trwyddo. Dyna'r darn rhew rhyfeddaf a welais erioed. Fflamiai erbyn hyn dros hollt y graig i gyd. Rhoddais ef ar y twll chwilen, ac aeth y twll yn ogof fawr, oleu, yn syth. Edrychais arnaf fy hun trwyddo, ac ymddangoswn cyn lleied â chwilen. Methwn â deall hyn, ond cyn hir cofiais am y gwydr gweled oedd gennyf yn y tŷ, a brynais yn y ffair. Edrychwch trwy un pen iddo ac â popeth yn fawr, edrychwch trwy'r pen arall ac â popeth yn fach. Gwelais nad edrychwn ar y twll chwilen ac arnaf fy hun trwy'r un ochr i'r rhew. Yna tarawodd syniad fi. Yr oedd yn anobeithiol imi fynd trwy'r twll chwilen fel yr oedd pethau, ond deliais i edrych arno trwy'r ochr i'r darn rhew a'i gwnai yn fawr, ac arnaf fy hun trwy'r ochr a'm gwnai yn fach. Trwy hynny aeth y twll yn ddigon mawr a minnau'n ddigon bach i mi fynd drwyddo. Dringais iddo, ac ymwthiais trwyddo, gan ddal i edrych arno trwy'r rhew rhag iddo grebachu yn ei ol cyn i mi gyrraedd yr ochr arall. Wedi cyrraedd, gwelwn wlad braf, hyfryd, a miloedd ar filoedd o ryw bethau mân yn gwibio'n ol a blaen, mor gyflym nes bod bron yn anweledig. Tynnais y darn rhew oddiar fy llygad, a diflannodd y cwbl,—nid oedd yno ddim ond megis llond gwniadur o lwch ar lawr yn ymrwyfo trwy 'i gilydd. Rhoddais y rhew eilwaith wrth fy llygad a daeth y wlad a'r creaduriaid mân gwibiog hyn i'r golwg wedyn.

Eisteddais i lawr wedi blino. Hwyrach fod yr ymdrech i ddyfod drwy'r twll yn fwy nag y meddyliais, ac wedi eistedd cefais hamdden i edrych oddiamgylch. Erbyn hyn, nid oedd raid imi ddal y darn rhew rhyfedd wrth fy llygad, canys glynasai yno'n ddidrafferth ohono ei hun. Er syllu fy ngoreu, y cwbl y medrwn ei weled oedd rhywbeth rhwng niwl a dim. Tybiwn fod rhyw wibio mawr yn fy ymyl, ond ni welwn ddim heblaw rhywbeth tebyg i adenydd olwyn ceffyl haearn pan fo'n rhuthro heibio i chwi,—gwyddoch nad oes dim i'w weled ohonynt ond y symud. Yn sydyn, dechreuodd rhan o'r symud yma arafu, nes imi fedru gweled rhyw ysmotyn tywyll yn ei ganol. Arafodd hwnnw'n llwyr yn y man, a pheth a welwn yn sefyll yn syth o'm blaen yn edrych arnaf mewn syndod ond y creadur bach rhyfeddaf a welsoch erioed. Rhyw fodfedd oedd ei daldra. Yr oedd ei gorff yn hir o'i faint, a'i goesau'n fyr, a'i ben yn hollol grwn, ei lygaid yn fawr a llydan, ac am ei glustiau rhaid oedd i chwi syllu'n hir cyn medru dychmygu bod ganddo rai o gwbl. Golwg ieuanc iawn oedd iddo, fel golwg bachgen bychan bach. Edrychodd arnaf am ysbaid wedi ei syfrdanu, yna dechreuodd ddringo un o'm hesgidiau o hoelen i hoelen, a minnau'n hollol lonydd. Wedi dringo rhyw bedair hoelen, cwympodd. Neidiodd ar ei draed yn ei ol, a diflannodd yn hollol ar darawiad amrant, neu yn llawer cynt na hynny, fel y gwelir ymhellach ymlaen. Ymddangosodd wedyn ymhen eiliad neu ddau, ac un arall tebyg iddo gydag ef.

Dechreuodd y ddau ddringo fy nhraed, ac archwilio f' esgidiau. Gwelwn oddiwrth eu geneuau, fel y symudent, eu bod yn siarad â'i gilydd, ond ni chlywn air. Ar hyn teimlwn y rhew ar fy llygad fel buasai ar ddechreu toddi, a rhoddais fy mys arno, ac yr oedd fy mys yn llaith pan dynnais ef ymaith. Ymhen tipyn teimlwn fy nghlust yn ysu, a chrefais hi â'm bys llaith. Yn hollol sydyn clywn y ddau greadur bach hyn yn siarad:

Be ydi o, dywed?" ebe un, a minnau heb symud migwrn.

"Mynydd," ebe'r llall.

"Weles i mono fo o'r blaen," ebe'r cyntaf.

"Na finne," ebe'r llall.

"Rhaid mai wedi disgyn o rywle y mae o," ebe'r naill.

"Hwyrach, wir," ebe'r llall," ond mae o'n edrych yn rhyfedd. Weli di ei dop o? wela i ddim."

"Nage, nage," ebe fi, "nid mynydd."

Eithr nid cynt yr agorais fy ngenau nag y disgynnodd y ddau ar eu hyd gan wasgu eu dwylo ar eu clustiau â'u holl nerth. Ac ni ddychrynodd neb fwy wrth fy llais na mi fy hun. Yr oedd fel deng mil o daranau yn seinio ynghyd. Cymaint oedd fy mraw nes i'm corn gwddf sychu fel corsen, ond nid oedd dwfr yn unman i mi gael llymaid,—dim ond diferyn neu ddau oddiwrth y darn rhew a lynai wrth fy llygad. Rhwbiais fy mys arno a sipiais ef. Edrychais ar y ddau greadur bach ar lawr heb ddywedyd dim. Yn y tawelwch codasant. Edrychasant oddiamgylch yn frawychus, a dywedodd y naill wrth y llall:

"Glywest ti'r fath drane yn dy oes?"

Anturiais siarad wedyn, ar ol sipian fy mys, i edrych beth a wnaent dan sŵn aruthrol fy llais, ond prin yr adwaenwn fy hun pan glywais fy hun yn siarad. Siaradwn yr un fath yn union â hwy, heb fod fymryn yn uwch, ar ol sipian o'r darn rhew rhyfedd. Clywswn ryw sŵn dieithr o'm hamgylch ers meityn, er pan grefais fy nghlust â'm bys llaith, a gofynnais i'r ddau beth ydoedd. Codasant ar flaenau eu traed, ac edrychasant ar ei gilydd yn syn:

"Mynydd yn siarad!" ebe un.

"Be ddeydodd o!" ebe'r llall, dan ei lais.


"Gofyn ynghylch rhyw sŵn rhyfedd," ebe'r cyntaf. Chlywa i ddim sŵn ond y glaswellt yn tyfu," ebe'r llall.

Disgynnodd sŵn arall ar fy nghlyw fel sŵn ceffyl gwedd yn cerdded:

"Be ydi'r sŵn cerdded ene?" ebe fi, canys ni welwn geffyl yn unman,

"Dene'r mynydd yn siarad eto," ebe'r ddau ynghyd gan edrych ar ei gilydd mewn braw, a gwelwi tros eu hwynebau.

"Be ddeydodd o?" ebe un yn y man.

Gofyn be oedd y sŵn cerdded," ebe'r llall.

"Chlywa i ddim ond y gwybedyn," ebe'r cyntaf. Erbyn sylwi, gwybedyn ydoedd. Bum yn dyfalu lawer gwaith erioed i ble yr âi'r gwybed yn y gaeaf. Dyma fi o'r diwedd wedi dyfod ar eu traws, a gwnai hwn sŵn cerdded fel sŵn ceffyl gwedd yn union. Dechreuais grafu fy mhen mewn petruster. "Dyma wlad ryfedd," ebe fi wrthyf fy hun,— gwlad lle clywir y glaswellt yn tyfu, a gwybed yn cerdded fel ceffylau, a llais dyn yn uwch na tharanau, mor uchel nes bod bron yn ddigon mawr i fyddaru." Ar hyn dyna fiwsig mawr, ardderchog, yn disgyn yn sydyn ar fy nghlust. Chwiliais amdano fy hun rhag ofn dychrynu'r ddau greadur bach, a sylwais mai corsennau mân, bron yn anweledig, ar lan afon fawr a ruthrai heibio yn ymyl, oedd yn ysgwyd yn y gwynt. Yr oedd corsennau mawr yn ysgwyd, ond ni ddeuai sŵn oddiwrthynt hwy, ac yr oedd yr afon, hithau, yn rhuthro heibio'n hollol dawel, er bod ei sŵn yn fy arswydo cyn imi grafu fy nghlust â'm bys a leithiwyd gan y darn rhew. Rhaid oedd credu bod ei sŵn, erbyn hyn, a sŵn y corsennau mawr, yn rhy uchel i'w glywed.

"Wel, wel," meddwn wrthyf fy hun eilwaith, dyma'r wlad ryfeddaf y bum ynddi erioed—llais dyn yn uwch na tharanau, yr afon yn rhuo'n rhy uchel i'w chlywed, ac felly'r corsennau mawr; y glaswellt i'w clywed yn tyfu, corsennau, bron yn anweledig, yn canu yn yr awel, gwybed yn cerdded fel ceffylau, ac am y creaduriaid bach yma sydd fel dynion, y maent hwy'n rhyfeddach na dim!"

"Lle mae'ch clustie chi?" ebe fi wrth y ddau a safai o'm blaen yn archwilio fy sodlau."

"Dene'r mynydd yn siarad eto," ebe un dan ei lais.

"Well inni ei ateb, dywed?" ebe'r llall, "holi am ein clustie y mae o."

"Dyma nhw," ebe'r naill, gan deimlo'r glust fach, ac edrych i fyny ar un o hoelion fy esgid.

"Rhai bach iawn," ebe fi.

"Feder pobol clustie mawr ddim rhedeg yn gyflym, mae'r gwynt yn eu dal," eb ef.

"Mae gan Em glustie mawr, a feder o ddim rhedeg fawr i gyd," ebe'r llall.

"Pwy ydi Em?" ebe fi.

Edrychodd y ddau ar ei gilydd wedyn, ac i fyny tua'r awyr fel pe'n chwilio am fy llais yno. O'r diwedd mentrodd un ddywedyd:

Brawd i mi ydi Em."

"Ydi clustie mawr yn rhwystro rhedeg?" ebe fi. Arhosodd y ddau am dipyn yn fud gan edrych yn syn a brawychus. Yn y man atebodd un ohonynt:

"Clustie mawr yn dal y gwynt."

"Ond y mae gennych lygaid mawr," ebe fi. "Mae gan Ii lygaid bach," eb ef, dipyn yn hyach, a feder o ddim gweld y nesa peth i ddim."

"Pwy ydi li?" ebe fi.

"Bachgen bach y tŷ nesa," eb ef.

"Be ydi dy enw di?" ebe fi.

El," eb yntau, a'r llall wrth ei ochr yn syllu i fyny yn syn. Methwn â'u deall yn lân, ond digwyddais gau'r llygad rhew, ac edrych â'r llall. Er fy mraw prin y medrwn agor hwnnw, ond â'r hyn a fedrwn ei agor arno gwelais ei bod yn dywyll, ac na welwn ddim. Gadewais iddo gau gan ei fod yn esmwythach felly, agorais y llall, a daeth y bobl fach hyn a'u gwlad i'r golwg drachefn. Gwelwn ryw greadur bach yn gwthio 'i ben o'r ddaear yn fy ymyl â llygaid mawr iddo, a mintai ohonynt wedyn yn ymgasglu, â llygaid mawr iddynt i gyd. Daeth aderyn bach ar wrych yn ymyl, cymaint llai na dryw ag ydyw dryw na cholomen, ac yr oedd iddo yntau lygaid mawr. Wedi meddwl yn hir, dechreuais weled y rheswm tros hynny. Nid dall oedd Ii, ond tywyll oedd y wlad, a rhaid cael llygaid mawr, llydan, i weled mewn tywyllwch, ac ni fedrai fy llygad innau nad oedd rhew wrtho weled dim.

Daeth y fintai o'm hamgylch, a dechreuasant archwilio sawdl fy esgid, a hoelion fy ngwadnau. Ac mor anturiaethus oedd rhai nes dringo i chwilio'r tyllau careiau, ond collasant eu hanadl yn lân wrth geisio dringo'n uwch.

Yn y man daeth dau neu dri â llygedyn o dân gyda hwynt. Gosodasant ef o flaen fy esgid ddehau, ac aethant ar eu gliniau o'm hamgylch, a chlywn hwy'n dywedyd:

"Mynydd yn siarad!—ymhle y mae'r brenin?"

Daliasant lygoden fach, un fach iawn. Llusgodd hanner dwsin ohonynt hi at y tân, lladdasant hi, a gosodasant hi arno.

"Aberthu i'r mynydd," ebe un.

"Mynydd yn siarad," sibrydai pawb wrth ei gilydd. Dacw ddau haul ar ei dop, un bychan ac un mawr," ebe rhywun dan edrych i fyny, "dacw'r bychan yn diffodd!"'

Yr adeg hon y caeodd fy llygad a welai dywyllwch, yn llwyr. Digwyddais gau'r llygad rhew, a gwaeddodd pawb yn syth:

"Dene'r haul arall wedi diffodd!"

Agorais fy llygad drachefn:

"Na, yn goleuo eto!" ebe hwy i gyd, gan ddawnsio o amgylch y tân.

"Greaduriaid bach," ebe fi, "pa bobol ydech chi?"

Edrychodd pawb yn syn ar ei gilydd. O'r diwedd daeth un ohonynt oedd â'i wàr yn crymu a'i wallt yn wyn, â thipyn o'r tân ar damaid bach, bach o garreg, a dywedyd tan grymu ei ben:

"Dyneddon ydym ni, fynydd sy'n llefaru, ac yn gwneud i'r heuliau oleuo a diffodd bob yn ail. Ers dyddiau yr ydym yma yn aros am dy lais, ond nid yw'n amser dewis brenin eto."

Wel, methwn â fy neall fy hun. Nid oeddwn yn y wlad ond ers ychydig funudau, a dyma hwn yn dywedyd eu bod yn aros wrthyf ers dyddiau, ac yn son am ddewis brenin a phethau felly.

Wrth fyfyrio, symudais ychydig ar fy nhroed, a dyna waedd fawr, annaearol, oddiwrth yr holl dyrfa, a phawb yn ffoi am eu bywyd dan weiddi:

"Y mynydd yn crynu! Y mynydd yn crynu! Ac mor gyflym y rhedent nes iddynt ddiflannu o'm golwg ar lai na tharawiad amrant, ac ni welwn ond megis niwl gwibiog yn lledu i wahanol gyfeiriadau.

Dyna fel y deuthum i Dir y Dyneddon, ac yr euthum yn fynydd yno.


II.—DEWIS BRENIN.

GADAWYD fi yn unig yn Nhir y Dyneddon, a meddyliais edrych o'm hamgylch, ond er fy nychryn ni allwn symud migwrn. Yr oedd fy mreichiau a'm dwylo yn hollol ddiymadferth, wedi glynu wrth fy ochrau. Ni allwn agor un llygad o gwbl, ac ni allwn gau ac agor y llall ohonof fy hun. Cymerasai'r llygad hwn y gallu i hynny yn ei law ei hun. Ni allwn droi fy mhen y naill ffordd na'r llall. Glynasai fy nhraed wrth y ddaear, a dechreuais fy nheimlo fy hun yn fynydd mewn gwirionedd, yn fynydd mawr, llonydd. Trodd fy nghalon ynof a chwysais yn ddiferol gan ryw ofn rhyfedd, cudd, ac ni allwn beidio â wylo, ond o'r llygad caeedig yn unig y deuai fy nagrau: llifent ohono ef fel afon. Yr oedd y llygad arall yn awdurdod hollol arno'i hun. Y peth olaf y sylwais arno cyn i'r llygad hwn gau yn llwyr oedd bod y wlad yn dywyll iawn heb ddim ond sêr i'w goleuo. Am y llygad arall, y darn rhew a'i cuddiai a benderfynai beth oeddwn i'w weled. Wedi i'r cyntaf gau yn hollol yr oeddwn yn ddarn llwyr o'r wlad newydd hon, heb ddim yn aros i ddangos sut yr oedd pethau yn y wlad y deuthum ohoni. Yr unig symudiadau yn fy holl gorff oedd y rhai na fedrwn ddim oddi—wrthynt,—fy llygad yn agor am ychydig, wedyn rhyw syrthni yn dyfod trosto, yntau'n cau ohono ei hun, ac yn agor drachefn, fy nghalon yn curo hefyd, a'm hanadl yn codi a gostwng yn fy mynwes. Yn sydyn clywn ganu ysgafn fel telyn pan fo'r sawl a'i cano yn prin gyffwrdd y tannau, a chanu clychau fel clychau eglwys o bellter mawr ar fore braf o haf. Ni welwn neb na dim, a thybiais hwyrach mai'r dyneddon a ganai o'r golwg yn rhywle. Sylwais yn y man fod y canu telyn yn fy ymyl, a'r sŵn clychau hefyd, yn dyfod o rywle o amgylch fy mhen. Gwrandewais wedyn, a chofiais ymha wlad yr oeddwn, ac er fy syndod gwelwn y diferion caddug a'm hamgylchai yn curo yn ei gilydd, a phob curiad yn creu nodyn, a nodau gwahanol i'r diferion mwyaf rhagor y rhai lleiaf. Cawn un nodyn, pan gyd—darawai dau fawr, ac un arall pan gyd—darawai dau fach, ac un arall pan gyd—darawai un mawr ac un bach, a thoddai'r miwsig a'r diferion i'w gilydd pan gyd—darawent. Deuai'r sŵn fel canu telyn o rywle o'm gwallt, a sylwais eto mai pelydrau'r sêr oedd yn taro arno, ar bob blewyn ar ei ben ei hun, a phob blewyn yn tincian, a phob pelydryn yn tincian mewn nodyn gwahanol. Daeth yr ofn rhyfeddaf arnaf eilwaith, a chwysais wedyn trosof i gyd, a llifai'r dagrau'n fwyfwy i lawr fy ngrudd er fy ngwaethaf. Dychmygwch fy mraw pan glywn fy nagrau'n sisial ganu fel afon fach wrth lifo i lawr fy ngrudd a'm corff. A deallais fod dagrau, hwythau hefyd, yn canu yn Nhir y Dyneddon.

O! y canu a amgylchai fy mhen. Nid oedd sŵn arall yn unman. Yr oedd y gwynt a'r afon fawr yn rhy uchel eu sŵn i mi eu clywed, a'r glaswellt wedi peidio â thyfu'n ddigon cyflym i'w glywed wedi i'n haul ni lwyr ddiflannu. Ond daliai pelydrau'r sêr yn fy ngwallt, a'r diferion caddug, a'm dagrau, i ganu o hyd. Wrth wrando arnynt clywn guro, curo, yn rhywle, fel pe buasai rhywun yn cadw amser i'r cantorion, a rhaid mai hynny ydoedd, canys wrth y curo hwnnw y canent hwy. A theimlwn o dipyn i beth mai o rywle o'r tu mewn i mi y deuai'r curo rhyfedd. Gwrandewais wedyn a pheth ydoedd ond fy nghalon. Curai'n ddigon uchel i'w chlywed, rwy'n siwr, gan y dyneddon yn y gwaelod wrth fy nhraed, pe buasai rhywun yno. Teimlwn yn fwy fel mynydd bob eiliad. Erbyn hyn, nid oedd awydd symud arnaf,—dim ond aros yn llonydd yn yr unigedd a'r tawelwch, i glywed pelydrau'r sêr, a'm gwallt, a'r clychau caddug, a'm .dagrau, yn canu, a'm calon fy hun yn cadw amser i'r côr.

Daeth syrthni dros fy llygad wedi iddo fod yn agored beth amser. Deuai'r syrthni hwn yn aml iawn, bron mor aml a tharawiad amrant y llygad ar adegau cyffredin,—a'r tarawiad amrant yma, megis, oedd yr unig symudiad i'm llygad. Pan oedd yn agored rywbryd, ac wedi bod yn agored mor hir nes teimlo ei fod ar fin cau, clywn siarad wrth fy nhraed, ac edrychais i lawr,—gallwn weled pob man heb symud fy llygad, dyna oedd yn rhyfedd. Dau o'r dyneddon oedd yno, y rhai rhyfeddaf a welsoch erioed,—dau hen ŵr wrth eu ffyn, a'r ffyn ddim ond rhyw hanner modfedd o hyd, a chyn feined a phinnau. Eisteddasant i lawr yn llesg ar garreg tua maint carreg eiren, wrth fy nhraed, ac anadlasant yn drwm am ennyd heb ddywedyd dim. Trodd un ohonynt, edrychodd i fyny â'i law wrth ei lygaid, a syllodd yn syth i'm llygad:

Mae'r haul yn danbed fin nos yma," meddai,—wyt ti'n cofio'r adeg pan oedde' ni'n meddwl fod ene ddau haul, pan oedde' ni'n fechgyn bach?" Ia," ebe'r llall, "a'r mynydd yn crynu, hefyd. Ni'n dau ydi'r unig ddau sy'n fyw o'r adeg honno,'ntê, ond yr hen frenin, a does ene neb wnaiff y'n coelio ni rwan."

