Traethodau'r Diwygiad (testun cyfansawdd)
| ← | Traethodau'r Diwygiad (testun cyfansawdd)]] gan Martin Luther wedi'i gyfieithu gan John Morgan Jones |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Traethodau'r Diwygiad |
TRAETHODAU'R DIWYGIAD
1520.
CYFRES Y WERIN.
Golygyddion:
IFOR L. EVANS.HENRY LEWIS.
RHIF 14
TRAETHODAU'R DIWYGIAD
1520.
J. MORGAN JONES.
WRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1926.
Amcan CYFRES Y WERIN:—"i ddyscu, helpu, diddanu, a pherffeiddio gwyr fy ngwlad, ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd.
(Geiriau'r Dr. Griffith Roberts yn y Rhagymadrodd i'w Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1567.)
Copi yw'r wyneb-ddalen o honno sydd ar y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, sef "Yn y lhyvyr hwnn" gan Syr John Prys, a ymddangosodd yn 1546.

MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN
CYNNWYS.
GAIR O EGLURHAD.
CYTUNAIS i gyfieithu traethodau Martin Luther i'r Gymraeg am y rhesymau a ganlyn, ymhlith eraill mwy personol:—
YN GYNTAF, y mae angen am arwain Cymru heddiw yn ôl at ffynonellau pennaf ei Chrefydd, ei Moes, ei Haddysg a'i Gwleidiadaeth.
Rhwng y Canoloesoedd a'r cyfnod diweddar yn hanes Ewrop saif dau symudiad mawr. Sylwedd un yw Dadeni Llên a Bywyd hen glasuron Groeg a Rhufain,—a llyfrau'r Cristnogion cyntaf hefyd—o'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg. Cysylltir hwn fynychaf ag enw Erasmws (1465-1536). Y llall yw'r Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a chysylltir ef yn naturiol ag enw Martin Luther (1483—1546). Atgyfodwyd yr Efengyl a'r profiad Cristnogol i rym newydd trwyddo ef. Gwaredodd bobloedd Ewrop oddiwrth ormes Babaeth a orweddai fel hunllef ar galon a deall a bywyd y Canoloesoedd.
O'r ddau symudiad hyn y tyfodd y pethau gorau fel y pethau gwaelaf a welir heddiw ym mywyd Ewrop. Y mae perigl mawr i'r byd a'r eglwys fyw'n esmwyth ar y ffurfiau arwynebol a'r nodweddion gwannaf a berthynai i'r Dadeni a'r Diwygiad ac anghofio'u hegwyddorion grymusaf a mwyaf byw, gan wrthod perffeithio'r gwaith a adawodd Erasmws a Luther ar ei hanner.
YN AIL, y mae lle arbenicach i berson a gwaith Luther yn hanes dylanwad y ddau symudiad ar Ewrop nag sydd hyd yn oed i Erasmws—ac yn enwedig, wrth gwrs, yn hanes Moes a Chrefydd. Ym mywyd ei arwyr y teimlir gwerth, grym a gwres pob symudiad, ac ym mhrofiad Martin Luther yr ymgnawdolodd ffydd ac egwyddorion puraf y Diwygiad yn y ffurfiau symlaf, egluraf a grymusaf. Mab i lowr oedd, a gafodd addysg athronydd a chyfreithiwr mewn Prifysgol dda. Trodd yn fynach ar ganol ei yrfa yn Athrofa Erfurt a chiliodd yn sydyn i Fynachty cyfagos. Yno darllenodd y Testament Newydd am y tro cyntaf drosto'i hun. Gwelodd ystyr a theimlodd rym Efengyl Iesu Grist dan arweiniad Pawl ac Awstin. Treuliodd ei oes wedi hynny fel Athro ym Mhrifysgol Wittenberg, a throwyd ef yn ddiwygiwr gan ei brofiad crefyddol pan oedd wyneb yn wyneb â rhai o ddrygau mwyaf difaol y Babaeth yn Ewrop. Heriodd holl allu eglwys Rhufain yn enw ei ffydd syml bersonol yn Iesu Grist a'i ymddiried yng ngras Duw, ac yn enw hawl y ffydd honno i ddarllen y Beibl a dyfod at Dduw drosti ei hun, heb gyfrwng na Phab nac Esgob na Sacrament. Dyna oedd ei syniad am ryddid pob dyn. Apeliodd am help y werin a'r pendefigion llyg i ryddhau'r Almaen o lyffetheiriau'r Babaeth, a chafodd ef. Ond, ysywaeth! cafodd ef mewn ffordd a wthiodd y Diwygiad i lwybrau digon dieithr i'w ddelfrydau puraf. Trodd y tywysogion "Protestannaidd," y diwinyddion a'r eglwys Lutheraidd a hyd yn oed Luther ei hun i raddau mawr—eu cefnau ar egwyddorion canolog y blynyddoedd cyntaf. Hyd heddiw'n wir, ni ddarganfuwyd na chyfundrefn eglwysig na gwlad na phlaid â ffydd ddigon beiddgar ganddynt i'w byw a'u cymhwyso at fywyd dyn a chymdeithas. Un o anghenion pennaf y byd yw eu hatgyfodi o'r bedd y claddwyd hwy ynddo gan y diwygiwr a'i olynwyr.
YN DRYDYDD, teimlais ei bod yn werth tynnu llwch y Lladin a'r Almaeneg oddiar y ddau draethawd a ganlyn am mai ynddynt hwy y cawn ffrwyth arbenicaf blynyddoedd cyntaf gwresog a gonest y Diwygiad, ac mai ynddynt hwy hefyd y cawn y datganiad egluraf a grymusaf o ffydd a dibenion proffwyd y Diwygiad, cyn dyfod o'r dyddiau blin a'i gwnaeth yn ysglyfaeth i gynlluniau cyfrwys gwleidyddion y byd.
Ysgrifennwyd y ddau yn 1520, cyn i'r gyfundrefn eglwysig newydd a chlymblaid y tywysogion, gwrthryfel gwaedlyd y werin ddiamynedd a chredoau gormesol y diwinyddion ddechrau sychu ffynhonnau byw brwdfrydedd ffydd y diwygiwr a'r Diwygiad ieuanc. Ymhen chwe mis yr oedd Luther i ymddangos gerbron holl rym a rhwysg y byd a'r eglwys yn Senedd Worms, ac yn enw Duw a dyn, rheswm a chydwybod, i wrthod gwadu ei ffydd a'i phlygu i ddibenion amheus Ymerodraeth falch na chyfundrefn eglwysig ddall: "Ni allaf ddim amgen. Duw a'm helpo."
YN Bedwerydd, nid gwaith heb ei ddiddordeb a'i wers i genedlaetholwyr pybyr Cymru fydd sylwi ar berthynas ffurf a chynnwys neges Luther yn y pamffledi hyn a'u tebyg â datblygiad iaith a llên yr Almaen. Mewn ystyr, ganddo ef y crewyd hwy. Cyfryngau effeithiolaf ei genhadaeth a fu'r wasg ac iaith gyffredin y werin. Gwnaeth yr Almaeneg yn iaith rymus a byw am y tro cyntaf, trwy ei throi'n offeryn cymwys a hylaw i apelio at galon a meddwl a chydwybod ei genedl. Pan ddechreuodd ar ei waith yn 1517, nid oedd ond ychydig o lyfrau Almaeneg yn bod o gwbl. Ni chyhoeddwyd ond 37 yn y flwyddyn honno. Yn 1518, cyhoeddwyd 71, ac ugain ohonynt gan Luther ei hun. Yn 1520, cyhoeddwyd dros ddau gant, a'r mwyafrif o law Luther. Erbyn 1523, chwyddodd y nifer i 498 a'r diwygiwr yn awdur 183 ohonynt. Mewn gair, nid trwy ganu ei chlodydd â sŵn heb sylwedd y llwyddodd Luther i roi bywyd newydd yn iaith a llên ei wlad ond trwy gyfoethogi ei chynnwys a defnyddio iaith y werin yn fedrus i drosglwyddo neges rymus newydd.
Yr oedd un rheswm arall hefyd dros gyflwyno'r traethodau hyn i ddarllenwyr Cymru heddiw. Nid gwerth hanesyddol yn unig sydd iddynt. Y mae llawer darn ohonynt fel pe bai wedi ei ysgrifennu ddoe ar gyfer cyflwr gresynus ein gwlad a'n pobl. Mewn Gwleidiadaeth ac Addysg, mewn Moes a Chrefydd, y mae angen dygn arnom am hanfod y neges sydd ynddynt.
Apêl daer yw'r naill am help y lleygwyr i ddiwygio crefydd a'r eglwys. Datganiad yw'r llall o brofiad moesol a chrefyddol Luther, a'i syniad am ystyr y grefydd Gristnogol. Fe rydd ddau lafar croyw hefyd i hawl pob dyn a phob cenedl i annibyniaeth foesol a chrefyddol ac i ddyletswydd pob dyn a chenedl i'w haeddu a'u hennill.
Y mae yma lawer gwirionedd cyfarwydd i'r ugeinfed ganrif ond dieithr a newydd iawn i'r unfed ganrif ar bymtheg. Y mae yma hefyd lawer o eiriau cryfion am y Pab ac eglwys Rufain, anodd eu cyfiawnhau. Nid ydym am i bobl Cymru eu dynwared. Gwerth hanesyddol yn unig sydd i lawer darn—a llawer brawddeg gas heb werth o gwbl. Caiff darllenydd craff y fraint o chwilio am yr haenau aur drosto’i hun o dan ysbwrial yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond fel awgrym iddo, cofied fod y wladwriaeth mewn llawer ystyr wedi cymryd lle'r Babaeth yn Ewrop; Protestaniaeth enwadol wedi esgyn i orsedd Rhufain; Beibl anffaeledig a Chyffes ddiwinyddol uniong red wedi disodli cyfundrefn eglwysig y Canoloesoedd.
O'r Almaeneg y cyfieithwyd y traethawd cyntaf, a'r ail o'r Lladin—fel y ceir hwy yn argraffiad Weimar—y diweddaraf a'r mwyaf dilys o weithiau Luther. Arwydd yw pob .. fod brawddegau neu ddarn o'r gwreiddiol wedi eu gadael allan. Yma ac acw y mae Luther yn ei ail—adrodd ei hun, ond ni adawyd allan un frawddeg na darn c unrhyw bwys i rediad na meddwl y traethodau. Q Gwneuthum fy ngorau i drosglwyddo ysbryd rhydd a gwerinol Luther mewn iaith, arddull a meddwl. Yr oedd llawer darn yn anodd ei droi i Gymraeg syml a dealladwy; gobeithiaf er hynny i mi lwyddo ar y cyfan i alluogi'r Cymro cyffredin i brofi blas a grym ac ysbryd y ddau draethawd ac i fyw am ennyd yng nghwmni un o ysbrydoedd grymusaf a dewraf yr oesau.
J. MORGAN JONES.
- Bangor,
- Medi 1, 1926.
AT BENDEFIGION CRISTNOGOL CENEDL YR ALMAEN
AR DDIWYGIO'R EGLWYS GRISTNOGOL.
IESU.
I'R HYBARCH A'R ANRHYDDEDUS NICOLAS VON AMSDORFF, ATHRO YN YR YSGRYTHUR LAN A CHANON YN WITTENBERG,
FY NGHYFAILL ANNWYL IAWN.
DR. MARTIN LUTHER.
GRAS a thangnefedd Duw i chwi, hybarch ac anrhydeddus, annwyl Syr a Chyfaill.
Aeth yr amser i dewi heibio a'r amser i lefaru a ddaeth.
Yn ôl ein cytundeb, yr wyf wedi casglu ynghyd rai pethau ynglŷn â diwygio cyflwr crefydd a'r eglwys yn ein gwlad, i'w gosod ger bron pendefigion Cristnogol y genedl.
Cawn weled a fyn Duw helpu ei eglwys trwy'r gwŷr llyg, gan fod y gwŷr eglwysig, er mai eu gwaith priod hwy yw, yn hollol ddiofal.
Danfonaf y cwbl i chwi, hybarch Syr, i'w farnu a'i gywiro lle y bo angen.
Gwn yn iawn na chaf ddianc rhag y cyhuddiad o feddwl gormod o honof fy hun wrth annerch pendefigion mor fawr ac mor uchel ar faterion mor bwysig, a minnau heb fod ond gŵr dibarch a dirmygedig—fel pe na bai neb yn y byd ond y Dr. Luther i ofalu am gyflwr crefydd yn y wlad ac i gynghori boneddigion mor ddoeth. Ond nid oes gennyf ymddiheuriad, beied a fynno arnaf. Efallai'n wir mai hwn yw'r un ffolineb yn ychwaneg yr wyf mewn dyled i Dduw a dyn ohono. Hyd eithaf fy ngallu mi a'i talaf yn awr, gan droi am dro yn Ffŵl y Llys. Os methaf, y mae gennyf un peth o'm hochr—ni bydd angen i neb brynu cap i mi nac eillio fy nghopa chwaith. Ond cawn weled pwy a gaiff y fraint o glymu'r clychau. I mi y perthyn y gwaith o wireddu'r ddihareb unwaith eto: "O bydd gan y byd ddim i'w wneuthur, rhaid yw i fynach fod yno, ie, pe bai rhaid ei gerfio i'r diben." Mwy nag unwaith yn wir y mae'r ffŵl wedi llefaru'n ddoeth, a llawer gweithred ffôl a wnaed gan ddoethion. Fel y dywed Pawl: A fynno fod yn ddoeth, boed ffŵl.
Nid ffŵl yn unig wyf, er hynny, ond wedi fy nhrwyddedu'n Ddoctor yr Ysgrythur Lân hefyd. Da gennyf am y cyfle i gyflawni fy llw mewn ffordd mor " ffôl "a hon.
Da chwi, gwnewch chwi esgusawd drosof i'r bobl gymedrol o gall. Ni wn i ddim pa fodd i haeddu cymeradwyaeth a gras y gorgall, er i mi ymdrafferthu lawer gwaith i'w hennill. O hyn allan, gwn o'r gorau na chaf eu gair da. Ni cheisiaf am dano chwaith. Duw a'm helpo i geisio nid fy ngogoniant fy hun ond Ei ogoniant Ef yn unig.
AMEN.
I'W OGONEDDUSAF, RYMUSAF FAWRHYDI'R YMHERAWDR A PHENDEFIGION CRISTNOGOL CENEDL YR ALMAEN.
D. MARTINUS LUTHER.
GRAS a nerth Duw iwch, Ogoneddusaf, a chwi raslonaf annwyl Foneddigion! Nid o haerllugrwydd pengam gwag y penderfynais annerch eich Arglwyddi. Yr angen a'r caledi sy'n llethu pob dosbarth yng ngwledydd Cred, ac yn enwedig yn yr Almaen ac a'm cymhellodd i a phawb arall hefyd i weiddi'n groch lawer tro ac erfyn am help—hyn a'm gorfododd y tro hwn hefyd i weiddi a gofyn oni fynn Duw roddi'r awydd i rywun estyn llaw o gymorth i'r genedl druan. Gwnaed llawer cynnig i ddiwygio pethau gan Gynghorau eglwysig, ond fe osodwyd rhwystrau cyfrwys ar eu ffordd, ac o ddrwg i waeth yr aeth ein cyflwr. Y mae yn fy mryd yn awr, gyda help Duw, ddinoethi dichell a malais ein gelynion, a thrwy hynny eu cadw rhag gwneuthur mwy o ddrwg. Rhoddodd Duw inni bennaeth ieuanc o waed bonheddig a ddihunodd lawer calon i obaith gwell a mwy. Am hynny nid yw ond iawn i ninnau wneuthur defnydd da o'r cyfle a'r gras a gawn.
Y peth cyntaf y dylid ei wneuthur yw i bob un o honom roi'n meddwl o ddifrif i'n cyflwr; ond wrth ddechrau'r gwaith, gwyliwn rhag dibynnu ar ein grym a'n doethineb
mawr ein hunain—hyd yn oed pe bai holl awdurdod a gallu'r byd yn ein meddiant. Ni wna ac ni all Duw oddef hynny. Os gwnawn fe ddaw distryw ar ein gwaith, ac ni ddaw dim ohono, fel y dywed y Sallwyr: "Ni waredir brenin gan liaws llu; ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder (Salm 33). Ofnaf mai dyna paham y baeddwyd y penaethiaid annwyl, yr Ymerodron Ffriedrich y Cyntaf a'r Ail a llawer Cesar arall mor druenus dan draed gan y Pab, er bod eu hofn ar yr holl ddaear. Tebyg iddynt ymddiried mwy ar eu nerth eu hunain nag ar Dduw; am hynny yr oedd eu cwymp yn sicr. Ac yn ein dyddiau ni hefyd, pa fodd y medrai'r Gwaed— feddw hwnnw, Iwl yr ail, godi mor uchel ei ben onibai i Ffrainc, yr Almaen a Fenis, fel yr ofnaf, ymddiried gormod arnynt eu hunain. Rhag i ddim tebyg ddigwydd heddiw i'n pendefig nobl Carl, rhaid yw inni gofio nad â chig a gwaed y mae'n hymdrech ni yn y mater hwn ond â thywysogion y Fall. Ni ellir eu difetha hwy trwy dywallt gwaed na thrwy arfau rhyfel, er eu bod hwy wedi llanw'r byd â thywallt gwaed a rhyfel. Yma ni wna dim y tro ond ymwadu'n hollol â grym materol mewn ymddiried gostyngedig ar Dduw a gweddïo'n daer am help gan Dduw. Rhaid yw cadw'n llygaid ar galedi a thrueni'r werin druan gan anghofio'r hyn a haedda dynion drwg. Oni wneir hyn, gall y medrwn ddechrau'r gwaith mewn hwyl a llwydd, ond cyn hir fe'n harweinir gan yr ysbrydion aflan i'r fath drybini ag a fawdd y byd mewn gwaed, ac yn y diwedd ni fydd dim wedi ei ennill erddo.
Am hynny, boed i ni yn hyn o beth weithredu'n ddoeth a than ofn Duw. Po fwyaf y gorthrwm, mwyaf yr aflwydd lle ni weithredir yn ôl ewyllys Duw ac yn ei ofn Ef. Os llwyddodd y Pabau a phleidwyr Rhufain hyd yn hyn trwy help y diafol i osod brenhinoedd yn benben, gallant yn hawdd wneuthur hynny eto, a ni'n ymddiried ar ein nerth ein hunain heb help Duw.
Yn ddeheuig iawn, cododd y Pabyddion dair caer o'u deutu. Diogelwyd hwy trwyddynt hyd yn hyn rhag i neb eu diwygio, ac yn herwydd hynny syrthiodd yr holl fyd i drybini arswydus.
YN GYNTAF, pan wesgir yn drwm arnynt gan lywodraethau'r byd, haerant yn gyndyn nad oes gan un gallu bydol lywodraeth drostynt. Y mae'r awdurdod eglwysig, meddant hwy, uwchlaw'r bydol.
YN AIL, pan gyhoeddir barn arnynt o'r Ysgrythur Lân, eu gwrthddadl yw nad oes gan neb hawl i esbonio'r Ysgrythur ond y Pab.
YN DRYDYDD, bygythier hwy â Chyngor Eglwysig, a honnant na all neb alw ynghyd Gyngor Eglwysig ond y Pab.
Mewn gair, y maent wedi lladrata'n ddirgelaidd y tair gwialen oedd gennym i'w cosbi, ac ar ôl eu hamgloddio'u hunain â'r teircaer hyn, ymroisant i bob melltith a malais a welir yn awr ar y ddaear.
Wel, cynorthwyed Duw ni'n awr ynteu, a rhodded inni un o'r utgyrn a wnaeth i gaerau Ierico gwympo, fel y medrwn chwythu i lawr y caerau gwellt a phapur hyn. Gollynger gwialennod Duw'n rhydd i gosbi pechod a thynnu twyll a hoced y diafol i olau dydd. Rhodder i ninnau hefyd y cyfle i'n diwygio'n hunain trwy ddioddef cosb Duw ac ennill eto'i ffafr Ef.
Beth am y gaer gyntaf a ennwyd? Fe ddaeth i ddychymyg byw rhywun i alw'r Pab a'r Esgobion a'r mynaich yn "urdd ysbrydol" ac i alw'r tywysogion a'r pendefigion, y gweithwyr a'r llafurwyr, y dosbarth bydol." Y mae'r ddyfais yn un fach ddigon pert, ond wedi'r cwbl nid yw ond celwydd wedi ei gaboli. Nac ofned neb rhagddo, a hynny am un rheswm digonol. Fe berthyn pob Cristion mewn gwirionedd i'r urdd ysbrydol, ac nid oes wahaniaeth rhyngddynt ond yn herwydd swydd yn unig. Fel y dywed Pawl (1 Cor. xii.), un corff ydym oll, ond bod gan bob aelod ei waith ei hun i wasnaethu'r lleill trwyddo. Y Bedydd, yr Efengyl a'r Ffydd,—hwynthwy'n unig a wna bobl "ysbrydol a Christnogol" ac y mae pob braint arall yn gynwysedig yn y rhai hyn. Fe all eneinio gan Bab neu Esgob, eillio pen, ordeinio, cysegru, gwisgo'n wahanol i ddynion cyffredin—fe all pethau o'r fath wneuthur rhagrithiwr neu hurtyn ffôl, ond ni wnant Gristion neu ddyn ysbrydol hyd byth bythoedd.
Cysegrwyd ni oll yn offeiriaid trwy'r bedydd. Fel y dywed Sant Pedr, (1 Pedr ii.): "Yr ydych chwi'n offeiriadaeth frenhinol ac yn frenhiniaeth offeiriadol." Felly y dywed y Datguddiad hefyd: "Ti a'n gwnaethost ni trwy dy waed yn offeiriaid a brenhinoedd." Pe na fai gennym gysegriad uwch ynom na'r un a rydd Pab neu Esgob, ni wneid un o honom byth yn offeiriad trwy Bab ac Esgob, ac ni allem byth offrymu'r offeren na phregethu na chyhoeddi maddeuant.
Am hynny, nid yw cysegru gan Esgob yn ddim amgen na'i fod ef yn lle ac yn enw'r holl gorff Cristnogol yn cymryd un allan o'r dyrfa ac yn ymddiried iddo'r gwaith o ddefnyddio'r awdurdod offeiriadol dros y lleill. Fe berthyn yr awdurdod mewn gwirionedd i bob Cristion. Y mae fel pe bai deg brawd, meibion i frenin, a'r naill fel y llall yn etifedd, yn dewis un ohonynt i lywodraethu'r etifeddiaeth drostynt oll. Fe fyddai pawb ohonynt yn frenhinoedd a'r un awdurdod ganddynt, ac eto gelwid un ohonynt i lywodraethu. Gwnaf y mater yn fwy eglur fyth. Pe cymerid cynulleidfa fechan o ddisgyblion Cristnogol yn garcharorion a'u gosod mewn diffeithwch, a hwythau heb yr un offeiriad yn eu plith a gysegrwyd gan Esgob, gallent yn hawdd gytuno i ddewis un o'u plith ac ymddiried iddo'r gwaith o fedyddio, o offrymu'r offeren, o gyhoeddi maddeuant ac o bregethu. Fe fyddai ef yn offeiriad llawn mor wir â phe bai'r holl esgobion a'r Pabau wedi ei gysegru. Dyna paham y gall unrhyw Gristion hyd heddiw fedyddio a chyhoeddi maddeuant mewn angen. Ni fyddai hynny'n bosibl oni bai ein bod oll yn offeiriaid am ein bod yn Gristnogion. Wedi lladrata'r gras mawr hwn a berthyn i bob Cristion oddiwrthym y maent trwy'r ddeddf eglwysig; a pheri i'r byd ei anghofio. Fel hyn yr arferai'r Cristnogion gynt ddewis eu Hesgobion a'u hoffeiriaid o blith y bobl. Cadarnheid y dewisiad wedi hynny gan esgobion ereill—ond heb yr holl rwysg a welir heddiw. Fel hyn y gwnaed Sant Awstin, Emrys a Chyprian yn Esgobion.
