Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Dafydd Manuel

Oddi ar Wicidestun
Dafydd ab Harri Wyn Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Dafydd William Pyrs

DAFYDD MANUEL. Bardd gwladaidd, yn ei flodau tua 1700. Dywed rhai mai brodor o Edeyrnion ydoedd; ereill a ddywedant mai mewn tŷ bychan ar dyddyn o'r enw Gwern Afon, yn mhlwyf Trefeglwys, yn agos i Lanidloes, y trigai. Mae cân a enwai "Bustl y Cybyddion," o'i waith yn y Blodeugerdd.—(Geir. Byw. Lerpwl.)


Nodiadau

[golygu]