"Ond y peth rhyfedda oedd y mynydd yn siarad," ebe'r naill.

"Ia," ebe'r llall, "mi feddylies y cawn i fy ngneud yn frenin yr adeg honno. Pe bae hi'n adeg gneud brenin, a minne wedi medru profi mai fi oedd y cynta yn ei glywed o, buaswn yn mynd yn frenin hefyd."

"Wyt ti'n credu fod rhywbeth yn y traddodiad, dywed?" ebe'r naill.

"Pa draddodiad?" ebe'r llall, tan besychu.

"Y traddodiad mai'r un a fedr neud i'r mynydd yma siarad sydd i gael mynd yn frenin," ebe'r naill.

"Mae'n bwysig bod yn siwr," ebe'r llall, "achos fydd yr hen frenin ddim byw yn hir eto."

Teimlwn fy llygad eisiau cau er fy ngwaethaf, a gwelwn y ddau'n codi, ac un yn dywedyd wrth y llall,—"mae hi'n mynd yn hwyr, gwell inni gychwyn."

Rhyfeddais at ymgom y ddau, am na welwn arwyddion o hwyr, oherwydd hwyr oedd hi o hyd. Ni ddiflannodd y sêr er pan oeddwn yno. Yn sydyn caeodd fy llygad.

"Wel, wel," ebe un ohonynt, "mae hi cyn dwlled a'r fagddu, sut yr awn ni dywed?"

Ar hyn gwawriodd syniad arnaf,—mai fy llygad rhew oedd eu haul hwy, ac mai'r ychydig a barhai yn agored oedd eu dydd, ac mai'r amrant yn cau oedd eu nos. Meddyliwch, mewn gwirionedd, am greaduriaid sy'n byw mor gyflym nes bod yr amser y deil eich llygaid yn agored rhwng dau darawiad amrant yn ddiwrnod cyfan iddynt, a'r adeg yr erys y llygad ynghau rhwng dau agor yn nos iddynt. Wedi'r cwbl, mynydd oeddwn i yn y wlad honno, a phe buasai gan fynydd lygad, beth fuasai hyd ein diwrnod ni i'r mynydd digyfnewid, ond y cyfnod rhwng dau darawiad amrant onide?

Wedi meddwl ychydig am y ddau ddynan hyn, tybiais fy mod yn adnabod eu hwynebau. Yn sydyn cofiais hwy,—hwy oedd y ddau ddynan cyntaf a welais pan ddeuthum i Dir y Dyneddon, ychydig funudau ynghynt. Dau fachgen ieuanc oeddynt yr adeg honno, ond yn awr hen wŷr oeddynt â'u cefnau'n crymu. Synnais mor gyflym yr oedd pobl yn byw yn Nhir y Dyneddon. Nid oedd dim cyfnewidiad ynof i, ond fy mod yn oer iawn, ac yn teimlo'n union fel mynydd erbyn hyn. Rhewasai fy chwys hefyd trosof i gyd, ac yr oeddwn yn farrug gwyn o'm pen i'm traed. Wedi meddwl tipyn, gwelais, os fy llygad yn agored rhwng dau darawiad amrant oedd eu dydd, a'm llygad ynghau yn ystod y tarawiad oedd eu nos, nad oedd yn syndod eu bod yn byw yn gyflym iawn, ac yn mynd yn hen bobl mewn ychydig funudau.

Agorais fy llygad wedyn, a syllais am ychydig ar y wlad, a'r canu rhyfedd o amgylch fy mhen yn parhau o hyd, a'm calon yn cadw amser iddo, a minnau wedi fy swyno gymaint nes bod, erbyn hyn, yn hollol fodlon ar fy sefyllfa. Pan oedd fy llygad ar fin cau, gwelwn rywbeth tebyg i niwl gwibiog yn dyfod allan o dyllau yn y ddaear, ac odditan ddail a glaswellt yn y clawdd, ac odditan gerryg, fel pe buasai'r holl ddaear yn mygu. Unodd y niwl rhyfedd, ac arafodd, yna gwelwn mai minteioedd mawrion o ddyneddon oedd yn nesu at fy nhraed. Cludai rhai goed ar eu cefnau, coed bach iawn,—rhyw fodfedd oedd y pren hwyaf, ac nid oedd yn ffyrfach na gwäell. Cyneuasant dân o'r coed pan gyraeddasant fy nhraed, a chludasant hen ŵr ato, â'i wyneb wedi crebachu o bob ffurf. Gosodasant ef yn ymyl y tân, yna daeth dau ddynan mewn dillad dieithr ymlaen, un bob ochr i'r tân, yn dal rhôl llyfr rhyngddynt, ac yn ei ddarllen, a'r gynulleidfa'n gwrando mor astud nes medru clywed y sug yn rhedeg trwy wythiennau dail y coed.

Fynydd mawr," ebe'r hynaf ohonynt, "y mae ein brenin wedi marw a ninnau yn ei anfon atat ym mwg y tân. Dewis inni frenin yn ei le. Nid oes neb cymwys i deyrnasu arnom ond y neb a allo wneuthur i ti lefaru. Dangos y gŵr yr awron trwy lefaru wrtho." A hwn yn siarad fel hyn, llusgai'r llall gorff yr hen ŵr â'r wyneb crebachlyd yn ddefosiynol, a gosododd ef ar draws y tân. Yna bu distawrwydd mawr.

Ymdrechais siarad, ond yr oedd fy nghorn gwddf yn hollol sych, a'm gwefusau ynghlo. Ceisiais godi fy llaw fel o'r blaen i gyffwrdd fy ngenau â diferyn o ddwfr o'r darn rhew rhyfedd a lynai wrth fy llygad, ac a'm galluogai i weled a chlywed y pethau hyn oll. Eithr ni fedrwn symud migwrn.

Ar hyn dyma nifer o ddyneddon ieuainc yn rhes wrth fy nhraed, a phob un yn ei dro yn siarad â mi, ac yn gofyn imi ei ateb, a minnau'n methu dywedyd gair. Ac fel y methai pob un fy nghael i siarad ciliai'n ol i'r dyrfa gan wrido, â'i ben i lawr. O'r diwedd safai yr olaf ohonynt ger fy mron,—y mwyaf hoffus ei olwg ohonynt i gyd. Bachgen gwelw oedd hwn, a'i lygaid yn fflamio, ac ymddangosent i mi o'r pellter fel dwy seren wedi disgyn i lawr ac yntau wedi eu codi a gwneuthur llygaid ohonynt. A hoffwn y pelydrau a saethai ohonynt, canys cymysgent â phelydrau'r sêr oddiuchod i ganu fy ngwallt.

"Fynydd mawr," eb ef, "cri fy nghalon yw am glywed dy lais, nid er mwyn bod yn frenin, ond am fod rhyw ofyn ynof y teimlaf am dano na all neb ei ateb ond tydi, Fynydd mawr."

Edrychai'r gynulleidfa'n syn a mud dan yr araith hon, a thrafferth fawr a gafodd dynion y rhôl llyfr i'w chadw rhag cyhoeddi hwnnw'n frenin yn y fan a'r lle, oherwydd dywedai rhai na chlywodd neb erioed beth mor ynfyd a disgwyl i fynydd fedru llefaru. Teimlwn fy llygad yn mynd yn swrth ar hyn, a gwyddwn ei fod ar gau. O'r diwedd caeodd, a chlywn sŵn traed y dyrfa yn cilio tuag adref. Distawodd sŵn pob pryf, a chiliodd pob swn arall ond llais pelydrau'r sêr, a'r diferion caddug, a'm dagrau, a churiad fy nghalon.

Yn y tawelwch hwnnw teimlwn symud wrth fy nhraed, a rhywbeth fel pe buasai'n ceisio dringo f'esgid o hoelen i hoelen, ac yn cwympo wedyn. Ni fedrwn weled dim am fod fy llygad ynghau. Deuai'r dringo yn uwch nes cyrraedd fy ffêr, yna ar fy nghoes. Wedi cyrraedd honno rhedodd y dringwr yn gyflym, ond wedi cyrraedd gwaelod fy nghorff, arafodd. Disgwyliwn hyn, canys tybiwn y cymerai amser mawr i ddringo a disgyn pletiau fy nillad oedd yn fryniau a dyffrynnoedd i'r dringwr bach, yn enwedig gan eu bod dan farrug trwm. Deuai llonyddwch a thawelwch bob hyn a hyn, a dringo wedyn. O'r diwedd teimlwn y dringwr yn gafael yn edef botwm isaf fy ngwasgod. Daeth awydd agor ar fy llygad, ac agorodd, a phwy a welwn ond y llencyn ieuanc gwelw yn ei waed yn glynu â'i holl egni wrth y botwm isaf hwnnw. Ac yr oedd olion codymau lawer ar ei gorff, ond y goleuni rhyfedd yn ei lygaid heb bylu dim,—os yr un, yr oedd yn fwy tanbaid. Ni wyddai ef, wrth gwrs, mai bachgen o wlad arall a ddringai, am fy mod yn rhy fawr iddo fy ngweled ond bob yn ddarn, ac am fy mod hefyd wedi fy nghuddio â barrug fy chwys. Tua chanol y cyfnod y cadwai fy llygad yn agored, gwelwn ddyneddon yn tyrru at fy nhraed o bobman, ac yn crwydro'n ol a blaen o'm hamgylch, ac ambell i un yn beiddio dringo ychydig ar fy esgidiau, ond yn mynd yn ol yn fuan, a dywedyd:

"Does dim golwg am dano yn unman.

Ni fedrwn ddywedyd dim wrthynt, a theimlwn ef yn dal i ddringo, ac yn llithro ar y barrug o hyd. Gwelwn y dyrfa brudd yn mynd yn ol wedyn pan oedd fy llygad ar fin cau, ac yntau'n dal i ddringo. Cefais un cipolwg arno cyn i'm llygad gau, ac yr oedd ei ddwylo'n llawn o waed, a'i wyneb yn gripiadau a doluriau, a'i ddillad yn rubannau, ond daliai i ddringo o hyd, a goleuai'r goleuni oedd yn ei lygaid fy mron drosti i gyd. Er bod ei ffordd yn serth yr oedd yn amhosibl iddi fod yn dywyll, canys fflachiai ei lygaid dros bopeth. Gorffwysodd ychydig pan gaeodd fy llygad, ond daliodd ati wedyn nes iddo agor. Gwelwn y dyrfa eilwaith yn chwilio, a daeth sŵn wylofain i fyny o fysg y dyneddon, a foddodd tros dro sŵn canu'r pelydrau sêr, a'r caddug, a sŵn canu'r dagrau diball a lifai o'm llygad oedd wedi cau ar y byd rhyfedd hwn.

Ciliodd y dyrfa drachefn pan oedd fy llygad ar fin cau, a'r peth olaf a welais cyn iddo gau yn llwyr oedd y llencyn yn disgyn mewn llewyg ar fy ysgwydd, yn waed i gyd. Pan ddaeth ato ei hun clywais ef yn codi, ac yn gafael ym môn fy nghlust, ac yn rhoddi ei lin ynddi, a neidio i fyny gan afael mewn dyrnaid o wallt, yna'n sefyll ar ei draed yn gadarn ar ris gwaelod fy nghlust. Teimlwn ef yn dyfod yn araf a gofalus ar hyd asgwrn fy ngên; llithrodd, ond daliodd ei afael â'i holl egni yn fy ngwefus. Dringodd wedyn, gafaelodd ym mhont fy nhrwyn gan sefyll ar fy ngwefus, a chlywn ef yn anadlu'n gyflym, a byr, a llesg.

Yn y man daeth awydd agor ar fy llygad, a phan agorodd, daeth rhyw "O!" mwyaf annisgrifiol o rywle o waelod calon y llencyn, a gwelwn ef yn syllu ym myw fy llygad. A'r fath olwg oedd arno—ei wyneb yn gripiadau a doluriau i gyd, ei ddwylo wedi eu rhwygo, a'i ddillad yn ddarnau, a'i waed yn ffrydio trwyddynt, ond gellid meddwl yn ol yr olwg oedd ar ei lygaid na fu erioed mor wyn a diboen ei fyd.

Pan gafodd ei anadl ato:

"O! haul gogoneddus," meddai, "O'r diwedd dyma dy weled yn codi yn dy gartref dy hun. Rhaid imi gael edrych i fyw dy lygad hyd yn oed pe buasai raid i mi farw ar ben y mynydd wedi fy nallu gennyt,"—a syllodd ar fy llygad agored, Tybiais y dellid ef gan fod ei lygaid mor fawr, ac wedi eu cymhwyso i weled mewn tywyllwch. Ond yr oedd rhyw wres ym mhelydrau ei lygaid yn dyfod megis o rywle y tuhwnt i'r llygaid eu hunain, cryfach na dim a ddeuai o'm llygad i, ac er fy syndod, yn lle bod fy llygad i yn ei ddallu ef, toddai ei lygaid ef y rhew ar fy llygad i, a dechreuodd ddiferu. Pan welodd hyn ciliodd o ffordd y diferion rhag iddynt ei daro i lawr:

"O! fynydd," meddai, ac y mae i tithau dy deimladau, ac nid yw dy ffrydiau ond dagrau dy haul. Yn awr llefara wrthyf, nid er mwyn imi fod yn frenin, ond er mwyn imi fod yn ddedwydd. Y mae gofyniadau yn fy mynwes na all offeiriaid y dyneddon eu hateb.'

Eithr ni allwn ddywedyd gair, er ceisio fy ngoreu, yr oedd fy ngwefusau wedi eu selio. Daliodd ei hun o'r diwedd o dan y diferion a ddeuai o'r darn rhew, ac er eu bod bron yn ddigon cryf i'w daro i lawr, arhosai danynt a daliai ei afael ym mhont fy nhrwyn â'i holl egni. Arhosodd yno'n hir nes bod fy llygad ar fin cau wedyn. Yna tywyllodd ei lygaid a dechreuodd ddisgyn, ac mor fawr oedd y gofid ar ei wyneb nes fy mod yn falch mai ar fin cau yr oedd fy llygad rhag gorfod edrych arno. Yr oedd ei gorff yn wlyb gan ddiferion y darn rhew. Pan gyffyrddodd y gwlybaniaeth â'm gwefusau, agorasant, a dechreuais siarad, a chredais y syrthiai gan faint ei lawenydd.

Dywedais wrtho beth oedd yn fy nghalon, a dywedais hanes y sêr, a'r caddug, a churiad fy nghalon, a'm dagrau wrtho, ac addewais ddal i lefaru wrtho o hyd wedi iddo ddisgyn at fy nhraed. Dywedais hefyd na allwn lefaru wedi i'm gwefusau sychu, ac nad oedd dim a'u gwlychai ond i rywun fel ef ddringo i fyny atynt, er maint y boen. Eithr nid oedd hynny yn ddim iddo ef. Teimlwn innau ei bod yn werth adrodd y cyfrinachau dyfnaf i un a anturiai gymryd ei fedyddio hyd yn oed yn nagrau'r haul os byddai raid cyn rhoddi ei gais i fyny. A'r dagrau a dynnodd ef o'm llygad a'm cymhwysodd innau i lefaru wrtho.

Bu'n sefyll ar fy ngwefusau'n hir, fel un wedi ei feddiannu, nes i'm llygad gau, yna dechreuodd ddisgyn. Gorffwysodd ar fy ysgwydd nes i'm llygad agor wedyn, yna disgyn o fotwm i fotwm, ac o blêt i blêt, oedd yn greigiau a bryniau a dyffrynnoedd iddo ef. O'r diwedd cyrhaeddodd y gwaelod. Cyrhaeddodd pan oedd y dyrfa ar fin rhoddi heibio i chwilio am dano, ac ni chlywsoch erioed y fath fonllef ar fonllef o lawenydd ag a ddyrchafodd o'r dyrfa pan welodd ef:

En wedi dyfod yn ol! En wedi dyfod yn ol!" gwaeddai pawb. Adroddodd En iddynt fy meddyliau, ond ni ddeallent hwy mohonynt, eithr deallent y gwaed oedd ar ei gorff a rhwygiadau ei ddillad:

"Dyma'r brenin!" ebe pawb, a dechreuasant ddawnsio mor gyflym o'i amgylch nes iddo ymddangos fel pe buasai yno ei hunan yn unig â chylch o niwl gwibiog o'i amgylch. Dylaswn ddywedyd ddarfod i ferch ieuanc fodrwyog a gemog, yr harddaf a fu erioed, ddyfod ymlaen i olchi ei waed a thrwsio ei ddoluriau, hyd yn oed cyn gwybod beth fuasai teimladau'r gynulleidfa tuag ato wedi ei weled yn y fath gyflwr. Ac nid yw pob cynulleidfa'n parchu un fel ef. Pan flinasant, meddyliais y dywedwn air wrthynt mewn ffordd a ddeallent hwy, cyn i'm llygad gau ac i'm gwefusau sychu,—

"Ie," meddwn, "ef yw'r brenin. Y mae'r gwres yn ei lygaid yn gryfach na gwres yr haul,—aeth yr haul i wylo dan ei ddylanwad."

Ni ddychmygais beth fyddai'r canlyniadau. Syrthiodd pob un ar ei wyneb ar y ddaear, a dechreuodd fwmial, a'r peth diweddaf a welais cyn i'm llygad gau'n llwyr, oedd y dyrfa fawr yn casglu amgylch fy nhraed, ac yn cynneu tân yno, a hanner dwsin o ddyneddon ieuainc yn llusgo llygoden â'u holl egni, ac yn ei gosod ar y tân. Ac mor drom oedd iddynt nes eu bod yn ddu-las yn eu hwynebau wrth y gwaith.

Pan gododd y mwg tua'm ffroenau, dechreuodd y ddau ddynan a'r rhôl llyfr rhyngddynt ddarllen rhywbeth dieithr i'r gynulleidfa. Dechreuodd hithau ganu a dawnsio. Yna caeodd fy llygad yn llwyr.

III. PAHAM Y MAE POB NODYN YN CANU YR UN PETH

UN tro pan oedd fy syrthni ar gilio, a'm llygad ar agor, clywn sŵn mawr canu clychau, a theimlwn fel pe buasai tyrfaoedd ar dyrfaoedd yn dringo fy nhraed. Agorais fy llygad, a gwelwn ddegau o ddyneddon yn ysgwyd y clychau iâ a lynai wrth hoelion gwadnau f'esgidiau, a'm godre i gyd, a ffurfiwyd yn ddiau gan waith fy chwys yn rhewi wrth ffrydio allan. Cynhyrchai'r clychau bob nodyn y gellwch feddwl amdano wrth dincian yn ei gilydd. Clywn hefyd sŵn mathau eraill ar glychau yn dyfod o rywle o'r golwg, a deallais yn union mai clychau'r gôg a chennin y gwinwydd oeddynt. Methaswn â deall lawer gwaith cyn dyfod i'r wlad yma i ble yr âi clychau'r gôg a'r blodau eraill yn y gaeaf, ond gwelwn yn awr mai yma y deuent,—mai dyma eu cartref, a chartrefent yn llawen yma gyda blodau pob tymor, a chyda'r rhew a'r eira, heb neb yn tynnu'n groes, nac yn digio wrth ei gilydd a byw ar wahan fel y gwnant yn ein gwlad ni. Curai'r dafnau caddug a godai oddiar y barrug oedd arnaf ei gilydd â rhyw frwdfrydedd anghyffredin, a churai'r pelydrau sêr ar fy ngwallt yn drymach nag erioed, ac yr oedd eu sŵn fel pe baent yn chwerthin wrth y gwaith. Llifai fy nagrau'n gyflymach o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn yr oeddwn ynddo, a chanent wrth ddisgyn i lawr fy ngrudd a'm corff. Er nad oedd y llygad hwn am gydnabod bod y byd yr oeddwn ynddo, methai beidio â wylo'n drwm dan ei ddylanwad.