Yn awr y mae'r swyddogion gwladol wedi eu bedyddio fel y Cristnogion oll, a chanddynt yr un ffydd a'r un Efengyl. Am hynny, rhaid yw cydnabod eu hoffeiriadaeth a'u hesgob— aeth hwythau ac edrych ar eu swydd fel swydd a berthyn i'r gymdeithas Gristnogol ac o ddefnydd iddi. Y mae'r un grym yn yr hyn a ddeillia o'r bedydd â'r awdurdod a geir pan gysegrir dyn yn offeiriad gan Bab neu Esgob—er nad yw'n weddus i swyddog gwlad ei arfer. Canys gan fod pawb o honom yn offeiriad, ni ddylai neb gymryd arno wneuthur gwaith offeiriad heb i'r lleill gydsynio â'i ddewis. Ni all neb hawlio iddo'i hun y peth sydd gyffredin i bawb, ond yn ol ewyllys ac arch y gymdeithas. Mewn gwirionedd, ni ddylai offeiriad yn yr eglwys fod yn ddim amgen na swyddog yn y wladwriaeth. Cyhyd ag y bo hwnnw mewn swydd, fe gaiff y flaenoriaeth. Diswydder ef ac nid yw ond dinesydd cyffredin fel y lleill. Yr un modd, nid yw offeiriad byth mwy'n offeiriad ar ôl ei ddiswyddo. Ond erbyn heddiw, maent wedi darganfod rhyw "characteres indelibiles" (nodau annileadwy) ar offeiriad a honnant ei fod yn rhywbeth amgen na dyn cyffredin hyd yn oed ar ôl ei ddiswyddo. Yn wir, breuddwydiant na all offeiriad fod byth yn ddim amgen nag offeiriad, ac na all fyth mwy droi'n lleygwr. Ond brawddegau gwag a ffrwyth deddfau a luniwyd gan ddychmygion dynion yw popeth o'r fath.
Y gwir gan hynny yw nad oes wahaniaeth mwy rhwng lleygwyr, offeiriaid, tywysogion, esgobion neu,—yn ôl eu hiaith hwy—gwŷr ysbrydol" a "bydol "—dim gwahaniaeth mwy na'r gwahaniaeth mewn swydd neu waith. Y maent oll o'r un safle er na wnânt yr un gwaith. Fel y dywed Sant Pawl a Sant Pedr: un corff ydym oll o'r pen Iesu Grist, a phob un yn aelodau i'w gilydd. Nid oes gan Grist ddau gorff, un yn fydol a'r llall yn ysbrydol. Un Pen yw ef ac un corff sydd ganddo. Yr unig wahaniaeth rhwng y rhai a elwir heddiw yn wŷr ysbrydol" (sef esgobion, offeiriad a Phabau) a Christnogion yn gyffredin yw'r gwaith arbennig a'r swydd a ymddiriedwyd iddynt, sef gofalu am Air Duw a'r Sacramentau. Yn yr un modd fe drosglwyddwyd y cleddyf a'r wialen i'r llywodraeth wladol er mwyn cosbi'r drwg ac amddiffyn y da. Y mae gan y crydd a'r gof a'r llafurwr hefyd bob un ei swydd a gwaith ei grefft. Y maent wedi eu cysegru fel offeiriaid ac esgobion, a dylai pob un wasanaethu'r lleill a bod o ddefnydd iddynt yn ei swydd a'i waith. Diben pob math o waith yw noddi, maethu corff ac enaid fel y mae aelodau'r corff yn gwasanaethu bob un ei gilydd. Trwy hyn oll fe welir mor Gristnogol" yw dywedyd a deddfu nad yw'r llywodraeth fydol i fod dros "y gwŷr ysbrydol"!66
Cyfystyr yw â dywedyd na ddylai'r llywodraeth gosbi; a chyfystyr yw hynny â dywedyd na ddylai'r llaw wneuthur dim i helpu'r llygad mewn angen. Onid peth annaturiol, heb sôn am anghristnogol, yw meddwl na ddylai un aelod o'r corff helpu'r llall na'i gadw rhag distryw?
Am hynny y dywedaf, gan fod y llywodraeth wladol wedi ei hordeinio gan Dduw i gosbi'r drwg ac amddiffyn y da, y dylid rhoi ffordd rydd i'w swydd dramwy'n ddirwystr trwy holl gorff cymdeithas heb dderbyn wyneb neb pwy bynnag—boed ef bab neu esgob neu offeiriad neu fynach neu pa lun bynnag ar ddyn a all fod. Pe bai'n ddigon dywedyd, er mwyn rhwystro'r llywodraeth wladol, fod ei gwaith yn llai pwysig ymhlith y swyddogion Cristnogol na swydd y pregethwr neu'r "gŵr ysbrydol," yna fe ddylid rhwystro'r teiliwr, y crydd, y saer maen a'r saer coed, y cigydd, y ffarmwr, a phob gweithiwr arall rhag gwneuthur esgidiau, dillad, tai, bwyd a diod i'r Pabau, esgobion, offeiriaid a mynachod. Ni ddylent dalu rhent na threthi na degwm chwaith. Ond os goddefir i'r "lleygwyr " hyn wneuthur eu gwaith yn ddirwystr, paham y mae cyfreithwyr Rhufain yn clebran am eu deddfau?
Wrth gwrs, gwn yn eithaf da mai'r peth sydd yn eu bryd yw osgoi plygu i ddeddfau Cristnogol y llywodraeth wladol, a hynny er mwyn bod yn rhydd i wneuthur drygioni a thrwy hynny gyflawni'r hyn a ddywed Sant Pedr (2 Pedr ii.): "Fe gyfyd gau—athrawon yn eu plith a thwyllant chwi â dych— mygion celwyddog a gwnânt farsiandiaeth o honoch." Na, fe ddylai fod ffordd rydd i weini cyfreithiau'r llywodraeth wladol yn ddirwystr, heb gyfrif na Phab nac esgob nac offeiriad. Dioddefed yr euog, pwy bynnag yw. Nid yw'r cwbl a ddywedir yn erbyn hyn gan y ddeddf eglwysig ond gormes trahaus a chelwyddog Rhufain.
Yn awr, mi dybiaf, y mae'r gaer bapur gyntaf ar lawr. Gwelir bod y llywodraeth wladol yn aelod o'r corff Crist— nogol; ac er mai gwaith bydol sydd ganddi, fe berthyn i'r dosbarth "ysbrydol." Am hynny, fe ddylai ei gwaith gael ffordd rydd a dirwystr trwy holl aelodau'r corff i gyd. Dylai gosbi a helpu lle bynnag y bo euogrwydd neu angen—heb dderbyn wyneb na Phab nac esgob nac offeiriad, bygythient neu ysgymunent fel y mynnont.
Dyna paham y diswyddir offeiriaid euog cyn eu trosglwyddo i law'r ddeddf wladol. Ni fyddai hynny'n iawn onibai fod gan y wladwriaeth trwy ordinhad Duw eisoes awdurdod arnynt . . . Os lleddir offeiriad, cyhoeddir gwlad gyfan yn ysgymun gan y Pab. Paham lai nas lleddir llafurwr? O ba le y cyfyd y gwahaniaeth mor fawr rhwng pobl gydradd fel Cristnogion? Dim ond o ddeddfau a dychmygion y gwŷr eglwysig." Ni all fod hwnnw'n ysbryd teg na da a ddarganfu ffordd i'r Pab a'r offeiriad i osgoi cosb.
Erchir ni gan Grist a'i apostolion i wrthwynebu'r diafol a'i waith a'i erlid o'r tir yn ôl ein gallu. Paham ynteu y gelwir arnom i fod yn llonydd ac yn ddistaw pan fo'r Pab a'i bleidwyr yn euog o weithredoedd y diafol? A ddylem ni er mwyn dyn sarnu gorchymyn a gwirionedd Duw, a ninnau wedi'n tynghedu yn ein bedydd i'w cefnogi a'u cynnal hyd farw? Na, ni choeliaf i fawr. Euog fyddem o bob enaid a esgeulusid ac a arweinid i ddistryw trwy hynny.
Am hynny, rhaid mai'r pen-diafol ei hun a ddywedodd y gair a saif heddiw yn y ddeddf eglwysig: "Pe bai'r Pab mor ddieflig ddrwg â chamarwain eneidiau wrth y miloedd at y diafol, ni ellid ei ddiorseddu.' Ar y sylfaen felltigedig hon y cyfyd pobl Rhufain eu hadeilad a cheisiant gennym gredu y dylid goddef i'r holl fyd fyned i'r diafol yn hytrach na gwrthwynebu eu ffwlbri dichellgar hwy.
Fel hyn y gwnânt Gristnogaeth yn ddirym a diystyr. Heb unrhyw brawf o'r Ysgrythur ond o'u mympwy yn unig, honnant eu bod yn rhydd oddiwrth y ddeddf wladol er i Grist a'i apostolion eu darostwng i gleddyf y wladwriaeth. Gwaith yr Anghrist yw eu gwaith, neu arwydd ei fod ef ei hun ar ddyfod.
ESBONIO'R YSGRYTHUR.
Y mae'r ail gaer yn wannach ac yn fwy sigledig fyth. Honiad y Rhufeinwyr yw mai hwynthwy yn unig a fedr esbonio'r Ysgrythur er nad ydynt trwy gydol oes wedi dysgu dim ohoni. Ceisiant ein hudo â'u geiriau digywilydd i'r gred na all y Pab gyfeiliorni ym materion ffydd, boed ef dduwiol neu annuwiol. Ond ni allant brofi llythyren o'r hawl.
Dyna paham y saif cynifer o gyfreithiau cyfeiliornus ac anghristnogol, ie, ac annaturiol hefyd, yn y ddeddf eglwysig. Cyhyd ag y credont nad yw'r Ysbryd Glân yn eu gadael, pa mor anhyddysg ac mor ddrwg bynnag y bônt, fe fyddant hefyd yn ddigon beiddgar i ddeddfu yn ôl eu mympwy eu hunain. Pe bai eu cred yn wir, pa les a pha ddefnydd a fyddai o'r Ysgrythur Lân? Llosger hwynt ac ymfoddlonwn ar foneddigion diddysg Rhufain sydd â'r Ysbryd Glân yn eiddo iddynt! Onid mewn calonnau duwiol yn unig y gall Ef drigo?
Onibai fy mod wedi ei weld â'm llygaid, ni allwn gredu y
medrai'r diafol honni pethau mor ddwl yn Rhufain, a chael ei gredu. Ond yn awr rhyngddynt hwy a'u geiriau, fe drown ni at dystiolaeth yr Ysgrythur. Fe ddywed Sant Pawl (1 Cor. xiv. 30): "Os datguddir dim gwell am air Duw i'r neb a fo'n eistedd i wrando, yna tawed yr hwn sy'n siarad a rhodded ffordd." Pa ystyr sydd i orchymyn fel hwn os yr unig un i'w gredu yw'r hwn sydd eisoes yn siarad neu'n eistedd ar gadair uwch o awdurdod? Fe ddywed Crist ei hun y dysgir pob disgybl gan Dduw ei hun. Fe all ddigwydd, gan hynny, i'r Pab a'i bleidwyr fod yn annuwiol, heb fod yn ddisgyblion Cristnogol cywir ac am hynny heb eu dysgu gan Dduw a heb ddeall gwir. O'r ochr arall, fe all bod gan ddyn cyffredin o leygwr wir ddeall. Paham ynteu na chawn ei ddilyn ef? Oni chyfeiliornodd y Pab lawer gwaith? A phwy a geir i helpu'r byd Cristnogol, pan gyfeiliorno'r Pab, oni chawn ymddiried yn rhywun arall sydd â'r Ysgrythur o'i du?
Am hynny nid yw ond anwiredd gwag a drwg na ellir dwyn llythyren i'w gefnogi, mai gan y Pab yn unig y mae'r hawl i esbonio'r Ysgrythur. Wedi hawlio'r awdurdod iddo'i hun trwy draws y mae. Honna'i bleidwyr mai i Sant Pedr y rhoddwyd yr awdurdod gan mai iddo ef y trosglwyddwyd yr allweddau. Y mae'n ddigon eglur, er hynny, nad iddo ef yn unig y rhoddwyd hwy, ond i'r holl gwmni Cristnogol. Mwy na hynny, nid ar gyfer athrawiaeth neu lywodraeth yr ordeiniwyd yr allweddau ond ar gyfer pechod—i'w gosbi neu i'w faddau. Dychymyg y ffôl yw popeth arall a mwy a briodolant i'r allweddau hyn . .
Ddarllenydd, meddwl yn awr drosot dy hun, Rhaid yw i bleidwyr y Pab gydnabod bod Cristnogion duwiol yn ein plith ni, a'r ffydd a deall a gair a meddwl Crist ganddynt, —wel, pam ynteu y dylem daflu o'r neilltu'r gair a'r deall hwnnw er mwyn dilyn y Pab nad oes ganddo na'r ffydd na'r ysbryd? Gwadu'r holl ffydd a'r eglwys Gristnogol a fyddai peth o'r fath. Ni all mai'r Pab yn unig sydd yn iawn, os gwir yr erthygl honno: "Mi gredaf yn yr Eglwys Lân Gristnogol." A ddylem weddio hefyd: "Mi gredaf yn y Pab yn Rhufain"? Celwydd dieflig fyddai cyfyngu'r eglwys Gristnogol i un dyn.
Mwy na hynny, gan ein bod ni oll yn offeiriaid, fel dywedwyd eisoes, a chennym oil un ffydd, un Efengyl a'r unrhyw Sacrament, pam lai na fyddai gennym hefyd allu ac awdurdod i brofi eu blas a barnu'r hyn sydd iawn mewn ffydd? Pa beth a ddaeth o air Pawl (1 Cor. ii.): "Y mae'r dyn ysbrydol yn barnu pob peth, ond ef ei hun ni fernir gan neb.
Fe ddylai'r dywediadau hyn a llawer eraill ein troi'n ddynion dewr a rhydd, ac ni ddylem oddef dychrynu ysbryd rhyddid gan fwganod a dyfais y Pabau. Dylem fod yn ddigon hy i farnu popeth a wnânt, yn ol ein deall crediniol ni o'r Ysgrythur, a'u gorfodi i ddilyn y deall gwell yn hytrach na'u mympwy hunanol... Yr oedd asyn Balaam yn gallach na'r proffwyd ei hun. Ac os llefarodd Duw trwy asyn yn erbyn proffwyd, yn sicr fe all ddod i lefaru eto trwy ddyn duwiol yn erbyn y Pab.
Am hynny, fe ddylai pob rhyw Gristion lynu wrth y ffydd trwy geisio'i deall a'i hamddiffyn a thrwy geryddu pob cyfeiliornad.
CYNGHORAU EGLWYSIG.
Fe syrth y drydedd gaer o honi ei hun pan syrth y ddwy gyntaf. Pan becha'r Pab yn erbyn yr Ysgrythur, ein dyletswydd ni yw bod yn ffyddlon i'r Ysgrythur, ei geryddu a'i orfodi i blygu yn ôl gair Crist (Matt. xviii. 15):
Os pecha dy frawd i'th erbyn, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun; ac os ef ni wrendy arnat, cymer gyda thi eto un neu ddau; ac oni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys; ac oni wrendy ar yr eglwys, bydded ef i ti megis yr ethnig. Yna gorchmynnir i bob aelod ofalu am y llall; gymaint mwy y dylem ni wneuthur hyn lle y gwneir cam gan un o lywodraethwyr yr eglwys.
Ond os wyf i i'w gyhuddo ger bron yr eglwys, rhaid yw i mi gasglu'r eglwys at ei gilydd.
Nid oes ganddynt unrhyw sail yn yr Ysgrythur dros ddywedyd mai peth a berthyn i'r Pab yn unig yw galw Cyngor eglwysig ynghyd. Nid oes ganddynt ond eu deddfau eglwysig hwy eu hunain. Ond os y Pab ei hun a fydd dan y wialen, gwneir pob deddfau eglwysig o'r fath yn ddirym. Y mae'n gam â'r gymdeithas Gristnogol oni cheryddir ef gan Gyngor eglwysig. Yn yr Actau (xv.) darllenwn nad gan Sant Pedr y galwyd Cyngor yr Apostolion ynghyd ond gan yr holl apostolion a'r henuriaid. Pe galwesid ef trwy ryw fraint swyddogol o eiddo Sant Pedr, nid cyngor Cristnogol a fuasai ond ryw glymblaid fach ddigred. A'r Cyngor enwog hwnnw yn Nicea hefyd—nid gan Esgob Rhufain y galwyd ef ond gan yr Ymerawdwr Cystennin. Gwnaethpwyd yr un peth gan lawer Ymerawdwr ar ei ôl—ac eto'r Cynghorau hyn a fu'r cynghorau mwyaf Cristnogol. Pe bai'r awdurdod gan y Pab i alw Cynghorau eglwysig, cynghorau digred a fuasent oll; a phan daflaf fy ngolwg dros y Cynghorau a alwyd ynghyd gan y Pab, ni welaf ddim neilltuol a wnaethpwyd ganddynt.
Am hynny, pan fo angen yn galw, a'r Pab yn rhwystr i'r byd Cristnogol, rhaid yw i bwy bynnag a all, fel aelod ffyddlon o'r gymdeithas, ofalu orau y medro am alw cyngor hollol rydd ynghyd. Nid oes neb a all wneuthur hyn cystal â'r wladwriaeth, yn enwedig yn awr, gan fod y llywodraethwyr yn gyd—Gristnogion, yn gyd—offeiriaid ac yn gyd—gyfrannog o'r swydd a'r awdurdod "ysbrydol." Fe ddylent ddarpar ffordd agored i'w gwaith a'u swydd (a roddwyd iddynt gan Dduw dros bawb) i gerdded yn rhydd i ba le bynnag y mae angen am eu help. Pe bai tân yn torri allan mewn tref, onid peth annaturiol fyddai i bawb sefyll ac edrych arno'n lledu a llosgi popeth o'i flaen—a hynny'n unig am nad yw awdurdod y Maer ganddynt neu am mai yn nhŷ'r Maer y torrodd y tân allan? Oni fyddai'n ddyletswydd ar bob un dinesydd ddeffroi a galw'r lleill? Pa faint mwy y dylai hynny ddigwydd yn ninas ysbrydol" Crist pan dyr tân allan pa un ai yn llys y Pab neu yn unman arall! Y mae'r un peth yn wir hefyd am ddinas yr ymosodir arni gan elynion. Y cyntaf i rybuddio'r lleill a ennill ddiolch a chlod. Paham ynteu nad yw ef yn haeddu clod a ddihuna ac a eilw'r Cristnogion ynghyd pan wêl y gelyn o uffern yn dod? Cleber gwag yn unig yw bost ei bleidwyr na ddylai neb wrthsefyll awdurdod y Pab. Nid oes gan neb yn y byd mawr awdurdod i wneuthur drygioni nac ychwaith i warafun neb i roi ymgeledd rhag cam. Nid oes yn yr eglwys unrhyw awdurdod ond yn unig i'w ddiwygio'i hun a'r byd.
Am hynny, pan fo'r Pab am arfer ei awdurdod i atal galw Cyngor eglwysig rhydd, a thrwy hynny yn rhwystro diwygio'r eglwys, dylem wrthod ei barchu ef a'i awdurdod. Ac os myn felltithio a tharanu, dirmygu peth o'r fath a ddylem fel gweithredoedd gwallgofddyn. Gan ymddiried yn Nuw, dylem ei esgymuno ef yn ei dro. Mewn gwirionedd, nid oes ganddo ef awdurdod i esgymuno fel y gellir profi mewn eiliad ag un gair o'r Ysgrythur. Fe ddywed Pawl (1 Cor. x. 23; 2 Cor. x. 8): Rhoddodd Duw i ni awdurdod nid i ddinistrio ond i ddiwygio'r byd Cristnogol." Pwy a lama dros ben y gwir hwn? Awdurdod y diafol a'r Anghrist yw hwnnw a wrthyd y peth a fo'n help i ddiwygio gwledydd cred. Am hynny, nid yw i'w ddilyn, ond i'w wrthwynebu'n hytrach â'n bywyd ac â'n heiddo hyd eithaf ein gallu. Ac hyd yn oed pe digwyddai gwyrth i gynorthwyo'r Pab neu pe tarewid rhai o'i elynion â phla (fel y digwyddodd droeon yn ôl bost ei bleidwyr), eto ni ddylid barnu peth o'r fath yn ddim amgen na gwaith y diafol i'r diben o ddistrywio ffydd yn Nuw. Oni rag—ddywedodd Crist (Matt. xxiv. 24): "Fe ddaw gau— gristiau yn fy enw i a gau—broffwydi, a gwnânt arwyddion a rhyfeddodau hyd oni thwyllant, ie, pe bai bosibl yr etholedigion." Fe ddywed Sant Pawl hefyd wrth y Thessaloniaid (2 Thess. ii. 9) y byddai'r Anghrist yn nerthol trwy Satan i wneuthur arwyddion gwyrthiol a chelwyddog.
Am hynny, glynwn wrth hyn: ni all unrhyw awdurdod Cristnogol ddim yn erbyn Crist—fel y dywed Sant Pawl (2 Cor. xiii. 8); Ni allwn ni wneuthur dim yn erbyn Crist ond dros Grist. A wna ddim yn erbyn Crist, nid yw ond gallu ac awdurdod yr Anghrist a'r Diafol, hyd yn oed pe bai'n bwrw glaw a chenllysg o wyrthiau a phlâu. Rhaid yw i ni lynu wrth air Duw â ffydd gref, a buan y derfydd am y diafol a'i wyrthiau.
Wel, yn awr mi obeithiaf fod y bwganod celwyddog y dychrynodd gwŷr Rhufain ni â hwy ers llawer dydd—gobeithiaf eu bod erbyn hyn wedi eu lladd. Y mae'r "gwŷr eglwysig oll fel ninnau'n ddarostyngedig i'r llywodraeth a'r ddeddf wladol. Nid oes ganddynt hawl i esbonio'r Ysgrythur trwy rym awdurdod yn unig heb sail yn y deall. Nid oes ganddynt awdurdod i'n cadw rhag galw cyngor eglwysig; nac ychwaith i glymu'r cyngor a elwir wrth eu mympwy; nac i ddwyn ei ryddid oddiarno. Pan wnânt ddim o'r fath, nid ŷnt, mewn gwirionedd, ond cynulleidfa'r Anghrist a synagog Satan; ac nid oes dim a fynnont â Christ ond yr enw.
RHWYSG RHUFAIN.
Gadewch i ni yn awr ystyried y materion y dylid yn ôl pob rheswm eu trafod yn y Cynghorau eglwysig y materion y dylai'r Pabau a'r Cardinaliaid a'r Esgobion a'r dysgedigion oll feddwl am danynt ddydd a nos pe baent yn caru Crist a'i eglwys. Oni ofelir am y materion hyn gan y gwŷr eglwysig, fe ddylai'r bobl gyffredin a'r llywodraethwyr gwladol eu cymryd mewn llaw heb hidio dim hyd yn oed pe taranai'r Pab i'w herbyn a'u hesgymuno. . .
Codwn ynteu at ein gwaith, Ellmyn annwyl. Ofnwn Dduw yn fwy na dynion. Arswydwn rhag parhau i fod yn gyfrifol am yr holl eneidiau truain a gyfrgollir, ysywaeth, trwy lywodraeth waradwyddus a dieflig gwŷr Rhufain. Ceisiwn gadw'r llywodraeth honno rhag myned yn waeth a mwy dieflig nag yw—os yn wir y gall y fath lywodraeth uffernol fynd yn waeth nag yw ar hyn o bryd.
