Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Lewis (esgob Killaloe)

Oddi ar Wicidestun
Ieuan Brydydd Hir (hynaf) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. William (gweinidog Piwritanaidd)

JONES, Parch. LEWIS, a anwyd yn sir Feirionydd, yn 1542, ac a gafodd ei addysg golegol yn Rhydychain, lle y derbyniwyd ef yn 1562. Etholwyd ef yn gymrawd o goleg All Souls yn 1569. Tua'r un pryd ymgymerodd âg urddau Eglwysig, ac heb gymeryd gradd uwch na B.A., yn un o brifysgolion y wlad hon, symudodd i'r Iwerddon, lle y dyrchafwyd ef yn ddeon Cashel, a thrachefn yn esgob Killaloe, i'r hon swydd oruchel y cysegrwyd ef Ebrill 24, 1633. Yn 1641, pan dorodd y gwrthryfel allan, efe a enciliodd i Dublin, er diogelwch, lle y bu farw Tachwedd 2, 1646, ac efe yn 104 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Eglwys St. Werburg, o fewn y ddinas hono.—(Wood's Athen. Oxon.)

Nodiadau

[golygu]