Traethodau'r Diwygiad/Rhan o lythyr yn cyflwyno'r traethawd i'r pab
| ← At Bendefigion Cenedl Yr Almaen | Traethodau'r Diwygiad gan Martin Luther wedi'i gyfieithu gan John Morgan Jones |
Ar Ryddid Cristnogol → |
RHAN O LYTHYR LUTHER YN CYFLWYNO'R TRAETHAWD A GANLYN I'R PAB LEO X.
I derfynu, a rhag i mi ddod atat, Fendigaid Dad, yn waglaw, cyflwynaf it y traethodyn hwn a gyhoeddwyd gennyf yn dy enw fel arwydd o heddwch rhyngom, a gobaith am amser gwell. Fe ddengys i ti wrth ba orchwylion yr hoffwn dreulio fy nyddiau pe caniateid hynny i mi gan dy gynffonwyr didduw. Peth digon bach yw, o edrych arno o'r tu allan, ond yr wyf yn camsynied yn fawr onid yw'n grynodeb o sylwedd y bywyd Cristnogol—os medri ei ddeall. Yn fy nhlodi, nid oes gennyf anrheg well i'w rhoddi i ti. Gwn hefyd nad oes angen dim yn fwy arnat tithau na rhodd ysbrydol. Trwyddo hefyd y'm cyflwynaf fy hunan i'th sylw, Fendigaid Dad, a chadwed yr Arglwydd Iesu di am byth.
- Wittenberg,
6, Medi, 1520.