YN GYNTAF, peth ofnadwy a dychrynllyd yw gweled bod llywydd uchaf gwledydd cred, er ei holl ymffrost mai ef yw dirpwy Crist ac olynydd Sant Pedr, yn byw beunydd mewn cymaint o rwysg ac mor fydol. Nid oes na brenin nac ymerawdwr a all ddod yn agos ato mewn rhwysg; ac y mae bywyd yr hwn a'i geilw ei hun "y santeiddiaf a'r ysbrydolaf" yn fwy bydol na'r byd ei hun. Fe wisg ef goron driphlyg lle nad oes gan y brenhinoedd grymusaf ond un. Y mae ei gymharu ef â'r Crist tlawd a Sant Pedr yn gymhariaeth newydd ddieithr. Y maent mor ffôl â honni mai heresi yw dywedyd dim yn erbyn peth fel hyn; ac ni roddant glust i wrando pan ddywedir mor anghristnogol ac mor annuwiol yw'r fath ymarweddiad. Credaf i, er hynny, pe bai'r Pab am weddio ger bron Duw mai'r peth cyntaf iddo'i wneuthur fyddai gosod ei goron o'r neilltu. Ei waith cyntaf ef yw wylo a gweddïo bob dydd dros wledydd cred a dangos esiampl o bob gostyngeiddrwydd. Boed hynny fel y bo, y mae ei rodres yn dramgwydd mawr, ac er mwyn gwynfyd ei enaid fe ddylai ei wrthod. . .
Fe ddylai meitr cyffredin esgob fod yn ddigon i'r Pab, a'i dduwioldeb a ddylai ei godi uwchlaw eraill. Dylai adael coron rhodres i'r Anghrist fel y gwnaeth ei ragflaenwyr rai canrifoedd yn ôl.
Dywedant mai'r Pab yw Arglwydd y byd. Celwydd yw hynny, canys dywed y Crist yr ymffrostia ef ei fod yn Ddirprwy ac yn Gynrychiolydd iddo: "Fy nheyrnas i nid yw o'r byd hwn." Pa fodd y gall fod gan Ddirprwy lywodraeth wahanol i'w Arglwydd? Nid Dirprwy'r Crist esgynedig yw chwaith, ond Dirprwy'r Crist croeshoeliedig (1 Cor. ii. 2; 1 Cor. i.). Erbyn hyn, gwnânt y Pab yn ddirprwy Crist esgynedig y nefoedd; a goddefodd rhai ohonynt i'r diafol lywodraethu cymaint arnynt fel y credant fod y Pab yn uwch na'r engyl yn y nef, a bod ganddo lywodraeth arnynt. Ond yn wir gweithredoedd yr Anghrist ei hun yw peth fel hyn.
TRACHWANT Y CARDINALIAID.
YN AIL, pa les i wledydd cred yw'r bobl a elwir yn Gardinaliaid? Mi ddywedaf i ti. Yn yr Eidal a'r Almaen y mae llawer o fynachtai, o waddoliadau, o diroedd ac o fywioliaethau eglwysig cyfoethog, ac ni ddarganfu neb eto ffordd effeithiolach i'w trosglwyddo i Rufain na thrwy greu Cardinaliaid a rhoi'r esgobaethau, y mynachtai, yr anrhydeddau a'r swyddogaethau'n eiddo iddynt. Dyna a wnânt yn lle gwasanaethu Duw. Dyna paham erbyn heddiw y mae'r Eidal oll yn ddiffaith. Distrywiwyd y mynachtai, llwyr-fwytawyd yr esgobaethau, sugndynnwyd yr holl swyddogaethau pwysig a holl gyllid yr eglwysi i Rufain. Y mae'r dinasoedd yn anghyfannedd, y wlad a'r bobl wedi eu difetha gan nad oes nac addoliad na phregethu yno mwy. A phaham? Wel, wrth gwrs, rhaid yw i'r Cardinaliaid gadw'i gafael ar yr eiddo. Ni fedrai'r un Twrc ddwyn distryw mor llwyr ar yr Eidal, na difetha addoliad Duw mor effeithiol.
Ac yn awr, wedi iddynt sugno'r Eidal yn sych, troi eu camre tua'r Almaen a wnânt. Bu eu dechrau yno'n ddigon gwylaidd, ond gofalwn ni neu fe fydd yr Almaen yn fuan fel yr Eidal. Y mae gennym eisoes Gardinaliaid yma ac a cw. Ond, wrth gwrs, nid yw'r "Ellmyn meddw" (fel y galwant ni) i ddeall dibenion gwŷr Rhufain hyd nes y gadewir hwy heb nac esgobaeth na mynachty na bywioliaeth na thiroedd eglwysig heb na cheiniog na ffyrling yn eiddo iddynt. Fel y rhagddywedwyd, rhaid yw i'r Anghrist gael trysorau'r ddaear yn eiddo iddo. Y maent wrth eu gwaith eisoes: dewisant y gorau o'r esgobaethau, y mynachtai a'r ystadau; a chan na feiddiant hyd yn hyn ddifetha'r cwbl fel y gwnaethant yn yr Eidal, defnyddiant yn y cyfamser ddichellion cyfrwys, "duwiol," at y gwaith. Cyfunant ddeg neu ugain o swyddi â'i gilydd a chymerant gyfran flynyddol o bob un, a wna at ei gilydd swm mawr o arian. O Briordy Würzburg, fe ddaw, dyweder, fil o bunnau; o Bamberg swm tebyg; a'r un fath o Mainz a Trier a llawer lle arall. Fel hyn gellir casglu'n hawdd bump neu ddeng mil o bunnoedd i alluogi'r Cardinal i fyw yn Rhufain, mewn rhwysg tebyg i frenin cyfoethog. Ar ôl i ninnau'r Ellmyn gynefino â hyn, fe wnawn wedyn, meddant, ddeg ar hugain neu ddeugain o Gardinaliaid mewn un diwrnod a rhoddwn fynachlog Bamberg i un ac i'r llall esgobaeth Würzburg a pha le bynnag y mae incwm a chyllid mawr—hyd nes y bo eglwysi a dinasoedd yn anrhaith. Yna dywedwn "Dirprwywyr Crist ydym ni a bugeiliaid ei braidd; ac ni fydd gan yr Ellmyn gwallgof, meddw, ddim i'w wneuthur ond goddef."
Fy nghyngor i yw creu llai o Gardinaliaid neu orfodi'r Pab i'w cynnal o'i boced ei hun. Fe fyddai deuddeg yn fwy na digon; ac incwm o fil o bunnoedd yr un bob blwyddyn.
Sut y bu i ni'r Ellmyn orfod goddef y fath ladrata a'r fath gribddeilio di—gydwybod o'n heiddo gan y Pab? Os medr teyrnas Ffrainc ei hamddiffyn ei hun rhagddo, paham y goddefwn ni'r Ellmyn ein twyllo fel hyn a'n trafod fel ffyliaid? Fe fyddai'n haws dioddef pe na ladrataent ddim mwy na'n heiddo: ond fe anrheithiant hefyd yr eglwysi, ysbeiliant braidd Crist o'i fugeiliaid duwiol, a gwnânt ddifrod ar wasanaeth Duw a'i Air. Ac ni fyddai'r eglwys fymryn gwaeth hyd yn oed pe na fai un Cardinal yn bod, canys ni wnânt ddim sydd o unrhyw wasanaeth i wledydd cred. Treuliant eu hamser i wneuthur masnach o esgobaethau ac i gweryla am swyddi uchel—a medrai pob lleidr wneuthur hynny lawn cystal â hwythau.
SWYDDOGION RHUFAIN.
YN DRYDYDD, fe fyddai'n llawn digon i gwrdd â holl anghenion a dibenion crefydd, pe na chedwid ond un rhan o gant o Lys y Pab a dileu'r gweddill oll. Ond heddiw mae mwy o'r fath sothach a phryfetach yn heidio yn Llys y Pab yn Rhufain nag a fu hyd yn oed ym Mabilon gynt. Y mae yno dros dair mil o ysgrifenyddion yn unig, a phwy a rif y swyddogion eraill lle y mae swyddi aneirif—a phob un ohonynt â'i lygaid ar gyllid a thiroedd yr Almaen. Y mae fel pe gosodid bleiddiaid i wylio'r praidd. Mi gredaf fod yr Almaen yn talu llawer mwy yn awr i'r Pab yn Rhufain nag a dalai gynt i'r Ymerodron. Yn wir, barn llawer yw fod mwy na thri chan mil o bunnoedd (Gulden) yn mynd bob blwyddyn o'r Almaen i Rufain yn ofer ac am ddim. Nid ydym ni'n derbyn amgen na dirmyg a gwarth am danynt. Pa syndod yw fod tywysogion, pendefigion, trefi a sefydliadau eglwysig y wlad yn syrthio i dlodi—y rhyfeddod yw fod gan neb o honom ddim o gwbl i'w fwyta.
Ond er mwyn i ni gael golwg ar natur a hanfod y gêm ei hun, gadewch i ni aros am ennyd yma a gweled a yw'r Ellmyn mor ofnadwy o ffôl ag i fethu deall dichellion a thwyll Rhufain.
Nid fy nghŵyn i yma yw y dirmygir gorchymyn Duw a chyfiawnder Cristnogol gan Rufain. Nid yw cyflwr gwledydd cred, chwaethach Rhufain, eto'r fath ag a ganiata ni ddechrau sôn a chwyno am faterion mor fawr. Nid fy nghŵyn i chwaith yw y dirymir pob cyfiawnder gwladol a naturiol, a phob rheswm hefyd gan y Pab. Y mae'r peth sydd gennyf i mewn llaw'n llawer symlach a mwy elfennol. Y gŵyn gyntaf sydd gennyf yw nad ydynt yn cadw hyd yn oed y ddeddf eglwysig a ddyfeisiwyd ganddynt hwy eu hunain, er bod honno ei hun yn fwy o ormes gyhoeddus, o drachwant, ac o rwysg bydol nag yw o ddeddf. Hawdd yw eich argyhoeddi o hyn.
Cytunodd Ymerodron a thywysogion yr Almaen gynt i'r Pab gymryd blwydd-dal ar holl gyllid eglwysig yr Almaen hyd at hanner incwm blwyddyn gyntaf pob bywioliaeth. Ond cytundeb oedd i'r Pab drwy hynny gasglu trysorfa fawr i ymladd â'r Tyrciaid a'r Inffideliaid ac i amddiffyn gwledydd cred. Trwy hynny rhoddid cyfle i'r offeiriadaeth helpu'r wlad rhag i'r baich fynd yn rhy drwm i'r pendefigion i'w gario'u hunain. Diben digon da a duwiol oedd hwn o eiddo cenedl yr Almaen, ond defnyddiodd y Pabau ef am fwy na chan mlynedd eisoes i gasglu cyfoeth mawr iddynt eu hunain. Troesant rodd wirfoddol yn dreth ac yn ddyled gyfreithiol. Yn lle casglu trysorfa arbennig, codasant lu o swyddi yn Rhufain a'u cyflog am byth i ddyfod, fel pe o renti blynyddol, o'r Almaen. Ac os tybir bod angen am ymladd â'r Tyrciaid unrhyw bryd, fe ddanfonir allan Gomisiwn arbennig i gasglu arian at y gwaith. Fe gynigiwyd hefyd Faddeuebau lawer gwaith o dan yr un esgus. Wrth gwrs, meddant wrthynt eu hunain, parhau'n ffyliaid pen ffordd a wna'r Ellmyn dwl am byth. Eu tyb yw y rhown ni arian ac arian o hyd i ddiwallu eu trachwant anhraethadwy, er ein bod yn gweled yn ddigon eglur na ddefnyddir na'r blwydd-dal nac arian y Maddeuebau—dim ceiniog goch ohonynt i ymladd â'r Tyrciaid. Fe'u_tywelltir hwy'n hytrach i'r sach sydd heb waelod iddi. Dywedant gelwydd a thwyllant ni. Ie, gwnânt gytundeb â ni nad oes ganddynt fymryn o fwriad gadw llythyren ohono. A gwneir y cwbl yn enw glân Crist a Sant Pedr.
Yn awr, fe ddylai cenedl yr Almaen, yn esgobion ac yn dywysogion, gofio eu bod hwythau hefyd yn Gristnogion. Dylent ymgeleddu'r bobl yr ymddiriedwyd eu bywyd a'u heiddo i'w llywodraeth, a dylent eu hamddiffyn rhag y fath fleiddiaid rheibus yng ngwisgoedd defaid. . . Trwy ddeddf ymerodrol neu genedlaethol fe ddylid naill ai cadw'r blwydd-daliadau yn y wlad neu eu difodi'n llwyr. Dyletswydd yr esgobion a'r tywysogion yw cosbi'r fath ysbeilio ac amddiffyn hawliau cyfreithiol y bobl. Os dywed y Pab ei fod ef yn rhy wan i wrthsefyll y fath weithredoedd gwaradwyddus, fe ddylid ei helpu; ond os yw'n eu cefnogi ac yn gyfrannog ynddynt, dylid ei erlid fel blaidd a gormeswr. Nid oes ganddo'r un awdurdod i wneuthur drygioni ei hun nac i ymgeleddu drwgweithredwyr. Os bydd angen am gasglu trysorfa i ymladd â'r Tyrciaid, wel, dywedwn wrth y Pab fod digon o filwyr at y gwaith yn yr Almaen os gall ef roi digon o fwyd i'w cynnal.
Ond nid yw'r blwydd-daliadau ond un enghraifft o ffordd Rhufain o weithio. Rhennir y flwyddyn, er enghraifft, rhwng y Pab ar un llaw, a'r prif esgobion ar y llaw arall, a rhoddir yr hawl o lanw bywioliaethau a ddaw'n wag mewn un chwe mis i'r Pab. A'r peth rhyfedd yw fod y mwyafrif o'r swyddi, yn enwedig y cyfoethocaf, yn digwydd dod yn wag ym misoedd y Pab o hyd. Ac unwaith y syrthiant i ddwylo Rhufain, ni ddônt byth oddiyno ar ba fis bynnag y digwydd bod angen am etholiad ar ol hynny.
Y mae'n llawn bryd difodi'r rheol hon; a dylai'r tywysogion fynnu'r ysbail yn ôl o grafanc y Pab. . .
Nid yw ysbail chwe mis o ddeuddeg yn ddigon chwaith. Rhaid oedd dyfeisio cynllwynion cyfrwys eraill er mwyn llyncu'n gynt fywioliaethau'r Almaen a'u cyllid. Os bydd esgob neu offeiriad neu unrhyw swyddog eglwysig farw'n Rhufain neu ar ei ffordd yno, eiddo'r Pab yw ei fywioliaeth am byth,—neu fel y dylwn ddywedyd eiddo lladron Rhufain.
Os bydd gan "Was "i'r Pab neu gan un o'r Cardinaliaid fywioliaeth, erys ei swydd yn eiddo'r Pab hyd yn oed ar ôl iddo farw. A phwy a all gyfrif "gweision" y Pab a'i Gardinaliaid? Onid oes tair neu bedair mil o wasanaethwyr yn ei ddilyn ar asynod bob dydd yr â allan am dro—er cywilydd i bob brenin ac ymerawdwr? Aeth Crist a Sant Pedr yn droed— noeth er mwyn i'w ddirprwywyr" gael mwy o fodd i brancio'n rhwysgfawr ar farch. Ac nid yn unig yn Rhutain y ceir "gweision y Pab", ond yn holl wledydd cred, ac fe syrth un neu'r llall o'u swyddi'n ysglyfaeth iddo beunydd.
A fu erioed y fath gynllwynion ystrywgar, dieflig?
Cafodd yr Almaen Gardinal iddi ei hun yn ddiweddar. Arhoswch ennyd ac fe syrth esgobaethau cyfoethog Mainz a Magdeburg a Halberstadt fel ffrwyth aeddfed i safn y Pab ac fe gawn ni dalu'n hallt am ein Cardinal. Cyn hir fe gawn holl Esgobion yr Almaen yn Gardinaliaid ac ni fydd ysgerbwd ysglyfaeth ar ôl i neb.
Unwaith eto, os digwydd cweryl ynglŷn â bywioliaeth, dyna ffordd agored arall i'w hincwm dramwy i Rufain. Oni chyfyd cweryl yn y man a'r lle, y mae gweilch aneirif yn Rhufain a all gloddio cweryl o'r ddaear lonydd a chrafangu'r ysbail lle mynnont. Fel hyn, fe.gyll llawer offeiriad duwiol ei fywioliaeth, neu fe orfodir iddo brynu tawelwch dros amser â swm mawr o arian. Ond ar bwy bynnag y bo'r bai am y gynnen, eiddo Rhufain fydd y fywioliaeth cyn hir ac am byth.
Ni fyddai rhyfedd pe bai Duw'n bwrw tân a brwmstan uffern o'r nef a hyrddio Rhufain i'r pwll diwaelod fel y gwnaeth gynt â Sodom a Gomorra. Pa les yw'r Pab i'r byd os yr unig ddefnydd a wneir o'i allu a'i awdurdod yw cyflawni ysgelerderau o'r fath, a hynny dan ei gysgod a'i ymgeledd ef ei hun. O! dywysogion a phendefigion fy ngwlad, pa hyd y goddefwch ysbeilio'ch gwlad a'ch pobl gan fleiddiaid o'r fath ar goedd ac yn ddigywilydd.
Nid digon y cynllwynion hyn chwaith. Nid oedd esgobaethau'n tramwy'n ddigon cyflym trwyddynt i Rufain. A dyma'n brawd annwyl, Trachwant, yn darganfod mai ar dir a daear gysegredig Rhufain wedi'r cwbl y saif pob esgobaeth trwy holl wledydd cred. Dim ond mewn enw'n unig y maent tuallan i'r ddinas santaidd. Am hynny'n naturiol y Pab piau hwy ac ni ellir cadarnhau un esgob yn ei swydd hyd nes y pryno'r Paliwm gwerthfawr—am swm mawr o arian; a thyngu llw ofnadwy y bydd ef yn was ffyddlon i'r Pab. Am hynny, ni feiddia'r un esgob na dywedyd na gwneuthur dim yn erbyn ei Arglwydd. Dyna fwriad y llw, wrth gwrs; a dyna paham y mae hyd yn oed yr esgobaethau cyfoethocaf yn dlawd ac ar ffordd i ddistryw. Clywaf fod Mainz yn talu ugain mil o Gulden. Dyna dric mwy nodweddiadol o Rufain nag arfer, mi dybiaf! Digon gwir iddynt gynt wneuthur deddfau eglwysig fod y Paliwm i'w roi am ddim, i leihau nifer gweision y Pab, a nifer y cwerylon; ac i roi mwy o ryddid i'r esgobaeth. Ond ysywaeth, nid oedd arian mewn pethau felly. Rhaid oedd troi'r ddalen yn ddiymdroi ac erbyn hyn collodd yr esgobion eu holl allu. Nid ŷnt ond gwagnod heb swydd nac awdurdod na gwaith. Rhaid oedd i'r prif—ffyliaid yn Rhufain gael trefnu popeth—hyd yn oed swyddi bychain y torwyr beddau a'r clochyddion yn yr holl eglwysi. Rhaid oedd trosglwyddo pob cweryl i Rufain, ac fe wna'r bobl yno'r peth a fynnont dan adain y Pab. . . Y mae hefyd lawer o driciau bach eraill a wnânt na fedraf i mo'u hadrodd ar hyn o bryd, ond digon yw hyn i ddangos y gwnânt bethau mwy cywilyddus â bywioliaethau'r eglwys nag a wnaeth y paganiaid wrth y Groes gynt â dillad Crist. . .
Oherwydd yr holl ddrygau hyn y mae cyflwr Rhufain yn anhraethadwy o bechadurus. Y mae yno'r fath werthu a phrynu, y fath fargeinio a blagardio, y fath dwyll a chelwydd, lladrata ac ysbeilio, y fath gyfeddach, cnafeidd-dra ac aflendid—pob math o ddirmyg ar Dduw—fel nad yw'n bosibl i lywodraeth yr Anghrist ei hun fod yn fwy cableddus. Nid oes dim yn Fenis nac Antwerp na Chairo i'w gymharu â ffair a marchnad Rhufain. Fe lŷn y lleoedd hyn wrth ryw gymaint o reswm a deddf, ond yn Rhufain gwna'r diafol fel y mynno. Ac o'r môr brwnt hwn, fe red "rhinwedd " tebyg i'r holl fyd!! Onid yw'n naturiol i bobl o'r fath ddychrynu rhag diwygiad a Chyngor eglwysig a fo'n rhydd? Gwell fyddai ganddynt i dywysogion a brenhinoedd grogi ei gilydd nag iddynt gytuno i alw'r eglwys ynghyd. Pwy a all oddef i'w gythreuldeb ddyfod i olau dydd?
MARCHNAD RHUFAIN.
Un peth eto. Fe agorodd y Pab Swyddfa arbennig i'r holl fasnach ardderchog hon—tŷ a elwir y Datariws yn Rhufain. Yno rhaid yw i bawb fynd i fargeinio am esgobaethau a bywioliaethau. Pan nad oeddynt ond yn prynu a gwerthu cyfiawnder, nid oedd pethau cynddrwg. Erbyn heddiw y mae marchnad Rhufain mor ddrud fel na oddefir i neb hyd yn oed ladrata nac ysbeilio heb dalu swm mawr ymlaen llaw am yr hawl. Onid puteindy uwchlaw'r holl puteindai a ellir eu dychmygu yw peth fel hyn, ni wn i ddim beth yw puteindy. O bydd gennyt arian yn y tŷ hwn, gelli wneuthur y cwbl a enwais. Mwy na hynny, am dy arian cei gyfiawnhau pob math ar usuriaeth: Cyfreithlonir it bob lladrad. Gellir torri llw. Gall mynach brynu'r hawl i gefnu ar ei urdd. Gall offeiriad a dyngodd lw gwyryf gael hawl i briodi. Gall bastardiaid droi'n blant cyfreithlon. Fe all gwarth a chywilydd ennill urddau pwysig. Gwneir marchogion a phendefigion o bobl ddienw a dibarch. . . Try'r diafol ei hun yn sant ac yn Dduw. Y peth na all na'r nef na'r ddaear ei wneuthur a dry'n beth hawdd yn y tŷ hwn. . . Na thybied neb fy mod yn dywedyd gormod. Y mae pawb yn gwybod am y pethau hyn, a Rhufain ei hun yn gorfod cyfaddef bod ei chyflwr yn waeth ac yn fwy ofnadwy nag y gall neb ddisgrifio. Ni ddywedais ac ni ddywedaf ddim am wehilion uffernol pechodau personol. Ni soniaf ond am faterion cyhoeddus—er hynny nid oes gennyf eiriau digon cryf i'w disgrifio. Dylai esgobion ac offeiriaid, a mwy na neb ddoctoriaid y Prifysgolion, fod wedi ysgrifennu gyda'i gilydd am danynt ers llawer dydd a phrotestio yn eu herbyn.
Y mae gennyf un gair o ffarwel eto'n aros. Yr oedd trachwant diderfyn Rhufain yn fwy hyd yn oed na'r trysorfeydd mawr hyn—a fodlonai dri brenin o leiaf. Am hynny y maent yn awr wedi trosglwyddo'r holl fusnes a'i werthu i Fanc mawr y Ffwgeriaid yn Augsburg. Felly, y mae'r benthyca a'r prynu a'r gwerthu esgobaethau a bywioliaethau a'r holl fasnach mewn eiddo eglwysig wedi mynd o'r diwedd i'r dwylo iawn, a'r drafnidiaeth fydol ac ysbrydol wedi troi'n un fusnes fawr. Am hynny, tybiaf fod Rhufain wedi cyrraedd eithafbwynt ei chynllwynion o'r diwedd. . . Yn y cyfamser, am fod llywodraeth mor ddieflig nid yn unig yn lladrad penffordd, yn dwyll ac yn ormes pyrth uffern, ond hefyd yn difetha gwledydd cred yn gorff ac enaid, ein dyletswydd ni yw prysuro i atal y distryw mawr hwn. Os am ymladd â'r Tyrciaid, dylem ddechrau yma lle y maent waethaf. Os yw'n iawn i ni grogi lladron a thorri pennau ysbeilwyr, paham y gadawn raib Rhufain yn ddigosb—y pen-lleidr mwyaf a welodd hanes ac un a wna'r cwbl oll yn enw Crist a Sant Pedr? Pwy a all oddef gwarth a bod yn ddistaw am dano? Wedi ei ddwyn a'i ladrata y mae'r cwbl sydd gan Rufain fel y dengys llyfrau hanes. Yn wir i chwi, ni phrynodd y Pab erioed yr holl feddiannau mawr sydd ganddo —gwerth agos i filiwn o bunnau heb gyfrif ei diroedd a'r mwyn-gloddiau aur sydd ganddo. Yn sicr, ni chafodd hwy'n etifeddiaeth oddiwrth Grist a Sant Pedr. Ni roddodd neb hwy iddo. Dywed i mi, o ba le y cafodd hwy? Edrych a gwêl—i ba ddiben y denfyn genhadon allan i gasglu aur ac arian? Ai i ymladd â'r Tyrciaid fel y dywed?
