Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Hywel, Morys ab
Gwedd
← Gruffydd, Owen, Bwlchgwernog | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Humphreys, Humphrey, Esgob Bangor → |
HYWEL, MORYS AB, oedd daid i Hywel Gruffydd; yr oedd efe yn byw yn y Corlwyni, ac yn ei flodau oddeutu y flwyddyn 1700. Dywedir ei fod yn fardd gwych, a'i fod wedi gadael ysgrif lyfr helaeth o'i waith ar ei ol, yr hwn a adwaenid yn Nanmor wrth yr enw, Y Barcud Mawr. Y mae y llyfr hwn yn ngholl yn bresenol, ond bernir mai ei wyr, sef Morys Powel, a'i cymerodd gydag ef i Landegai, lle, ond odid, y mae i'w gael, pe y gwneid ymchwiliad am dano.—(Plwyf Beddgelert, gan W. Jones, Porthmadog.)