Neidio i'r cynnwys

Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Worthington, William, D.D

Oddi ar Wicidestun
Owen, Lewis (dadleuydd gwrth-Gatholig) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

WORTHINGTON, WILLIAM, D.D., oedd dduwinydd enwog, ac wedi ei eni yn Swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1703. Anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhydychain, lle y gwnaeth gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. O'r coleg dychwelodd i Groesoswallt, a gwnaed ef yn is-athraw yn yr ysgol hono. Graddiwyd ef yn M.A. yn Caergrawnt yn 1742, a B.D. a D.D. Gorphenaf y 10fed, yr un flwyddyn. Yn 1773, gwnaed ef yn gorweinydd Llanelwy; a gwnaeth yr Archesgob Drummond (i'r hwn yr oedd wedi bod yn gapelydd am lawer blwyddyn) gyflwyno iddo gor-gadair yn Eglwys Gadeiriol Efrog. Yr oedd yn ŵr haelionus, ac yn awdwr llyfrau gwerthfawr ar—1. "Brynedigaeth;" 2. "Cwymp;" 3. "Bedydd Esgob:" 4. "Swper yr Arglwydd ;" 5. "Pregethau ;" 6. "Profion Cristionogaeth;" 7. "Damcaniaeth yr Ysgrythyrau am y Ddaear;" 8. "Pwysigrwydd o Undeb yn Eglwys Crist;" ynghyd a lliaws o bynciau eraill. Bu farw tua'r flwyddyn 1778. —(Wms.' Em. Welshmen).



ARGRAFFWYD GAN J. DAVIES, BONT BRIDD, CAERNARFON.

Nodiadau

[golygu]