RHAGLEN Y DIWYGIAD.
Yn awr, er fy mod yn rhy ddinod i gynnig diwygio cyflwr gresynus o'r fath, rhaid yw i mi ganu cân y ffwl hyd y diwedd, a mynegi beth a allai a pha beth a ddylai'r llywodraeth wladol neu Gyngor eglwysig ei wneuthur.
YN GYNTAF, fe ddylai pob tywysog a phendefig a thref ar unwaith wahardd i'w deiliaid dalu'r Blwydd-daliadau (Annates) i Rufain; a'u diddymu'n llwyr. Torrodd y Pab y cyfamod a thrôdd y blwydd-daliadau'n lladrad a niweidia ac a gywilyddia genedl gyfan yr Almaen. Rhanna hwy rhwng ei ffrindiau. Fe'u gwertha hwy am arian mawr a chrea swyddogaethau â hwy. Am hynny, collodd ei hawl iddynt a haedda gosb o'r herwydd. Dyletswydd y wladwriaeth yw amddiffyn y diniwed a'u cadw rhag cam fel y dywed Sant Pawl (Rhuf. xiii. 4) a Sant Pedr (1 Pedr ii. 14) ac fel y dysg hyd yn oed ddeddf yr eglwys. Dyna paham y dywedwn wrth y Pab "Tu ora," "Gweddïa di" ac wrth yr ymerawdwr a'i ddilynwyr "Tu protege", "Amddiffyn yw dy waith di" ac wrth y werin "Tu labora," "Llafurio a ddylit ti."
Nid y syniad yw na ddylai pob un weddïo, amddiffyn a llafurio, canys y mae pwy bynnag a wna ei waith yn iawn, yn gweddïo, yn amddiffyn ac yn llafurio trwy'r cwbl a wna. Y syniad yn hytrach yw fod i bob un ei alwedigaeth arbennig ei hun.
YN AIL, trwy ei driciau Rhufeinig a'i ystrywiau cnafaidd o bob math ynglŷn â swyddi'r eglwys, fe drawsfeddianna'r Pab holl waddoliadau'r Almaen. Y mae'n eu rhoi a'u gwerthu i estroniaid yn Rhufain na wnânt ddim yn yr Almaen am danynt. Trwy hynny, ysbeilia'r offeiriaid o'u hiawnderau, gwna'r esgobion yn ddiles a dirym, a gweithreda'n groes i'w ddeddf eglwysig ei hun—heb sôn am gyfiawnder a rheswm.
Y canlyniad yw y gwerthir swyddogaethau'r eglwys yn ôl y wanc am arian sydd yn Rhufain, a hynny i asynod dienaid a chnafon anwybodus, gan adael dysgedigion duwiol heb dâl na chyflog a gwerin druan yr Almaen i farw o newyn am offeiriaid da a dysgedig. Am hynny, fe ddylai pob pendefig Cristnogol godi yn erbyn y Pab fel gelyn a dinistrydd gwledydd cred, er mwyn achub eneidiau truain y werin a leddir gan ormes o'r fath. Dylent ddeddfu'n gaeth nad oes bywioliaeth mwy i'w chludo i Rufain na neb yno byth i'w hawlio. Rhodder pob swydd yn yr Almaen yn ôl i'w pherchennog iawn a llanwer hi'n anrhydeddus gan un o'r wlad ei hun. Ac os danfonir cenhadyn yma o Rufain, dylid ei orchymyn yn llym naill ai i ymadael o'r wlad ar frys neu neidio i Rein a rhoi bedydd mewn dwfr oer i bob arch a sêl sydd ganddo o Rufain. Efallai y dysgai hynny i bobl Rhufain nad yw'r Ellmyn o hyd yn feddw a disynnwyr ond eu bod am unwaith wedi troi'n Gristnogion na allant oddef mwy fwrw gwarth a gwawd ar enw santaidd Crist, a'i wneuthur yn glogyn dros ffwlbri a damnedigaeth o'r fath.
YN DRYDEDD, dylid gwneuthur deddf ymerodrol nad oes mantell esgob mwy i'w chyrchu o Rufain na swydd eglwysig mwy i'w chadarnhau oddiyno. Rhaid yw adfer trefniant Cyngor santaidd ac enwog Nicea fod pob esgob mwy i'w gadarnhau yn ei swydd gan y ddau esgob agosaf ato neu gan yr archesgob.
Os yw'r Pab i wneuthur penderfyniadau pob cyngor yn ddiddim, pa les yw cynnal cynghorau? A phwy a roddodd iddo ef awdurdod i ddirmygu a diddymu cynghorau'r eglwys? Gwell na dioddef hyn yw i ni ddiswyddo pob esgob ac archesgob a'u troi'n offeiriaid syml, gan roi pob awdurdod heb os nac onibai yn nwylo'r Pab.
Onid yw yn ei drawshawlio'n awr? Nid oes gan yr esgobion a'r archesgobion yn awr ddim mwy nag enw gwag a theitl dirym.
Trwy ei air ei hun ysbeiliodd y Pab hwy o'u holl awdurdod ar y mynachtai, yr abadau a'r preladiaid nes syrthio o wledydd cred i'r anhrefn mwyaf. Rheidiol ffrwyth y cwbl yw cyflwr y byd ar hyn o bryd: troseddau'n mynd heb gosb a thrwydded i bawb yn y byd i wneuthur y drwg a fynno. Ofnaf yn wir bydd rhaid i ni roi'r enw "hominem peccati" ("dyn pechod" 2 Thess. ii. 3) i'r Pab. Ar bwy ond ar y Pab y mae'r bai nad oes na disgyblaeth na chosb na llywodraeth na threin trwy'r gwledydd. Ar fympwy ei awdurdod ei hun, clymodd ddwylo'i holl breladiaid a dug eu gwialennod oddiarnynt, gan adael dwylo'u holl ddeiliaid yn rhydd a rhoi neu werthu trwydded iddynt i wneuthur y drwg a fynnant. Cyfynger ynteu awdurdod y Pab i bethau na fedr ei weision eu setlo, fel y caffo ef amser i wneuthur ei waith, sef yw hynny, gweddio dros yr eglwys a myfyrio a gofalu am anghenion pobloedd y byd...Heddiw ni wna Rhufain ddim amgen na dirmygu'r Efengyl a gweddi gan droi i "wasanaethu byrddau," hynny yw, gwasanaethu mewn pethau bychain tymhorol. Y mae İlywodraeth yr Apostolion a'r Pab mor gyson â'i gilydd ag yw Crist a Lwsiffer, nefoedd ac uffern, nos a dydd; ond er hynny, fe'i gelwir yn ddirprwy Crist ac olynydd yr Apostolion.
YMREOLAETH I'R ALMAEN.
YN BEDWERYDD, fe ddylid ordeinio na oddefir mwy ddanfon unrhyw gyngaws gwladol i Rufain, fel y gwnaethpwyd mor fynych er niwed mawr i ddeddfau'r wlad a'r parch sy'n ddyledus iddynt. Llywodraeth pob gwlad a ddylai benderfynu'r achosion hyn. Cyffesir hynny'n wir yn y deddflyfrau eglwysig, ond bod y Pab yn eu diystyru. Gwaith Pab fel yr un mwyaf hyddysg yn yr Ysgrythur a'r santeiddiolaf (pan yw felly nid mewn enw ond mewn gwirionedd) yw trafod a threfnu'r pethau a berthyn i ffydd a bywyd da Cristnogion, cadw'r Cardinaliaid a'r Archesgobion yn ffyddlon i'r gwaith hwnnw a gofalu nad ymyrrant â materion gwladol. Niwed annioddefol i bob gwlad yw bod Rhufain yn ymyrryd â materion o'r fath. Nid yn unig chwydda'r costau ond yn fynych fe wneir cam dybryd am na ŵyr y barnwyr yn Rhufain ddim am arferion, defodau a chyfreithiau'r gwahanol wledydd. Ni ddylai'r awdurdod eglwysig lywodraethu ond mewn achosion eglwysig,. fel y dysg synnwyr cyffredin. Ac nid aur ac arian a materion allanol yw gwir eiddo'r eglwys ond ffydd a gweithredoedd da. Gellid caniatau'n ddigon calonnog i achosion ynglŷn â bywioliaethau a gwaddoliadau eglwysig fynd gerbron esgobion ac archesgobion. Gan hynny, pan fo angen a chyfle, sefydled prif-esgob yr Almaen Lys, ac iddo'i swyddogion arbennig ei hun, i drafod yn rheolaidd yr holl achosion angenrheidiol yn yr Almaen. Ni ddylai'r swyddogion hyn ddibynnu am eu cyflogau ar roddion a gwobrwyon fel yn Rhufain. Ni wna hyn ond eu temtio i werthu cyfiawnder, fel yn Rhufain hefyd. Dylid eu talu o'r Blwydd-daliadau eglwysig (Annates) neu ddarganfod ffordd arall onest a theg. Tebyg y gall pobl fwy cyfarwydd na mi feddwl am ffordd lawer gwell. Fy ngwaith arbennig i yw dihuno meddwl y rhai a all ac sydd barod i helpu cenedl yr Almaen i ddyfod yn Gristnogol a rhydd unwaith eto ar ôl cyfnod maith o fyw dan lywodraeth druenus, baganaidd ac anghristnogol y Pab.
YN BUMED, dylid gosod terfyn ar unwaith ar waith anghyfiawn y Pab. yn honni hawl i lanw swydd pob offeiriad a fydd farw yn Rhufain neu y bydd cweryl o'i herwydd. Dylid cosbi'n drwm y camddefnydd dybryd a wneir gan y Pab a'i genhadon o enw Duw ac esgymundod i gyfiawnhau pob lladrad o'u heiddo.
YN CHWECHED, dylid gosod terfyn ar y gwaith anonest o gyfyngu'r gallu i gyhoeddi "maddeuant am rai pechodau i'r Pab yn unig. Nid yw ond ffordd arall o droi cyfoeth y byd i gyfeiriad Rhufain, a threisio cydwybodau llawer o bobl dda a duwiol...
YN SEITHFED, dylid gorfodi'r Pab i ostwng nifer y gweision a'r swyddogion sydd fel pryfetach afiach yn llanw'i Lys yn Rhufain. Ni ddylent fod yn fwy nag a all eiddo personol y Pab eu talu. Pa reswm sydd i Lys y Pab fod yn fwy ei rwysg a'i wastraff na Llys unrhyw frenin. Nid yw o unrhyw les i grefydd. Nid yw ond yn cadw'r Pab rhag rhoi ei amser i weddi a myfyrdod. Y canlyniad yw na ŵyr ef a'i weision nemor ddim am bethau crefydd. Cafwyd prawf digon eglur o hynny yn y Cyngor eglwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Rhufain (Cyngor y Lateran 1512-17). Yno, ymhlith llawer o benderfyniadau plentynnaidd a dibwys, fe ddyfarnwyd "bod yr enaid yn anfarwol" a bod rhaid i bob offeiriad weddïo unwaith bob mis neu golli ei fywioliaeth. Pa fodd y gall pobl o'r fath lywodraethu eglwysi'r byd a bwrw barn deg ar achosion crefydd—pobl wedi eu dallu gymaint gan eu trachwant, eu cyfoeth a'u rhwysg, fel na wyddent hyd mor ddiweddar fod yr enaid yn anfarwol. Onid yw'n sarhad ar wledydd cred i Rufain drafod pynciau crefydd mewn ffordd mor waradwyddus? Pe baent yn llai bostfawr a chanddynt lai o gyfoeth, caent well mantais i efrydu a gweddio ac i'w paratoi eu hunain yn well ar gyfer trafod achosion crefydd. Dyna fel yr oedd yn yr hen amseroedd pan fodlonai dynion ar fod yn esgobion yn unig ac nid brenhinoedd ar frenhinoedd.
Yn WYTHFED, dylid hefyd ddileu'r llw gwaradwyddus y gorfodir pob esgob i'w dyngu llw a'i gwna'n gaethwas i'r Pab—cyn cadarnhau o'r Pab ei etholiad i'w swydd. Wedi dwyn yr hawl oddiar yr Ymerawdwr y mae'r Pab, ac y mae'n llawn bryd iddo'i roi'n ôl i'r Ymerawdwr. . .
YR EGLWYS A'R WLADWRIAETH.
YN NAWFED, y mae'n llawn bryd hefyd wneuthur yn eglur nad oes gan y Pab unrhyw awdurdod ar yr Ymerawdwr mwy na'i fod yn ei eneinio a'i goroni wrth yr allor—fel y corona unrhyw esgob unrhyw frenin. Dylid diddymu hefyd yr arfer ddieflig i'r ymerawdwr gusanu traed y Pab ac eistedd wrth ei draed, neu fel y dywedir, dal gwarthol neu ffrwyn iddo i fyned ar gefn ei fulyn. Llawer llai y dylai dalu gwrogaeth i'r Pab a thyngu llw o ffyddlondeb iddo, fel y myn y Pabau'n ddigywilydd fod ganddynt hawl iddo. Nid yw'r Canonau eglwysig a gyfyd awdurdod y Pab yn uwch na'r ymerawdwr yn werth dimai goch. Nid yw'r cwbl ond gwyrdroi geiriau santaidd Duw yn ôl breuddwydion y Pabau eu hunain. Dyfais y diafol yw rhoi unrhyw uchafiaeth ryfygus o'r fath i'r Pab—a hynny er mwyn agor y drws i'r Anghrist a chodi'r Pab uwchlaw Duw—fel y gwna llawer yn awr. Nid oes hawl gan y Pab i'w godi ei hun uwchlaw'r awdur— dodau gwladol ond mewn materion fel pregethu a chyhoeddi maddeuant. Ymhob peth arall y mae'n ddarostyngedig i'r awdurdod gwladol yn ôl dysgeidiaeth Sant Pawl a Sant Pedr (Rhuf. xiii. 1; 1 Pedr iii. 13, 14). Nid dirprwy Crist yn y nef yw, ond y Crist fel y bu fyw ar y ddaear.
Nid oes angen dirprwy ar Grist y nefoedd fel llywodraethwr. Fe eistedd yno mewn gallu, ac fe wêl, fe ŵyr ac fe wna bopeth drosto'i hun. Ond yn agwedd gwas fel y bu ar y ddaear, yn llafurio, yn pregethu, yn dioddef ac yn marw, y mae arno angen am ddirprwy. Yn hollol groes i hynny y gwnânt hwy, bobl Rhufain. Y maent yn dwyn ei allu fel llywodraethwr oddiar Grist ac yn ei roi i'r Pab, ond yn anghofio'i waith fel gwas yn hollol. Enw gwir y Pab yw Gwrth-Grist, neu fel y gelwir ef yn yr Ysgrythur yr Anghrist. Onid yw ei holl weithredoedd a'i gymeriad yn erbyn Crist—yn dirymu ac yn distrywio cymeriad a gwaith Crist? Peth chwerthingar a phlentynnaidd hefyd yw i'r Pab honni mai ef yw etifedd cyfreithlon yr ymerodraeth pan ddaw'r orsedd yn wag. (Felly y gwna yn ei Decreta pastoralis). Pwy a'i rhoddodd iddo? Ai Crist pan ddywedodd: Y mae tywysogion y cenhedloedd yn Arglwyddi. . . ond na fyddwch chwi felly (Lc. xxii. 25, 26)? Ai Sant Pedr a'i gadawodd iddo yn ei ewyllys? Cas gennyf ein bod yn gorfod darllen a dysgu celwyddau mor ddienaid a digywilydd yn y Canonau eglwysig a'u derbyn fel athrawiaeth Gristnogol. Twyll y diafol ydynt.
Y mae'r un peth yn wir am y celwydd ynglŷn â "rhodd Cystennin." Pa fodd y goddefodd cynifer o ddynion call eu twyllo gan gelwyddau mor amrwd a thrwsgl? Am a wn i, dywedai ffŵl meddw gelwydd yn fwy deheuig. Pa fodd y medrai gwaith arbennig y Pab, sef yw hynny, pregethu, gweddïo, efrydu a gofalu am y tlawd, gyd-fynd â'r gwaith o lywodraethu ymerodraeth? Oni ddywedodd Crist yn bendant wrth y bobl hyn: Na ddarperwch na chlogyn nac arian i'r daith (Mt. x. 10). Pa synnwyr sydd mewn ceisio llywodraethu ymerodraeth ac ufuddhau i ddeddfau Crist? Nid yw hyn ond dychymyg cnafon sydd am fod yn arglwyddi'r byd yn enw'r Pab ac am adfer hen ymerodraeth Rufain fel yr oedd mewn oesoedd a fu, yn enw'r Pab a Christ.
YN DDEGFED, rhaid yw i'r Pab hefyd beidio â honni mwy mai ei eiddo ef yw teyrnas Neapolis a Sicilia. Nid oes ganddo fwy o hawl arni nag sydd gennyf i. Ei lladrata a wnaeth trwy drais fel y gwnaeth hefyd â bron yr holl feddiannau sydd ganddo. Fe ddylai'r ymerawdwr eu cymryd oddiarno ai gyfeirio'n hytrach at ei Feibl a'i Lyfr Gweddi, gan adael i arglwyddi'r gwledydd lywodraethu'r bobloedd. Y mae i'r Pab ymyrryd yng ngwaith y wladwriaeth yn hollol groes i orchmynion Crist a Sant Pawl: "Nid yw neb sydd am fod druenus sy'n byw yn awr mewn helbul gyda gwraig a phlant. Teimlant gywilydd a phoenir hwyn filwr Duw yn ymrwystro â negeseuau'r bywyd hwn (2 Tim. ii. 4). Pen ac arweinydd y filwriaeth hon a ddylai'r Pab fod, ond i'r gwrthwyneb nid oes na brenin nac ymerawdwr yn fwy prysur ym materion y byd na'r Pab. Gollynger ef yn rhydd i ofalu am ei filwriaeth ysbrydol ei hun. Honna mai ef yw dirprwy Crist: ond pan ofynnwyd i Grist rannu etifeddiaeth rhwng dyn a'i frawd, dyma a ddywedodd: Pwy a'm gosododd i'n farnwr arnat ti? (Lc. xii. 14). Ond ymyrryd a wna'r Pab mewn materion o'r fath heb i neb hyd yn oed ofyn iddo—fel pe bai Dduw ei hun. Erbyn hyn ni ŵyr ddim am y Crist yr honna ei fod yn ddirprwy iddo.
CUSANU TRAED Y PAB.
YN UNFED AR DDEG, gosoder terfyn ar gusanu traed y Pab. Esiampl anghristnogol yw i bechadur o ddyn oddef cusanu ei draed gan un sydd ganwaith gwell nag ef ei hun. Os diben yr arfer yw gogoneddu awdurdod y Pab, paham na wna ef yr un peth i eraill er mwyn gogoneddu eu santeiddrwydd hwy.
Cymharer hwy â'i gilydd—Crist a'r Pab! Crist yn golchi traed ei ddisgyblion, ond y Pab fel pe bai uwch na Christ yn goddef i'w ganlynwyr gusanu ei draed. Yn wir, fe â gwenieithwyr ein hoes ni mor bell a gwneuthur eilun-dduw o'r Pab, Nid oes neb yn ofni'r gwir Dduw fel yr ofnant y Pab, na neb chwaith yn ei anrhydeddu ag aberthau mor fawr. Goddefir hyn, ond ni oddefir tynnu'r mymryn lleiaf oddiwrth ysblander y Pab. Gogoneddir y Pab ar gost bychanu Duw. . .
Peth hollol gyson â'r balchter annioddefol hwn yw na fodlona'r Pab ar farchogaeth ar geffyl neu ei gario mewn cerbyd. Er ei fod yn gryf ac yn iach, rhaid yw ei gario gan ddynion fel eilun ac mewn rhwysg na chlywyd am ei debyg. F'anwylyd, pa fodd y gellir cysoni balchter Liwsifferaidd o'r fath â Christ a gerddai ar draed fel ei ddisgyblion oll? Pa frenin sy'n ymdaith mewn rhwysg ac ysblander mor fawr â'r hwn a fyn fod yn arweinydd pawb a ddylai ddirmygu pob rhwysg bydol a ffoi oddiwrtho. . .
Digon yw i'r Pab fod mor ddwl a gwallgof. Gormod yw disgwyl i ninnau ei gymeradwyo a'i gefnogi.
Pa galon Gristnogol a all edrych mewn boddhad ar y Pab yn eistedd fel y pendefig grasusaf trwy wasanaeth Cymun, gan oddef estyn y Sacrament iddo ar gorsen aur gan Gardinal ar ei liniau o'i flaen—fel pe na bai'r Sacrament santaidd yn ddigon teilwng i'r Pab, bechadur truan drewllyd, i godi ar ei draed i roi anrhydedd i'w Dduw. Cymer pob Cristion arall y Sacrament gyda phob arwydd o barch er bod llawer ohonynt yn llawer santeiddiach na'r "santeiddiaf Dad," y Pab. Pa ryfeddod fyddai pe bai Duw'n danfon pla arnom oll am ein bod yn goddef ac yn canmol gosod amarch mor fawr ar Dduw gan ein preladiaid, a thrwy ein distawrwydd a'n gweniaith yn gyfrannog o'u balchter damniol. Fe ddigwydd yr un peth yng ngorymdaith y Sacrament. Rhaid yw cario'r Pab wrth gwrs, ond fe saif y Sacrament o'i flaen fel tancr o win ar y bwrdd. Mewn gair, yn Rhufain nid yw Crist ddim—y Pab yw popeth. . . Boed Duw'n help i Gyngor eglwysig rhydd i ddysgu'r Pab mai dyn yw yntau hefyd ac nid rhywun mwy na Duw fel y myn i ni gredu.
PLA'R PERERINION.
Yn Ddeuddegfed, dylid rhoi terfyn ar y pererindodau i Rufain. Na oddefer i neb fynd ar bererindod o'i fympwy ei hun oni chytuna offeiriad neu henuriaid ei dref fod achos da dros iddo fynd. Nid am fod mynd ar bererindod yn beth drwg y dywedaf hyn, ond am ei fod ar hyn o bryd yn arwain i ddrygioni. Yn Rhufain heddiw ni wêl yr un pererin esiampl dda, ond pob math o anawsterau i'w ffydd. Y mae ganddynt hwy eu hunain ddihareb fel hyn: "Po agosaf i Rufain, anhawsaf bod yn Gristion." Dirmygu Duw a'i orchmynion yw'r unig neges a gludir adref oddiyno. Dyma air arall a ddywedir: "Y mae pwy bynnag a êl i Rufain y tro cyntaf yn chwilio am dwyllwr; yr ail dro fe'i caiff; a'r trydydd tro fe ddaw adref gydag ef." Ond erbyn hyn y maent yn ddigon medrus i wneuthur y tair taith ar unwaith, ac fe ddywedir yn awr: Gwell yw bod heb na gweld na gwybod dim am Rufain."