Yr oedd rhyw ganu anghyffredin yn yr awyr— gylch i gyd, ac unai trigolion y gaeaf a'r haf yn unllais yn y gân. Fel y cliriai'r caddug gwelwn dyrfa o ddyneddon mewn dillad geirwon, yn casglu o amgylch fy nhraed ac arfau gwaith ar eu hysgwyddau ac eu dwylo. Dechreuasant â'u holl egni dorri llwybr at y rhan o'm godre y disgynnai fy nagrau i'r llawr ynddi. Edrychais i'r fan, ac O! yr olygfa oedd yno. Ni ddychmygais erioed fod yn bosibl i ddagrau fynd mor hardd, gan na welais ddagrau erioed yn mynd yn ddim tebyg yn ein gwlad ni. Yn Nhir y Dyneddon y try dagrau i ganu ac i greu golygfeydd swynol. Llifent i lawr fy nghorff trwy'r barrug a'm cuddiai, ac fel y dynesent at y gwaelod mewn rhaeadr, dechreuent rewi, a'r rhew hwn a wnai'r olygfa. Cymerai'r rhew bob ffurf y gellwch feddwl amdani, a ffurfiau na feddyliasoch erioed amdanynt. Ar y chwith troes i ffurf mintai o angylion ar fin cau eu hadenydd wrth ddisgyn i'r ddaear. Ac yr oedd yr adenydd hanner agor hyn fel nenlenni godidog, ac ymylwe gain, gyfoethog, iddynt. Tua'r canol, troes fy nagrau i ffurf saint â'u dwylo ynghau ar eu hwynebau mewn gweddi. Uwch ben y rhai hyn ymestynnai llenni ysblennydd allan tros y gwagle, ac o dan eu traed yr oedd twmpathau marmor, a phob ochr iddynt bileri fel pileri teml, a'r cwbl yn disgleirio. Tros y cwbl yr oedd lliwiau gwyrdd a melyn a gwyn. O dan y rhew hwn disgynnai'r diferion dagrau oedd heb rewi, gan atseinio trwyddo a'i wneuthur yn fath ar gloch fawr, a deffroai hon y wlad i gyd. Wrth gwrs ni fuasai'r cwbl yn ein gwlad ni yn fwy na chragen go lew, ond yr oedd yn fawr iawn ac yn ardderchog iawn yn Nhir y Dyneddon, mor fawr ac ardderchog nes iddynt wneuthur teml ohoni. Try dagrau'n deml, wrth oeri, yn Nhir y Dyneddon.

Canai adar bach, y rhai lleiaf a welsoch erioed, a chymaint o wahaniaeth rhyngddynt â dryw ag sydd rhwng dryw â cholomen. Tyfai ambell flodyn, ac yr oedd sŵn canu yn ei dyfiant. Ychydig o ganu pethau yn tyfu oedd yno. Peidiasai'r glaswellt a phethau eraill â thyfu ar ol rhyw ychydig o eiliadau wedi imi gyrraedd y wlad. Deffrodd y pryfed yn fawr a mân, a phopeth arall, yn sŵn y gloch ddagrau a drowyd yn deml, a'r sŵn curo, a rhuthrasant i gyd yno o rywle o'r golwg.

Plannai'r gweithwyr goed pinwydd bach, bach, o amgylch y deml rew wrth fy ngodre, a gwnaent lwybr trwyddynt dan y llenni ysblennydd o rew gwyrdd a melyn a gwyn, a than gysgod adenydd yr angylion oedd yn hanner agor. O'r diwedd daeth byddin o ddyneddon mewn dillad amryliw o amgylch y porth, â chleddyfau ganddynt wedi eu gwneuthur o odre pelydrau sêr. Bu'r gweithwyr wrthi am ryw ddau neu dri caead ar fy llygad,— rhyw dridiau, felly, yn eu gwlad hwy, a'r canu hwn wrthi hi o hyd, o hyd.

Wedi iddynt orffen dyblodd grym yr holl ganu ag angerdd newydd, a gwelwn y niwl gwibiog a welais droeon o'r blaen draw ac yma ymhobman,—y bobl oedd yn casglu at ei gilydd. Pan ddaethant ynghyd ffurfient dyrfa oedd bron yn ddiderfyn, a safasant bob ochr i'r ffordd a arweiniai at y deml rew. Yna gwelid gorymdaith yn dyfod o'r pellter. Ar flaen yr orymdaith yr oedd seindorf yn canu cyrn arian o glychau iâ â'u holl egni. Ar ei hol deuai un arall yn canu cennin y gwinwydd, ac mor fawr oeddynt nes bod rhaid i ddau ohonynt afael ymhob un. Ar ol y seindorf hon deuai un arall yn canu clychau'r gôg, ac ar ei hol hithau un arall yn canu cyrn aur wedi eu gwneuthur o wellt gwenith. Ar ol y seindyrf wele rês ddwbl hir o filwyr yn dyfod ar gefn gwybed amryliw, a milwr mawr tua modfedd a hanner o daldra o'u blaen ar gefn gwas neidr. Yr oedd yr arweinydd hwn a'i farch yn hardd iawn, gan eu bod wedi eu gwisgo â holl liwiau'r enfys. Yna daeth rhes ddwbl arall o filwyr mewn lliwiau tywyllach, ar gefn chwilod disglair, a chlywid sŵn y cerdded o bellter mawr. A gwisgai'r milwyr i gyd gleddyfau wedi eu torri o odre pelydrau sêr.

Tros y llwybr yr oedd llenni a gemau'n hongian oddiwrthynt, wedi eu gweu gan bryfed cop, a phryf copyn â helm goch yn gwylio pob congli bob llen. Rhwng y llenni hyn yr oedd pryfed gen— wair yn bolion syth yn dal baneri, ac arnynt bob math ar ysgrifen croeso, ac ymhlith eraill:

Croeso i'n Brenin a'n Brenhines."

Ar ol y rhai hyn oll gwelwn rywbeth fel cerbyd mawr yn dyfod, ond dim son am olwyn iddo. Wedi ei ddyfod yn nes gwelwn mai llyffant mawr lliwiog, gemog, ydoedd, a disgleiriai dwy gadair hardd ar ei gefn, a dau yn eistedd ynddynt,—mab a merch, y rhai harddaf a welais o gwbl ymysg y dyneddon. Adnabum y ddau yn syth gan mor wahanol oeddynt i bawb. Ef oedd y llanc a'm dringodd nes medru edrych i fyw fy llygad, a'r ferch oedd yr hon a anturiodd i olchi ei waed ac i drwsio ei friwiau cyn gwybod beth allasai fod teimladau'r gynulleidfa tuag ato, wedi clywed ei stori am ei daith i ben y mynydd, a'i waith yn clywed y mynydd yn siarad. A'r mynydd, fel y gwyddoch, oeddwn i.

O flaen y ddeuddyn hyn cerddai nifer o ddyneddon dan weiddi:

Lle i'r Brenin a'r Frenhines. Gwnewch le ar gyfer priodas y Brenin!

Fel y tynnai'r llyffant yn nes i deml fy nagrau, curai'r pelydrau sêr a dywynnai i lawr arnaf mor gyflym nes bod y pelydrau sêr a godai o'r llynnoedd dwfr yn y gwaelod yn canu fel telyn. Curai dafnau niwl anadl y creaduriaid yn ei gilydd hefyd nes canu fel clychau tros y wlad. Trwy'r cwbl yr oedd y ddaear a'r awyr yn ganu i gyd, a thrwy'r canu clywid sŵn cerdded araf, cyson, urddasol y gwybed a'r chwilod, a'r llyffant a gludai'r brenin a'r frenhines. A'r tu ol i'r orymdaith fawr, a thipyn o amser rhyngddynt, deuai mintai o forgrug a gwrachod lludw, yn cario bwyd ar gyfer y wledd.

O'r diwedd cyrhaeddodd yr orymdaith y deml rew, a safodd y llyffant a'i lwyth ychydig cyn cyrraedd y llen odidocaf o'r cwbl. Casglodd y dyrfa ynghyd oddiamgylch, ond heb ddyfod yn rhy agos rhag iddynt grynu'r ddaear â'u dwndwr nes i'r deml gwympo,—dyna'r ffordd y dinistrir temlau yn Nhir y Dyneddon, trwy ddwndwr y difeddwl. Daeth y mab a'r ferch oddiar gefn y llyffant, cerddasant yn ddiesgeulus dan y llen odidocaf honno, ac aethant ar eu gliniau. Tir rhyfedd yw Tir y Dyneddon,— o ddagrau y gwneir temlau yno, a'r bachgen fu'n gwaedu er mwyn clywed y mynydd yn adrodd ei gyfrinach, a'r ferch a olchodd ei waed ac a drwsiodd ei ddoluriau, o bawb, a wnaed yn frenin a brenhines. Ac yr oedd seindorf pob tymor ynghyd yn yr orymdaith.

Peidiodd pob sŵn pan blygodd y mab a'r ferch ar eu gliniau, ond sŵn y diferion a wnai'r deml rew yn un gloch fawr. Cyfododd rhywun ar ei draed, a eisteddai yn y pen pellaf o dan y llen fawr, ac yr oedd clychau iâ yn ymylwe ar odre ei fantell, ac ar ei llewys a'i gwddf. Dechreuodd hwn ddarllen a siarad, ac o'r diwedd dywedodd fod En y mab, ac Eg y ferch, yn ŵr a gwraig briod ynghyd. Estynnwyd dwy goron o blu eira iddo gan rywun, a rhoddodd hwy ar eu pennau, ac ni welwyd erioed blu eira â'u seithliw'n ddisgleiriach a'u plethiad yn fwy cain. Yna dywedodd y gŵr a'u coronodd mai hwy o hynny allan fyddai brenin a brenhines y wlad. Bellach, nid dau fyddent, ond un—un yn eu cartref, ac un ar yr orsedd.

Ar hyn dyna un floedd fawr yn diaspedain, nes crynu'r deml yn beryglus, ac enwau'r brenin a'r frenhines wedi toddi ynghyd yn un i'w glywed ar bob llaw. Ac wrth gwrs, yr enw hwnnw oedd Eng. Dyna'r gair a seinid yn yr holl nodau a genid, pa mor uchel neu mor isel bynnag y byddent. Eng a ganai fy nagrau a ddisgynnai o'r llygad a wrthodai agor ar y byd newydd hwn. Eng a genid gan wahanol nodau pelydrau'r sêr. Eng meddai'r diferion niwl a godai o'r barrug a'm cuddiai, wrth daro yn ei gilydd. Eng oedd sŵn tyfu pob blodyn wrth ymwthio o'r tir. Dyna hefyd a genid gan y clychau iâ, a chlychau'r gôg, a chennin y gwinwydd, a chyrn gwellt gwenith, yn eu gwahanol nodau. Ac O! y canu a glybûm pan gychwynnodd y brenin a'r frenhines yn ol. Ymunai popeth i ganu'n unllais mewn mil o nodau, ond yr un gair a glywid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng.

Wedi mynd dipyn o ffordd o'r deml safodd yr orymdaith, a chasglodd o amgylch y brenin, ac esboniodd yntau iddi feddyliau'r mynydd, a meddyliau'r sêr, a meddyliau'r coed a'r ddaear, fel yr adroddasant hwy wrtho ef o dro i dro, a synnai pawb fod y byd o'u hamgylch mor gyfoethog o feddyliau a hwythau heb wybod dim amdanynt. Ar ol i'r brenin orffen dechreuodd y canu wedyn, mewn mil o nodau, ond yr un gair a seinid ymhob nodyn, a hwnnw oedd Eng. A pharhaodd y canu nes imi gau fy llygad.

Wedi dyfod yn ol i'm gwlad fy hun, sylwais mai Eng yw'r gair a genir gan bopeth yn y byd o'm hamgylch. Os gwrandewch, dyna'r gair a glywch gan yr ŷd dan yr awel, a'r nant wrth sisial, a'r dail wrth ysgwyd a churo'i gilydd, a hyd yn oed gan wifrau'r teligraff, a dwfr poeth mewn cwpan dê â chrac ynddi. A wnant hyn, tybed, mewn coffadwriaeth am briodas En ac Eg, brenin a brenhines y wlad lle cedwir popeth sy'n canu yn y byd yma, o'r rhew i'r blodau, nes ein bod mewn angen amdano? Os felly, y mae'n hyfryd gan bethau'r byd feddwl fod ei drysorau ynghadw yn y wlad a ddewisodd yn frenin fachgen a gollodd ei waed wrth geisio edrych i lygad yr haul, a chlywed meddyliau'r mynydd; ac yn frenhines yr eneth a aeth, heb gym— helliad y dyrfa, i olchi ei waed a thrwsio ei glwyfau. Gan hynny, gorfoledd wedi ei sylfaenu ar aberth yw holl ganu'r greadigaeth.

IV.—PAHAM NAD YDYW BYWYD I GYD YN CHWARAE.

DAU ddynan bach o'r enw Ec ac Ii oedd y rhai mwyaf direidus a welais erioed. Nid Ii y llygaid bach oedd hwn, ond ŵyr neu or-ŵyr iddo, oherwydd treuliai'r dyneddon eu hoes mor gyflym nes eich bod yn colli pob cyfrif yn eu cylch. Deuai un ohonynt ger eich bron yn blentyn, ac wedi i chwi synfyfyrio ychydig ac edrych arno drachefn byddai'n hen ddyn. Treulient eu hoes gymaint cyflymach na ni ag y gwnawn ni yn gyflymach na'r Wyddfa. Am hynny nid wyf yn siwr iawn beth oedd perthynas yr Ii hwn â'r un y soniais amdano o'r blaen, ond eu bod o'r un deulu. Pan sonnid y bechgyn direidus " gwyddai pawb pwy oedd ym meddwl y siaradwr. Bechgyn drwg y gelwid hwy gan yr hen ddyneddon, a dywedent eu bod yn fyw i bob drwg, ond yr oeddynt yn rhy lawen o lawer i fod yn ddrwg. Yr oedd eu chwerthin yr un fath yn union a sŵn mintai o glychau iâ yn torri a disgyn i lawr i'r ddaear, ac wedyn yn rholio am bellter ar draws ei gilydd ar hyd y rhew. Ac ni all chwerthin felly byth ddyfod o galon ddrwg. Nid hwy oedd yr unig rai direidus. Dilynai tri arall hwy i bobman, o'r enwau Aets, ac El, ac Aa; ond hwy oedd yr arweinwyr. Ac yr oedd eu hysbryd anturiaethus a rhyfygus yn ddihareb. Bu bron i Ec ddifetha gorymdaith briodas y brenin a'r frenhines. Pan oedd pawb yn disgwyl am y brenin, dringodd i fyny i ben un o'r pryfed genwair a ffurfiai bolion i ddal y baneri, ac Ii yn dal ei draed. Eisiau cael golwg glir ar y brenin oedd arno, eb ef, ond ni thrafferthodd i egluro paham y treuliodd yr amser aros i gosi'r pryf druan nes iddo ei ddyblu ei hun gan chwerthin, a thorri'r rhaff a gollwng y baneri i'r baw. Ac nid oedd olwg am Ec ac Ii pan ddaeth y pryf ato ei hun wedi'r ffit chwerthin a gafodd dan y gosfa. Y ddau hyn, ynghyda'r tri arall, a gaffai'r bai am bob drwg. Bu bron iddynt daflu'r orymdaith i helbul arall cyn diwedd dydd coroni'r brenin a'r frenhines. Yr oeddynt yn edmygwyr mawr ohonynt, ac aent trwy ddwfr a thân, os byddai raid, er eu mwyn. Pan ddaeth dynan y wisg ddieithr i'r deml ar gyfer derbyn y brenin a'r frenhines, beth a welai ond Ec yn sefyll ar ei draed ar y bluen eira oedd i fod yn goron y brenin, ac Ii ar yr un oedd i fod yn goron y frenhines, ac Aets ar gefn Ec, ac El ar gefn Ii, ac Aa yn archwilio'r coronau. Bu bron i ddynan y wisg ddieithr lewygu, ond yr oedd eu heglurhad yn eithaf diniwed—ddim am i'r brenin a'r frenhines gael coronau gwan yr oeddynt, ac am eu profi cyn i'r coroni ddigwydd. A gurodd gŵr y wisg ddieithr hwy fel y gwneir i blant felly yn ein gwlad ni? Naddo. Gwelodd fod eu bwriad yn iawn os camgymerwyd ganddynt wrth ei weithio. A lle iawn i blant yw Tir y Dyneddon—bernir hwy bob amser yn ol eu bwriad. Am hynny ni churir neb am fwyta eiren Fair oddiar y pren i edrych a ydynt yn ddigon aeddfed i'w casglu, neu am osod gwê pryf copyn (sy'n rhaff yno) ar draws y ffordd yn yr eira i edrych a ydyw'n ddigon cref i daflu pobl i lawr, ac ni raid mynd i wely'n gynnar heb ddim swper am fynd i'r ardd bob dydd i godi'r hadau o'r pridd i edrych a ydynt yn tyfu, na dim o'r fath. Am fod eu calonnau yn iawn cododd dynan y wisg ddieithr bob un o'r pump hyn fyny, a chusanodd hwy bob yn un ac un, canys credai mai profi ei waith ef a wnaent, am ddarfod iddo eu cymryd ar eu gair, a bodlon oedd i'w waith fynd o dan bob prawf. Gwahoddodd hwy i aros yng nghanol y deml i weled priodi a choroni 'r brenin a'r frenhines.

Byth ar ol hyn, ac yn enwedig ar ol clywed y brenin yn egluro i'r dyrfa beth oedd meddwl popeth, meddylient y byd ohono, a phenderfynasant geisio gwneuthur popeth yr un fath ag ef, ond gan mai plant oeddynt, ni allent, wrth gwrs, wybod paham y gwnai ef y peth a ddynwaredent hwy. Wrth ddynwared y brenin heb wybod ei feddyliau, bu bron i Ec ac Ii ar ddamwain fynd yn fwy poblogaidd na hyd yn oed y brenin ei hun, ac i'r brenin oherwydd hynny orfod gadael ei orsedd.

Buasai hynny, fel y dywedais, yn drychineb mawr. Ond achubwyd y dyneddon mewn pryd o'r helynt hwnnw.

Ec a ddarganfu gyntaf ei bod yn amhosibl brifo wrth chwarae yn Nhir y Dyneddon, a'r darganfyddiad hwn a wnaeth yr helynt i gyd. Fel hyn y bu yn y rhialtwch ar ol y coroni yr oedd cystadleuaeth dringo'r enfys, ac un arall i ddringo pelydrau'r sêr, a mawr oedd yr hwyl gan eu bod mor ryfeddol o lithrig. Ni buasai'n anodd dringo'r enfys pe buasai ar ei hyd ar lawr, oherwydd gellid gwneuthur grisiau o'r lliwiau i gamu arnynt, ond gan eu bod ochr yn ochr, ac yn syth i fyny, y cwbl a ellid ei wneuthur oedd ceisio gafael yng nghonglau'r lliwiau. Eithr er mor anodd yr enfys yr oedd dringo pelydrau'r sêr yn galetach fyth, gan mor llithrig oeddynt. Ymgeisiodd llawer, ac o'r diwedd daeth Ec ymlaen. Aeth yn uwch na neb, ond gwyddoch pa mor ystrywgar yw'r enfys. Pan oedd ef yn yr uchelder, bron o'r golwg, diflannodd yr enfys, ac i lawr ag ef, a chwympodd dros chwe modfedd a hanner, ac y mae hynny'n gwymp aruthrol yn Nhir y Dyneddon. Caeodd pawb eu llygaid a rhoddasant eu dwylo ar eu clustiau gan arswyd, ond er syndod pawb nid oedd Ec ddim gwaeth. Ef aeth uchaf hefyd yng nghamp dringo pelydrau'r sêr, a phan oedd eto yn yr uchelder, bron mynd o'r golwg, daeth cwmwl oddiwrth fy mhen na fedrwn ddim oddiwrtho—pe medraswn rywbeth oddiwrtho ataliaswn ef rhag torri ar y chwarae—a chuddiodd y sêr o'r golwg. Tynasant hwythau eu pelydrau adref yn ol gan lusgo Ec i fyny gyda hwy. Dychrynodd pawb wedyn wrth weled Ec yn diflannu, ond rhaid ei fod wedi llwyddo i'w gollwng cyn cyrraedd eu cartref, canys daeth i'r golwg yn union, ac i lawr ag ef, a phan darawodd y ddaear, i fyny ag ef yn ol droeon, yn union fel pêl, eto nid oedd fymryn gwaeth.

