Traethodau'r Diwygiad/Gair o Eglurhad (Y Cyfieithydd)
| ← Cynnwys | Traethodau'r Diwygiad gan Martin Luther wedi'i gyfieithu gan John Morgan Jones |
Cyflwyniad i draethawd 1 → |
GAIR O EGLURHAD.
CYTUNAIS i gyfieithu traethodau Martin Luther i'r Gymraeg am y rhesymau a ganlyn, ymhlith eraill mwy personol:—
YN GYNTAF, y mae angen am arwain Cymru heddiw yn ôl at ffynonellau pennaf ei Chrefydd, ei Moes, ei Haddysg a'i Gwleidiadaeth.
Rhwng y Canoloesoedd a'r cyfnod diweddar yn hanes Ewrop saif dau symudiad mawr. Sylwedd un yw Dadeni Llên a Bywyd hen glasuron Groeg a Rhufain,—a llyfrau'r Cristnogion cyntaf hefyd—o'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg. Cysylltir hwn fynychaf ag enw Erasmws (1465-1536). Y llall yw'r Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a chysylltir ef yn naturiol ag enw Martin Luther (1483—1546). Atgyfodwyd yr Efengyl a'r profiad Cristnogol i rym newydd trwyddo ef. Gwaredodd bobloedd Ewrop oddiwrth ormes Babaeth a orweddai fel hunllef ar galon a deall a bywyd y Canoloesoedd.
O'r ddau symudiad hyn y tyfodd y pethau gorau fel y pethau gwaelaf a welir heddiw ym mywyd Ewrop. Y mae perigl mawr i'r byd a'r eglwys fyw'n esmwyth ar y ffurfiau arwynebol a'r nodweddion gwannaf a berthynai i'r Dadeni a'r Diwygiad ac anghofio'u hegwyddorion grymusaf a mwyaf byw, gan wrthod perffeithio'r gwaith a adawodd Erasmws a Luther ar ei hanner.
YN AIL, y mae lle arbenicach i berson a gwaith Luther yn hanes dylanwad y ddau symudiad ar Ewrop nag sydd hyd yn oed i Erasmws—ac yn enwedig, wrth gwrs, yn hanes Moes a Chrefydd. Ym mywyd ei arwyr y teimlir gwerth, grym a gwres pob symudiad, ac ym mhrofiad Martin Luther yr ymgnawdolodd ffydd ac egwyddorion puraf y Diwygiad yn y ffurfiau symlaf, egluraf a grymusaf. Mab i lowr oedd, a gafodd addysg athronydd a chyfreithiwr mewn Prifysgol dda. Trodd yn fynach ar ganol ei yrfa yn Athrofa Erfurt a chiliodd yn sydyn i Fynachty cyfagos. Yno darllenodd y Testament Newydd am y tro cyntaf drosto'i hun. Gwelodd ystyr a theimlodd rym Efengyl Iesu Grist dan arweiniad Pawl ac Awstin. Treuliodd ei oes wedi hynny fel Athro ym Mhrifysgol Wittenberg, a throwyd ef yn ddiwygiwr gan ei brofiad crefyddol pan oedd wyneb yn wyneb â rhai o ddrygau mwyaf difaol y Babaeth yn Ewrop. Heriodd holl allu eglwys Rhufain yn enw ei ffydd syml bersonol yn Iesu Grist a'i ymddiried yng ngras Duw, ac yn enw hawl y ffydd honno i ddarllen y Beibl a dyfod at Dduw drosti ei hun, heb gyfrwng na Phab nac Esgob na Sacrament. Dyna oedd ei syniad am ryddid pob dyn. Apeliodd am help y werin a'r pendefigion llyg i ryddhau'r Almaen o lyffetheiriau'r Babaeth, a chafodd ef. Ond, ysywaeth! cafodd ef mewn ffordd a wthiodd y Diwygiad i lwybrau digon dieithr i'w ddelfrydau puraf. Trodd y tywysogion "Protestannaidd," y diwinyddion a'r eglwys Lutheraidd a hyd yn oed Luther ei hun i raddau mawr—eu cefnau ar egwyddorion canolog y blynyddoedd cyntaf. Hyd heddiw'n wir, ni ddarganfuwyd na chyfundrefn eglwysig na gwlad na phlaid â ffydd ddigon beiddgar ganddynt i'w byw a'u cymhwyso at fywyd dyn a chymdeithas. Un o anghenion pennaf y byd yw eu hatgyfodi o'r bedd y claddwyd hwy ynddo gan y diwygiwr a'i olynwyr.
YN DRYDYDD, teimlais ei bod yn werth tynnu llwch y Lladin a'r Almaeneg oddiar y ddau draethawd a ganlyn am mai ynddynt hwy y cawn ffrwyth arbenicaf blynyddoedd cyntaf gwresog a gonest y Diwygiad, ac mai ynddynt hwy hefyd y cawn y datganiad egluraf a grymusaf o ffydd a dibenion proffwyd y Diwygiad, cyn dyfod o'r dyddiau blin a'i gwnaeth yn ysglyfaeth i gynlluniau cyfrwys gwleidyddion y byd.