Ond heblaw hyn oll, fe gamarweinir dynion syml eu crefydd yn ddybryd gan yr arfer ddrwg. Credant fod gwerth mawr mewn mynd ar bererindod; a haeddiant mawr yn deillio o'r weithred. Y mae hynny'n ddigon pell o fod yn wir. Daioni bach, bach sydd yn y gwaith, a chan mwyaf gweithred ddrwg sy'n camarwain yw, am nad yw Duw'n gorchymyn dim o'r fath. Y mae wedi gorchymyn i ddyn ofalu am ei wraig a'i blant a hefyd roi ei wasanaeth a'i help i'w gymydog. Y peth a ddigwydd yn awr, er hynny, yw y gwaria dyn ugeiniau o bunnoedd ar bererindod i Rufain—peth na orchmynnir iddo gan neb—ond fe edy ei wraig a'i blant a'i gymydog i ddioddef angen gartref. A chred y ffŵl y gall wneuthur iawn am anufudd-dod o'r fath i orchmynion Duw trwy bererindoda yn ôl ei fympwy ei hun. Mewn gwirionedd nid yw'r arfer ond ffrwyth hunanoldeb neu gynllwyn y diafol.
Wrth gwrs, fe anogir pobl i wneuthur pethau fel hyn gan Pabau. Cynhyrfant y werin a'u Blynyddoedd Aur a'u Iwbiliau nes eu denu oddiwrth orchmynion Duw at eu cynllwynion twyllodrus eu hunain. Y peth a ddylent wahardd, hwnnw'n union a wnânt. Ysywaeth, y mae arferion o'r fath yn dyfod ag arian i'w pocedi ac yn cadarnhau eu hawdurdod celwyddog. Am hynny, ymlaen â'r fusnes, boed yn erbyn ewyllys Duw ac achub eneidiau neu beidio.
Yn awr, er mwyn lladd cred gelwyddog o'r fath ac adfer syniad iawn eto am ystyr gweithredoedd da," rhaid yw gosod terfyn ar bob pererindoda. Nid oes dim da ynddo. Nid oes yr un gorchymyn drosto na'r un ufudd-dod i Dduw ynddo. Nid yw ond esgus i bechu a dirmygu gorchymyn Duw. Cyfyd drwyddo haid o fegeriaid a wna bob math o ffwlbri ar bererindodau o'r fath. Cynefinant â chardota heb unrhyw rith o esgus. Cefnoga'r arfer fywyd penrhydd a llu o ddrygau nad oes gennyf i yn awr amser i'w cyfrif. . .
Y MYNAICH A'R MYNACHTAI.
YN DRYDYDD A'R DDEG, fe ddown at y dorf fawr sy'n addo llawer ond yn gwneuthur ychydig. Na chollwch eich tymer, bobl annwyl, nid wyf am wneuthur cam â chwi. Gwirionedd rhwng sur a melys sydd gennyf i'w lefaru. Dyma fe: Nac adeilader mwy o fynachtai. Duw a'n helpo, y mae llawer gormod ohonynt eisoes. Gwyn fyd pe baent oll yn chwilfriw neu o leiaf pe cyfyngid hwy i ddau neu dri lle. Nid oes dim da mewn crwydro ar hyd y wlad ac ni wneir dim da trwyddo chwaith. Bwrier deg ohonynt, mwy neu lai, yn un. Yna fe fydd ganddynt ddigon o fodd i'w cynnal eu hunain heb gardota. Y mae'n llawer mwy pwysig cofio am achub y werin na'r hyn a ddywed Sant Ffrancis, Dominic, Awstin, neu unrhyw ddyn arall,—yn enwedig gan fod pethau wedi troi'n hollol groes i'r hyn a ddisgwyliai'r dynion da a ennwyd.
Dylid hefyd wahardd y Brodyr Cardod i bregethu a derbyn Cyffes oni elwir hwy at y gwaith gan esgobion, offeiriaid, cynulleidfaoedd neu'r awdurdod gwladol. Ni wna eu cyffesu a'u pregethu ond arwain i gasineb ac eiddigedd rhwng yr offeiriad a'r mynaich a throi'n fagl i'r werin. Peth da fyddai gosod terfyn ar yr arfer. Nid oes angen mwy am dani. Hawdd yw gweled bod gan Rufain "santaidd" ei rhesymau ei hun dros chwyddo rhif yr haid fynaich. Nid oedd y Pab am i'r offeiriaid a'r esgobion fynd yn rhy gryf iddo'u rheoli. Ofnai iddynt flino ar ei ormes a dechrau diwygiad na allai ei "santeiddrwydd" ei oddef.
Dylid gosod terfyn hefyd ar y rhaniadau a'r gwahaniaethau dirif rhwng y gwahanol urddau ac yn yr un urdd. Ychydig o esgus a fu erioed drostynt. Y mae llai dros eu cadw'n fyw. Ymladdant â'i gilydd â chas a malais na ellir eu disgrifio. Y canlyniad yw y lleddir crefydd rhyngddynt, a gwneir rheolau a gweithredoedd ac arferion allanol yn unig safon bywyd Cristnogol. Rhagrith a damnedigaeth i eneidiau yn unig a all ddilyn pethau o'r fath, fel y gall pob un weled drosto'i hun. Y peth pennaf, wedi'r cwbl, yw ffydd yng Nghrist, ac nid yw honno'n dibynnu ar unrhyw urddau o'r fath na'u nifer. Yn wir, gwnânt nid ychydig o ddrwg i ffydd grefyddol. Anogir dynion ganddynt i fyw er mwyn arferion a gweithredoedd allanol yn fwy na gofalu am ffydd ysbrydol. A lle na bo yn y mynachtai awdurdodau doeth sy'n pregethu ac yn gofalu am ffydd yn fwy nag am reolau'r urdd, gwnânt ddrwg mawr i'r werin. Fel y syrthiodd y plant oddiwrth ffydd a chrefydd y tadau yn Israel gynt, felly y mae heddiw yn urddau'r mynaich. Y mae'r tadau a sylfaenodd yr urddau mewn ffydd wedi marw. Anghofiodd eu plant hyd yn oed ystyr crefydd a gwaith ysbrydol. Poenant eu hunain â'u rheolau bach a threfniadau'r urdd, fel y dywed yr Apostol: "Y mae ganddynt rith duwioldeb ond heb ddim y tu ôl iddo, yn dysgu ac yn dysgu ond heb allu dyfod i wybodaeth o ystyr gwir dduwioldeb." Gwell yw bod heb fynachtai a lywodraethir gan abad nad oes ganddo ddeall o ystyr y ffydd Gristnogol. Po fwyaf o rith duwioldeb a fydd ganddo, mwyaf i gyd o ddrwg a wna. Yn ôl fy syniad i, y mae angen, yn enwedig yn ein dyddiau ni, am adfer trefniant yr hen amseroedd a gofalu y gall dyn fynd i mewn i fynachty pan fynno ac ymadael pan fynno. Ysgolion Cristnogol a ddylai'r mynachtai fod lle y gallai dynion ddysgu'r Ysgrythur, derbyn disgyblaeth, a deall ystyr y bywyd crefyddol a derbyn hyfforddiant mewn cyfundrefnu a phregethu. . .
Mwy na dim, fe ddylai pob sefydliad eglwysig fod yn ddigon rhydd i alluogi pawb i wasanaethu Duw fel dynion rhydd ac nid fel caethion.
Ond erbyn hyn, clymwyd y mynachtai ag addunedau caeth, a charcharwyd dynion am byth ynddynt. Rhoddir mwy o barch i lw'r mynach nag i'r addewidion a wneir yn y Bedydd. Gwelwn, clywn, darllenwn a dysgwn bob dydd pa fath ffrwyth a ddaw o hyn oll.
Tebyg iawn yr edrychir ar y cyngor hwn o'r eiddof fel un ffôl. Nid yw hynny'n fy mhoeni. Dywedaf fy marn onest, gwrthoded a fynno. Mi wn yn iawn pa fodd y cedwir eu haddunedau gan y mynaich, yn enwedig adduned diweirdeb a gymerir mor fynych yn y mynachtai hyn. Nid yw'n un o orchmynion Crist ac nid i lawer y rhoddwyd y gras i'w chadw. Fy nymuniad i yw rhoi help i bob dyn a gofalu na chedwir eneidiau mewn caethiwed gan arferion a chyfreithiau a ddyfeisiwyd gan ddynion.
OFFEIRIAID DI-BRIOD.
YN BEDWERYDD AR DDEG, gwelwn mor isel y syrthiodd yr offeiriadaeth. Y mae llawer offeiriad, druan, wedi ei feichio'n drwm â gwraig a phlant a'i gydwybod yn ei boeni beunydd. Ni wna neb ddim i'w gynorthwyo er ei fod yn haeddu help. Yn hyn o beth caiff Pab ac Esgob wneuthur fel y mynnont, rhaid yw i mi fodloni fy nghydwybod a dywedyd fy meddwl yn hy, cythrudded a fynno, Pab ai Esgob. Yn ôl ordeiniadau Crist a'i apostolion, dylai fod gan bob tref weinidog neu esgob fel y dywed Sant Pawl yn eglur (Tit. i. 6), ac ni ddylid gorfodi hwnnw i fyw heb wraig gyfreithlon ond fe ddylid caniatau iddo briodi, fel yr ysgrifenna Sant Pawl (1 Tim. iii. 2; Tit. i. 6): Rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a'i blant yn ufudd a than ddisgyblaeth, etc.,".. Yr un, wrth gwrs, yw esgob a gweinidog gan Sant Pawl. . . Ni ŵyr yr Ysgrythur ddim am esgobion o'r fath sydd gennym ni yn awr. Trwy ordinhad eglwysig y sefydlwyd hwy fel y gallai un lywodraethu llawer o weinidogion.
Gwelir bod yr apostol yn dysgu'n eglur y dylai pob tref trwy'r byd ddewis dyn dysgedig a duwiol o blith y gynulleidfa Gristnogol ac ymddiried gweinidogaeth crefydd iddo. Fe ddylai cynulleidfa'r eglwys ei gynnal, a dylai fod yn rhydd i briodi neu beidio fel y myn. Dylai fod ganddo offeiriaid neu ddiaconiaid priod neu ddibriod i'w gynorthwyo i arwain y bobl a'r gynulleidfa eglwysig, i bregethu ac i weini'r Sacramentau. Hon yw'r rheol yn eglwys Roeg hyd heddiw. Ymhell wedi amser Pawl, pan ddaeth llawer o erledigaeth ac ymryson â'r hereticiaid y dewisodd rhai o'r Tadau o'u bodd aros yn ddibriod—a hynny er mwyn cael amser i fyfyrio mwy, a bod bob munud awr yn barod ar gyfer y frwydr ysbrydol a merthyrdod. Erbyn hyn fe drodd esgob Rhufain arfer rhai yn ddeddf gyffredinol sy'n gwahardd i'r un offeiriad briodi. Rhaid mai'r diafol a'i cymhellodd i wneuthur peth mor ffôl, fel y rhagddywedwyd gan Sant Pawl (1 Tim. iv. 3): Fe ddaw athrawon a ddysg athrawiaethau cythreuliaid—yn gwahardd priodi, etc. Achosodd hyn fwy o drueni nag a ellir ei ddisgrifio. Bu'n achos ymneilltuo o eglwys Roeg oddiwrthym—ac fel popeth a ddyfeisir gan y diafol, bu'n achos rhwygiadau, pechodau a chywilydd a gwaith di—ben—draw. Beth ynteu yw'n dyletswydd yn wyneb hyn?
Fy marn i yw y dylid adfer rhyddid i bob un briodi neu beidio fel y myn. Ond, wrth gwrs, golygai hynny ddeddfau hollol wahanol ynglŷn ag eiddo. Fe ddymchwelid holl gyfreithiau'r eglwys ac fe fyddai Rhufain yn dlotach o lawer. Y mae arnaf ofn mai o drachwant am arian y cododd y "purdeb" amhur a thruenus hwn. Yr oedd pawb am droi'n offeiriad neu weinidog, a phob un am i'w fab baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Nid byw bywyd diwair oedd eu hawydd. Gallent wneuthur hynny heb droi'n offeiriaid, ond gweled yr oeddynt y caent fywioliaeth foethus heb drafferth na llafur—a gwadu gorchymyn Duw ar yr un pryd (Gen. iii. 19): "Trwy chwŷs dy wyneb y bwytei fara." Wrth gwrs, esbonient hyn trwy ddywedyd mai eu gwaith hwy oedd gweddïo ac offrymu'r offeren.
Wel, gadawaf i'r Pab, yr Esgobion, y Canoniaid, y clerigwyr a'r mynaich ddwyn eu beichiau eu hunain. Nid gan Dduw y crewyd eu swyddi hwy, ac y mae rhyddid iddynt osod y beichiau a fynnant ar eu hysgwyddau eu hunain. Sôn yr wyf i am y weinidogaeth gyffredin a sefydlwyd gan Dduw—gweinidogion y disgwylir iddynt arwain cynulleidfa trwy bregethu a gweini'r Sacramentau. Rhaid yw iddynt hwy fyw gyda'r bobl a gwneuthur cartrefi yn eu plith. Fe ddylai Cyngor eglwysig roi rhyddid iddynt hwy briodi er mwyn ysgafnhau grym temtasiwn iddynt. Nid yw Duw'n gorchymyn iddynt ymwrthod â phriodas, ac ni ddylai neb arall chwaith hyd yn oed pe bai'n angel o'r nef heb sôn am y Pab. A pha beth bynnag sydd yn erbyn hynny yn y Canonau eglwysig, nid yw ond cleber gwag a chwedlau. Fy nghyngor arall yw na ddylai gweinidog pan ordeinier ef addunedu i aros yn ddibriod ar unrhyw gyfrif. Fe ddylai brotestio nad oes gan yr esgob unrhyw awdurdod i ofyn am y fath adduned. Nid yw ond gormes ddieflig... Nid wyf am guddio fy marn onest na chadw cysur oddiwrth y dyrfa fawr y gan eu cydwybod pan elwir eu gwragedd yn buteiniaid a'u plant yn fastardiaid. Dywedaf hyn yn agored a hy er mwyn fy anrhydedd fy hun. Llawer gweinidog duwiol sydd nad oes gan neb ddim bai arno ond ei fod yn ddyn gwan ac yn byw mewn gwarth gyda gwraig. Yn eu calon, eu hawydd a'u penderfyniad yw byw am byth gyda'i gilydd mewn ffyddlondeb priodasol pe gallent wneuthur hynny â chydwybod dda. Ond gwarth cyhoeddus yw eu rhan. Yn sicr, ger bron Duw y mae'r ddau'n un mewn glân briodas. Dywedaf fwy. Er mwyn tawelu eu cydwybod, gwell fyddai iddynt briodi'n gyhoeddus a byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig heb boeni am beth a ddywed y Pab na'r Canonau eglwysig. Y mae achubiaeth dy enaid yn fwy pwysig na'u deddfau annuwiol, mympwyol a gormesol hwy. Nid oes a fynno'r Canonau eglwysig ddim ag achub enaid, ac ni ordeiniwyd hwy gan Dduw. Gwna fel y gwnaeth plant Israel pan ysbeilient y gyflog yr oeddynt wedi ei hennill oddiwrth yr Eifftiaid neu fel y lladrata gwas ei gyflog ddyledus oddiwrth ei feistr anghyfiawn. Lladrata dithau hefyd dy wraig a'th blant oddiwrth y Pab. Yr hwn sydd ganddo ddigon o ffydd i herio'r Pab, dilyned fi'n hy. Ni cham- arweiniaf ef. Onid oes gennyf awdurdod fel Pab, y mae gennyf awdurdod fel Cristion i helpu fy nghymydog ac i'w rybuddio rhag ei bechodau a'i beryglon—a hynny nid heb ddigon o reswm ac achos.
Yn gyntaf, nid pob offeiriad a all fyw heb wraig, nid yn unig oherwydd gwendid dynol ond oherwydd anghenion cadw tŷ a chartref. Gan hynny, os cyfloga wraig, a'r Pab yn caniatau hynny, ond yn gwrthod caniatau iddynt briodi, beth yw ond disgwyl iddynt fyw gyda'i gilydd heb syrthio. Nid yw ddim amgen na gosod gwellt ar dân a'i orchymyn na fygo ac na losgo.
Yn ail, nid oes gan y Pab fwy o awdurdod i wneuthur rheol o'r fath nag sydd ganddo i wahardd dyn i fwyta neu yfed. Nid oes galw am i neb ufuddhau i'r gorchymyn—a'r Pab a elwir i gyfrif am bob pechod a achosa, am yr holl eneidiau a gollir trwyddo, ac am bob cydwybod a boenir ac a ferthyrir ganddo. Dylesid erlid y Pab o'r byd ers llawer dydd am y llu eneidiau truain a grogwyd gan y rhaff ddieflig hon. Nid oes gennym ond gobeithio i Dduw ddangos mwy o drugaredd iddynt yn eu marw nag a wnaeth y Pab erioed yn ystod eu bywyd. Ni ddaeth dim da erioed ac ni ddaw byth o'r Babaeth a'i deddfau.
Yn drydydd, er bod deddf y Pab yn erbyn priodi o'r offeiriaid, eto pe cymerai un ohonynt wraig ar waethaf y Pab, try ei ddeddf ar unwaith yn ddirym. Daw gorchymyn Duw, sy'n gwahardd i neb wahanu rhwng gŵr a gwraig, i rym. A gwae i'r neb a wad orchymyn Duw er mwyn cadw cyfraith y Pab.
Pa angen sydd am ragor o eiriau? Nid oes dwy linell yn holl Ganonau eglwysig y Pab a all roi hyfforddiant i Gristion duwiol, ond y mae yno lu mawr o ddeddfau cyfeiliornus a pheryglus. Y peth gorau a fyddai gwneuthur tanllwyth ohonynt a'u llosgi'n ulw. Yn awr, os dywedi mai sarhad ar y ddeddf yw hyn, ac y dylid cael trwydded y Pab yn gyntaf. fy ateb yw: Pa dramgwydd bynnag sydd yn y peth esgob Rhufain sydd yn gyfrifol am dano trwy wneuthur deddf o'r fath sydd yn sarhad ar iawnder a Duw. Nid oes yma dramgwydd o gwbl yn erbyn Duw a'r Ysgrythur. Ac os gall y Pab roi trwydded am arian trwy ei ddeddfau gormesol a thrachwantus, sicr yw y gall pob Cristion roi'r un drwydded er mwyn Duw ac achubiaeth eneidiau. Fel y dywed Sant Pawl (Gal. v. 1; 1 Cor. viii. 9, 10), fe'n rhyddhaodd Crist ni oddiwrth bob deddf ddynol—yn enwedig o bydd yn erbyn Duw.
YN BYMTHEGFED, rhaid i ni beidio ag anghofio'r mynachtai druain. Y mae'r ysbryd drwg sy'n cythryblu pob dosbarth trwy wneuthur deddfau dynol anoddefadwy, wedi cymryd meddiant hefyd o rai abadau, abadesau a phreladiaid. Arweiniodd hwy i lywodraethu eu brodyr a'u chwiorydd yn y fath fodd ag i'w hyrddio i uffern yn y man. Hyd yn oed yma ar y ddaear, bywyd digon anhapus a gânt fel pawb a aberthir i'r diafol. Cadwodd yr abadau hyn yr hawl i dderbyn cyffes o rai pechodau cudd yn eu dwylo u hunain, gan fygwth esgymundod ar unrhyw fynach cyffredin a feiddia dderbyn cyffes un o'i frodyr.
Yn awr, dynion o gig a gwaed ac nid angylion yw mynaich, a gwell ganddynt redeg i unrhyw berygl o esgymundod na chyffesu eu pechodau cudd i'r abad neu'r cyffesydd a ddewisir iddynt gan yr awdurdodau. Am hynny, derbyniant y Sacrament yn fynych a phechodau o'r fath yn poeni eu cydwybod. O fugeiliaid dall! O breladiaid gwallgof! O fleiddiaid rheibus!
Cyffesaf mai digon da yw rheol o'r fath lle bo'r pechod yn gyhoedd. Peth digon iawn yw i'r abad neu'r prelad gadw'r hawl yn ei law ei hun i dderbyn cyffes am dano a'i gosbi. Ond nid oes ganddo unrhyw hawl ar bechodau personol cudd, boed hwy'n waeth na'r gwaethaf a ellir ei ddychmygu.
Gan hynny, dyma fy nghyngor i'r brodyr a'r chwiorydd hyn: Oni chaniata eich llywodraethwyr i chwi gyffesu'ch pechodau cudd i bwy bynnag a fynnoch, gwnewch hynny heb eu caniatâd, a chredwch yn ddios y medrwch gael maddeuant gan Dduw trwy hynny. Nac ofnwch eu holl fygythion i'ch esgymuno neu'ch troi allan.
YN UNFED AR BYMTHEG, fe ddylid diddymu'r Gwyliau a'r Offerennau dros y meirw. O leiaf, dylid lleihau eu nifer. Nid ŷnt erbyn hyn ddim amgen na gwatwar Duw. Nid oes un ystyr iddynt ond casglu arian a gloddesta a meddwi. Pa foddhad i Dduw yw clywed—nid darllen na gweddio ond —mwmian gwasanaethau Gwylnos ac Offeren mewn ffordd mor druenus. A hyd yn oed pan ddarllenir hwy'n ofalus, nid er mwyn Duw y gwneir, ond er mwyn aur a chadw cytundeb cyfraith. Amhosibl yw i ddim foddhau Duw neu dderbyn bendith oddiwrtho oni wneir ef o'n bodd ac o gariad ato. Mwy Cristnogol o lawer fyddai gosod terfyn ar arfer a gamddefnyddir mor ddybryd ac sydd yn debycach o gythruddo Duw na'i gymodi. Gwell gennyf i a mwy cydwedd ag ewyllys Duw fyddai casglu'r holl Noswyliau blynyddol a'r Gweddïau dros y meirw at ei gilydd ymhob eglwys a dathlu'n syml o galon ac mewn ffydd ei holl noddwyr da ar un dydd yn y flwyddyn. Gristnogion annwyl, nid llawer o weddïo a fyn Duw, ond gweddïo da. Yn unig o drachwant nad oes ganddo ymddiried yn Nuw, ac am hynny yn ofni marw o newyn, y cododd yr arfer wael o gynnal mil a mwy o Noswyliau ac Offerennau.
YN AIL AR BYMTHEG, fe ddylid hefyd ddiddymu llawer o'r cosbedigaethau a'r penydiau a nodir gan y Canonau eglwysig, ac yn enwedig yr Interdict. Nid yw hwnnw ond dyfais y gŵr drwg. Onid nod y diafol yw ceisio gwella un pechod trwy gyflawni pechodau mwy? Tybed nad yw'n fwy o bechod distewi gair ac addoliad Duw na lladd ugain Pab heb sôn am ladd un offeiriad neu wrthod talu trethi'r eglwys. Dyma'n wir un o'r "rhinweddau tirion a ddysgir gan y ddeddf "ysbrydol"! Tebyg y gelwir hi'n ddeddf ysbrydol am ei bod wedi dod oddiwrth "ysbryd"—nid yr Ysbryd Glân er hynny, ond yr ysbryd aflan.
Ni ddylid esgymuno ond lle gorchmynnir hynny gan yr Ysgrythur, hynny yw esgymuno'r neb sy'n byw bywyd o bechod cyhoeddus a'r neb a wad y ffydd. Ni ddylid esgymuno lle nad oes ond eiddo eglwysig mewn perygl. Yn awr, yn hollol groes i hynny y gwneir. Gall y neb a fynno fyw a chredu fel y mynno, yn enwedig y rhai sydd a'r gallu ganddynt i ysbeilio a gwaradwyddo eraill trwy eu hesgymuno. Ond os cyffyrddir ag eiddo eglwysig gweinyddir holl gosbau'r Canonau ar unwaith.
Am y cosbau a'r penydiau eraill a weinyddir ar offeiriaid— y taranu a'r lluchedu, y melltithio a'r damnio—fe ddylid eu claddu mewn bedd diwaelod—heb gof am eu henw byth. Yr ysbryd aflan a ollyngwyd yn rhydd gan y Canonau eglwysig a ddaeth â'r pla ofnadwy hwn i deyrnas nefol yr Eglwys Lân. Ei unig ffrwyth yw distryw eneidiau. Gellir yn iawn gyfeirio geiriau Crist ato (Mt. xxiii. 13): "Gwae chwi Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd yn erbyn dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn; a'r rhai sydd yn myned i mewn, nis gadewch i fyned i mewn."