Bu'r darganfyddiad hwn—bod yn amhosibl brifo wrth chwarae yn ddiwedd ar bob gwaith yn y wlad am yn hir iawn. Ymdaflai pawb, yn hen ac ieuanc, i chwarae, a gwnaent y pethau mwyaf annisgrifiol, eto ni frifai 'r un ohonynt byth yn y chwarae garwaf. Ac ymroddodd yr hen ddyneddon yn fwy i chwarae na hyd yn oed y rhai ieuainc. Y rheswm na chwaraeent hwy cyn hyn, ac y ceryddent yr ieuanc amdano, oedd nid am eu bod yn ei gashau, ond am y credent yn ddistaw eu bod wedi anystwytho gormod eu hunain i ymyrryd ag ef yn ddiogel. Cymaint oedd yr ymdaflu yma i chwarae nes i'r brenin fod bron colli ei afael ar y bobl. Ac er mor boblogaidd y bu ar ol dywedyd meddyliau popeth wrthynt, ni fu ond y dim na throisent arno a dywedyd wrtho am gadw ei feddyliau iddo ei hun, yn anterth y plesera hwn. Codent gymaint o lwch wrth ddawnsio a neidio nes llwydo'r llifeiriant dagrau na fedrwn eu hatal rhag dyfod o'm llygad a wrthodai agor. Aeth y deml rew yn bygddu, ac ataliwyd y pelydrau a ddisgleiriai o'r rhew trosti i gyd. O ddisgleirdeb y deml y deuai llawer iawn o'r goleuni a oleuai'r wlad, ond ni wyddai'r dyneddon hynny. Meddylient mai un goleuni oedd y cwbl, ac mai o'm llygad y deuai hwnnw. Ond heb sylwi yr oeddynt mai gwahanol oleuadau'n cydgymysgu eu goleuni ydoedd. Deuai goleuni o'r sêr, a'r diferion niwl, a'r llynnoedd dwfr, a'r glaswellt, a'r blodau, yn ogystal ag o'm llygad i a'r deml rew. Eithr ni sylwasant hwy ond ar oleuni fy llygad. Un diwrnod pan ar ganol chwarae, eisteddodd un dynan ieuanc i lawr yn sydyn, a dechreuodd grafu ei ochr chwith â'i holl egni, a chrafu y bu am hydoedd. Cyn bo hir gwelid un arall yn eistedd ar ganol ei chwarae ac yn crafu â'i holl egni, ac un arall ar ei ol yntau, ond methent yn eu byw gyrraedd y cosi, oherwydd y tumewn iddynt yr oedd, yn y lle y gwyddoch chwi fod eich calon ynddo, ond ni wyddent hwy mo hynny. Crafent a chrafent, yna rholient ar eu hyd ar lawr, ond methent ddifa'r cosi. Cynhyddodd y crafu hwn ymysg y bobl ieuainc—ac yn eu mysg hwy'n unig yr oedd—a chymaint y cynnydd cyflym nes arafu'r chwarae. Daeth yr hen rai heibio, cywilyddiai rhai ohonynt arddel eu perthynas â'r dyneddon ieuainc oedd yn crafu, gan ofni y dywedid mai rhywbeth amhriodol yn eu cartrefi, budreddi neu rywbeth felly, a achosai'r peth. Gwawdid hwy gan eraill, a dywedent mai dyrysu yr oeddynt. Eithr cynhyddu a wnai'r cosi yn nhu mewn y dyneddon ieuainc, a hwythau'n eu darnio eu hunain i geisio dyfod o hyd iddo. Dywedai rhai, dipyn mwy difrifol na'i gilydd o'r hen rai, mai'r gawod oedd arnynt, ac awgryment iddynt fynd i'w gwelyau wedi eu lapio mewn dail tafol. Gwnaeth rhai hynny, ond nid oedd y cosi ddim gwell. O'r diwedd peidiodd y chwarae yn llwyr, gostyngodd y llwch, a chliriodd yr awyr. Gloywodd y llifeiriant dagrau, ac o dipyn i beth gloywodd y deml rew, a fflachiodd pelydrau allan ohoni ymhobman drachefn i oleuo'r wlad. Gwelid y naill ar ol y llall o'r crafwyr yn codi, gan ddywedyd bod y cosi rhyfedd hwn yn gwella. Gwellhaodd pawb cyn bo hir, ac ail ddechreuwyd ar y chwarae yn wylltach nag erioed. A chanmolid y dail tafol, a phopeth arall a ddefnyddiwyd, am y gwella. Ond nid y dail tafol na dim arall felly a'u gwellhaodd o gwbl. Chwarae a chwarae oedd eu hanes, a dechreuodd y llwch godi wedyn, a'r cosi a'r crafu, a daeth yr helynt i gyd yn ol. Cerddai distawrwydd yn araf a chyson tros yr holl wlad. Mor drwm y cerddai nes i chwi fedru ei glywed. Ac o bob sŵn rhyfedd a glywais, nid oedd dim trymach, dyfnach, a dieithriach, na'r distawrwydd hwn wrth gerdded dros y fro.

Yn clywed y distawrwydd ar ol y chwarae mawr, daeth y brenin a'r frenhines heibio i holi'r achos ohono. Yng nghanol y dirgelwch dieithr hwn parod iawn oedd y dyneddon ieuainc i wrando ar y brenin yn siarad, ond ymarhous iawn oedd yr hen rai, a thueddent i wawdio a dywedyd mai ffug rhai wedi blino ar y chwarae, am eu bod yn rhy wan i'w ddal, oedd y cwbl. Awgryment hefyd mai ofn colli ei orsedd oedd dan awydd y brenin i wella'r clwyf. Bron na thueddent i rwystro'r brenin rhag siarad, gan faint eu rhagfarn. Eithr daeth ef i'w canol yn hollol ddiofn, canys gwyddai ei fod yn hollol ddiogel—heb neb ond yr hen yn ei erbyn, a'r ieuanc yn awchus o'i blaid. Gwyddai, meddai, fod pob un yn ddiogel sydd â'r ieuanc o'i blaid, beth bynnag fyddo gwrthwynebiad yr hen. Pan ddechreuodd ef siarad, distawodd popeth fel y bedd. "Gwyddwn," meddai, na ellir brifo wrth chwarae; nid brifo a wnewch wrth i chwi chwarae, ond codi llwch y ddaear, a thrwy hynny golli golwg yn y cynnwrf ar bopeth ond y teganau chwarae sy'n eich dwylo. Cuddia'r llwch y pethau uwchlaw i chwi i gyd o'ch golwg, heblaw eu difwyno. Am y cosi, y tu mewn i chwi y mae, ac ofer yw ei grafu, canys ni ellir ei gyrraedd, ac ni wna dail tafol na dim arall les iddo. Nid oes dim ond un math ar bethau yn ddigon cain i dreiddio ato,—pelydrau goleuni. Ac nid pob pelydryn goleuni chwaith. Ni all pelydrau sêr wneuthur hynny, na phelydrau'r haul ar ben y mynydd mawr. Ni all dim pelydrau wneuthur hynny ond y rhai a ddaw o'r rhew sy'n y deml yng ngwaelod y mynydd. Goleuni'r deml unig sydd â'i belydrau'n ddigon cain i gyrraedd at y boen a'i wella. Tywynent hwy arnoch bob amser i'ch cadw'n iach, ond ni wyddech chwi hynny. Ac y mae'r llwch a godasoch wrth chwarae wedi diffodd y rhai hynny trwy ddifwyno'r dwfr."

Wedi i'r brenin dewi gorffwysodd tawelwch mawr tros y lle, ac edrychai pawb ar ei gilydd yn syn. O'r diwedd cododd yr hen ddyneddon bron gyd, ac aethant adref—rhai yn brudd, rhai yn edrych yn wawdlyd, eraill yn codi eu trwynau ar y brenin gan ei ddirmygu am awgrymu meddyginiaeth a gostiai iddynt roddi heibio eu chwarae,—a dail tafol, yn ol eu tyb hwy, yn gwneuthur y tro. Wedi iddynt hwy fynd cychwynodd y brenin ymaith, ae aeth y gweddill, yn hen ac ieuanc, i gyd ar ei ol. Arweiniodd ef hwy at y deml, ac aent iddi ar flaenau eu traed rhag ei hysgytio. Wedi aros yno'n hir, aeth pawb allan yn llawen, a'r cosi rhyfedd o'r tu mewn wedi ei gyrraedd, a'i symud gan belydrau'r deml rew. A phenderfynodd pob un beidio â chwarae gormod byth mwy, rhag codi llwch eto a duo'r dwfr. Dyna'r rheswm paham nad ydyw bywyd i gyd yn chwarae yn Nhir y Dyneddon.

V. "A FO DEDWYDD BID FERFA."

NI pheidiodd y chwarae yn llwyr. Y gwahaniaeth oedd iddynt droi i chwarae o dan arweiniad y brenin, yn lle ar ei waethaf, a daethant trwy hynny i weled nad oedd chwarae yn dinistrio bywyd. Yn wir, nad oedd bywyd ddim yn fywyd heb chwarae ynddo, ond i'r chwarae beidio â chodi llwch, a'u meddwi, a'u gyrru i wawdio'r brenin.

Fel hyn y gwelsant ei werth. Soniais eisoes am Ec, Ii, Aets, El, ac Aa. Hwy a ddarganfu beth yr oedd chwarae da, a gwnaethant hynny trwy ddilyn ôl y brenin. Pan euthum i'r wlad gyntaf ni wyddai'r dyneddon beth oedd olwyn, na berfa, na cherbyd. Ni welsant erioed yr un, ac ni fu cerbyd erioed yn y wlad. Llyffant oedd cerbyd y brenin, a marchogaeth chwilod a gwybed yr oeddynt hwy, heb wybod y gellid eu rhoddi mewn tresi. Eithr cyn imi fod yno yn hir trowyd y wlad yn un ysgol fawr i arfer y creaduriaid hyn mewn tynnu cerbydau, a bu bron i bawb golli eu pennau â'r darganfyddiad, a gwnaethent hynny onibai fod y brenin wedi eu hatgoffa o'r helynt y buont ynddo wrth chwarae'n ddibaid ar ei waethaf ef. A da iawn oedd iddynt wrando ar y brenin, neu chwalasai'r deyrnas, ac aethai'r dyneddon o dan draed y chwilod a'r gwybed, canys ni chlywsai yr un a ddyfeisiodd yr olwyn gyntaf mo'r mynydd yn siarad, ac ni allai neb gadw'r deyrnas wrth ei gilydd, ond un a ddeallai feddwl y mynydd, ac a glywsai beth a ganai'r pelydrau sêr ar flew ei wallt, ac a wypai beth oedd meddwl y cwmwl yn y gân a ganai ei ddiferion wrth daro yn ei gilydd o amgylch pen y mynydd. Gwelsant fod yn bosibl iddynt gael pethau da iawn trwy anturiaethau'r chwaraeon, ond na allent gael y pethau goreu i gyd.

Nid oedd dim yn tycio i Ec ac Ii, a'r tri arall, ar ol i'r brenin wella'r crafu rhyfedd hwnnw, ond chwarae brenin. Weithiau âi Ec yn llyffant ac Ii yn frenin ar ei gefn, ac Aets, ac Aa, ac El, yn weision iddynt; weithiau âi Ii yn llyffant ac Ec yn frenin, ac âi pob un ohonynt yn rhywbeth yn ei dro. Un diwrnod wedi chwarae pob ffurf ar fywyd y brenin y gallent feddwl amdani, meddyliodd Ec mai iawn fuasai ceisio gwneuthur yr un peth ag a wnaeth y brenin pan ddangosodd mai ef oedd y brenin i fod, a'r peth hwnnw oedd dringo'r mynydd i'w glywed yn siarad, ac i weled yr haul yn codi. I ffwrdd â hwy yn syth. Dechreuasant trwy redeg i fyny—ni fuont yn dringo mynydd erioed o'r blaen. O dipyn i beth aethant i gerdded, dringent ychydig ac eisteddent i lawr, yna dringo wedyn ac eistedd tipyn, nes blino'n lân. Wedi cyrraedd tua'r ail fotwm ar fy nghôt, a gorffwys dan ei gysgod, dechreuasant deimlo syched anghyffredin ill pump. Crwydrasant nes dyfod at ffrwd fy nagrau, ac yfasant o'i dwfr, ond ni hoffent ef o gwbl. Yr oedd cam-flas arno iddynt hwy. Braidd yn ieuanc oeddynt i yfed o ddiod mor gref. Eisteddasant i siarad, a sonient am yr adeg pan fyddai'r cyntaf ohonynt a glywai'r mynydd yn siarad, yn frenin, wedi marw o'r brenin oedd ganddynt, ac fel y byddai pawb yn ddifyr a diboen eu byd yr adeg honno. O dipyn i beth llonyddasant a chysgasant, ond nid am y brenin a'r byd diboen oedd i ddyfod y breuddwydiodd yr un ohonynt, ond am gartref, a'u rhieni, a'r deml rew, a phethau na chlywsant erioed am danynt. Dwfr y ffrwd ddagrau oedd yn gweithio ynddynt, ac yn deffro hiraeth am y pethau anwylaf oedd ganddynt, rhai ohonynt yn bethau na welsent mohonynt erioed, ac na chlywsent erioed son amdanynt, a daeth awydd mawr arnynt am gael gweled eu cartref, a'u rhieni, a'r pethau eraill na wyddent beth oeddynt. Yr oedd rhyw elfen felly yn nwfr y ffrwd ddagrau,—deffro yn yr hwn a yfai ohono ryw hiraeth am bethau na ddychmygodd erioed am eu bod, heblaw hiraeth mawr am ei dad a'i fam. Deffrôdd y bechgyn hyn o'r diwedd a dechreuasant deimlo, meddynt wrth ei gilydd, eu bod wedi gadael cartref ers cymaint o amser nes bod arnynt awydd mawr am weld eu rhieni, mwy o awydd na hyd yn oed am glywed y mynydd yn siarad a gweld yr haul yn codi ar ei ben. Yn wir, yr oedd arnynt gymaint o hiraeth amdanynt a phe na buasent wedi eu gweld ers blynyddoedd. Ac nid yw'r mynydd am ddywedyd dim wrth neb ond y rhai sy'n fodlon aberthu hyd yn oed hiraeth er ei fwyn. Y cwestiwn mawr yn awr oedd, pa fodd yr oedd y cyntaf i fynd i lawr, oherwydd buasai cerdded yn ol yn tybio cymryd amser mawr. Ac aeth yn gystadleuaeth. Cychwynnodd Aets ac Aa redeg am y cyntaf, ac ni welsoch erioed gamau brasach i ddyneddon na'r eiddynt hwy. Eisteddodd El ar garreg, a dechreuodd lithro i lawr y mynydd mor gyflym ag i chwi fethu ei weld ond ar brydiau. Gorweddodd Ii, a rholiodd i lawr, pasiodd El ar y ffordd tan chwerthin yn braf, a tharawodd yn erbyn un o goesau Aa ac yn erbyn un o goesau Aets, oedd yn methu curo y naill a'r llall, nes eu bod ar eu hyd ar lawr, ac i ffwrdd ag ef tan rolio. Gallai anturio gwneuthur hynny fel y mynnai am mai amhosibl oedd brifo wrth chwarae yn Nhir y Dyneddon. Eisteddai Ec i lawr i'w gweled yn mynd, â rhyw wên yng nghongl ei lygad, a ddangosai fod cynllun yn ei ben, gwell nag eiddo 'r un ohonynt. Wedi iddynt fynd dipyn o ffordd gwyrodd ei ben at ei draed, a phlethodd hwy am ei wddf onid oedd yn union fel olwyn, ac i lawr y mynydd ag ef fel mellten gan droi fel olwyn yn union. Pasiodd Aets ac Aa oedd ar ganol rhwbio'r baw ymaith ar ol eu cwymp. Pasiodd El heb edrych arno, yna pasiodd Ii, ac i lawr ag ef i'r gwaelod cyn i'r goreu ohonynt brin gyrraedd hanner y ffordd i lawr. Wedi cyrraedd eisteddodd a chwarddodd tros y wlad wrth feddwl fel yr oedd wedi eu curo.

Pan ddaeth y cwbl ynghyd rhaid oedd iddo esbonio ei wrhydri iddynt, canys ni welsant sut yr aeth i lawr, gan mor gyflym yr aethai heibio iddynt, Wedi'r esbonio, ni choelient ef ar y cyntaf. O'r diwedd dywedodd wrth Ii, yr amheuwr mwyaf, y cariai ef os mynnai; ac i fyny â hwy yn ol, tan golli eu gwynt a phesychu. Gorweddodd Ec ar lawr, ac 'Ii' ar ei draws; yna lapiodd Ec ei hun am Ii, a phlethodd ei draed am ei ben fel o'r blaen, nes bod Ec fel olwyn ac Ii yn echel iddo. Ac i lawr â hwy fel mellten. Wedi cyrraedd y gwaelod synnodd pawb at fedrusrwydd Ec, ac yr oedd Ii wrth ei fodd â'r dull newydd yma o deithio.

Wedi gorffwys tipyn dywedodd Ec fod ganddo gynllun i fynd â phedwar ohonynt ynghyd, a dyna oedd hwnnw,—iddo ef fynd yn olwyn ac 'Ii' yn echel iddo, i Aets orwedd i lawr ag un troed ar draed Ii, a'r llall ar ei wddf, ac estyn ei freichiau i fyny heibio ei ben a'u cadw yn stiff felly, ac i Aa afael yn nwylo Aets a'i wthio, yna aent yn iawn. Amheuai pawb y cynllun ond Ec, eithr penderfynasant ei brofi am fod Ec wedi ei ddangos ei hun mor fedrus eisoes. Dyna gychwyn, ond fel y troai Ii, llithrai o hyd oddiar Aets, nes i Aets daro ar gynllun o bwyso arno â'i wadnau, a'i ddal yn ei le â'i sodlau; yna er syndod pawb gweithiai pethau'n ardderchog,—aent ymlaen yn union fel yr hyn a alwn ni yn ferfa. Gadawsid El ar ol yn sefyll i edrych, ond nid oedd ef am gymryd ei adael mor rhwydd a hynny, ac wedi gweled mor hwylus yr aent rhedodd ar eu holau, neidiodd ar fynwes Aets, ac i ffwrdd â hwy oll, felly, tan chwerthin, y pedwar arall yn ferfa, ac El yn deithiwr ynddi. Ac felly yr aethant i mewn i'r pentref. Rhedodd pawb o'r golwg gan ofn pan welsant hwy gyntaf, ond daeth un ac arall o'r rhai mwyaf mentrus allan o dipyn i beth, nes o'r diwedd i bawb gasglu o'u hamgylch, a phan welsant y pum bachgen direidus hyn yn datod oddiwrth ei gilydd, chwarddodd pawb nes siglo, a rhai ohonynt yn rholio ar hyd y llawr gan chwerthin. Yn clywed twrw daeth y brenin allan, plygodd y pump eu pennau, a gwahoddasant ef i fod yn deithiwr yn lle El. Ffurfiasant yn ferfa wedyn, eisteddodd y brenin ar fynwes Aets, ac aethant o amgylch y dyrfa ac yn ol. Wrth wneuthur hyn ni allent beidio â chwerthin nes i'w sŵn fod fel miloedd o glychau iâ yn taro yn ei gilydd. Yn wir yr oedd yn hyfrytach o lawer na chanu clychau iâ a chlychau'r gôg,—ni chlybuwyd erioed chwerthin mor felys â chwerthin y bechgyn hyn wrth gario'r brenin. Wedi i'r brenin ddyfod oddiar fynwes Aets gofynnwyd iddynt beth oedd y chwerthin dilywodraeth yma oedd arnynt, a dywedasant na allent beidio,—bod rhyw ddedwyddwch annisgrifiol wedi dyfod drostynt wrth gario'r brenin. Cymerasant amryw eraill o amgylch yn eu tro, a chwarddent yr un mor felodaidd ar bob taith, gan faint y dedwyddwch rhyfedd a ddeuai trostynt. Ac mor ddieithr oedd y dedwyddwch rhyfedd nes i'r brenin gychwyn dihareb oedd ar lafar yno tra y bum yn y wlad, a'r ddihareb oedd "A fo dedwydd bid ferfa." Cewch chwi ei hesbonio yn eich ffordd eich hunain.

Ni bu erioed y fath rialtwch, a bu bron i bawb golli eu pennau eilwaith, a gwneuthur Ec yn frenin, ond gofynnodd un hen ddynan i Ec a glywsai'r mynydd yn siarad, a phan gyfaddefodd fod hiraeth am gartref wedi ei rwystro i'w gopa, ysgydwodd yr hen ŵr ei ben, a deallodd pawb beth a feddyliai. Gwyddent na allai neb ddisgwyl clywed y mynydd yn siarad os cadwai hyd yn oed ei gartref yn ei feddwl o flaen yr awydd am ei glywed. Er hynny aeth Ec yn boblogaidd iawn, a chan mai ef oedd yr unig un a allai wneuthur olwyn ohono ei hun, rhaid oedd gwneuthur berfa o rywbeth heblaw o ddyneddon bach, ac Ec a ddarganfu'r ffordd. Dywedodd y brenin mai wrth fynd yn olwyn berfa ei hun y darganfu Ec y ffordd o wneuthur berfa o rywbeth arall, bod yn rhaid i chwi fynd dan y baich eich hun bob amser cyn taro ar gynllun i wneud beichiau'n ysgafn. A'r "rhywbeth arall" yma oedd coed. Yr adeg honno y meddyliwyd am ferfa goed am y tro cyntaf erioed. A'r cyntaf i fynd iddi oedd y brenin, er mwyn ei phrofi cyn i neb arall anturio iddi. Ni chlywsoch erioed ddim yn gwichian cymaint, wrth symud, a'r ferfa honno; a dywedai pawb mai ceisio chwerthin yr ydoedd am ei bod mor ddedwydd wrth gario'r brenin. O ran hynny, gwichiai'r ferfa bren beth bynnag a roddech ynddi. Cofiodd y bobl ddihareb y brenin, a phenderfynasant fod y dedwyddwch o gario beichiau eraill mor fawr nes bod hyd yn oed berfa bren yn chwerthin wrth y gwaith. Ac ni chlybuwyd am bren yn chwerthin erioed o'r blaen.

