Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Rhobert, Morys ab, o'r Bala

← Price, Robert, Ll.D Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Roberts, Parch. David, (Dai Glan Tegid) →

RHOBERT, MORYS ab, o'r Bala, ydoedd fardd gwlad lled dda, ac yn meddu awen barod, fel y prawf amryw draddodiadau sydd am dano ar lafar gwlad, ac yn argraffedig yn y Gwyliedydd am 1823, t.d. 273; a'r Brython am 1860, t.d. 265, a 270. Nid ymddengys fod dim ond ambell englyn damwain o'i waith ar gof a chadw.—(Geir. Byw. Lerpwl.)


Nodiadau

[golygu]