YN DDEUNAWFED, fe ddylid diddymu holl Wyliau'r Saint gan gadw'r Sul yn unig. Os dymunir cadw Gŵyl Fair Forwyn a Gwyliau'r Saint pwysicaf, dylid eu cadw oll ar y Sul neu'n y bore wrth offrymu'r offeren. Dydd gwaith a ddylai'r rhan arall o'r dydd fod. Fy rheswm am hynny yw y poenwn Dduw'n fwy ar ddyddiau Gŵyl nag ar ddyddiau gwaith â'n meddwi, â'n hapchwarae, â'n diogi a phob math o bechod. Y mae'n dyddiau Gŵyl yn aflan. Ein dyddiau gwaith yn unig sydd lân. Nid gwasanaethu ond dirmygu Duw a'i Saint a wnawn â'n Gwyliau. Tybia rhai o'n preladiaid ffôl mai gweithred dda a wnânt yn sefydlu Gŵyl i Sant Ottilia neu Farbara a'r cyffelyb—pob un yn ei ffordd ddall ei hun. Gwnaent waith llawer gwell trwy droi un dydd Gŵyl yn ddydd gwaith yn enw Sant. Heblaw drygau ysbrydol y Gwyliau, gwnânt ddrwg i'r werin mewn dwy ffordd arall. Cyll dyn ddiwrnod o waith a gwaria fwy nag arfer, heblaw ei fod yn gwanhau ei gorff ac yn ei anaddasu ei hun ar gyfer gwaith. Gwelwn hyn bob dydd, ond ni chais neb ei ddiwygio. Nid gofyn a ddylem a sefydlwyd neu a ganiatawyd y Gwyliau hyn gan y Pab. Y mae gan bob cymdogaeth a Chyngor a llywodraeth wladol nid yn unig hawl, ond eu dyletswydd yw gwahardd popeth sydd yn erbyn ewyllys Duw ac a wna niwed i gorff ac enaid dynion,— a hynny ar waethaf Pab ac Esgob.
Yn gyntaf oll dylid diddymu pob Gŵyl Fabsant ymhob man. Nid ŷnt amgen na thafarnau, a ffeiriau a lleoedd i hapchwarae—yn waradwydd i Dduw ac yn ddamnedigaeth i eneidiau. Pa les yw clebran am eu tarddiad da a'u bod yn weithredoedd daionus! Oni ddiddymodd Duw ei Ddeddf ei hun pan welodd y camddefnyddid hi gymaint? Ac onid yw bob dydd yn dymchwelyd y peth a ordeiniodd Ef ei hun ac yn distrywio'r peth a wnaeth, oherwydd yr un camddefnydd ystyfnig? Onid yw'n ysgrifenedig yn y Sallwyr (xviii. 26):
'A'r hy y'th ddangosai Dy hun yn hy.'
YN BEDWERYDD AR BYMTHEG, rhaid yw newid hefyd y trefniadau ynglŷn â phriodas a diddymu hawl y Pab i ganiatau priodas anghyfreithlon a gwahardd y gyfreithlon—a gwerthu'r hawl am arian. Neu fe ddylid rhoi'r un awdurdod i bob offeiriad i'w rhoi'n rhad ac am ddim. . .
Y PERERINION ETO.
YN UGEINFED, fe ddylid gwahardd sefydlu pererindodau ar bob math o esgus i'r eglwysi a'r capeli newydd yma. Yn wir, fe fydd rhaid i'r esgobion dalu'n hallt ryw ddiwrnod am ganiatau'r dyfeisiadau hyn o eiddo'r diafol er mwyn gwneuthur arian ohonynt. Dywedir y gwneir gwyrthiau yn y lleoedd hyn. Nid yw hynny'n profi dim, oblegid fe all y diafol hefyd wneuthur gwyrthiau, fel y dysg Crist ni (Mt. xxiv. 24). Nid oes angen ond i'r esgobion wahardd y pererindodau i ddangos ar unwaith nad gwaith Duw yw'r gwyrthiau. Fe ddarfyddent gyda'r pererindodau. Yn wir, ni ellid dangos yn eglurach nad gwaith Duw ydynt na thrwy ffordd ddireswm a therfysglyd y bobl yn tyrru fel anifeiliaid gwyllt atynt. . . Nid yw'r pererindodau ond arwydd o ddiffyg ffydd y bobl. Pe bai ganddynt ffydd mewn gwirionedd, caent yr holl bethau hyn yn eglwys y plwyf gartref—yn y man lle y gorchmynnwyd iddynt fynd gan Dduw.
Ond beth a dâl siarad? Awydd pob dyn yw sefydlu pererindod i'w gymdogaeth ef ei hun, heb boeni a yw ei bobl yn byw'n iawn ai nad ydynt. Y mae'r llywodraethwyr fel y bobl y dall yn tywys y dall. Pan beidia'r pererinion â dyfod, dechreuant ogoneddu eu saint,—nid eu hanrhydeddu, cofier, ond bostio am danynt er mwyn casglu cynulleidfa ac arian gyda hwy. Rhydd y Pab a'r esgobion eu cynorthwy yn y gwaith da." Fe ddaw maddeuebau fel diferynnau glaw, ac y mae gan bawb arian i'w prynu. Nid yw neb yn poeni am orchmynion Duw. Ni red neb ar eu hôl. Nid oes gan neb arian i'w prynu. Gwae ni am ein dallineb! Nid yn unig goddefwn i'r diafol a'i ysbrydion gael ei ffordd, ond cynorthwywn ef. Y mae'n llawn bryd i ni, yn wir, roi llonydd i'r seintiau da a pheidio ag arwain y bobl druain ar ddisberod.
Pa ysbryd a roddodd i'r Pab awdurdod i "ogoneddu'r seintiau"? Pwy a ddywed wrtho a ydynt santaidd neu ansantaidd? Onid oes digon o bechodau eisoes ar y ddaear heb i ni demtio Duw, ymyrryd â'i farnedigaethau; gwneuthur pyrsau i dderbyn aur yn enw'i saint?
Am hynny, fy nghyngor yw i ni adael i'r saint eu gogoneddu eu hunain. Na, yn wir, Duw'n unig a ddylid ei ogoneddu; a dylai pob dyn wneuthur hynny yn ei gartref ei hun. Gall dderbyn mwy o les yno nag yn yr holl greirleoedd enwog gyda'i gilydd. Yno caiff y bedydd a'r Sacrament a phregethu, ac yno caiff ei gymydog hefyd—a mwy yw'r rhai hyn na holl saint y nef gyda'i gilydd—canys gair Duw a'r Sacrament sydd yn eu cysegru hwy hefyd. . . Na thwyller neb gan warantau a sêl a haeriadau Rhufain.
Arhosed pob un gartref yn eglwys ei blwyf ei hun a bodloned ar ei bedydd, ei hefengyl, ei ffydd, ei Christ a'i Duw (yr un ymhobman). Ni all na Phab nac angel roi cymaint i chwi ag a gewch yn eich plwyf eich hun. Ni wna'r Pab ond eich denu oddiwrth roddion Duw (a gewch yn rhad) at ei roddion ei hun (y mae'n rhaid i chwi dalu'n ddrud am danynt). Ni rydd i chwi ond plwm am aur, croen am gig, llinyn am bwrs, cwyr am fêl, geiriau am sylwedd, y llythyren am yr ysbryd. Gallech weld hynny drosoch eich hunain, ond ni fynnwch. Os ceisiwch fynd i'r nefoedd ar bwys sêl a memrwn y Pab, fe dyr eich cerbyd i lawr ac fe syrthiwch i uffern—ac nid ar Dduw y bydd y bai.
Dyma reol dda i chwi: Nid o Dduw y mae, ac nid da dim y mae'n rhaid ei brynu oddiwrth y Pab. Fe roddir pa beth bynnag a ddaw oddiwrth Dduw yn rhad; ac fe gondemnir pawb a'r nas derbyniant o'u bodd. Felly_y mae ynglŷn â'r Efengyl a holl weithredoedd Duw. Fe haeddwn ein harwain i'r holl gyfeiliornadau hyn am i ni ddirmygu gair santaidd Duw yn y bedydd, fel y dywed Sant Pawl (2 Thess. ii. 11, 12): "Denfyn Duw amryfusedd cadarn i bawb a'r na dderbyniont y gwirionedd i'w hachub, ond a gredo ac a ddilyno gelwydd a ffolineb." Dyna'n haeddiant.
PLA'R CARDOTWYR.
YN UNFED AR HUGAIN, un o'r anghenion pennaf yw gosod terfyn ar gardota trwy holl wledydd cred. Ymhlith Cristnogion, ni ddylai fod angen am i neb gardota. Peth hawdd hefyd fyddai trefnu, pe baem o ddifrif ac yn ddigon dewr, i bob tref ofalu am ei phobl dlodion ei hun, a gwahardd cardota o fewn ei therfynau gan neb dyn dieithr—dan ba enw bynnag y crwydrai—un ai fel pererin neu fel cardod-fynach. Gallai pob tref gynnal ei phobl ei hun ac o byddai'n rhy dlawd i hynny, gallai alw ar y pentrefi cyfagos i'w chynorthwyo. Fel y mae, rhaid yw iddynt gynnal llu o grwydriaid a chnafiaid dan enw cardotwyr. Dan y drefn a awgrymaf, caem wybod pwy mewn gwirionedd sydd a phwy nad yw dlawd. Wrth gwrs, rhaid fyddai cael goruchwyliwr neu warcheidwad sy'n adnabod yr holl dlodion i roi gwybod am eu hanghenion i Gyngor y dref neu i'r gweinidog neu trwy ba drefn bynnag a ddewisid.
Ni wn am un alwedigaeth lle y mae cymaint o dwyll ac o ddichell ag sydd ynglŷn â chardota, ac fe ellid yn hawdd ei hosgoi. Gwna'r penrhyddid a geir i gardota niwed mawr hefyd i'r werin. Tybiaf fod cynrychiolwyr rhyw bump neu chwech o urddau eglwysig yn ymweled â'r un lle yn ystod blwyddyn, a phob un ohonynt fwy na chwech neu saith o weithiau. Heblaw hynny, fe ddaw cardotwyr a'r "seintiau a'r pererinion o amgylch y wlad. Am hynny, gellir cyfrif y trethir pob tref ganddynt at ei gilydd ryw drigain gwaith bob blwyddyn—heblaw'r taloedd a'r trethi a delir i'r llywodraeth wladol a'r hyn oll a ladrateir yn ddiesgus gan esgob Rhufain. Mewn gwirionedd, un o wyrthiau pennaf Duw yw pa fodd y llwyddwn i fyw a thalu'n ffordd o gwbl.
Tybia rhai na ellid gofalu cystal am y tlodion yn y ffordd a awgrymaf. Credant na thrafferthid wedyn i adeiladu mynachtai mor fawr na chynifer ohonynt. Eithaf gwir— ond nid oes angen am danynt chwaith. Yr hwn a fyn fod yn dlawd, ni ddylai ddyfod yn gyfoethog (fel y daw'r mynaich). Os myn dyn fod yn gyfoethog, gosoded ei law ar yr aradr a choded ei gyfoeth o'r ddaear trwy chwŷs ei wyneb. Digon yw gofalu'n weddus am y tlawd a'u cadw rhag marw o oerfel a newyn. Nid yw'n iawn i neb fyw'n segur ar lafur caled y llall; nac i un ddod yn gyfoethog a byw'n foethus ar gost cadw'r llall mewn angen fel y digwydd yn aml heddiw. Canys dywed Sant Pawl (2 Thess. iii. 10): "Na fyn weithio, ni ddylai fwyta chwaith." Nid yw Duw wedi ordeinio i neb ond gweinidogion a phregethwyr yr Efengyl fyw ar eiddo dynion eraill—a hynny'n unig oherwydd gwerth y gwasanaeth crefyddol a wnânt, fel y dywed Sant Pawl (1 Cor. ix. 14). Fe ddywed Crist hefyd wrth yr apostolion (Lc. x. 7): Teilwng i'r gweithiwr ei gyflog.'
YN AIL AR HUGAIN, y mae lle i ofni hefyd mai tynnu gwg Duw yn unig a wna'r offerennau lu a offrymir yn y mynachtai a'r sefydliadau eglwysig. Am hynny da fyddai peidio â gwaddoli mwy ohonynt a diddymu llawer o'r rhai a sefydlwyd eisoes.
YN DRYDYDD AR HUGAIN, y mae llu o bethau eraill na ddylid eu goddef mwy—y brodoriaethau, y maddeuebau, y trwyddedau a'r offerennau o bob math. Bodder a dileer hwy. Nid oes dim daioni ynddynt. . .
Fy nghyfaill, trwy dy fedydd yr wyt yn aelod o frodoriaeth y mae Crist a'r angylion a'r saint a phob Cristion yn aelod o honi. Dyna frawdoliaeth ddigon da i ti. . . Pe sefydlid brodoriaeth i roi bwyd i'r tlawd neu i gynorthwyo eraill mewn unrhyw ffordd, fe fyddai'n frodoriaeth a'i hawdurdod a'i haeddiant o'r nefoedd. Ond am y brodoriaethau cyffredin, nid ŷnt dda i ddim ond gloddesta a meddwi.
Un o'r pethau cyntaf a ddylid ei wneuthur yw alltudio cenhadon y Pab o holl diriogaethau'r Almaen—hwy a'r holl ddrygioni a'u dilyn. . . Yr unig beth a wnânt yw gwerthu dysg y diafol i ni, a chymryd arian am ein dysgu i bechu a'n harwain i uffern. Y mae'r gwaith hwn ei hun yn ddigon i brofi mai'r Pab yw'r Anghrist. Clyw di hyn, O Bab!—nid y santeiddiaf ond y pechadur mwyaf! Gwyn ein byd pe hyrddiai Duw dy orsedd yn bendramwnwgl o'r nefoedd i lawr i ddyfnderoedd uffern! Pwy a roddodd i ti'r awdurdod i'th ddyrchafu dy hun uwchlaw dy Dduw; i dorri a diddymu ei orchmynion; i ddysgu Cristnogion, ac yn enwedig yr Ellmyn (gwŷr o natur nobl, enwog ymhob hanes am eu hiawnder a'u geirwiredd) i fod yn gelwyddog, yn anffyddlon, yn fradwrus ac yn annuwiol. Fe orchmynnodd Duw i ni gadw cyfamod hyd yn oed â gelynion, a thithau a feiddi wneuthur y gorchymyn yn ddirym. . .
Y CAM A'R BOHEMIAID.
YN BEDWERYDD AR HUGAIN, y mae'n llawn bryd i ni bellach, o ddifrif ac mewn gwirionedd, godi at y gwaith o setlo'r cweryl sydd rhyngom ni a'r Bohemiaid a chael undeb rhyngom. Y mae'n llawn bryd gosod terfyn ar y camgyhuddiadau a'r casineb a'r eiddigedd o bob ochr. Yn ôl fy ffolineb arferol, parod wyf i fod y cyntaf i ddywedyd fy marn ar y pwnc hwn hefyd gyda phob dyledus barch i bobl gallach.
Yn Gyntaf, y mae'n bryd i ni gyffesu'r gwir yn onest heb geisio'n cyfiawnhau'n hunain. Gwir a ddywed y Bohemiaid. Fe losgwyd John Hus a Sierom o Brag gan Gyngor Constans er bod y Pab a'r Ymerawdwr wedi tyngu llw pendant y câi fynd a dyfod o'r Cyngor yn ddiogel. Torri gorchymyn Duw oedd hynny, ac nid rhyfedd cythruddo o'r Bohemiaid yn fawr. Hyd yn oed pe haeddent eu trin mor anghyfiawn ar ein llaw, ni ellid disgwyl iddynt gymeradwyo'r weithred a'i chydnabod fel un gyfiawn. Na, gwell fyddai iddynt, hyd yn oed heddiw, fod yn barod i aberthu eu bywydau yn hytrach na chydnabod bod hawl gan neb i dorri cytundeb pendant yr eglwys a'r ymerodraeth i ddiogelu dyn ar ei daith. Am hynny, er y gellid beio'r Bohemiaid am eu diffyg amynedd, ar y Pab a'i ganlynwyr y mae'r cyfrifoldeb pennaf am yr holl drueni, y trybini a'r distryw i eneidiau a gododd o waith Cyngor Constans.
Nid fy mwriad i yma yw bwrw barn ar gredo John Hus nac ychwaith amddiffyn ei gyfeiliornadau. Er hynny, rhaid yw i mi gyffesu na wêl fy neall yr un cyfeiliornad ynddo; a chredaf yn hawdd nad oedd yn bosibl i bobl a fedrai dorri gorchymyn Duw a'u cytundeb pendant i'w ddiogelu, farnu'n deg, na chondemnio'n gyfiawn. Ni all neb ddychmygu y gwna'r Ysbryd Glân ddim yn erbyn gorchymyn Duw; ac nid oes neb mor anwybodus ag na ŵyr fod torri cytundeb o'r fath yn erbyn gorchymyn Duw, hyd yn oed pe bai wedi ei wneuthur â'r diafol ei hun, heb sôn am heretic. Gŵyr pawb i John Hus dderbyn adduned yr ymerodraeth i'w ddiogelu ar ei daith yn ôl a blaen i'r Cyngor. Gŵyr pawb hefyd na chadwyd mo'r cytundeb a darfod llosgi Hus. Nid wyf am wneuthur John Hus yn sant nac yn ferthyr fel y gwna rhai o'r Bohemiaid. Ar yr un pryd cyfaddefaf yn rhwydd iddo dderbyn triniaeth anghyfiawn, ac mai peth annheg oedd condemnio'i lyfr a'i athrawiaeth. Canys anchwiliadwy ac ofnadwy yw barnedigaethau Duw, ac ni all neb ond Ef ei hun eu datguddio a'u hesbonio.
Hyn yn unig a ddywedaf: A chaniatau ei fod yn heretic, pa mor ddrwg bynnag yr oedd, fe'i llosgwyd ar gam ac yn groes i orchmynion Duw. Nid oes synnwyr mewn gorfodi'r Bohemiaid i gymeradwyo'r weithred, os ŷm am undeb byth â hwy. Nid opiniynau ystyfnig ond y gwir yn unig a all ein huno. Nid etyb un diben ddywedyd, fel y dywedwyd ar y pryd, nad oedd angen cadw'r adduned am ei fod yn heretic. Y mae hynny'n gyfystyr â dywedyd y gall dyn gadw gorchmynion Duw trwy eu torri. Diau fod y diafol wedi troi'r bobl a wnaeth y drwg yn wallgof a dall. Ni wyddent beth a ddywedent nac a wnaent. Gorchymyn Duw oedd i ni gadw'r adduned ar ôl ei rhoi. Hyn a ddylem ei wneuthur pe syrthai'r nefoedd: mwy o lawer pan nad oedd ond mater o ollwng heretic yn rhydd.
Y ffordd iawn i orchfygu hereticaid yw trwy lyfrau ac nid trwy dân. Felly y gwnâi hen dadau'r eglwys. Pe bai'n golygu unrhyw fedrusrwydd i orchfygu hereticiaid trwy dân, yna'r dienyddwyr a fyddai'r doctoriaid dysgedicaf ar y ddaear. Ni fyddai angen am fyfyrio ond gallai'r cryfaf losgi'r neb a wrthwynebai ei opiniynau.
Yn Ail, fe ddylai'r ymerawdwr a'r pendefigion ddanfon i Fohemia ychydig o esgobion a dysgedigion duwiol a deallus. Ond er mwyn popeth na ddanfoner na chardinaliaid na chenhadon y Pab na chwilotwyr heresïau. Y mae'r bobl hynny'n rhy anwybodus o bethau crefyddol. Nid oes ganddynt ofal am les eneidiau. Fel pawb o'r rhagrithwyr Pabaidd, nid oes arnynt ofal am ddim ond am eu lles a'u gogoniant a'u hawdurdod eu hunain. Onid hwy oedd achos pennaf y drygioni a wnaethpwyd gan Gyngor Constans.
Na, danfoner dynion a fydd yn barod i chwilio'n onest am wybodaeth sicr o ddaliadau crefyddol y Bohemiaid ac am ffordd i ddyfod â'u gwahanol enwadau i undeb â'i gilydd.
Fe ddylai'r Pab hefyd roi heibio ei lywodraeth drostynt am ysbaid er lles eu heneidiau, ac yn ôl ordeiniadau Cyngor Nicea, ganiatau iddynt ethol Archesgob Prag o'u plith eu hunain. Oni chaniata'r Pab ganiatau hyn, wel, gwnaed y Bohemiaid hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain, gan ofyn i un neu ddau o esgobion Morafia neu Hwngari neu Boland neu'r Almaen gadarnhau eu dewisiad ar waethaf y Pab. . . Nid oes angen chwaith am eu gorfodi i roi heibio eu syniadau am y Sacrament. Nid yw eu harfer o roi'r bara a'r gwin i bawb yn anghristnogol nac yn heresi. A hefyd, onid ydynt am dderbyn cyfraith eglwysig Rhufain, ni ddylai neb eu gorfodi i wneuthur hynny. Nid oes angen am ddim ond gofalu eu bod yn byw yn ôl ffydd Gristnogol ac yn ôl yr Ysgrythyrau Santaidd. Gall hynny fod heb ddeddfau anoddefadwy y Pab... Gwnaethpwyd ni'n rhydd gan ein bedydd ac yn ddarostyngedig yn unig i air Duw. Paham y mae'n rhaid i ni oddef i unrhyw ddyn ein caethiwo i'w eiriau ef. Fel y dywed Sant Pawl: "Sefwch gan hynny yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed." (Gal. v. 1). . .
Dylid goddef yn amyneddgar ddadleuon a chyfeiliornadau'r Bohemiaid hyd nes y caniateir iddynt ddewis eu Harchesgob eu hunain ac iddo lwyddo i ddyfod â'r holl bobl i undeb. Nid oes obaith am undeb trwy rym na thrwy drais. Rhaid yw bod yn amyneddgar ac yn dirion. Oni fu rhaid i Grist fyw gyda'i ddisgyblion a goddef eu hanghrediniaeth hyd nes iddynt gredu yn ei atgyfodiad. Pe caffai'r Bohemiaid esgob iddynt eu hunain a llywodraeth dda heb ormes Rhufain, tybiaf y gwellâi pethau'n gyflym.
Ni ddylid poeni llawer ynglŷn â'r meddiannau eglwysig sydd yn nwylo'r Bohemiaid. Gan ein bod yn Gristnogion a ddylai helpu'i gilydd, y mae gennym hawl i drosglwyddo'r eiddo iddynt er mwyn heddwch. . . Gwyn fyd na helpem ein gilydd o bob ochr i ddwyn undeb rhyngom gan roi deheulaw cymdeithas i'n gilydd mewn cariad brawdol heb geisio mynnu'n hawliau. Y mae cariad yn fwy, ac yn fwy angenrheidiol na Phabaeth Rufain sydd heb gariad. Gall cariad fodoli heb y Babaeth.
Gwneuthum fy ngorau i gyrraedd yr amcan hwn. Os yw'r Pab a'i ganlynwyr yn rhwystr i'r gwaith da hwn, rhaid yw iddynt gymryd y cyfrifoldeb am geisio'u dibenion hunanol yn fwy na lles eu cymdogion. Dylai'r Pab roi heibio'i Babaeth a'i holl eiddo a'i ogoniant er mwyn achub un enaid. Ond heddiw gwell yw ganddo weld yr holl fyd yn mynd i ddistryw na cholli mymryn o'r awdurdod a ladrataodd. Pa beth bynnag a ddigwydd, rhaid yw iddo ef gael bod "y Tad Santeiddiaf.
Wel, dyma fi â chydwybod rydd ar y mater hwn hefyd.