Nid oedd Ec yn hollol fodlon ar ei ferfa fel peth priodol i gario'r brenin ynddi, am y siglai gymaint o un ochr i'r llall. Pwy a gyfarfu ag ef un diwrnod ond cefnder iddo o'r enw Oo. Edrychodd arno a dywedodd wrtho y dylai wneuthur cystal olwyn ag yntau, ac wedi tipyn o ymarfer llwyddodd Oo i wneuthur olwyn ardderchog ohono ei hun. Casglwyd y gweddill o'r bechgyn direidus ynghyd, lapiodd Ec ei hun am draed Ii, ac Oo ei hun am ei wddf, gosododd Aets ei hun ar ei hyd fel o'r blaen, ac yn lle gwthio aeth Aa i dynnu rhwng breichiau Aets, ac El i eistedd ar ei fynwes a dangos i Aa y ffordd i fynd, ac i ffwrdd â hwy ar garlam. Mwy o lawer oedd y rhialtwch y tro yma nag erioed, ac wedi i'r brenin eistedd ar fynwes Aets, a'i sicrhau ei hun fod popeth yn iawn, aethant deirgwaith o amgylch y dyrfa, gan chwerthin nes i bawb chwerthin gyda hwy. A dyma'r cerbyd cyntaf fu erioed yn Nhir y Dyneddon.

Aeth Ec yn fwy poblogaidd fyth, a chododd cri wedyn am ei wneuthur yn frenin. A chan ei fod mor fedrus, ac wedi dyfod â chymaint o ddedwyddwch a hwyluster i'r deyrnas, credai'r brenin, yntau, mai Ec, ac nid ef, a ddylai fod yn frenin. Awgrymodd hynny i Ec ei hun, ond ni fynnai wrando ar y peth, a dywedodd fod y neb a allai glywed y mynydd, a'r sêr, a'r cymylau, yn adrodd eu meddyliau, yn fwy cyfaddas i lywodraethu na'r neb na wnaeth ddim ond cerbyd i'r bobl, ac mai tuedd cerbydau wrth yrru gormod arnynt oedd codi llwch. Am hynny mai perthyn i'r un teulu â chwarae yr oedd dyfeisiau, ac y gwyddai'r dyneddon yn dda fod codi gormod ar lwch y ddaear yn diffodd pelydrau'r deml, ac y gwyddent yn dda hefyd beth a ddilynai hynny.

Felly, er bod Ec trwy ei ddyfeisiau wedi trawsnewid y wlad, cofiodd y bobl, pan ddywedodd wrthynt, na ellid dringo'r mynydd mewn cerbyd—mai dringo'r mynydd a gwybod ei feddyliau oedd yr antur fawr ac am hynny nad ydoedd Ec yn gymwys i fod yn frenin arnynt. Llawen iawn oedd Ec wedi iddo ei roddi ei hun i wasanaethu'r dyneddon, a chwarddodd lawer yn ei lawenydd. Er hynny, nid oedd ei lawenydd i ddisodli un y brenin, gan fod hwnnw'n rhy ddwfn i chwi chwerthin o'i herwydd. Gwelodd mai ei le ef oedd dal i gario'r brenin.

VI.—DARGANFOD Y RHOSYNNAU CUDD.

AETH cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth heibio, heb imi fedru gwneuthur dim ond prin eu cyfrif, yna bu'r digwyddiad hwn. Un bore, ymhell cyn i'm llygad agor, teimlwn awydd hynny,

hynny, canys clywn ryw sŵn rhyfedd na chlybûm erioed mohono o'r blaen. Dechreuodd fel su'r ffrwd ddagrau a ddisgynnai y tu ol i rew y deml, o'i glywed o'r pellter, ond wrth gynhyddu lleddfai fel griddfan plentyn bach mewn poen, a dwy ystafell neu dair rhyngoch ag ef. Clywais hynny unwaith pan fu farw Annie Bach. Ar ol peidio â gweiddi yn ei phoen, aeth i riddfan yn ysgafn, ysgafn, ac ysgafn iawn oedd o'n hystafell ni â dwy ystafell rhyngddi a'r un y bu hi farw ynddi. Dyna'r sŵn rhyfeddaf a glywais erioed. Nid oedd yn debyg i ddim ond i'r awyr ei hun yn ochneidio yn ei hunigrwydd, rhwng y mynyddoedd pell. Sŵn felly a'm deffrôdd y bore hwn. Pan agorais fy llygad, yr oedd prudd-der dieithr tros y tir; a'r dyneddon, yn lle dawnsio a chwarae, yn sefyll yn dyrrau yma ac acw yn edrych yn brudd a syn. Daeth chwa â'r griddfan ysgafn yn gryfach tuag ataf, ac wrth sylwi, gwelais yr achos,—y blodau oedd i gyd yn glaf, ac yn gwyro eu pennau tua'r ddaear, a phob un yn griddfan, fel y gwna blodyn pan fo mewn poen.

Dechreuodd y dyneddon, yn y man, wneuthur eu goreu yn wyllt i'w gwella, a'u dal i fyny, ond syrthio i'r ddaear yn llesg a wnaent, y naill ar ol y llall. Canu hyfrytaf y wlad oedd canu tyfiant y blodau, yn enwedig rhai ohonynt, ond darfu hwnnw, ac yn ei le yr ochain tyner, aflonydd hwn. A gwlad flodeuog yw Tir y Dyneddon,—onid yw holl flodau pob tymor yno yn tyfu ynghyd? A hi yw cartref holl bethau hyfryd ein gwlad ni, na ddeuant yma ond yn eu tro, yn gymysg â phethau chwerw.

Fel y byddai'r naill flodyn ar ol y llall farw, ysgafnhai'r griddfan, ac o'r diwedd ni chlywid dim ond rhyw su ysgafn o riddfan teneu, oedd fel pedfai ymhobman ar unwaith heb fod mewn unrhyw le neilltuol, ac na ellir clywed ei fath byth ond yn Nhir y Dyneddon. Y blodyn olaf yn y wlad yn marw ydoedd. Casglodd y dyneddon oll o'i amgylch, heb fedru gwneuthur dim drosto. Peidiodd y sŵn, a syrthiodd yntau hefyd i'r ddaear, gan adael gwlad lom, lonydd, ar ei ol, a'r dyneddon yn aros yn hir yno'n syllu arno heb neb yn symud na bys na bawd. Tawodd holl fiwsig y tyfu, a chan i'r blodau dewi tawodd yr adar. Ni churai hyd yn oed y diferion niwl yn ei gilydd, oherwydd oerfel caled oedd tros y wlad. Yn y prudd-der hwn seiniai'r ffrwd ddagrau yn drom a chaled, a chanai pelydrau'r sêr yn greulon a didostur.

Dechreuodd y dyneddon symud. Gwelid hwy yma ac acw'n finteioedd yn crwydro'n ddiamcan, ac un ac arall yn codi pen blodyn i fyny, edrych arno'n hir a wylofus, a'i gusanu a throi draw wedi rhoddi ei ben i orffwys ar y ddaear drachefn. A chrwydro'r wlad lom, hagr, y buont trwy'r diwrnod hwnnw. A chrwydro'r oeddynt pan gaeais fy llygad ac y darfu eu dydd.

Ymhen rhyw ddeuddydd neu dri o'u dyddiau hwy, gwelid hwn a'r llall ohonynt yma ac acw, yn y lleoedd mwyaf anhygyrch, wedi marw o dorcalon, a phob un â blodyn marw yn ei law, neu'n gorwedd yn ochr twmpath o flodau a orffwysai'n llwytgoch ar y ddaear noeth, a llaw yn ymestyn i'w hanwylo, wedi methu eu cyrraedd cyn llonyddu ei hun. Gymaint oedd y llymdra a'r gofid ag y teimlwn awydd i adael y wlad, eithr ni fedrwn wneuthur dim ond crynu wrth geisio symud, ac yr oedd y cryndod hwnnw'n ddaeargryn i'r dyneddon, a holltodd eu teml. Tawel fel y bedd oedd cyn hyn, ond cyfododd cri anhygoel yn hollt y deml, a deffrôdd y wlad drwyddi. Am ennyd ymddangosai cawod o lwch tros y tir, ond wedi iddo lonyddu, gwelais mai'r dyneddon oedd yn rhuthro o bob ogof ac agen craig a thwll yn y ddaear oedd yn gartrefi iddynt. Edrychent yn wyllt a chynhyrfus, pawb yn siarad heb neb yn gwrando. O'r diwedd cyfododd gwaedd uwch na'r un, yn gofyn am y dewin. Toc, dechreuodd y dynan hynaf yn eu plith lefaru, a dywedodd,

Clywais gan fy nhad, pan oeddwn yn blentyn bach, fod dewin yn byw erioed yn y Tir Tywyll, ac mai ganddo ef y mae cyfrinach y blodau. Rhaid dyfod o hyd iddo, neu derfydd am Dir y Dyneddon, canys ni ellir byw yn hwy heb y blodau. Nid yw bywyd llwm a hagr yn fywyd o gwbl." Safodd pawb yn fud. Ymhle yr oedd y Tir Tywyll, ac ymhle yno yr oedd y dewin yn byw? Sefyll yn fud yr oeddynt pan gaeodd fy llygad ar y dydd hwnnw ac yr aeth yn nos ar y wlad.

Bore drannoeth anialdir mawr llonydd a moel oedd yr holl wlad, heb ganu ynddi ond canu creulon y goleuni, canys nid yw canu y goleuni'n felys ond pan ddisgynno pelydrau ar wynebau blodau, ac i'r canu hwnnw gymysgu â'r canu a ddigwydd pan ddisgynno pelydrau ar bethau eraill. Llais didrugaredd sydd iddo pan na ddisgynno ei belydrau ar ddim ond y ddaear noeth yn unig.

Nid oedd un dynan i'w weld yn y tir, nac arwydd bywyd yn unman. Toc, gwelwn ddau'n dyfod odditan gysgod eithinen, yn llechwraidd ac ofnus. Aa ac Em oedd eu henwau, dau ddynan ieuainc a gyfrifid bob amser yn rhai gwyllt ac annoeth. Sibrydent â'i gilydd, ond gan fod diferyn o'r rhew oddiar fy llygad yn dal ar fy nghlust clywn bob gair. Wedi penderfynu chwilio am y dewin yr oeddynt, ac yn methu gwybod ymhle yr oedd y Tir Tywyll. O'r diwedd penderfynasant mai'r tu ol imi, y mynydd mawr, yr oedd, gan ei bod yn naturiol na thywynnai'r haul, a welent yn diffodd a goleuo bob amser yn yr un fan, yr ochr honno. Ac i ffwrdd â hwy. Bu'r wlad yn hir yn llonydd, a phan ddaeth dyneddon i'r golwg, edrych yn syn a gwyllt yr oeddynt i gyd. Aeth Aa ac Em law yn llaw heibio i'm hochr. Er iddynt fynd o'm golwg yr oeddwn yn fyw i bob symud o'u heiddo. Tybiai'r daith ddyddiau iddynt cyn cyrraedd ffin y Tir Tywyll. Gorffwysent ar flew brethyn fy nillad oedd yn dwmpathau iddynt hwy. A phob cynllun a gynlluniasant er eu cadw eu hunain ar fynd. Crwydrent yn ddiamcan am ambell ddiwrnod cyfan, a throent yn ol heb yn wybod iddynt eu hunain, a chlywn ambell riddfan weithiau a dorrai fy nghalon. Daethant o'r diwedd i odre'r Tir Tywyll na oleuid gan ddim ond eira, a bu raid torri llwybr anobeithiol lawer gwaith trwyddo iddynt eu hunain. Gwelent bantle ysgafn, ysgafn, yn awr ac eilwaith,—ôl troed yn yr eira wedi ei guddio â llawer o gawodydd. Ond gymaint y chwiliasant am arwyddion llwybr ag y daethant yn fyw iawn i bob arwyddion, pa mor eiddil bynnag y byddent. Wedi mil o siomiannau, a phopeth bron yn methu o flinder yn ei dro ond eu penderfyniad,—eu golwg, eu clyw, eu harogl,—ymbalfalasant ymlaen yn ol eu teimlad (oherwydd cadwai gwres eu calonnau eu teimlad yn fyw), at agen fach yn yr eira wedi ei chysgodi â rhew, oedd yn gartref y dewin.

Braidd y gwelent ef pan ddaethant yno gan mor wyn ydoedd. Dillad wedi eu nyddu o blu eira oedd ei ddillad, mantell eira oedd trosto, wyneb fel llewych eira oedd iddo, a rhidens eira ei wallt a'i farf, a siaradai fel rhu cawod o eira dan y gwynt. Edrychodd arnynt yn hir, yna gofynnodd iddynt agor eu dillad iddo weld eu mynwesau, a darllen eu calonnau, ac er eu bod bron llewygu gan y tanrew, eu hagor a wnaethant. Darllennodd yntau eu calonnau, ac nid oedd wall yn yr ysgrifen oedd arnynt. Dywedodd wrthynt y gyfrinach yr holent amdani,— fod dau Rosyn Cudd yn bod, mai hwy oedd rhieni blodau'r byd, ac yn gofalu amdanynt, ond bod yn rhaid cael rhywun i'w darganfod ac edrych arnynt unwaith ymhob cenhedlaeth, neu y byddai i'r blodau i gyd farw, gan na allai'r Rhosynnau Cudd, heb hynny, ofalu amdanynt. Holasant y dewin yn danbaid iawn ymhle yr oedd y Rhosynnau Cudd, a sut yr oeddynt i'w hadnabod. Gwenodd yntau arnynt mor gynnes, yn wyneb ysbryd eu holi, nes i eira ei gartref ddechreu meirioli, a bu raid iddo droi i edrych mor chwerw ag i fferru eu gwaed, er mwyn ei galedu drachefn. Dywedodd wrthynt mai draw ymhell yn yr eira anial y trigai'r Rhosynnau Cudd, a bod y tir yn rhy oer hyd yn oed iddo ef fynd yno a byw, na welodd ef y Rhosynnau Cudd ei hun erioed, nad oedd a wnelai ef ddim â hwy ond cadw eu cyfrinach, ond bod eu calonnau hwy yn sicr o'u hadnabod os digwyddent byth eu gweld. Wedi dywedyd hyn caeodd ei ddrws eira ar eu dannedd, a safasant yno mor welw ag y collodd y naill olwg ar y llall, am ennyd, gan mor debyg oedd eu hwynebau i'r eira oddiamgylch. Trodd Em at Aa a gofynnodd yn grynedig,—" A ydyw'n wir y medr y dewin sy'n siarad fel storm ddangos y ffordd inni at bethau na welodd erioed mohonynt ei hun?" Wel," ebe Aa, nid oes dim i'w wneud â dewin sy'n siarad fel storm ond ei gymryd ar ei air."

Cychwyn ymlaen a wnaethant i'r cyfeiriad y dywedai'r dewin y tyfai'r Rhosynnau Cudd ynddo. O gam i gam, dringent, gan dynnu'r naill y llall o hyd, allan o'r lluwchfeydd a'u claddai. Dringo, a methu, a'u cofleidio ei gilydd rhag rhewi farwolaeth oedd eu gwaith. Syrthiodd Em ac ni allai godi. Ac mor dywyll oedd erbyn hyn, er yr eira, nes i Aa fethu gwneuthur dim ond ei deimlo, i wybod ymhle yr oedd. Canys cynhyrchai gwres eu cyrff, er mor oer oeddynt, yn wyneb yr oerfel ofnadwy a'u hamgylchai, fath ar gaddug ymha le bynnag y safent. Yr adeg hon y dechreuodd Aa gredu am y tro cyntaf erioed fod gair y dyneddon amdanynt yn wir, mai dau wyllt ac annoeth oeddynt. Ond nid oedd amser i feddwl, am fod Em yn marw dan ei ddwylo. Tynnodd ei fantell ei hun oddiamdano, a nyddwyd o flew cywion gwyddau'r gwiail,—y dilledyn cynhesaf yn Nhir y Dyneddon,—ac er bod bron llewygu ei hun yn yr oerfel, daeth rhyw deimlad drosto wrth wasgu ei fantell am Em a'i cynhesodd yn ddigon i'w gadw rhag ei orchfygu'n lân gan yr hin.

Wedi gorffwys ychydig â mantell Aa trosto, bywiogodd Em drachefn, ac ailgychwynnodd y ddau, ond ni theithiasant yn hir. Cwympodd Em wedyn gan ei wendid, a ffrydiai gwaed o ddoluriau lawer iddo. Cododd Aa ef, a chariodd ef ar ei gefn cyn belled ag y medrai, ond rhaid oedd ei osod i lawr eilwaith, ac yr oedd diferion ei waed, o dan y caddug, yn dduon ar yr eira glaswyn. Tynnodd Aa ei fantell drachefn, a rhoddodd hi trosto, yntau'n ochneidio yn y tawelwch nes i arswyd Aa fod yn annirnadwy. Tynnodd ddilledyn arall oddiamdano, a rhwygodd ef yn rubannau. Trwsiodd glwyfau Em â hwy, a chuddiodd ef â'i fantell. A chymaint oedd cynhesrwydd ei galon wrth wneuthur hyn ag y cyfododd gwres trwyddo a'i gwnaeth yn fwy na gorchfygwr ar yr hin. Eithr gwanychu, a gwanychu, yr oedd Em, a'i lygaid yn tywyllu a chau yn araf, araf. Yn sydyn, agorodd ei lygaid, a fflamient nes goleuo'r lle trosto, ac yn eu goleuni gwelodd Aa mai gorwedd ar wely o flodau, y rhai prydferthaf a welwyd erioed,—yr oedd. Edrychodd Em â'r llygaid tân hyn i fyw ei wyneb, a dywedodd yn wyllt," Aa, rydwi'n gweld y Rhosynnau Cudd, dacw nhw, dacw nhw, ar—; ond cyn i Aa gael cyfleustra i edrych, tywyllodd llygaid Em, caeodd hwy, a hunodd dan wenu. Hunodd ei hun diddeffro ar wely o flodau yng nghanol yr eira a'r unigedd diderfyn, draw y tuhwnt i fynydd mwyaf Tir y Dyneddon.

Syllodd Aa arno'n hir, yn hiraethus a siomedig,—yr unig oleuni y gwelwyd y Rhosynnau Cudd ynddo wedi diflannu, yr unig un a'u gwelodd wedi mynd o'r Tir Tywyll, yntau yno'n unig, heb oleuni, heb gyfaill, a heb ddim i'w gadw rhag cydfarw ag ef, ond tân ofnadwy ei galon ei hun, a wresogwyd wrth iddo roddi ei ddillad i gysgodi Em. Eithr nid oedd neb yno mwy iddo ef ei gysgodi na thrwsio ei glwyfau.

Teimlodd y blodau o amgylch Em, nes i'w teimlad fynd i'w fysedd ac i'w wefusau. Gwasgodd ei fantell amdano'n dynnach, a gadawodd ef yno i orffwys yng nghwmni ei wên a'r Rhosynnau Cudd, a chychwynnodd ar y daith hirfaith yn ol. Nid oedd yn anodd canfod y llwybr ar y rhan o'r daith y cariodd Em drosti, oherwydd er bod yr eira wedi chwythu'n drwm dros y lle, ymwthiai duwch y diferion gwaed trwy gaenen gref ohono, ac ni ellid eu cuddio. Chwiliodd fel yr âi ymlaen am bob arwydd o'r llwybr, crwydrodd ymhell o'i ffordd lawer tro, cwympodd dros haenau cudd o rew a doluriodd ei hun, ond llwyddodd i orchfygu'r cwbl trwy'r teimlad fod Em wedi gweld y Rhosynnau Cudd. Yr oedd hynny'n sicr o fod yn wir, am y tyfai'r blodau, gwelodd hynny trosto ei hun.

Wedi taith aneirif ei phoenau, cyrhaeddodd ffin Tir y Dyneddon, a gwelai'r blodau'n tyfu yno'n fywiocach nag erioed ar bob llaw. Clywai sŵn canu a dawnsio ymhobman wrth nesu tua'r goleuni. Pan ddisgynnodd y goleuni arno'n glir, cywilyddiodd, oherwydd ei olwg resynnus. Yr oedd heb ei fantell, a'r ychydig ddillad amdano wedi eu darnio, a'i waed ei hun yn ffrydio trwy'r toriadau, ac wedi ceulo'n dywyll ar eu hymylon. Eithr cysurid ef gan y croeso a ddisgwyliai pan ddywedai wrthynt iddo ef ac Em fynd yn ddigon pell i Em weld y Rhosynnau Cudd.

