Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. David, 2il
Gwedd
← Ieuan Dyfi | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. Richard → |
JONES, Parch. DAVID, 2il, gweinidog y Wesleyaidd. Brodor ydoedd o Lanegryn: cafodd ei eni yn y flwyddyn 1823. Cafodd ei dueddu yn moreu ei oes i gysegru ei hun i Dduw. Yn y flwyddyn 1845, efe a ddaeth yn ymgeisydd am y weinidogaeth; ac wedi mwynhau am dair blynedd fanteision y sefydliad duwinyddol yn Richmond, efe a ddechreuodd ar ei waith teithiol, yr hyn a barhaodd efe i'w ddwyn ymlaen gyda chymeradwyaeth hyd 1860; ar y pryd hwnw o herwydd iechyd adfeiliedig, efe a ddaeth i fod yn oruchrifol. Bu farw yn Aberhonddu, Medi 12fed, 1861, yn ei 38 mlwydd o'i oed, a'r 13eg o'i weinidogaeth.—(Geir. Byw., Aberdar.)