DIWYGIO ADDYSG.
YN BUMED AR HUGAIN, y mae angen am ddiwygio'r Prifysgolion hefyd yn drwyadl. Rhaid yw i mi ddywedyd hyn, digied a fynno. Y ffaith yw nad oes yr un diben i ddim a sefydlwyd gan y Babaeth ond lluosogi pechodau a chyfeiliornadau. Beth yw'r Prifysgolion fel y maent, ond ysgolion campau athletig ac arferion paganaidd fel y dywed llyfr y Macabeaid (2 Mac. iv. 12, 13)—lleoedd yn llawn bywyd afradlon. Ni ddysgir nemor ddim am yr Ysgrythur Santaidd na'r Ffydd Gristnogol ynddynt. Y mae mwy o lywodraeth arnynt gan Aristotl, yr athro dall paganaidd hwnnw, na chan Grist. Fy nghyngor i yw alltudio llyfrau Aristotl, y Physica a'r Metaphysica, yr Ethica a'i lyfr ar yr Enaid, a phob llyfr arall a broffesa drin ystyr a nodweddion y byd. Troer hwy allan o'r ysgolion. Nid oes dim i'w ddysgu ganddynt am y byd materol nac am y byd ysbrydol chwaith. Yn wir, nid oes neb yn deall beth y mae'r dyn yn ei feddwl. Gwastraffwyd llawer o amser a phoenwyd llawer enaid nobl gan lafur a chost diddefnydd. Mentraf ddywedyd bod gan unrhyw grochenydd fwy o wybodaeth am nodweddion Natur nag sydd yn yr holl lyfrau hyn. Drwg gan fy nghalon yw gweled y pagan balch, cnafaidd, melltigedig hwn yn gwneuthur ffyliaid o gynifer o'r Cristnogion gorau ac yn eu twyllo â'i eiriau celwyddog. Rhaid mai Duw a'i danfonodd fel pla am ein pechodau. Onid yw'r truan yn ei lyfr gorau Ar yr "Enaid" yn dysgu bod yr enaid yn marw gyda'r corff? Gwir fod llawer wedi ceisio achub ei ben â geiriau gwag, ond nid i ddim diben. Onid yw'r Ysgrythyrau'n cynnwys cyflawnder o wybodaeth am bethau nad oes gan Aristotl yr un dychymyg am danynt. Er hynny, y pagan marw sy'n ben; a bron nad yw wedi llethu llyfrau'r Duw byw. Pan welaf drybini o'r fath, ni allaf lai na chredu mai trwy'r gŵr drwg ei hun y daeth y ddysg hon i fod. Dyna'i lyfr ar Foeseg hefyd, a gyfrifir yn un o'r gorau—nid oes un mor groes i ewyllys Duw a'r rhinweddau Cristnogol. Er mwyn popeth, cadwer llyfrau o'r fath allan o gyrraedd pawb o'r Cristnogion!
Ni all neb haeru fy mod yn dywedyd gormod ac yn gwrthod peth nad wyf yn gwybod dim am dano. Gyfaill annwyl, gwn yn iawn am beth y soniaf. Llawn mor gyfarwydd wyf ag Aristotl ag wyt ti a'th fath. Darllenais ef hefyd a gwrandewais ddarlithiau arno—a hynny gyda mwy o ddeall na Thomas Aquinas na Scotus. Gallaf ddywedyd hyn heb falchter a'i brofi pan fo angen. Gwn i lawer meddyliwr mawr gysegru ei fyfyrdod iddo trwy'r canrifoedd. Ond nid yw'r ffaith honno mor bwysig yn fy ngolwg heddiw â chynt, canys y mae mor eglur â'r dydd fod llawer o gyfeiliornadau eraill hefyd yn aros yn y byd ac yn y Prifysgolion ers cannoedd lawer o flynyddoedd.
Cytunwn yn rhwydd i gadw llyfrau Aristotl ar Resymeg, Rhetoreg a Barddas. O leiaf, peth da fyddai gwneuthur crynodeb ohonynt a'u hastudio er mwyn i bobl ieuainc ymarfer ag areithio a phregethu. Ond fe ddylid dileu'r nodiadau a'r esboniadau diderfyn a ysgrifennwyd arnynt. Fel y darllener Rhetoreg Cicero heb nodyn na sylwadau arno, dylid hefyd ddarllen Rhesymeg Aristotl heb yr esboniadau hirfaith sydd arno. Heddiw ni ddysg neb nac areithio na phregethu trwyddo, ac ni ddaw dim o hono ond dadleuon diles a llafur blin. I bobl ddeallgar gwell gennyf i gymeradwyo'r ieithoedd,—Lladin a Groeg a Hebraeg—Mathematig a Hanes, ynghyda meysydd llafur eraill a gaent fwy o sylw pe ceid diwygiad iawn yn y Prifysgolion.
Y mae hwn yn wir yn fater pwysig, oblegid yn y Prifysgolion y dylid addysgu a hyfforddi ieuenctid ein cenedl a erys hyd eto'n Gristnogol. Am hynny, credaf nad oes gwell gwaith yn aros y Pab a'r Ymerawdwr na diwygio'r Prifysgolion yn iawn. Nid oes dim mwy peryglus a dieflig na Phrifysgolion heb eu diwygio.
Gadawaf i'r meddygon ddiwygio'u cangen eu hunain, ond beiddiaf roi fy sylw i'r cyfreithwyr a'r diwinyddion. Am danynt hwy, dyma'r peth cyntaf a ddywedaf: peth da fyddai dileu'r ddeddf eglwysig a'i chanonau o'i llythyren gyntaf hyd yr olaf, yn enwedig ddyfarniadau'r Pab. Cawn ddigon o gyfarwyddyd yn y Beibl pa fodd i weithredu ymhob peth, ac nid yw astudio'r canonau ond rhwystr ar ffordd yr Ysgrythyrau. Gwaith yw hefyd sy'n llawn o falchter ac o drachwant. A hyd yn oed pe bai gwerth yn y canonau eu hunain, gwneir y gwaith o'u hastudio'n ddiwerth gan fod y Pab yn cadw'r hawl o newid y canonau fel y myn a phryd y myn. Nid yn y llyfrau y ceir y canonau ar hyn o bryd ond ym mympwy'r Pab a'i gynffonwyr. Ac fe benderfynir dyfarniadau'r Pab yn fynych gan ryw gnaf neu'r diafol ei hun, er cymaint a ddywedir mai dan ddylanwad yr Ysbryd Glân y mae. Dyma ffordd i drafod pobl Crist, onidê—eu gosod yn gaeth i gyfreithiau fil heb gadw'r un ei hunan; gorfodi eraill i'w cadw; neu brynu rhyddid i bechu ag aur.
Gan nad yw'r Pab a'i ganlynwyr yn cadw'r canonau ar ôl eu gwneuthur, pa les yw i ni eu hastudio?
Dywedir nad oes llywodraeth wladol well yn unman na chan y Tyrciaid, er nad oes ganddynt na deddf eglwysig na gwladol ond eu Corân yn unig. O'r ochr arall, rhaid yw i ni gyfaddef nad oes llywodraeth waeth yn unman na chennym ni yn herwydd ein deddfau eglwysig a gwladol. Nid yw un dosbarth yn ein plith yn byw yn ôl rheswm naturiol heb sôn am yr Ysgrythyrau.
Ac am y ddeddf wladol, Duw a'n helpo, y fath anialwch yw! Ar yr un pryd, y mae'n llawer gwell, yn fwy rhesymol ac yn fwy gonest na'r ddeddf eglwysig. Dim ond enw da sydd gan honno. Y mae deddfau'r wladwriaeth hefyd yn rhy luosog. Mewn gwirionedd fe ddylai fod llywodraethwyr da ynghyd â'r Ysgrythyrau yn ddigon o ddeddf ynddynt eu hunain, fel y dywed Sant Pawl (1 Cor. vi. 5):
Onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr." Credaf hefyd fod cyfraith ac arfer gwlad i'w dewis o flaen deddf yr Ymerodraeth. Fel y mae gan bob gwlad ei natur a'i chymeriad priod ei hun, gwyn fyd na ellid hefyd ei llywodraethu gan ei chyfreithiau syml ei hun. Dyna fel yr oedd cyn darganfod yr Ymerodraeth a'i deddf, a dyna fel y llywodraethir llawer gwlad hyd heddiw. Nid yw cyfreithiau manwl ac anodd eu deall ond baich trwm ar gefn y werin. Y maent yn fwy o rwystr nag o help i fasnach. Ond gobeithiaf y meddylir am y mater hwn gan eraill mwy hyddysg a medrus na mi yn y gwaith.
Ynglŷn â'n diwinyddion parchus, y maent hwy wedi arbed llawer iawn o drafferth a llafur iddynt eu hunain trwy adael llonydd i'r Beibl a darllen Sententiae (Dyfarniadau) Petrus Lombardus yn unig. Y peth naturiol yn ôl fy marn i fyddai i'r diwinyddion ieuainc ddechrau gyda'r Dyfarniadau ac i'r Doctoriaid astudio'r Beibl. Yn hollol groes i hynny y gwneir. Rhoddir y Beibl i'r myfyrwyr ieuainc cyn graddio, ond erys y graddedigion gyda'r Dyfarniadau byth ac yn dragywydd. Hynny yw, fe all y neb a fynno ddarlithio ar y Beibl, ond rhaid yw i offeiriad roi ei feddwl i'r "Dyfarniadau" a byw arnynt. . .
Pa obaith sydd am i ni lwyddo a ninnau'n rhoi lle mor annheilwng i'r Beibl, gair santaidd Duw?
Mwy na hynny, fe ofala'r Pab rybuddio pawb yn chwyrn i ddarllen ei ddeddfau ef a'u defnyddio mewn ysgol a llys—ond nid oes gair o sôn am ddeddfau'r Efengyl. Y canlyniad yw y gadewir yr Efengyl yn yr ysgolion i orwedd yn y llwch o dan y meinciau, er mwyn rhoi'r lle a'r anrhydedd i ddeddfau drygionus y Pab. Ond yn awr gan ein bod ni'r diwinyddion yn dwyn yr enw a'r teit o "Athrawon yr Ysgrythyrau Santaidd," fe ddylid ein gorfodi i ddysgu'r Ysgrythur heb ddim arall. Fel y mae, fe geir mwy o opiniynau dynol a phaganaidd gan y diwinyddion nag o wir wybodaeth o'r Beibl.
Pa beth gan hynny a wnawn? Ni wn i ddim, os nad gweddio ar Dduw iddo Ef roi dysgawdwr diwinyddol i ni. Gwneled y Pab a'r Ymerawdwr a'r Prifysgolion ddoctoriaid y Celfyddydau, Meddygaeth a Chyfraith. Sicr yw na all neb wneuthur doctor yr Ysgrythyrau ond yr Ysbryd Glân yn unig, fel y dywed Crist (Ioan vi. 45): "Rhaid yw eu dysgu oll gan Dduw ei hun." Yn awr, nid yw'r Ysbryd Glân yn holi am gapiau coch neu lwyd nac am unrhyw fombast o'r fath. Yr un iddo ef yw hen ac ieuanc, llên a llyg, mynach ac offeiriad, gweddw a phriod. Yn wir, gwnaeth i asyn unwaith lefaru yn erbyn y proffwyd a'i marchogai.
Duw a'n cynorthwyo i fod yn deilwng iddo roi diwinyddion o'r fath inni, boed hwy glerig neu lyg, priod neu ddibriod.
Y maent ar eu heithaf heddiw'n ceisio gorfodi'r Ysbryd Glân i drigo yn y Pab a'r Esgobion a'r Doctoriaid, ond nid oes unrhyw arwydd iddynt lwyddo.
Fe ddylid hefyd leihau nifer y llyfrau diwinyddol a dewis y gorau yn unig ohonynt. Nid llyfrau lawer a wna ddyn dysgedig, na llawer o ddarllen chwaith, ond darllen da a mynych o ychydig lyfrau a wna ddyn hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Ni ddylid treulio llawer o amser chwaith gyda hen Dadau'r Eglwys yn unig er mwyn agor y ffordd i'r Beibl. Fel y mae pethau yn awr, nid ŷm yn darllen dim arall ond yn aros gyda'r Tadau o hyd heb ddod fyth i olwg yr Ysgrythur. Y mae fel pe bai dyn yn sefyll i syllu ar y mynegfys o hyd heb geisio cerdded y ffordd y cyfeiria ati. Dymuniad y Tadau parchus oedd ein harwain i mewn i'r Beibl trwy eu hysgrifeniadau, ond defnyddiwn ni hwy i'n harwain ein hunain allan o hono, er mai'r Ysgrythyrau yw ein gwinllan ni lle y dylem bawb lafurio a'n disgyblu ein hunain.
Mwy na dim, y Beibl a ddylai fod testun gwersi pennaf a mynychaf yr holl ysgolion—uwch ac is—ac yn enwedig yr Efengyl i'r meibion ifainc. Gwyn fyd na fai gan bob tref ysgol i ferched, lle dysgid yr Efengyl i'r genethod bob dydd mewn Lladin neu Ellmyneg. Mewn gwirionedd, i'r diben hwn y sefydlwyd mynachtai a lleiandai ar y cyntaf fel y darllenwn am Santes Agnes ac eraill o'r Saint. Y pryd hwnnw yr oedd morynion duwiol a merthyron, ac yr oedd Cristnogaeth yn llwyddo. Erbyn hyn, trowyd popeth yn weddïo a chanu. Oni ddylid gofalu bod pob plentyn Cristnogol erbyn iddo gyrraedd naw neu ddeng mlwydd oed yn gwybod yr Efengylau. Fe ddysg pob nyddwraig a gwniadyddes ei chrefft i'w merch ym mlynyddoedd ieuenctid, ond y mae Preladiaid pwysig ac Esgobion na wyddant ddim am yr Efengyl. Mor annheilwng yw ein triniaeth ni o'r plant a ymddiriedwyd i'n gofal i'w disgyblu a'u hyfforddi. Gymaint fydd ein cyfrifoldeb am esgeuluso rhoi gair Duw iddynt. . . Ond hyd yn oed pe dysgid y Beibl yn ddyfal yn yr ysgolion uwchraddol, ni ddylem ddanfon pawb iddynt fel y gwneir yn awr. Ni feddylir am ddim ond am nifer y disgyblion—a phawb yn awyddu am dystysgrifau a theitlau. Ni ddylid danfon i'r ysgolion uchradd ond y disgyblion gorau wedi eu paratoi'n dda yn yr ysgolion is. Dylai cyngor y dref ofalu na ddanfonid neb yno na chyrhaeddodd safon benodedig. Ond ni chynghorwn neb i ddanfon ei blentyn i unrhyw ysgol lle ni ddysgir y Beibl yn iawn. I ddistryw yr â pob cyfundrefn nad yw'n dilyn gair Duw'n ffyddlon. Am hynny, gofalwn pa fath ddynion a fydd yn yr ysgolion uchradd. Gwaith arbennig y Pab, yr Esgobion a'r Preladiaid yw hyn, canys iddynt hwy'n gyntaf yr ymddiriedwyd lles yr ieuanc. Hyfforddi dynion uchradd yw gwaith ysgolion uchradd, dynion yn deall gair Duw. O'u plith y dylai'n hesgobion a'n gweinidogion ddyfod—ein harweinwyr yn erbyn hereticiaid a'r diafol a'r holl fyd pechadurus. Ond, ysywaeth, ymha le y cawn ni hyn? Ofnaf yn fawr na fydd ein hysgolion uchradd ond pyrth mawr uffern oni roddant fwy o sylw i air Duw, a'i ddysgu i bobl ieuainc.
GWERTH YR YMERODRAETH.
YN CHWECHED AR HUGAIN, gwn yn eithaf da y gwna'r haid o Rufain haeru a chyhoeddi'n groch i'r Pab fod mor garedig â chymryd Ymerodraeth Lân Rufain oddiar yr Ymerodron Groegaidd a'i rhoddi i'r Ellmyn. Am hynny, tybiant ei fod yn haeddu diolch ac ewyllys da'r Ellmyn ac y gall hawlio iddynt ymostwng yn isel ger ei fron a thalu pob math o deyrnged iddo. Dyna pam hefyd y gwrthwynebant bob ymdrech i'w diwygio a'u bwrw i'r gwynt. Nid oes dim yn haeddu sylw yn ôl eu syniad hwy ond y ffaith dybiedig mai ganddynt hwy yr oedd hawl i gymryd a rhoi'r Ymerodraeth i bwy bynnag a fynnent. Dyna paham hefyd y medrent yn ôl eu mympwy erlid a gormesu cynifer o Ymerodron da. Trwy'r un dichellion fe'u gwnaethant eu hunain yn arglwyddi ar bob llywodraeth a gallu gwladol.
Oherwydd hyn oll, rhaid yw i mi ddywedyd rhywbeth ar y mater hwn hefyd. Y mae'n ddigon eglur fod y wir ymerodraeth Rufeinig wedi ei dinistrio ers llawer dydd, fel y rhagddywedodd Balaam (Num. xxiv. 24). "Fe ddaw'r Rhufeiniaid a dinistriant yr Iddewon: yna fe'u dinistrir hwy eu hunain hefyd."
Gwnaethpwyd hynny gan y Gothiaid, ac yn enwedig ar ôl sefydlu ymerodraeth y Tyrciaid tua mil o flynyddoedd yn ôl. Yn raddol, fe gollwyd Asia ac Affrica. Ar ôl hyn, fe gododd Ffrainc a'r Ysbaen, ac yn olaf Fenis. Erbyn hyn ni erys dim o'r hen allu yn nwylo Rhufain.
Methodd gan y Pab blygu'r Groegiaid a'r Ymerawdwr yng Nghaer Gystennin i'w ewyllys, a dyfeisiodd ffordd i ddwyn yr Ymerodraeth a'r teitl oddiarnynt a'u rhoi i'r Ellmyn, gan eu bod hwy y pryd hwnnw yn genedl gref ac enw mawr iddynt. Yr oedd yr Ellmyn, wrth gwrs, i gydnabod awdurdod y Pab ac i dderbyn yr Ymerodraeth fel pe o'i law. Felly y digwyddodd. Dygwyd yr Ymerodraeth oddiar Ymerawdwr Caer Gystennin a rhoddwyd ei henw a'i theitl i ni'r Ellmyn,— er mwyn ein gwneuthur yn gaethweision i'r Pab. Fel y dywedwyd, fe ddaeth yr hen Ymerodraeth i ben ers llawer dydd a chododd Ymerodraeth newydd o dan bawen y Pab.
Felly y cyflawnodd y Pab ei ewyllys. Cymerodd feddiant ar Rufain a gorfodwyd i Ymerawdwr yr Almaen dyngu llw na wnâi ei gartref hyd byth yn Rhufain. Yr oedd am byth i ddibynnu ar y Pab a'i ganlynwyr a llywodraethu yn ôl eu hewyllys. Hynny yw, fe gawn ni'r enw gwag ond eiddynt hwy'r wlad a'r dinasoedd! Ni fu'n diniweidrwydd ni ond offeryn eu balchter a'u gormes hwy. "Ellmyn twp" y galwant ni. Twyllant ni a gwnânt ffyliaid o honom fel y mynnant.
Wel, hei am dani ynteu, peth bach i'r Arglwydd Dduw yw lluchio ymerodraethau a thywysogaethau'n ôl a blaen! Y mae mor hael arnynt fel y cymer deyrnas weithiau oddiar ddyn da ac fe'i rhydd i hurtyn hanner-call naill ai trwy frad dynion drwg, anonest, neu trwy etifeddiaeth reolaidd—fel y darllenwn am deyrnas Persia, Groeg, a bron pob teyrnas arall. Fe ddywed Daniel (ii. 21; iv. 14): Yr hwn a lywodraetha bob peth a drig yn y nefoedd, ac Ef yn unig a symud freniniaethau ac a'u teifl yma ac acw.
Am hynny ni all neb feddwl ei fod yn beth mawr iddo dderbyn teyrnas, yn enwedig os yw'n Gristion. Ac ni ddylem ninnau'r Ellmyn ymfalchio yn y ffaith fod Ymerodraeth Rufeinig newydd wedi syrthio i'n rhan. Canys yng ngolwg Duw nid yw ond rhodd wael a rydd Ef yn fynych i'r mwyaf annheilwng, fel y dywed Daniel (iv. 32, 35): "A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim. Ei lywodraeth Ef sydd ar holl freniniaethau dynion, ac fe'u rhydd i'r neb y mynno. Sicr yw mai defnyddio drygioni'r Pab a wnaeth Duw i roi'r ymerodraeth hon i'n cenedl ni. Nid ni sy'n gyfrifol am weithred y Pab ac nid oeddym yn deall ei ddibenion drwg a'i gynlluniau celwyddog. Er hynny, trwy ddichell a malais y Pab, talasom, ysywaeth, ormod lawer o bris am ymerodraeth o'r fath. Tywalltwyd ein gwaed yn llif; amddifadwyd ni o'n rhyddid; ysbeiliwyd ni o'n meddiannau; bradychwyd a chywilyddiwyd ni mewn ffyrdd sydd tu hwnt i ddychymyg. Mewn enw, nyni biau'r Ymerodraeth, ond eiddo'r Pab yw ein cyfoeth, ein parch, ein cyrff, ein heinioes, ein heneidiau a phopeth a berthyn inni. Dyna'r ffordd i'ch twyllo chwi'r Ellmyn a'ch twyllo trwy'ch dallu. Yr oedd y Pab am fod yn Ymerawdwr, a chan na fedrai fod yn Ymerawdwr ei hun, dyfeisiodd y ffordd hon o esgyn i orsedd uwch na'r holl Ymerodron.
A ninnau ynteu wedi derbyn yr Ymerodraeth fel hyn—trwy Ragluniaeth Duw, a dichellion dynion drwg, heb fai o'n hochr ni—fy nghyngor i yw, nid ei throi o'r neilltu ond ei llywodraethu'n onest dan ofn Duw cyhyd ag y rhyngo'i fodd i ni ei chadw. Fel y dywedasom eisoes, nid yw o gymaint pwys iddo Ef pa fodd y cawsom hi â pha fodd y llywodraethwn hi. . .
Duw a'n helpo i weithredu'n unol â'n henw a'n teitl ac i ennill ein rhyddid fel y gwelo'r Rhufeiniaid nad yn ofer y rhoddodd Duw'r Ymerodraeth i ni. Os yw'r Pab am ymffrostio iddo roddi ymerodraeth i ni, wel, rhodded Rufain heibio ynteu a holl eiddo'r ymerodraeth a ladrataodd. Symuded ei daloedd a'i drethi anoddefadwy oddiar ein gwlad. Rhodded ein rhyddid a'n hawdurdod a'n heiddo a'n henw da a'n cyrff a'n heneidiau'n ôl i ni. Trosglwydded i'r Ymerodraeth hawliau'r Ymerodraeth yn ôl ei air bostfawr ef ei hun.
Onid yw'n barod i wneuthur hyn oll, paham y ceisia'n gwawdio â'i eiriau celwyddog a'i gynllwynion gwag? Onid oedd yn ddigon iddo lusgo cenedl mor anrhydeddus ar ei ôl gerfydd ei thrwyn am gynifer o ganrifoedd heb aros na gorffwys?
Am fod y Pab yn ei goroni, nid yw'n dilyn fod y Pab yn uwch na'r Ymerawdwr. . . Oni choronir ef ei hun Bab gan dri Chardinal, ac eto y maent yn ddarostyngedig iddo ac nid yn ben arno. Paham ynteu y dyrchaif ef ei hun yn uwch na'r awdurdodau gwladol a'r Ymerodraeth yn unig am ei fod yn coroni ac yn cysegru'r Ymerawdwr.