Pan ddaeth i'r golwg, peidiodd y canu, a'r dawnsio, ond seiniai canu'r blodau wrth dyfu yn fwy pêr nag erioed. Edrychodd pawb arno'n dyfod yn fregus tuag atynt, ac wedi ei adnabod cyfododd gwaedd o groeso nes i'r holl wlad ddiaspedain, ac i'r deml rew grynu trwyddi. Tyrrai pawb o'i amgylch, a gofynnent ar draws ei gilydd sut rai oedd y Rhosynnau Cudd, ac ymhle yr oedd Em. Gwnaethant le esmwyth iddo eistedd, a rhoddasant fwyd a diod iddo. Wedi'r gofyn mawr hwn, tawelodd popeth, hyd yn oed y blodau, i wrando arno. Dywedodd yr hanes yn syml, ond nid y cwbl ohono. Dywedodd am eu gwaith yn dyfod o hyd i'r dewin, am eu dringo wedyn, am yr oerfel, a methiant Em, ac am ei waith yn canfod y Rhosynnau Cudd yng ngoleuni ei lygaid ei hun cyn huno. Ond ni allai esbonio iddynt ymhle yr oedd ei fantell ef, na phaham nad oedd ganddo ddim ond darnau o'i ddillad eraill. Tawodd y gorfoledd, a daeth distawrwydd oer tros y lle. Dechreuodd y blodau aildyfu a chanu yn eu tyfu, rhag torri ei galon â'r oerfel hwn oedd yn fwy iddo ef nag oerfel yr eira diderfyn ei hun. Dechreuodd hwn ac arall sibrwd a sisial wrth yr agosaf ato. Cryfhaodd y sibrwd a'r sisial, ac ymhyfhai'r olwg amheus ar wynebau'r llu dyneddon, ac yntau'n anesmwyth ac oer yn eu canol, heb ddeall y newid sydyn a newydd hwn.

Ymhyfhaodd un ym mhendraw'r dyrfa yn ddigon i daflu sen arno nad oedd ei stori'n wir, mai wedi lladd Em yr ydoedd o eiddigedd am ddarganfod ohono'r Rhosynnau Cudd y methodd ef ei hun eu gweled, ac mai olion y frwydr rhyngddynt oedd rhwygiadau ei ddillad. Daeth yr un sen o'r cwr yma a'r cwr arall o'r dyrfa, a daeth math ar sŵn ansicr trosti, fel griddfan chwerw, caled, a ddangosai iddo faint ei llid. Ni allai ef, a ddaliodd oerfel y Tir Tywyll ddal yr oerfel hwn. Cyfododd a chychwynnodd ymaith yn araf, ac eiddil, a phrudd. Methai â deall dim, a'r byd yn dywyll, dywyll,—yn dywyllach na'r Tir Tywyll ei hun.

Fel y ciliai tua ffin y Tir Tywyll, chwyrnellai ambell garreg heibio iddo, ac ambell un yn ei gyrraedd, a chryfhai chwerwder y dyrfa o hyd, fel llanw'r môr yn dyfod i mewn pan fo storm yn ei ddannedd. Dechreuodd symud ar ei ol, yn araf, yna'n gyflymach, nes troi'n rhedeg mewn berw o lid. Ni awyddasai ef am weld y Rhosynnau Cudd am fod Em eisoes wedi eu gweld, ac yr oedd hynny'n ddigon i'r blodau dyfu; ond teimlai erbyn hyn y carai gyd-orwedd ag Em draw yn yr unigedd cynnes hwnnw rhag oerfel ofnadwy'r dyrfa. Pan gyrhaeddodd y dyrfa ffin y Tir Tywyll yr oedd ef eisoes wedi ei groesi, dan ei ddoluriau, ac ni feiddiai hi ei ddilyn ymhellach. Aeth ef ymlaen gan chwilio am ei hen lwybr, i orffwys gydag Em. O'r pellter, fel y dringai, clywai lais y dorf yn tyneru, tyneru, o hyd, nes o'r diwedd dyfod yn rhyw fath ar fiwsig llariaidd yn ei helpu i ddringo, fel llais y llanw sy'n dryllio'r llongau, i drigolion y dyffrynnoedd pell. Daeth yn y man i'r Distawrwydd Mawr, a dechreuodd ddiffygio, ac yn y diffygio, meddwl am ei siomiant, colli'r croeso gartref, a cholli cydymdeimlad Em. Mor ddiffygiol yr aeth ag y gorffwysodd yn yr eira, ac wylo dan ei boen. Yno yr oedd yn unig, heb ddim ond eira yn obennydd a gwely iddo, hyd yn oed cân llid y dyrfa wedi distewi, ac Em draw'n gorffwys yn dawel mewn gwely o flodau yng nghwmni'r Rhosynnau Cudd. Disgynnai ei ddagrau'n gawod ar yr eira, a thoddai'r eira danynt, nes ffurfio llyn o ddwfr glân gloyw. Gwelodd Aa y llyn, edrychodd iddo, ac yr oedd delw ei wyneb ynddo yn waed i gyd. Golchodd ei wyneb, yn llesg, goreu y medrai, oherwydd gwyddai ei fod yntau bellach ar fin gorffwys, ac nid oedd am i neb a ddigwyddai ddyfod o hyd iddo weled ôl ei ddoluriau tros Em. Yn wyneb hyn, gwresogodd ei galon drachefn, a theimlai ei gwres yn cerdded trosto.

O dipyn i beth daeth ei wyneb yn lân oddiwrth y gwaed. Ar ol llesgedd maith galwodd y munudau y tania llygaid i oleuo'r llwybr rhwng deufyd heibio iddo yntau. Edrychodd i'r llyn yn eu goleuni, gwelodd ei wyneb ynddo eilwaith,—ac ar ei ruddiau ei hun yn nwfr y llyn, gwelai yn fflamio, y Rhosynnau Cudd, yr un rhosynnau ag a welodd Em pan orweddodd i orffwys, a'r un rhosynnau ag y methodd y dyneddon eu gweld am nad oedd eu llygaid ar dân, er i'r rhosynnau fod ar ei ruddiau ef o hyd.

Gorweddodd dan wenu, ar bwys y llyn, a gorffwysodd yno, ac yno y gorffwys o hyd, gan huno ei hun diddeffro, ac nid yw'r llyn dwfr hwnnw wedi rhewi byth.

VII.—Y CYFAILL A GAFODD DI.

DYNAN bach unig a digalon oedd Di, a phawb yn ei erlid. Crwydro llwybrau Tir y Dyneddon ar ei ben ei hun, a synfyfyrio dan brennau a chreigiau, ymhell o olwg pawb, oedd ei hanes bob dydd, o'r bore gwyn tan nos, nes o'r diwedd iddo gael cyfaill. Yna gwenodd, a gwên Di wedi cael cyfaill oedd y brydferthaf a welodd dynan erioed.

A dyma'r paham yr oedd yn unig. Yr oedd dau deulu mawr yn Nhir y Dyneddon,—teulu Aa, El, Aitsh, a'u perthynasau, a theulu Ec, Oo, a'r eiddynt hwythau. Ac wedi gweled Di yr oedd yn amlwg i bawb ar ffurf ei gorff na pherthynai i'r un o'r ddau deulu. Er bod rhai o nodweddion y ddau deulu'n cydgyfarfod ynddo, anffurfio'r nodweddion a wnai, ac nid oedd digon ohonynt, pe baent ynddo'n briodol, iddynt ymfalchio ynddo. Yr oedd ychydig ddyneddon yn rhyw lun o berthyn iddo, megis Bi, Er, ac un neu ddau eraill, ond llwyddent hwy i dynnu at ryw un o'r teuluoedd yn fwy na'i gilydd. Eithr am Di, ni hawliai neb berthynas ag ef. A rhaid oedd perthyn i un o'r ddau os am gyfaill a chysur bywyd yn Nhir y Dyneddon. Felly dynan bach unig, digalon, a syn oedd Di, yn cael ei erlid a'i wawdio gan bawb. Dirmygid ef gan deulu Aa am ei fod yn gefngrwm, a chan deulu Ec am fod ei fron yn rhy syth. Creadur afluniaidd oedd yng ngolwg pawb, a phob un yn cywilyddio ei weled ei hun yn ei gwmni, ac yn enwedig os yn ei gwmni yn siarad yn gyfeillgar ag ef.

Wrth grwydro'n hir ar ei ben ei hun, felly, daeth rhyw welediad pell a dieithr i'w lygad, i beri i bobl ameu bod rhywbeth o'i le ar ei feddwl, heblaw ei fod yn afluniaidd a hagr. Ymlusgai rhyw hanner ofn tros ddyneddon, o'i gyfarfod ar ryw lwybr unig wedi nos. Ac un ydoedd fyddai ar ei draed yn hwyr ac yn codi'n fore, a chredid gan hynny fod iddo gymdeithas â rhyw fodau gelynol i'r dyneddon, a daeth ofn yn gymysg â'r dirmyg a goleddent tuagato. Pe gwelent Di yn dyfod i'w cyfarfod yn y llwydwyll, ceisient ymguddio oni phasiai, neu droi ar hyd llwybr arall. Eithr pan fyddai dau neu dri o'r dyneddon mwyaf direidus ynghyd, gwawdient a phoenydient ef hyd yn oed yn y nos; a gwnaethant hynny mor ffyrnig un tro nes tynnu dagrau i'w lygaid.

Wedi un o'r troeon hyn y dechreuodd Di gael cwmni a'i deallai ac a gydymdeimlai ag ef. A dechreuodd hefyd godi mor fore nes i'r dyneddon gredu'n sicr mai dyrysu yr oedd neu gynllunio rhyw ddrwg yn eu herbyn. Bu un diwrnod yn crwydro'n hir ar ei ben ei hun heibio godre'r mynydd mawr (a gwyddoch pwy oedd hwnnw). Yna o dro i dro gwelwn ef yn cilio ymhell oddiwrthyf draw i gysgod eithin a brwyn gan ymwthio i'w canol o'r golwg, ac y mae eithin a brwyn byrion yn goed mawr yn Nhir y Dyneddon. Pan oedd y wlad yn hollol dawel ym min yr hwyr daeth allan o'i loches, ac ymhyfhaodd gan gerdded yn ysgafnach ac edrych yn loywach nag arfer. Eithr wrth iddo ddyfod heibio congl carreg fach a elwid Y Graig Fawr, pwy a'i cyfarfu'n hollol sydyn ond tri dynan mwyaf direidus y tir i gyd. Dechreuasant ei wawdio a'i boenydio nes iddo wneuthur yr hyn na wnaeth mohono erioed o'r blaen,—wylo. A pheth dieithr yw wylo yn Nhir y Dyneddon. Rhedai ei ddagrau'n gyflym i lawr ei ruddiau, ac yntau'n methu â'u deall. Ac wrth ei weld felly trodd y tri dynan ar eu sodlau, a chiliasant ymaith. Ymgodai a gostyngai ei fynwes fel aderyn bach dan lygaid yr heliwr; ac yr oedd y teimladau newyddion hyn yn ddieithr hyd yn oed iddo ef oedd mor gyfarwydd â phoen a digalondid. Llonyddodd y ffrwd yn ei thro, ac arhosai un deigryn yng nghil ei lygad, a phan darawodd ei amrant disgynnodd hwnnw ar gefn ei law. Syllodd Di arno'n drwm, ac wedi syllu'n hir gwelodd rywbeth ynddo a aeth â'i anadl, gwelodd greadur bach, bach, yn llochesu yng nghanol y deigryn—creadur bach afluniaidd a hagr fel ef ei hun, ond ei fod filwaith llai, er mai anodd yw dychmygu am greadur rhesymol llai na dynan. Symudodd Di ei ben, a symudodd y creadur bach ei ben. Lliniarodd y galar ar ei ruddiau, a lliniarodd galar y creadur bach ar ei ruddiau yntau. Daeth golwg lariaidd ar ei wyneb, a llareiddiodd wyneb y creadur bach yn y deigryn yn syth. Daeth gobaith newydd i fynwes Di. Yn sicr, er na ddëellid ef gan neb o'r Dyneddon, am nad oedd neb afluniaidd yn y wlad ond ef, dëellid ef i'r dim gan y creadur bach hwn, oherwydd yr un gwendid oedd i'r ddau, ac yr oedd ôl wylo a gofid hir ar wynepryd y creadur bach yntau hefyd. At hynny, ef oedd y cyntaf erioed i edrych yn llariaidd ar Di. Ysgafnhaodd mynwes Di mewn modd na wnaeth erioed felly o'r blaen, wrth edrych ar y creadur bach, ac ysgafnhaodd mynwes y creadur bach hefyd. Onid oedd yntau yn unig ac yn hiraethus am gydymdeimlad? Dechreuodd Di siarad ag ef, a gwelodd y creadur yn siarad yn ol, ond ni chlywai air,— dim ond gweled ei wefusau'n symud. Eto, cysur oedd gweled rhywun yn rhywle yn ceisio siarad ef mewn rhyw ddull ond mewn bygwth a gwawd a cherydd. Cyn hir sylwodd Di, er ei ddychryn, fod y diferyn dwfr dieithr a ddaeth o'i lygad, na welodd ef erioed ei gyffelyb, yn lleihau. Daeth braw newydd i'w fynwes, a gwerthfawrocach nag aur bellach oedd pob eiliad, hyd yn oed eiliadau'r Dyneddon, o gwmni'r creadur bach yn y deigryn. O'r diwedd diflannodd y deigryn yn hollol, a'r creadur bach afluniaidd a gydymdeimlai ag ef mor fawr, gydag ef, a daeth hiraeth amdano i lethu Di bron yn llwyr.

Crwydrai'n awr ymhellach o'i gynefin nag erioed gan feddwl a hiraethu ddydd a nos am y cyfaill bach a ddaeth unwaith i gydymdeimlo ag ef ei ofid. Ac mor fawr oedd ei ofid nes i'r dyneddon a'i gwawdiai gymaint fagu rhyw fath ar gydymdeimlad ag ef, canys curiai wrth ben ei draed.

Eisteddodd yn syn tan gysgod deilen redynen un min hwyr yn hiraethu am y creadur bach dieithr a gartrefai yn ei ddeigryn. Myfyriai beth oedd y rheswm na allai dynnu dwfr o'i lygaid drachefn pan fynnai, heb wybod na ddaw dagrau a'u gweledigaeth ond pan fyddo Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr wedi rhwygo, ac ni ŵyr hyd yn oed dewin y Tir Tywyll (a ŵyr am y Rhosynnau Cudd), am y ffordd at Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr. Cofiodd yn y man ddarfod iddo sylwi lawer gwaith fod diferion cyffelyb ar y ddaear bob bore braf yn yr haf y codai ef i grwydro'r tir er mwyn cael llonydd cyn i'r dyneddon eraill ddeffro. Penderfynodd chwilio amdanynt bore drannoeth. Cododd cyn i'm llygad agor, a theimlwn ef yn ymbalfalu am ei ffordd ymlaen yn y tywyllwch. Agorais fy llygad yn ei dro, a gwelwn holl laswellt Tir y Dyneddon yn disgleirio dan berlau gwlith, a Di yn crwydro o un i un ac yn syllu i mewn iddynt, ac wrth godi oddiar y ddaear, rhyw dynerwch tebyg i wên ar ei wyneb oedd yn ddieithr iawn iddo ef, a goleuni newydd yn ei lygaid na welais erioed mohono o'r blaen ond unwaith. Yn llygaid mam y gwelais ef y tro hwnnw pan feddyliodd ychydig cyn i Annie Bach farw, ei bod yn dechreu troi ar wella. Ni welais y goleuni hwn yn ei lygaid o'r blaen hyd yn oed pan welodd creadur bach hwnnw yn ei ddeigryn. Gorweddai ar ei hyd o dro i dro yn ymyl hanner dwsin o'r diferion cyfrin hyn, a syllai'n hir a dwfn i bob un, a chan fod y darn rhew ar fy llygad, gwelwn gyfrinach y wedd newydd hon oedd arno. Ymhob un o'r diferion yr oedd creadur bach tebyg iddo ef ei hun, yn afluniaidd a hagr, a'r olwg ar wynebau'r creaduriaid hyn yr un ag a welid ar ei wyneb ef. Crwydrodd o'r naill i'r llall yn hir, ac ymfalchïai y tuhwnt i fesur wrth weled creadur bach ymhob un ohonynt. Yn y man dringodd i ben gwelltyn hwy na'i gilydd er mwyn medru gweled mwy nag un ar unwaith ohonynt. Gwelai oddiyno nifer fawr, a chreadur bach tebyg iddo ef ei hun ymhob un ohonynt,—a phob un yn cydvmdeimlo ag ef, ac yn edrych yn llariaidd arno fe yr edrychai ef arnynt hwy.

Ni chafodd Di y fath gwmni erioed, a chynhyrchodd nid yn unig ryw ysgafnder newydd yn ei lygaid ond hoywder newydd yn ei gorff. Ciliodd oddiyno cyn i'r Dyneddon ei weled. Ni buont hwy'n hir heb sylwi bod rhyw hyfrydwch cudd ym mywyd Di na wyddent hwy ddim amdano. Cynhyddai'r hoywder newydd hwn o ddydd i ddydd, a chodai Di bob dydd cyn agor ohonof fy llygad, a'r peth cyntaf a welwn bob dydd oedd ef yn aros yn bryderus, ac yn dechreu chwilio cyn gynted ag yr agorwn fy llygad ar y byd. Ar ei hyd ar lawr y byddai, ac arhosai wrth ambell ddiferyn mwy na'i gilydd yn hir iawn, yn troi a throsi o'i amgylch gan alw sylw'r creadur bach yn y tu mewn ymhob modd oedd yn bosibl iddo. A phan godai ar ei draed yr oedd yn wlyb diferol.

Methai'r dyneddon â deall y llawenydd cudd hwn mewn un mor ddirmygus, ac a gyfrifid ganddynt heb fod mor gall ag eraill, a phenderfynasant wylio. Gwyliai rhywun ef trwy'r dydd, ond ni ddarganfuwyd cyfrinach ei wynfyd. Sylwasant o'r diwedd mai ar grwydr yr oedd ef bob dydd pan welent ef gyntaf, a phenderfynasant mai rhywbeth a gaffai yn y bore oedd cyfrinach y peth dieithr hwn a feddai. Arhosodd dau ar eu traed un noson gan wylio'n ddyfal y ddeilen y cysgai dani. Clywsant siffrwd yn nyfnder nos, ond ni welent ddim, ac er pob ymdrech i'w ddilyn, ei golli a wnaethant, ac ni welsant ef nes ei ddyfod heibio liw dydd goleu, a'r hyfrydwch dieithr hwn yn fwy tanbaid nag erioed ar ei wynepryd. Bu fel hyn mor hir nes i'r dirmyg a'r gwawd ddiflannu ac i ryw ffyrnigrwydd a llid angherddol tuagato gymryd eu lle. Gwyliai mwy ei symudiadau o hyd, ond heb fod i ddim pwrpas,— llwyddai i guddio cyfrinach ei wynfyd o'u golwg oll. Eithr rhyw fore sylwodd un a wyliai mewn congl unig pan agorais fy llygad, ar Di yn disgyn ar ei hyd ar lawr bron yn ei ymyl, ac yn syllu y ffordd hon a'r ffordd arall. Yna'n dringo i ben glaswelltyn mawr ac edrych o'i amgylch â rhyw wynfyd yn ei lygaid a gywilyddiodd ei erlidiwr. Ymgripiodd ei wyliwr ymlaen ar ei draed a'i ddwylo onid oedd yn ei ymyl. Gymaint yr ymgollasai Di yn ei waith ag na chlywodd ef yn dyfod o gwbl. Aeth y dynan y tu ol iddo, a syllodd tros ei ysgwydd, ac er ei syndod beth a welai yn y diferyn gwlith oedd o flaen wyneb Di, ond wyneb fel un Di yn union, ac un yn edrych tros ei ysgwydd. Gwelodd Di y ddau wyneb. Meddyliodd i ddechreu fod dau greadur bach wedi dyfod yn gwmni iddo i'r diferyn hwn, ac ymhyfrydodd yn fwy. Ond wrth iddo ymhyfrydu, yr wyneb isaf o'r ddau a ymhyfrydai gydag ef, ac edrychai'r uchaf yn chwerw. Trodd ei lygad at ddiferyn arall yn ei ochr i edrych a oedd dau wyneb yn hwnnw hefyd, a gwelodd gysgod y dynan oedd y tu ol iddo yn gwylio'r cwbl. O!'r digalondid ddaeth trosto wrth weled bod cyfrinach ei wynfyd. wedi ei darganfod. A rhoddodd waedd anobeithiol nes crynu o bob glaswelltyn a ddaliai'r diferion, gan fraw, ac yn y cryndod disgynnodd y diferion, a diflannodd y creaduriaid bach i gyd.

Trodd at y dynan a'i darganfu, ac edrychodd arno â holl anobaith ei fywyd yn ei lygaid. Nid oedd ganddo ddim i'w ddywedyd wrtho, dim ond dal i edrych felly arno. Ac mor fawr oedd ei anobaith ag y tosturiodd y dynan wrtho, ac addo na ddywedai i neb ddim o'r hanes. Llawenychodd Di, ond ni ddaeth y creaduriaid bach byth yn ol. Yr oedd cryndod yn y glaswellt bob dydd y daeth yno wedyn, cryndod eu cydymdeimlad ag ef, canys gwyddai'r glaswellt am ddolur ei galon. A chan y crynent ni allent ddal y diferion y cartrefai ynddynt y creaduriaid bach oedd yn gyfeillion iddo. Felly, fel y darfu'r hyfrydwch a gafodd yng nghwmni ei gyfaill o'i ddeigryn, y darfu hefyd yr hyfrydwch a gafodd yng nghwmni ei gyfeillion o berlau'r ddaear o dan ei draed.