Ysgrifennwyd y ddau yn 1520, cyn i'r gyfundrefn eglwysig newydd a chlymblaid y tywysogion, gwrthryfel gwaedlyd y werin ddiamynedd a chredoau gormesol y diwinyddion ddechrau sychu ffynhonnau byw brwdfrydedd ffydd y diwygiwr a'r Diwygiad ieuanc. Ymhen chwe mis yr oedd Luther i ymddangos gerbron holl rym a rhwysg y byd a'r eglwys yn Senedd Worms, ac yn enw Duw a dyn, rheswm a chydwybod, i wrthod gwadu ei ffydd a'i phlygu i ddibenion amheus Ymerodraeth falch na chyfundrefn eglwysig ddall: "Ni allaf ddim amgen. Duw a'm helpo."
YN Bedwerydd, nid gwaith heb ei ddiddordeb a'i wers i genedlaetholwyr pybyr Cymru fydd sylwi ar berthynas ffurf a chynnwys neges Luther yn y pamffledi hyn a'u tebyg â datblygiad iaith a llên yr Almaen. Mewn ystyr, ganddo ef y crewyd hwy. Cyfryngau effeithiolaf ei genhadaeth a fu'r wasg ac iaith gyffredin y werin. Gwnaeth yr Almaeneg yn iaith rymus a byw am y tro cyntaf, trwy ei throi'n offeryn cymwys a hylaw i apelio at galon a meddwl a chydwybod ei genedl. Pan ddechreuodd ar ei waith yn 1517, nid oedd ond ychydig o lyfrau Almaeneg yn bod o gwbl. Ni chyhoeddwyd ond 37 yn y flwyddyn honno. Yn 1518, cyhoeddwyd 71, ac ugain ohonynt gan Luther ei hun. Yn 1520, cyhoeddwyd dros ddau gant, a'r mwyafrif o law Luther. Erbyn 1523, chwyddodd y nifer i 498 a'r diwygiwr yn awdur 183 ohonynt. Mewn gair, nid trwy ganu ei chlodydd â sŵn heb sylwedd y llwyddodd Luther i roi bywyd newydd yn iaith a llên ei wlad ond trwy gyfoethogi ei chynnwys a defnyddio iaith y werin yn fedrus i drosglwyddo neges rymus newydd.
Yr oedd un rheswm arall hefyd dros gyflwyno'r traethodau hyn i ddarllenwyr Cymru heddiw. Nid gwerth hanesyddol yn unig sydd iddynt. Y mae llawer darn ohonynt fel pe bai wedi ei ysgrifennu ddoe ar gyfer cyflwr gresynus ein gwlad a'n pobl. Mewn Gwleidiadaeth ac Addysg, mewn Moes a Chrefydd, y mae angen dygn arnom am hanfod y neges sydd ynddynt.
Apêl daer yw'r naill am help y lleygwyr i ddiwygio crefydd a'r eglwys. Datganiad yw'r llall o brofiad moesol a chrefyddol Luther, a'i syniad am ystyr y grefydd Gristnogol. Fe rydd ddau lafar croyw hefyd i hawl pob dyn a phob cenedl i annibyniaeth foesol a chrefyddol ac i ddyletswydd pob dyn a chenedl i'w haeddu a'u hennill.
Y mae yma lawer gwirionedd cyfarwydd i'r ugeinfed ganrif ond dieithr a newydd iawn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Y mae yma hefyd lawer o eiriau cryfion am y Pab ac eglwys Rufain, anodd eu cyfiawnhau. Nid ydym am i bobl Cymru eu dynwared. Gwerth hanesyddol yn unig sydd i lawer darn—a llawer brawddeg gas heb werth o gwbl. Caiff darllenydd craff y fraint o chwilio am yr haenau aur drosto’i hun o dan ysbwrial yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond fel awgrym iddo, cofied fod y wladwriaeth mewn llawer ystyr wedi cymryd lle'r Babaeth yn Ewrop; Protestaniaeth enwadol wedi esgyn i orsedd Rhufain; Beibl anffaeledig a Chyffes ddiwinyddol uniong red wedi disodli cyfundrefn eglwysig y Canoloesoedd.
O'r Almaeneg y cyfieithwyd y traethawd cyntaf, a'r ail o'r Lladin—fel y ceir hwy yn argraffiad Weimar—y diweddaraf a'r mwyaf dilys o weithiau Luther. Arwydd yw pob .. fod brawddegau neu ddarn o'r gwreiddiol wedi eu gadael allan. Yma ac acw y mae Luther yn ei ail—adrodd ei hun, ond ni adawyd allan un frawddeg na darn c unrhyw bwys i rediad na meddwl y traethodau. Q Gwneuthum fy ngorau i drosglwyddo ysbryd rhydd a gwerinol Luther mewn iaith, arddull a meddwl. Yr oedd llawer darn yn anodd ei droi i Gymraeg syml a dealladwy; gobeithiaf er hynny i mi lwyddo ar y cyfan i alluogi'r Cymro cyffredin i brofi blas a grym ac ysbryd y ddau draethawd ac i fyw am ennyd yng nghwmni un o ysbrydoedd grymusaf a dewraf yr oesau.
J. MORGAN JONES.
- Bangor,
- Medi 1, 1926.