Daeth tymor y crwydro unig a'r curio wyneb a chorff yn ol wedyn. O dipyn i beth ciliodd ffyrniggrwydd a llid y dyneddon, a daeth yr hen ddirmyg a gwawd yn ol, ac edrychent arno eilwaith fel creadur gwyllt a diniwed yn rhedeg ar ol breuddwydion, heb fwy o fudd yn y gwaith na rhedeg ar ol yr enfys, ac yn Nhir y Dyneddon diflanna'r enfys o'ch dwylo hyd yn oed pan fyddoch wedi cael gafael ynddo. Fel yr arferent ag ef caffai ei adnabod fel math ar greadur syml na wnai ddrwg i neb pe caffai lonydd. A llonydd a gafodd. A gwaeth oedd y llonyddwch iddo hyd yn oed na'r gwawd a'r erlid. Crwydrai ddydd a nos i chwilio am gyfaill. Arhosai ar ei draed drwy'r nos, a hynny mor llonydd ag y medrai rhag ysgwyd ymaith y diferion gwlith, ond crynu'r oedd y glaswellt bellach yn ei gwmni, byth ar ol waedd honno a aeth i'w calonnau. A chrynu y mae'r glaswellt o hyd yn Nhir y Dyneddon. Ac nid oes reswm am hynny ond bod gwaedd Di wedi suddo i ddyfnder eu calonnau, a hwy'n methu peidio â chydymdeimlo ag ef. Eithr ni wyddai Di hynny gan nad oedd ganddynt wyneb bellach i ddangos eu gofid ynddo, wedi methu ohonynt gynnal y gwlith. Er y diwrnod hwnnw ni ddaeth gwlith byth i Dir y Dyneddon. Collodd y dyneddon y gwlith wrth wawdio a dirmygu Di.

Bu ef ar goll unwaith yn hir ac er nad oedd yn dda i ddim yng ngolwg neb, pan gollwyd ef teimlai pawb ryw wacter yn eu bywyd. Yr oedd mwy o le i'w grwydriadau a'i freuddwydion yn eu bywyd nag y meddyliasant. Er na chrwydrent ac na ddychmygent bethau rhyfedd eu hunain, caent gysur ynddynt heb yn wybod iddynt eu hunain wrth feddwl bod un yn eu plith yn gwneuthur hynny. Crwydrasant yn hir i edrych amdano, a hynny'n ofer am ddyddiau. Pan ar fin rhoddi'r gwaith heibio, tybiodd un weled ol ei droed yn y llaid ar ol cawod drom o law, a dilynodd ef. Daeth i fôn eithinen, ac yno peidiai'r ôl. Edrychodd i fyny, ac er ei syndod gwelodd rywbeth du'n llechu ym mrig yr eithinen, ac y mae eithinen yn bren mawr iawn yn Nhir y Dyneddon. Daeth yn nes i'r peth du yn llechwraidd, a phwy oedd ond Di yn edrych o'r naill gangen i'r llall, ac o'r naill flodyn i'r llall, a'r hen wynfyd rhyfedd ac annisgrifiol ar ei wynepryd. Dechreuodd y dynan ddringo ar ei ol, ond dringwr trwm ydoedd, ac nid ysgafndroed fel Di, a chrynodd y pren, a disgynnodd cawod o'r pren—diferion y glaw oeddynt, a Di wedi eu gweled yn hongian wrth y blodau eithin, a chanfod creadur bach fel ef ei hun ymhob un ohonynt, yna dringo i'w cwmni a sugno gwynfyd o gymuno â hwynt. Pan ddisgynnodd y gawod, collodd hwynt ar darawaid amrant. Yn ei golled sydyn rhoddodd waedd anobeithiol fel o'r blaen, a chwympodd y dynan a ddringasai'r pren, mewn braw, onid oedd yn ddiymadferth ar lawr, ac anafodd ei hun am ei oes. Yn ei gongl y bu yn efrydd ac afluniaidd, ond eto ni allai gydymdeimlo â Di. Ni awyddai am godi'n fore i weled cyfeillion tebyg iddo yn y gwlith, na dringo'r coed i'w gweled yn y diferion glaw. Am hynny, bywyd sur, chwerw oedd bywyd y dynan a dynnodd greaduriaid y diferion glaw oddiar Di. Chwerw fu teulu hwn wedyn wrth Di. Bob tro y glawiai aent i ysgwyd y coed rhag bod diferyn yn aros i roddi cyfaill iddo. Am hynny darfu'r cyfeillion hyn hefyd. Dyma dri math ar gyfeillion, bellach, wedi eu profi yn rhai na allent lynu wrtho, cyfaill ei ofid a gynhyrchwyd gan ei ddagrau, cyfeillion perlau'r ddaear o amgylch ei draed, a'r cyfeillion a gafodd yn y brig wedi dringo mor uchel ag y gallai.

Daeth cri mawr i'w fynwes am gyfaill parhaol, ac un gwahanol i bob un a gafodd o'r blaen, canys blinodd arnynt oll am ei fod yn dechreu blino arno ei hun.

Blin oedd ei fyd yn hir ar ol hyn. Dull y dyneddon yn awr o'i wawdio oedd cymryd arnynt ysgwyd pren bob tro y gwelent ef, a galaru wrth weled diferion dychmygol yn disgyn oddiarno. Ac mor aml oedd hyn ag y blinodd Di yn llwyr ar ei bobl, ac ar ei ardal, a'i wlad. Nid oedd dim yn unman a'i bodlonai, ac yn ei flinder crwydrodd.

Un min nos eisteddodd yn grwydryn blin dan gysgod deilen redynen ar odre bryn. Nid oedd sŵn yn unman, na llais na neb yn ateb. Yr oedd tawelwch hyfryd tros y wlad—dim niwl i'w ddiferion ganu, ac eto caddug digon ysgafn i guddio pelydrau'r sêr rhag iddynt hwythau ganu. Llonyddasai'r blodau yn eu tyfu, ac ymddangosai fel pedfai rhyw ddisgwyl mud tros y tir i gyd. Yn y man tarawodd sŵn ar glust Di, oedd yn ddieithr iddo. Yr oedd yno erioed, a disgynnodd ar ei glust bob dydd a phob nos o'i oes, fel i bawb arall yn y fro. A dyna'r paham na chlywsai mohono—wedi ei fagu ynddo erioed yr ydoedd. Eithr pan ddarfu pob sŵn arall—y seiniau a ddeuai ac a âi—clywodd hwn yn glir. Ac iddo ef, y min nos hwnnw, yr oedd fel pe'n gwneuthur y wlad i gyd yn un gloch fawr, ac yntau'n crynu ar wefus y gloch honno. A'r sŵn oedd sŵn y rhaeadr ddagrau a lifai y tu ol i rew y deml. Ni bu ef yn y deml cyn amled ag eraill. Oni ddirmygid ef bob tro yr âi yno, am nad oedd ef fel addolwyr eraill? Ac onid cyff gwawd ydoedd yn ol a blaen yno? Yn y man aeth i adnabod y deml rew fel y lle y cyfarfyddai gwawdwyr a dirmygwyr ynddo i fwrw eu cynlluniau.

Hyfryd oedd miwsig y dwfr yn disgyn o ris i ris o'r rhew y min nos hwn, a phob gris â'i nodyn priod ei hun. A deuai cân ddofn, fawreddog, oddiyno, a ddeffrodd rywbeth ym mynwes Di na ddeffrowyd mohono erioed o'r blaen—rhywbeth mwy na hyd yn oed ef ei hun. Bu'n hoffi cydymdeimlad, a chafodd ef gan greaduriaid bach y deigryn, a'r gwlith, a'r dafnau glaw. Meddyliodd amdanynt heno, a theimlai, er y carai eu cydymdeimlad ag ef, mai rhy fach oeddynt i gymuno â'r peth hwn neu'r rhywun hwn a ymhyfrydai y tu mewn iddo yng nghân rhaeadr y deml rew. A disgyn ar ei glust a wnai'r gân fawreddog o hyd gan godi a gostwng a'r tawelwch yn wefr o'i amgylch. Dal i gynhyddu a wnai'r peth hwn yn ei fynwes na welodd erioed mohono, ac na feddyliodd erioed amdano. Dylanwadai'r gân fel hyn arno am mai cân oedd na ellid ei gosod mewn nodau cerdd.

Cododd, ac aeth yn nês i'r gân—ac yn nês o hyd bob yn gam a cham. O'r diwedd daeth dan gysgod y deml, ac ni feddyliodd erioed ei bod mor hardd pan fu yno â hithau'n llawn o ddyneddon. Edrychodd ar y fintai angylion a gerfiwyd ynddi, ac ar yr adenydd hanner agor. Edrychodd ar y nenlenni a'u hymylweoedd cain, ac ar y llenni a ymestynai tros y gwagle, ac ar y pileri rhew a gynhaliai'r cwbl i fyny, ac ar y lliwiau prydferth a ymdoddai i'w gilydd. Trodd i edrych yn is, ac yn ei ochr yr oedd cloch iâ fawr lefn, loyw, cyn ffyrfed ag ef ei hun, yn biler i ymylwe hyfryd ar ymyl y deml. Edrychodd arni gan feddwl nad oedd neb yn yr addurnedd hwnnw ond ef ei hun. Eithr yn y gloch iâ gwelai ŵr lluniaidd, hardd, talach o lawer nag ef ac nag un dynan a gyfarfu erioed, yn edrych arno'n dyner a hiraethus fel pedfai'n hiraethu am ei gwmni ef. Ni welodd Di neb erioed yn hiraethu am ei gwmni o'r blaen, ac yn ei syfrdandod pellhaodd oddiwrth y gloch iâ, a gwelai bellhau o'r gŵr lluniaidd, hardd, oddiwrtho yntau. Dynesodd ati wedyn, a gwelodd ddynesu ohono yntau ato mor agos ag y medrai, heb ddyfod allan o'r gloch iâ. Gwnaeth Di rywbeth y methodd erioed ei wneuthur o'r blaen—gwenodd ar y gŵr, a gwenodd yntau'n ol. Cymunai'r ddau â'i gilydd mewn pob ffordd ond siarad. Pan ddaeth yn dywyll, aeth Di adref, ond methodd gysgu gan mor fawr y dyheai am y bore. Cododd yn gynnar y bore, cyn ei dyddio, ac aeth at y deml i gwmni'r gŵr lluniaidd, hardd, oedd yn y gloch iâ. Fel y dynesai ati, gwelai'r gŵr yntau yn dynesu ato yntau, ac yno bu'r ddau drwy'r dydd, mewn cymundeb. Ac yno y diflannai Di o blith y dyneddon o ddydd i ddydd.

Deuai yn ol i'w plith, a gwelent yr hen hyfrydwch yn dyfod yn ol i'w lygaid, ac o dipyn i beth yn tyfu yn fath ar wynfyd na welsant erioed mohono ar ei wynepryd o'r blaen, nac ar wynepryd neb arall chwaith. A mwy na hynny, gwelent gorff Di yn cyfnewid yn tyfu ac yn mynd yn fwy lluniaidd. Diflanai bob dydd, a deuai'n ol â rhyw harddwch newydd wedi blaguro ynddo. Gwylient ef yn cilio o'u mysg, ond collent ef fel pedfai'r ddaear yn ei lyncu. A hynny gymaint o weithiau ag y bu raid ei adael iddo ei hun. Ciliodd y gwawd a'r dirmyg, a daeth y genfigen a'r llid yn eu lle. Ond cynhyddu a wnai'r gwynfyd ar ei ruddiau, yr olwg bell yn ei lygaid, a'r llunieidd-dra a'r harddwch yn ei gorff. Rhoddodd y genfigen a'r llid yn eu tro eu lle i ofn. Ac ofnid Di gan bawb yn y wlad. Tyfai o hyd, o hyd, a deuai'n harddach a mwy lluniaidd, ac mor wynfydedig nes magu gwên na welwyd mo'i thebyg ar wyneb dynan erioed. Hiraethai llawer un yn ddistaw am feddiannu gwên debyg i honno. Chwiliwyd llawer am ei chyfrinach, a dilynwyd Di yn ei holl deithiau, ond ofer fu'r cais am amser maith. Aeth yr hiraeth ar rai o dipyn i beth mor annioddefol nes troi'n gynddaredd mawr at Di, ac yn benderfyniad i ddwyn ei eiddo newydd oddiarno, costied a gostiai. Erlidiasant a phoenasant ef, ond cryfhau wnai ei wynfyd ef a'i harddwch o hyd, ac ni ellid ei ddolurio bellach. Ni wnai ergyd carreg ddim o'i hôl arno, ac ni allai llaid ei lychwino. Mynd yn harddach o hyd a wnai, mwy lluniaidd ei gorff, a hyfrytach ei wên. Erlidiwyd ef yn y nos a'r dydd. Taflwyd pethau ato yn y tywyllwch, ond pan dorrai'r wawr, yr un oedd ef o hyd, yn hardd a glân.

Daeth y brenin i sylwi ar Di, ac i gymryd diddordeb ynddo; a chynheuodd cynddaredd y rhai a ddisgwylient gael eu gwneuthur yn frenhinoedd wedi iddo ef farw, tuag at Di yn fwy fwy. Nid oedd dim i'w wneuthur ond ceisio dyfod o hyd i ffynhonnell ei wynfyd er pob aberth. Aethpwyd i'w wylio ddydd a nos, a gosodwyd dyneddon ymhobman. Llwyddodd yntau i'w guddio ei hun rhagddynt yn hir er hynny. Ond un bore, gwelodd dynan a ymguddiai o dan riniog y deml rew ef yn dyfod tuag ato. Gwyliodd ef yn eistedd a gwrando ar y gân fawreddog na chlywsai'r gwyliwr erioed mohoni. Gwelodd ef yn mynd at y gloch iâ, ac aeth yntau'n llechwraidd ar ei ol. Gwelodd ŵr lluniaidd hardd yn y gloch yn symud a dyfod i'w gyfarfod fel y dynesai. Fel y ciliai Di ciliai'r gŵr, ac fel y dynesai Di at y gloch, dynesai yntau i'w min at Di. A harddach oedd y gŵr nag y bu erioed. Fel yr harddai Di harddai yntau i ddenu Di i harddwch mwy.

Ymgripiodd yr ysbïwr at waelod y gloch, a gwelodd mai tebygu i ŵr y gloch yr oedd Di. Yr oedd o'r un ysgogiad ag ef yn union, a'r un llunieidd- dra yn ei gorff, a'r un wên hyfryd ar ei wyneb, nes eu bod bron fel gefeilliaid. Ymgripiodd yn ol, casglodd ei gyfeillion yno, a daethant o amgylch Di a'r gloch iâ heb yn wybod iddo. Cododd un garreg i falu'r gloch i ddinistrio'r gŵr oddimewn iddi yr aeth Di yn debyg iddo wrth fyw yn ei gwmni bob dydd. Mor fawr oedd swyn y cymundeb i Di ag na sylwodd beth a äi ymlaen o'i amgylch. Gafaelwyd yn y garreg, ac i'r awyr â hi dros ben Di. Disgynnodd ar ganol y gloch iâ nes ei malu'n deilchion, a chwympodd ei darnau o ris i ris yn y deml gan ganu cân a swynai bawb ond ysbiwyr. Neidiodd Di yn ol o ffordd y garreg, a chododd gwaedd o chwerthin gwawdlyd o fynwesau'r dinistrwyr. Eithr er eu braw beth welent ond gŵr y gloch iâ yn dyfod allan ohoni pan ddinistriwyd hi, ac yn cerdded tuag at Di. Yr oedd yr un fath ag ef yn union, yr un ysgogiad, yr un harddwch, yr un llunieidd-dra, a'r un gwynfyd.

Troesant i edrych ar y ddau, eithr nid oedd ond un i'w weled. Pa un ai gŵr y gloch iâ, na ellid ei ladd, ynteu Di oedd, ni wyddent. Y gwir yw bod y ddau yno. A fuoch rywdro'n edrych ar ddau lun yr un fath yn union yn ochrau ei gilydd, trwy wydrau, a'u gweled heb fod yn ddim ond un? Felly yr oedd Di a'i gyfaill. Yr oedd y ddau yno. Crwydrent ynghyd i bobman—yn lluniaidd a hardd, a gwynfydedig ond y dyneddon heb fod yn gweled dim ond un. A chan na wyddent pa un ai Di ynteu ei gyfaill a welent ofnent ei gyffwrdd, canys daeth ofn mawr tros yr holl dir pan glywsant am gyfaill Di ei fod yn ŵr na ellid ei ladd.

Aros wnaeth Di ar hyd ei oes yng nghwmni ei gyfaill o'r gloch iâ ar bwys y deml, a'r dyneddon yn ei ofni'n fwy-fwy, fel y syllent ar ei harddwch, a'i lunieidd-dra a'i wynfyd. Ac atgoffai'r rhwyg yn y deml rew hwy o hyd am eu hymdrech i ladd ei gyfaill, y gŵr na ellid ei ladd. Rhwyg hefyd na ellid ei gyfannu oedd hwnnw a wnaed yn y deml. A chofia'r dyneddon trwy'r oesoedd hyd heddyw, wrth weled y rhwyg, mai gŵr na ellid ei ladd oedd y cyfaill a gafodd Di.

VIII. Y TELYNOR BACH.

NID oedd canrif i'r dyneddon ond llai nag un dydd i mi,―y mynydd mawr. Gwyliwn genedlaethau'n mynd heibio megis mewn darn diwrnod, ac yr oedd oesoedd lawer o'u hamser hwy er pan ddeuthum i'r wlad, a hyd yn oed y traddodiad am fy nyfod wedi diflannu.

A chyhyd y bum yno nes imi fynd i gyfrif amser yn ol eu calendr hwy, ac anghofio ddarfod trigo ohonof erioed yn ein byd ni. Anghofiais fy machgendod yn lân, a thybiwn mai mynydd oeddwn mewn gwirionedd. Fel y gwelsoch ambell fachgen wrth chwarae ceffyl yn anghofio mai bachgen oedd, ac yn teimlo'n hollol fel ceffyl, arferaswn innau fod yn fynydd cyhyd nes teimlo yn hollol fel mynydd, ac anghofiais fod y dyneddon mor ryfeddol o fach. Croesâwn yr eira pan guddiai fi fel y croesawir ef gan fynydd, a'r unig deimlad a'm gorchfygai oedd pa mor hardd yr edrychwn yn fy ngwisg wen.

Bum yno'n ddigon hir i weled newid hinsawdd y wlad. Clywsoch yr hen bobl yn dywedyd lawer tro fod eira mwy yn y gaeaf, a dyddiau mwy hafaidd yn yr haf, yn eu plentyndod hwy, nag sydd heddyw. Camgymryd y maent. Nid yw trigain mlynedd, wedi'r cwbl, yn ddigon inni weled eu dylanwad ar yr hinsawdd. Ac nid oedd trigain mlynedd i'r dyneddon, hwythau, yn ddim, cyn belled ag yr âi'r hinsawdd. Eithr amdanaf i, y mynydd mawr, nid oedd eu trigain mlynedd hwy ond megis darn diwrnod imi; ac wedi byw ganrifoedd a chanrifoedd yno, ni theimlais fy mod wedi heneiddio dim. Yr unig un o deimladau fy machgendod a lynodd wrthyf oedd y teimlad o ieuengrwydd. Er trigo cymaint yn y wlad ni theimlais ddylanwadu o'r blynyddoedd ddim arnaf; ac er mai mynydd hen iawn oeddwn i'r dyneddon, teimlo'n ieuanc a wnawn i,—yn ieuengach na'r dynan ieuengaf yno, gan y gwyddwn y byddai ef yn hen, ac wedi hir farw, cyn imi ymarfer â'i fod.

Er hynny, bum innau'n ddigon hir yn y wlad i deimlo cyfnewidiad. O ganrif i ganrif cynhesai'r hinsawdd yn raddol, ac o dipyn i beth gwelwn y deml rew'n lleihau. Ni sylwodd y dyneddon ar hynny am rai o'u hoesoedd hwy, ond gwyddwn i mai mynd lai-lai a wnai.

Un diwrnod sylwodd dynan ar ddarn o graig, fod ôl rhew yno mewn lle nad oedd y rhew erbyn hyn yn ei gyrraedd o lawer, a haerodd mai lleihau yr oedd y deml. Eithr y fath oedd cri'r anghredadun nes iddo gadw ei syniad iddo ei hun. Ymhen oes neu ddwy wedyn dywedodd un arall yr un peth, a bu bron iddo yntau gael ei ladd gan lid y lliaws. Mewn oes neu ddwy wedyn sylwyd fod un o'r adenydd hanner agor oedd i angylion ymyl y deml, yn llai na'r llall, nes gwneuthur yr olwg arno braidd yn chwerthinllyd. Canys nid yw angel yn hardd oni bydd yn gymhesur. Ac o dipyn i beth aeth yr angel hwnnw a'r angylion oll yn eu tro yn gyff gwawd y di-râs. Wedi anghofio'r helynt hwn gan oesoedd dyfodol, disgynnodd darn o'r wisg wen a guddiai wyneb un o'r saint gweddigar, cerfiedig, un diwrnod, a gwelwyd mai draenen oedd oddi— tanodd, mai eira wedi rhewi dros gangen ddraenen oedd y cerfwaith prydferth i gyd—a chollodd y di-râs eu ffydd o hynny allan mewn saint.

Erbyn hyn credai eraill mai lleihau yr oedd y deml, ac ofnai llawer fynd iddi. Eithr parhai rhai ymhob oes am oesoedd wedi dechreu'r meiriol i gredu nad oedd dim cyfnewidiad. Ond fel y disgynnai darn ar ol darn, bu raid credu nad oedd pethau megis cynt. Daeth galar dwys tros y rhai yr ymlynai eu calonnau fwyaf wrth y deml, ac edrychent i'r dyfodol mewn ofn tywyll, du.

Credai'r anghredadun erbyn hyn mai diogelach fuasai tynnu'r deml i lawr, nad oedd hi'n ddim ond perygl, ac ar y goreu yn ddim ond addurn hen oesoedd; a cheisiai eraill daro ar gynllun i'w hatgyweirio. A minnau'n gwylio ac yn gwybod nad oedd raid i'r un ochr bryderu—nad oedd raid ei thynnu i lawr, y meiriolai ohoni ei hun yn llwyr yn ei thro; ac er iddi fynd, na leihai colli'r deml ddim ar y ffrwd a roddodd fod iddi. Bu'n gyfyng ar y dyneddon lawer tro am ddwfr i'w yfed, gan ei fod ar ambell adeg bron i gyd wedi rhewi'n deml, ond cynhyddu a wnai'r dwfr o oes i oes fel y lleihai'r deml. A'r dwfr a lifai odditani oedd ffynhonnell y wlad. Deuai'r dyneddon o bell ac agos ati, a digonid hwynt.

Sylwn hefyd, o dipyn i beth, fel y toddai'r deml, y meiriolai'r eira a'r barrug ar fy ysgwyddau a'm llethrau i, ac yr âi hwnnw hefyd yn llai o genhedlaeth i genhedlaeth. Un diwrnod daeth darn mawr o biler y deml i lawr a chrynodd y wlad dan y codwm, a thyrrodd dyneddon o bell ac agos yno. Afluniaidd iawn oedd y deml wedi hyn,—wedi methu ohoni ddal ei phwysau ei hun—ac eithriad oedd i neb fynd yn agos ati. Ciliasai'r hen gwynfanwyr, a'i cofiai hi ar ei goreu, oll o'r byd, a chodasai oes na wyddai am ei gogoniant,—dim ond ei chofio'n hanner parchus, hanner dirmygedig a wnaent. Aeth pigyn i'm calon innau wrth weled yr harddwch yr arferaswn gymaint ag ef yn diflannu, yn enwedig gan mai teml a ffurfiwyd o'm dagrau ydoedd. Cysur imi er hynny lawer tro yn y galar cudd yn fy mynwes, o golli'r deml, oedd ddarfod iddi am lawer oes fod yn gysgod cysegredig i ddyneddon, ac yn gysur di-drai iddynt.

Daeth dyneddon o bell i weled ôl y gyflafan, dyneddon a ddeuai yno am eu dwfr i'w yfed, ac a gwynai fod yn rhaid mynd mor bell amdano, canys dyma unig ffynhonnell ddwfr y wlad. Tyrrai y rhai hyn o'u bodd i weld y gyflafan.

Gwyddwn i nad y deml yn unig a leihai, ond y lleihai'r eira hefyd, ac y gwelai'r dyneddon ffrydiau eraill cyn bo hir i'w digoni. Aeth cenhedlaeth heibio, â'r dyneddon wedi dysgu dygymod â'r darn teml a'r ffrwd gynhyddol. Un diwrnod daeth cri trwy'r wlad am ddarganfyddiad mawr,— fod ffrwd arall mewn ochr arall i'r mynydd, cyn gryfed a ffrwd y deml rew. Aethpwyd yno, a dyna lle yr oedd ffynnon loyw yn byrlymu wrth fy ngodre i ddyneddon y rhanbarth hwnnw gael dwfr. A thorrai rhyw ffrwd newydd allan ohonof ymhob oes. Fel y pellhai'r traddodiad am ddarganfod un ffynnon, darganfyddid ffynnon newydd.

Torrai'r ffynhonnau hyn allan yn gyflym iawn ar ol ei gilydd i'm profiad i, ond yr oedd cenedlaethau rhyngddynt i'r dyneddon. Ymfalchïent ffynnon newydd, a rhuthrent i'w gweled, ac o dipyn i beth ymarferent â hi. A'r oes nesaf wedi hen ymarfer â hi, teimlai nad oedd digon o ddwfr wedyn yn y wlad, bod angen ffynnon mewn, rhanbarth arall. A phan fyddai'r teimlad yn angherddol, torrai ffynnon allan. Ac felly y bu o oes i oes, nes i'r deml rew doddi'n lân ac i'w ffrwd fynd yn ffrwd gyffredin yng nghanol llawer o ffrydiau cyffredin. O oes i oes hefyd toddai'r eira ar fy ysgwyddau, nes o'r diwedd nad oedd dim i'w weled ond fy nillad. Ac ymddangosent i'r dyneddon fel gwisg o rug a choed llus i chwi wrth edrych ar fynyddoedd y byd.

Gwelwch fod pethau, erbyn hyn, yn wahanol iawn i'r hyn fuont unwaith. Tarddai ffrydiau oddiwrthyf yn afonydd o'm hamgylch, a rhedent i bob cyfeiriad, ac yr oedd digonedd o ddwfr wrth annedd pob dynan i'w ddisychedu. Aeth hyd yn oed y cof am y deml rew ar goll ac nid oedd ei ffrwd bellach ond ffrwd gyffredin ymhlith miloedd o rai tebyg. Yr oedd hen draddodiad niwliog am deml rew fu unwaith yn y rhanbarth hwnnw ymysg y dyneddon, ond ni roddid mwy o bwys arno nag a roir gan y rhai callaf ohonoch chwi ar hen straeon ysbrydion yng nghilfachau'r wlad. Diddorai rhai eu hunain â'r hen draddodiad hwn, ond i'r lliaws coel ofer ydoedd i gyd. Arferasant â'r ffrydiau, digonid hwynt ganddynt, ac aeth bywyd yn gyffredin iawn iddynt. Mor gyffredin oedd nes iddynt flino byw. Er bod ganddynt ddigon o bopeth, blinder mawr iddynt oedd bywyd, oherwydd cyffredinedd popeth. A daeth dyhead dwfn am rywbeth tebyg i'r deml rew eto i harddu bywyd.

Wedi chwilio a chasglu'r hen draddodiadau, yr oedd ganddynt syniad go lew amdani. Disgrifid hi gan oreugwyr gwlad, a llawer dychymyg a luniodd ei hadfer. Eithr amhosibl oedd hynny, oherwydd newidiasai'r hinsawdd er na wyddent hynny, ac ar gyfer hinsawdd oer y trefnwyd y deml rew. Yr oedd hi yn amhosibl i hinsawdd gynhesach. Yr oedd hyd yn oed defnydd y deml erbyn hyn wedi mynd yn anhysbys canys ni wyddai neb beth oedd rhew. Yr unig rew mewn bod oedd y rhew tesni ar fy llygad, ac nid oedd neb yn yr oesoedd hynny yn meiddio dringo i fy mhen i archwilio hwnnw.

Blinasant ar bopeth. Arferasant gymaint â chanu y pelydrau sêr, a'r blodau wrth dyfu, a'r diferion niwl wrth daro yn ei gilydd, nes peidio â'u clywed. Ac ymdrech fawr bywyd oedd ffoi oddiwrth ei gyffredinedd, a dyheu am oes aur y deml rew, onid aeth oes y deml yn eu golwg yn oes wynfydedig. Ni wyddent am chwerwder a malais yr oes honno, a ddangoswyd pan ddarniwyd y deml i ddial ar Di, ac mewn llawer ffordd arall yn ei thro.

Wedi i'r cyffredinedd hwn fod yn y wlad yn hir, ac i fywyd fynd yn llwm a thlawd, ac i'r dyneddon ymarfer digon ag ef i feddwl nad oedd dim arall yn bod, ymddangosodd un yn eu mysg a newidiodd bopeth, ac a wnaeth iddynt anghofio hyd yn oed traddodiad y deml rew yn eu gwynfyd newydd.

Telynor oedd. Un diwrnod pan oedd pawb wrth eu gwaith, neu'n crwydro'n ddiamcan yn aros i'm llygad gau i ddarfod eu diwrnod, disgynnodd canu telyn perlewygol ar eu clybod oll, canu mor lesmeiriol nes i arfau gwaith rhai, llestri dwfr eraill, a phob offeryn arall, ddisgyn o'u dwylo dan ei gyfaredd. Swynwyd pob un tuag at y canu heb yn wybod iddo ei hun nac i neb arall. Tyrrai'r dyneddon o bobman o'm cymoedd i, ac o'r gwastadeddau, ac o gysgodion mynyddoedd eraill, tuag at y canu, a phob un wedi ei swyno'n lân ganddo,—yn mynd tros greigiau a chorsydd a diffeithleoedd heb deimlo na blinder na dim.

Ac mewn dyffryn rhyngof i a mynydd arall safodd y dyrfa, tyrfa na allai neb ei rhifo. O dan gysgod math ar ywen fawr ar fin llyn o ddwfr, eisteddai un o'r bodau tlysaf a welwyd erioed â thelyn yn ei law. Chwifiai ei wallt yn yr awel gan ddisgleirio fel pelydrau yng ngoleu'r haul, a fflamiai ei lygaid dan gyfaredd ei ganu ei hun. Symudodd y dorf fel un gŵr i ddawnsio dan ddylanwad y canu, a dawnsio y bu yn ddiflino am nas gwn i pa hyd. Dawnsio yr oedd pan gaeais fy llygad yr hwyr hwnnw. Clywn gynnwrf y dawnsio wedi i mi ei gau, a dawnsio yr oedd bore drannoeth, ac felly am ddyddiau, heb flinder na lludded.

O'r diwedd peidiodd y canu, a llonyddodd pawb. Dechreuasant siarad ynghylch y telynor, ac yntau'n gwrando, yn un bach hyd yn oed ymhlith dyneddon. Trodd at ei delyn a gorffennodd blethu tant newydd iddi. Tynhaodd y tant a chyffyrddodd ag ef â'i fys. Tynhaodd ef fwyfwy, a chyffyrddodd ef wedyn. O'r pellter mawr clywid sŵn curo morthwyl, a synnodd y dyrfa fod un dynan yn gweithio yng nghanol swyn o'r fath. Aethpwyd i gyrchu'r gweithiwr, ac wedi dyfod ohono yno gwelwyd mai hen ddynan byddar ydoedd heb ddim diddordeb mewn bywyd ond gweithio.

Wedi tynhau'r tant newydd i'w foddhau ei hun, dechreuodd y telynor bach ganu'r delyn eilwaith. Ac os melys cynt mil melysach yn awr â'r tant newydd. Cyfoethogai sain pob tant arall heblaw bod yn ardderchog o gyfoethog ei hun. Mor felys oedd y canu nes bod yn rhy gyfareddol i'r bobl ddawnsio odditano. Ac yno y buont yn gwrando heb wybod basio amser, ac heb fwyd na llyn am hanner oes. A'r telynor bach dieithr yn canu o hyd.

Peidiodd wedyn, ac edrychodd y dyneddon ar ei gilydd. O ba le y daeth y fath delynor, ebe hwy, y naill wrth y llall,—a'r telynor bach heb gymryd dim sylw ohonynt, dim ond gwrando i bob cyfeiriad, a phlethu tannau newyddion a'u tynhau yn ei delyn.

Cynhyddodd yr holi, a thyrrai'r dyrfa'n nes i'r telynor nes ei amgylchynu. Penodasant eu tywysog i'w holi pwy ydoedd, ac o ba le y cafodd ei gân. Gwrandawent mor astud am ateb oni chlywid curiadau eu calonnau yn gymysg â churiadau'r hen ddynan byddar o'r dyffryn pell.

Gofynnodd y tywysog iddo'n foesgar pwy ydoedd, ac ymhle y cafodd ei nefol gân.

"Mi a'm cân," ebe'r telynor, "onid adwaenoch ni ein dau?

"Na," ebe'r tywysog, ni'th welsom erioed o'r blaen, ac ni chlywsom dy gân."

"Do, ganwaith," ebe'r telynor.

"Na," ebe'r tywysog, "byd dieithr i ni yw byd dy gân, ac ni bu dy delyn yn Nhir y Dyneddon erioed."

"Deuwch oll gyda mi," ebe'r telynor, a neidiodd i fyny, ac ymaith ag ef yn wisgi â'i delyn ar ei gefn. A'r dyrfa'n un rhuthr yn ei ddilyn. Safodd wrth ffrwd fy nagrau a gynhyrchodd gynt y deml rew, a tharodd dant mor felys ar ei delyn onid aeth sû trwy'r dyrfa fel chwa tros wenith Awst. "A glywaist ti'r nodyn yna rywdro?," eb ef wrth y tywysog. Ysgydwodd y tywysog ei ben, a phawb yn ysgwyd ei ben gydag ef. "Gwrando," ebe'r telynor, ar y ffrwd ddwfr." Gwrandawodd yntau, a phawb gydag ef. "Beth yw'r nodyn a gân y ffrwd?" ebe'r telynor. Wedi gwrando'n hir ar y bwrlwm tros y cerryg, na chlywsant mohono erioed gan mor hir eu hymarfer ag ef, trodd y tywysog at y telynor, a dywedodd tros y dyneddon oll, â'i wyneb yn welw, "Ie, nodyn y ffrwd ddwfr yw nodyn y tant."

Tyrd eto," ebe'r telynor, ac at ffrwd arall â hwy, tarawodd y telynor dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywodd ei debyg. Dywedodd yntau, "Naddo." "Gwrando ar y ffrwd," eb ef, ac wedi gwrando clywodd pawb nodyn y tant newydd yn y ffrwd, a gwelsant mai nodyn a fu'n canu'n hyfryd yn eu mysg erioed oedd y nodyn hyfryd yn y delyn.

"Tyrd eto," ebe'r telynor, ac i ffwrdd â hwy drachefn. Wedi cerdded ymhell, cododd ei law ar i'r dyneddon sefyll. Tarawodd dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywsai ei debyg. "Naddo erioed," eb ef, neu ni buasai'n bosibl i'n bywyd fod yn faich arnom." "Edrych yma," ebe'r telynor, a gwrando."

Wrth flaen troed y tywysog, ar fin cael ei fathru ganddo, yr oedd llygad dydd yn tyfu. "Oni chlywi ef yn tyfu? " ebe'r telynor. Ac wedi gwrando'n hir, a rhoddi eu bryd arno, daeth nodyn hyfryd o fynwes y llygad dydd na chlybuwyd ei hyfrytach erioed, a'r nodyn hwnnw oedd nodyn trydydd tant telyn y telynor.

Aeth y telynor â'r dyrfa o ffrwd i ffrwd ac o flodyn i flodyn, ac nid oedd y ffrwd a gynhyrchodd y deml rew gynt erbyn hyn ond un gyffredin ymysg eraill, yn cyfrannu ei nodyn ei hun i'r gân. Tynnodd y telynor yng ngwydd y dyneddon nodyn o belydrau'r sêr, a'r diferion niwl, ac o lu o bethau eraill. Tarawodd dant arall, yn y man, hyfrytach na'r cwbl, na chlywodd y dyneddon erioed ddim mor swynol.

"O! delynor mwyn," ebe'r tywysog, "O ble y cefaist y nodyn perlewygol hwn?

'O'ch mysg chwi," ebe'r telynor. "Ni chlywsom ni erioed mohono o'r blaen, delynor mwyn," ebe'r tywysog.

"Ymhle y mae'r plant oll?" ebe'r telynor.

"Dyma hwy yn ein mysg," ebe'r tywysog. A chasglwyd y plant o amgylch y telynor, yn edrych yn syn ac ofnus. Gadawodd ef ei delyn, ac aeth i chwarae â hwy. Ac ymhen ennyd mawr oedd y chwerthin a'r hwyl. Aeth y telynor at ei delyn yn ol, a tharawodd y tant mwyaf swynol hwnnw wedyn. Edrychodd pawb ar ei gilydd, canys adwaenent y nodyn erbyn hyn. O fiwsig chwerthin plant y cafodd ef y nodyn hwnnw. A gwyrodd y dyneddon a ataliai eu plant rhag chwarae a chwerthin fyth a hefyd eu pennau mewn cywilydd.

Daeth at dant olaf ei delyn.

"A glywaist ti hwn, dywysog?" eb ef.

'Naddo erioed," ebe'r tywysog.

'Ymhle mae'r dynan byddar?" eb ef.

Draw yn un o greigiau'r mynyddoedd wedi cilio at ei waith a'n galw ni oll yn ynfydion," ebe'r tywysog.

"Gwrandewch oll," ebe'r telynor, a gwrandawodd yr holl dyrfa. Disgynnodd sŵn curo ysgafn morthwyl o'r graig ar eu clyw, wedi ei dyneru gan y pellter. Tarawodd y telynor y tant olaf hwnnw a gyfareddodd y dyrfa mor llwyr wrth ei glywed yn cyfoethogi cymaint ar y gân, a syfrdanwyd hi wrth ddeall ohoni nad oedd yn ddim ond nodyn morthwyl ar y graig yr enillai dynan byddar ei damaid wrth ei churo.

"A phwy wyt ti, delynor mwyn?" ebe'r tywysog.

"Yn awr am y gân unwaith eto," ebe'r telynor. A dechreuodd daro'r tannau. Ni chlybuwyd erioed gân fel honno. Neidiai hen ddyneddon cloff fel ewigod dan ei swyn, a chrynai'r ddaear dan y dawnsio. Ymollyngodd pob un yn y canu fel na feddyliodd ddim am neb ond ef ei hun, a'r gwynfyd yr oedd ynddo. Tawodd y telynor. "Ni chawsoch oreu'r gân eto," meddai. "Edryched pob un am un i gyd—ddawnsio ag ef." Ond cyn i neb ddarganfod partner dechreuodd y gân drachefn. Eithr wrth iddynt weled ei gilydd tan ddylanwad y gân gweddnewidiwyd hwynt oll. Gwelai pob un hyd yn oed ei elyn pennaf yn ogoneddus, a thynnid hwynt ynghyd fel y tyn tynfaen ddur. Nid oedd nac eiddigedd na gelyniaeth yn eu mysg oll, ond pob un yn ymdoddi i'r llall. A chafodd y telynor dant a nodyn newydd i'w delyn o'r ddawns hon, na fu eu cyffelyb erioed yn Nhir y Dyneddon nac unrhyw dir arall o'r blaen. Ni bu cân erioed fel honno, ac nid oedd nodyn ffrwd y deml rew yr hir— aethid cymaint amdani, ond un nodyn ohoni.

Trodd y tywysog at y telynor, syllodd yn wyllt arno, ac ar un amnaid cofleidiodd ef a gwaeddodd, "Fy mhlentyn fy hun! fy mhentyn fy hun!" Ie, ei blentyn ef ydoedd y telynor, plentyn anymunolaf y teulu ganddo am mai breuddwydio oedd ei waith beunydd. Ond teg dywedyd na wyddai ef hyd yn hyn am y gân fawr hon a gasglodd ei blentyn ynghyd.

Mawr oedd y canu a'r dawnsio ac ymledodd yn heintus i galon y fro. Teimlwn innau fy hun yn cael fy nhynnu i'w canol i gyd-ddawnsio â hwy er mai mynydd oeddwn, a deffrowyd teimladau newydd yn fy mynwes a anghofiaswn yn lân,— teimladau'r bachgen fu â brodyr a chwiorydd iddo gynt.

Teimlwn y cynnwrf yn mynd i'm sylfeini, a chodais oddiarnynt i gyd—ddawnsio â'r dorf. A'r telynor yn dal i ganu ei delyn megis na chanodd mohoni erioed. Yn y dawnsio deuai gwres newydd i'm mynwes, a mynnai fy llygad fu ynghau cyhyd, agor. Disgynnai fy nillad yn dalpiau oddiar fy ysgwyddau hefyd, a disgynnodd y darn rhew oddiar y llygad a fu'n haul cyhyd.

Agorais fy nau lygad i weled Tir y Dyneddon yn well, canys dechreuasai fynd yn niwlog imi erbyn hyn, dan ddylanwad y cynnwrf yn fy mynwes —ac ymhle y cefais fy hun pan agorais hwy ond yn gorwedd ar y sgrîn wrth y tân yn ein tŷ ni, fy nillad yn diferu, a mam yn sefyll uwch fy mhen, yn golchi un llygad imi â dwfr, ac yn tynnu darn o rew oddiar y llall, a roddodd arno i'w rwystro i dduo.

Gwenodd arnaf â dagrau yn ei llygaid, a gofynnodd imi, "Wyt ti'n well 'machgen i?" Ac yna y cofiais am y chwarae ymguddio â'm brawd a'm chwaer, ac am y cwymp a gefais yn agen y graig.


Nodiadau

[golygu]