Digon yw iddo fod yn uwch na'r Ymerawdwr mewn materion ysbrydol sef pregethu ac addysgu a gweini'r sacramentau. Yn y pethau hyn y mae pob offeiriad neu esgob yn uwch na phawb hefyd fel yr oedd Sant Emrys yn ei gadair esgobol yn uwch na'r Ymerawdwr Theodosius, y proffwyd Nathan yn uwch na Dafydd a Samuel yn uwch na Saul, Mynned Ymerawdwr yr Almaen fod yn Ymerawdwr rhydd ac mewn gwirionedd. Na rodded ei awdurdod na'i gleddyf ffordd i honiadau dall cynffonwyr y Pab fel pe baent yn rhyw fodau eithriadol uwchlaw ei awdurdod a'i gleddyf.
DIWYGIO BYWYD CYMDEITHAS.
YN SEITHFED AR HUGAIN, dyna ddigon am ffaeleddau'r gwŷr eglwysig. Fe ellir dywedyd ac fe ddywedir llawer mwy pan ystyrrir y mater yn iawn. Rhaid yw i ni hefyd roi peth o'n sylw i'r byd yn ogystal â'r eglwys.
Yn gyntaf, y mae angen mawr am ddeddf gyffredinol ynghyda chydweithrediad yr holl genedl yn erbyn gwastraff ac afradlondeb mewn gwisgo. Tlodir llawer o'r gwŷr mawr a'r cyfoethog gan wario afradlon ar ddillad. Oni roddodd Duw i ni fel i genhedloedd eraill ddigon o wlân, o flew, o lin a phopeth arall sydd eisiau ar gyfer dilladu pob dosbarth yn weddus ac yn anrhydeddus? Pa angen sydd am wastraffu cyfoeth mor anferthol o fawr ar sidan a melfed, lliain aur a'r defnyddiau eraill a geir o wledydd tramor. Credaf hyd yn oed pe bai'r Pab yn rhoi llonydd i ni'r Ellmyn, y lladretid mwy na gormod oddiwrthym gan y lladron cudd hyn—y marsiandwyr sidan a melfed. Fel y mae, gwelwn fod ymhob un ysfa am fod cystal â neb arall. Arwain hynny ni i falchter ac eiddigedd. a hynny drachefn i lu o bethau gwael eraill. A gwraidd y drwg yw na oddefir i ni gan ein hunanoldeb fodloni ar yr hyn a rydd Duw i ni a'i fwynhau'n ddiolchgar.
Y mae llawn cymaint o angen am leihau'r defnydd a wnawn o berlysiau (spices). Dyma un o'r llongau mawr sy'n cludo'n cyfoeth o'r Almaen. Trwy ras Duw y mae'n gwlad ni'n darpar mwy o fwyd a diod. a hwnnw'n dda a gwerthfawr, na'r unrhyw wlad arall. Tebyg y dywedir fy mod yn awgrymu pethau dwl ac amhosibl, ac am ddinistrio masnach a masnachwyr y wlad. Ond ni welaf i fod llawer o les nac o arferion da wedi dod i'r wlad trwy'r fasnach fawr hon. Dyna pam y gosododd Duw bobl Israel gynt i fyw ymhell o'r môr, i'w cadw rhag gwneuthur gormod o fasnach.
Ond yn ddiau, aflwydd pennaf yr Ellmyn yw usuriaeth a'r benthyca ar log a phrynu ar goel. Oni bai am hwn, rhaid fyddai i lawer un adael ei sidanau a'i samit a'i liain aur a'i berlysiau a'i foethau eraill heb eu prynu. Nid oes llawer mwy na chan mlynedd er pan gododd yr arfer ddrwg, ond y mae eisoes wedi dwyn bron pob pendefig a thywysog, sefydliad, tref ac etifedd i dlodi a thrueni a distryw. Os caiff barhau am ganrif eto, ni fydd gan yr Almaen ffyrling goch ac fe ddechreuwn fwyta'n gilydd. Dyfais Satan yw'r holl gyfundrefn, ac fe wnaeth y Pab niwed mawr i'r holl fyd trwy ei chaniatau a'i chefnogi.
Am hynny, dyma fy nghri: gwylied pob un rhag ei ddistryw ei hun a'i blant a'i etifeddiaeth. Nid wrth y drws y mae; y mae eisoes yn y tŷ. Gofaled yr Ymerawdwr a'r tywysogion a'r arglwyddi a'r dinasoedd am gondemnio a gwahardd yr holl fusnes o fenthyca ar log—heb ofyn a yw'r Pab a'i ddeddf yn erbyn ai peidio, ac heb ofyn a yw'r sefydliadau neu'r bywioliaethau eglwysig yn dibynnu arni. Gwell i dref yw un gwaddol yn dibynnu ar rydd-ddaliad o dir na chant yn dibynnu ar usuriaeth. Yn wir, y mae un gwaddol sy'n dibynnu ar usuriaeth yn fwy peryglus a thrafferthus nag ugain yn dibynnu ar dir rhydd. Yn bendifaddeu, nid yw holl gyfundrefn usuriaeth ond arwydd a rhybudd fod y byd wedi ei werthu i'r diafol am ei bechodau mawr, a'n bod ninnau'n colli'n holl freintiau tymhorol ac ysbrydol yn gyflym. Ond nid yw neb yn hidio dim.
Dylem hefyd yn ddiddadl chwilio am ryw ffrwyn effeithiol i'w gosod ar war y Brodyr Fwgger a chwmnïau tebyg. Pa fodd y gall dyn yn ystod ei fywyd gasglu cyfoeth mor fawr pe gwnelid popeth yn iawn ac yn ôl ewyllys Duw? Ni wn i yn y byd beth yw rheolau rhifyddiaeth y bobl hyn. Sicr yw nad wyf yn deall pa fodd y gall can punt ennill ugain arall atynt yn ystod blwyddyn, ie'n wir, un bunt, bunt arall yn fynych; a'r cwbl yn dyfod nid o drin y tir na chodi anifeiliaid. Arferem gredu bod pethau o'r fath yn dibynnu nid ar driciau dynion ond ar fendith Duw. Cymeradwyaf y pwnc dyrys hwn i sylw'r rhai sy'n deall ffordd y byd. Fel diwinydd, nid wyf i'n gweled dim ynddo ond yr ymddangosiad o ddrwg y sonia Sant Pawl am dano (1 Thes. v. 22): "Ymgedwch rhag pob rhith drygioni." Gwn hyn yn eithaf da―mai llawer mwy cydwedd ag ewyllys Duw fyddai cefnogi amaethyddiaeth a lleihau ein cefnogaeth o fasnach. Gwn mai gwell o lawer, yn ôl yr Ysgrythur, a wna'r rhai sy'n trin y tir er mwyn ennill eu bywioliaeth—fel y gorchmynnir ni oll yn Adda (Gen. iii. 17): Trwy lafur y bwytei o honi: trwy chwŷs dy wyneb y bwytei fara. Y mae llawer iawn eto o ddaear ein gwlad yn aros heb ei throi a'i thrin.
Yn nesaf, daw'r gormodedd bwyta ac yfed sydd wedi rhoi enw drwg i ni'r Ellmyn mewn gwledydd tramor. Dywedir mai dyma'n pechod parod ni. Y mae wedi cael cymaint o afael arnom fel na wna pregethu yn ei erbyn nemor les. Peth bach fyddai'r golled mewn arian onibai fod pechodau mwy fel lladd a phuteindra a lladrad a chabledd a phob math o ddrygioni yn ei ddilyn. Fe ddylai'r llywodraeth wladol wneuthur rhywbeth i'w atal, onidê fe ddigwydd fel y dywed Crist (Mt. xxiv. 38; Lc. xvii. 26): Fe ddaw dydd y farn fel lleidr yn y nos ac a'u caiff hwy'n bwyta ac yn yfed, yn priodi a rhoi mewn priodas, yn plannu ac yn adeiladu, yn prynu ac yn gwerthu." Ofnaf yn wir fod dydd y farn gerllaw —wrth y drws, a ninnau mor amharod ar ei gyfer.
Yn olaf, onid truenus o beth yw ein bod ni, Gristnogion, nyni a dynghedwyd i ddiweirdeb yn ein bedydd, yn cadw puteindai cyhoeddus? Gwn yn eithaf da am bopeth a ddywedir dros gyfundrefn o'r fath, nad peth a berthyn i un genedl yw, mai peth anodd ei ddinistrio yw, ac mai gwell yw puteindai cyhoeddus na'r cam a wneid a'r cywilydd a ddôi i ferched a gwragedd hebddynt. Ond oni ddylai'r llywodraeth wladol ac eglwysig gyduno i gyfarfod â pheryglon o'r fath heb syrthio'n ôl ar baganiaeth agored fel hyn? Os gallodd cenedl Israel fyw heb y gwarth hwn, paham lai nyni? Ie, onid yw llu o drefi a chymdogaethau a phentrefi'n byw heb dai o'r fath, a phaham lai'r dinasoedd mawr?
Yn yr holl faterion hyn, fy amcan yw dangos gymaint o dda a fedrai'r llywodraeth wladol ei wneuthur, a pha beth yw dyletswydd pob llywodraeth. Yr wyf am ddysgu i bob dyn gymaint o beth yw'r gwaith o lywodraethu, a bod mewn swydd o awdurdod. Pa les yw i lywodraethwr fod mor santaidd a Sant Pedr oni wna'i orau i helpu ei ddeiliaid mewn pethau fel hyn. Ei lywodraeth ei hun a'i condemnia: canys dyletswydd gyntaf pob llywodraeth yw gofalu am les gorau ei deiliaid.
Gellid dywedyd llawer mwy am ein cyflwr gresynus. Nid oes neb yn gofalu am y bobl ieuainc. Cânt wneuthur fel y mynnant. Nid yw'r awdurdodau o fwy o les iddynt na phe baent heb fodoli―er mai gofalu am yr ieuainc a ddylai fod gwaith pennaf y Pab, yr esgobion, y llywodraethwyr a'r cynghorau eglwysig. Yn awr, awyddant am lywodraethu pawb a phopeth ymhob man—ond nid am fod o un lles yn unman. Yn wir i chwi, creadur digon dieithr fydd arglwydd neu lywodraethwr yn y nefoedd—er iddo adeiladu cant o eglwysi i Dduw a chodi'r marw'n fyw.
DIWEDDGLO.
Wel, dyna ddigon am y tro. Dywedais fwy na hyn ar waith y llywodraeth wladol a'r pendefigion yn fy llyfryn "Gweithredoedd da." Y mae ganddynt ddigon a digon o le i wella. Ond, er cynddrwg yw'r llywodraeth wladol, nid yw ei ffaeleddau i'w cymharu ag eiddo llywodraeth yr eglwys.
Gwn fy mod wedi clochtar yn uchel, wedi cynnig llawer gwelliant a dybir yn amhosibl ac wedi llefaru geiriau caled iawn. Ond pa beth arall oedd yn bosibl i mi. Anghenrhaid a osodwyd arnaf fi i lefaru fel hyn. Pe bai o fewn fy ngallu, fe'i gwnawn hefyd. Gwell gennyf lid a digofaint y byd na digofaint Duw. Ni all y byd ddwyn mwy na'm heinioes oddiwrthyf. Gwneuthum lawer cynnig eisoes i wneuthur heddwch â'm gwrthwynebwyr. Gwelaf erbyn hyn fod Duw trwyddynt hwy'n fy ngorfodi i fod yn fwy tafodrydd bob dydd, ac i roi mwy o achos iddynt o hyd i glebran a chyfarth a gweiddi ac ysgrifennu.
Wel, hei ati ynteu, y mae gennyf gân fach arall i'w chanu am Rufain a'i phobl. Os mynnant ei chlywed, fe'i canaf iddynt â'm holl galon. A wyt ti'n fy neall, Rufain annwyl?
Cynigiais iddynt gyfle lawer tro i osod fy ysgrifeniadau ar brawf, ond yn ofer bob tro. Gwyddwn yn iawn y condemnid fi ar y ddaear er bod fy achos yn gyfiawn. Nid oes gennyf yr un gobaith am gymeradwyaeth ond gan Grist yn unig.
Yr holl Ysgrythur a'n dysg mai gan Dduw yn unig y bernir Cristnogion a Christnogaeth. Ni chawsant erioed gyfiawnder gan ddynion ar y ddaear. Yr oedd y gwrthwynebiad yn eu herbyn yn rhy fawr ac yn rhy gryf. Fy ofn pennaf yw yr erys fy achos heb ei gondemnio. Fe fyddai hynny'n brawf eglur nad yw'n rhyngu bodd Duw. At eich gwaith ynteu, bob esgob, offeiriad, mynach a diwinydd! Dyna'r bobl iawn i erlid y gwir. Buont wrth y gwaith erioed.
Rhodded Duw i ni oll ddeall Cristnogol, ac yn enwedig rhodded i bendefigion cenedl yr Almaen wir ddewrder ysbryd i wneuthur y gorau dros ein Heglwys druan!
- Wittenberg,
Yn y flwyddyn 1520.
AR RYDDID CRISTNOGOL.
RHAN O LYTHYR LUTHER YN CYFLWYNO'R TRAETHAWD A GANLYN I'R PAB LEO X.
I derfynu, a rhag i mi ddod atat, Fendigaid Dad, yn waglaw, cyflwynaf it y traethodyn hwn a gyhoeddwyd gennyf yn dy enw fel arwydd o heddwch rhyngom, a gobaith am amser gwell. Fe ddengys i ti wrth ba orchwylion yr hoffwn dreulio fy nyddiau pe caniateid hynny i mi gan dy gynffonwyr didduw. Peth digon bach yw, o edrych arno o'r tu allan, ond yr wyf yn camsynied yn fawr onid yw'n grynodeb o sylwedd y bywyd Cristnogol—os medri ei ddeall. Yn fy nhlodi, nid oes gennyf anrheg well i'w rhoddi i ti. Gwn hefyd nad oes angen dim yn fwy arnat tithau na rhodd ysbrydol. Trwyddo hefyd y'm cyflwynaf fy hunan i'th sylw, Fendigaid Dad, a chadwed yr Arglwydd Iesu di am byth.
- Wittenberg,
6, Medi, 1520.
YN RHYDD AC YN RHWYM.
Fel peth hawdd a dibwys y cyfrifir ffydd Gristnogol gan lawer, ac i rai nid yw ond un ymhlith y rhinweddau.
Y rheswm am hyn yw na chawsant erioed y profiad lleiaf yn bersonol o honi; ni phrofasant flas ei grym erioed. Amhosibl yw i neb ysgrifennu'n dda am dani, nac ychwaith ddeall yn iawn y traethawd gorau arni, oni yrrwyd ef rywbryd gan wasgfa trafferthion a gofidiau'r byd i wneuthur prawf personol ar ei hysbryd grymus hi.
Ar y llaw arall, ni all neb a gafodd y profiad personol lleiaf o honi ysgrifennu na siarad na meddwl na chlywed digon am dani hi; canys ffynnon o ddyfroedd byw yw ynddo yn tarddu i fywyd tragwyddol, fel yn wir y geilw Crist hi.
Ni allaf innau chwaith ymffrostio yn fy nigonedd, a gwn mor dlawd yw arnaf; ond gan fy mod wedi yfed rhyw ychydig o'i dyfroedd i'm nerthu i gyfarfod â'm llu o demtasiynau, gobeithiaf fedru siarad ac ysgrifennu am ffydd gyda mwy o wirionedd ac o sylwedd na'r rhai a fu o'm blaen yn torri geiriau a hollti blew am dani, heb fawr o ddeall o'u hymadroddion eu hunain.
Ac er mwyn agor llwybr hyffordd i bobl annysgedig—canys hwy'n unig yr wyf am wasanaethu—cynigiaf i ddechrau ddau osodiad ynglŷn â rhyddid a chaethiwed yr ysbryd:
- 1. Y mae'r dyn Cristnogol yn arglwydd ar bob peth, heb fod yn ddarostyngedig i neb na dim.
- 2. Y mae'r dyn Cristnogol yn was hollol ufudd i bawb, ac yn ddarostyngedig i bawb a phob peth.
Er yr ymddengys ar y cyntaf fod y ddau osodiad hyn yn croesddywedyd ei gilydd, eto pan welir y cysondeb sydd rhyngddynt, atebant yn iawn i'r diben sydd gennym ni mewn golwg.
Pawl ei hun yw awdur y ddau, canys dywed ef: "Er fy mod yn rhydd oddiwrth bawb, mi a'm gwneuthum fy hun yn was i bawb (1 Cor. ix. 19). "Na fyddwch yn nyled neb o ddim ond o garu bawb eich gilydd (Rhuf. xiii. 8). Ond y mae cariad yn ôl ei natur yn wasanaethgar a darostyngedig i'r hwn a gerir. Crist hefyd, er ei fod yn Arglwydd pawb a anwyd o wraig ac a ddarostyngwyd i'r ddeddf (Gal. iv. 4), ar yr un pryd yn rhydd ac yn gaeth, yn ffurf Duw a ffurf gwas.
Yn awr, er mwyn deall y mater yn fwy trwyadl, fe ddechreuwn fel hyn. Y mae dwy natur ymhob dyn, yr ysbrydol a'r gorfforol. Yn ôl ei natur ysbrydol a enwir yr enaid, fe'i gelwir y dyn ysbrydol, y dyn oddi mewn, y dyn newydd. Yn ôl ei natur gorfforol a elwir yn gnawd, fe'i gelwir y dyn cnawdol, y dyn oddi allan, yr hen ddyn. Gall yr Apostol ddywedyd am dano: "Er llygru ein dyn oddiallan, er hynny, y dyn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd (2 Cor. iv. 13).
Yn herwydd y rhaniad hwn ynddo y dywed yr Ysgrythur bethau hollol groes i'w gilydd am yr un dyn. Y gwir yw bod dau ddyn yn yr un yn ymladd yn erbyn ei gilydd: y cnawd yn erbyn yr ysbryd, a'r ysbryd yn erbyn y cnawd (Gal. v. 17).
I.
Y RHYDDID SYDD O FFYDD.
1. YSTYRIWN, YN GYNTAF, y dyn oddi mewn, er mwyn gweled paham a pha fodd y daw dyn yn ddyn cyfiawn a rhydd ac yn Gristion yn wir, hynny yw, yn ddyn ysbrydol, yn ddyn newydd, yn ddyn oddi mewn.
Y mae'n ddigon eglur nad oes gan unrhyw beth allanol, boed ef beth y bo, y gallu i greu cyfiawnder neu ryddid Cristnogol mwy nag anghyfiawnder neu gaethiwed. Hawdd yw gweled y rheswm am hynny. Pa faint gwell yw'r enaid o'r ffaith fod y corff yn iach, yn rhydd ac yn llawn ynni; yn bwyta, yn yfed ac yn symud fel y myn? Onid yw'r dynion annuwiolaf a mwyaf caeth i bob math o bechod yn mwynhau'r un breintiau? O'r ochr arall, pa fodd y gall afiechyd, caethiwed, newyn neu syched y corff neu unrhyw ddrwg allanol arall niweidio'r enaid? Oni ddioddefir y pethau hyn hefyd gan y duwiolaf o ddynion a'r glanaf eu cydwybod? Nid yw'r naill na'r llall yn cyffwrdd â rhyddid neu gaethiwed yr enaid.
Nid yw o unrhyw les addurno'r corff â dillad cysegredig fel y gwna'r offeiriaid nac i'r corff fyw mewn lleoedd cysegredig, cyflawni gweithredoedd cysegredig—gweddïo neu ymprydio neu wneuthur pa waith bynnag a ellir ei wneuthur gan y corff ac yn y corff. Rhaid yw wrth rywbeth hollol wahanol er mwyn creu cyfiawnder neu ryddid yr enaid. Gall unrhyw ddyn annuwiol wneuthur y pethau y soniais am danynt; creu rhagrithwyr yn unig a wnânt.
O'r ochr arall, ni ddaw un niwed i'r enaid o wisgo'r corff mewn ddillad halogedig, o fyw o hono mewn lleoedd halogedig, o fwyta ac yfed fel pawb eraill, o beidio â gweddïo'n gyhoeddus mewn gair nac ychwaith o wrthod gwneuthur yr holl bethau a ellir eu gwneuthur gan y rhagrithwyr y soniwyd am danynt.
I gydnabod y gwir yn llawn, ni ddaw dim da o'r holl ddyfalu a'r myfyrio nac o ddim a wneir trwy ymdrechion neu egnïon dyn ei hun.
CYFOETH YR EFENGYL.
Un peth ac un yn unig sydd angenrheidiol er mwyn creu bywyd, cyfiawnder a rhyddid Cristnogol. Yr un peth hwnnw yw gair santaidd Duw, Efengyl Crist—fel y dywed Ef: "Myfi yw'r Atgyfodiad a'r Bywyd; yr hwn sydd yn credu ynof fi ni bydd marw'n dragywydd (Ioan xi. 25). Os y Mab a'ch rhyddha chwi, rhyddion a fyddwch yn wir (Ioan viii. 36). "Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw."
Gan hynny, byddwn yn berffaith sicr o hyn: fe all yr enaid hepgor popeth ond gair Duw, ac heb air Duw nid oes dim a'i llesha. A chanddo air Duw, y mae'r enaid yn gyfoethog. Nid oes arno angen dim mwy, canys yn y gair y mae bywyd, gwirionedd, goleuni, tangnefedd, cyfiawnder, iechydwriaeth, llawenydd, rhyddid, doethineb, pob rhinwedd, gras a gogoniant a phob da anchwiliadwy. Dyna paham y geilw ac y gweddïa'r proffwyd yn y 119 Salm (Octenarius) ac mewn llawer man arall ac mewn llawer dull a modd am air Duw. Ni all digofaint Duw chwaith ddanfon pla mwy creulon ar ddynion na'r newyn am glywed ei eiriau (Amos viii. 11); Ni all roi ffafr fwy na danfon ei air—fel y dywed y Sallwyr: Anfonodd ei air ac iachaodd hwynt ac a'u gwaredodd o'u dinistr." (cvii. 22). Ni ddanfonwyd Crist i ddim arall ond i gyhoeddi'r gair. Nid oes un rheswm arall dros alw ac ordeinio apostolion, esgobion a holl gorff yr offeiriaid ond er mwyn gweinidogaethu ar air Duw.
Ond chwi a ofynnwch, beth ynteu yw'r gair hwn, a pha fodd y mae i'w ddefnyddio gan fod cynifer o eiriau Duw?
Atebaf finnau Fe ddywed yr Apostol Pawl pa beth yw, sef Efengyl Duw am ei Fab ymgnawdoledig, croeshoeliedig, atgyfodedig a gogoneddedig trwy'r Ysbryd, y Santeiddiwr (Rhuf. i. 1).
Ystyr a grym pregethu Crist yw iddo borthi, cyfiawnhau, rhyddhau ac achub yr enaid trwy gredu o'r enaid y bregeth. Canys ffydd yw'r unig ffordd achubol ac effeithiol o ddefnyddio gair Duw: Os cyffesi â'th enau yr Iesu'n Arglwydd, a chredu yn dy galon i Dduw ei atgyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi " (Rhuf. x. 9). Canys Crist yw diwedd y ddeddf er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu " (Rhuf. x. 4). "Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd" (Rhuf. i. 17).
Canys ni ellir derbyn na choledd gair Duw trwy unrhyw weithredoedd ond trwy ffydd yn unig. Am hynny, fel y mae'n eglur mai angen y gair yn unig sydd ar yr enaid er mwyn ei fywyd a'i gyfiawnder, felly hefyd, nid oes cyfiawnhau i fod trwy unrhyw weithredoedd ond trwy ffydd yn unig. Canys pe gellid cyfiawnhau'r enaid mewn unrhyw ffordd arall, ni fyddai angen am y gair nac, o ganlyniad, am ffydd chwaith. Ond ni all y ffydd hon gyd—sefyll â gweithredoedd —boed hwy mor fawr ag y bônt. Cloffi rhwng dau feddwl a fyddai hyn addoli Baal a'i gusanu—y pechod gwaethaf, fel y dywed
"Am hynny, pan ddechreui gredu, ti a ddysgi hefyd fod popeth sydd ynot yn euog, yn bechadurus, ac wedi ei ddamnio —yn ôl y gair hwnnw: Pawb a bechasant ac a aethant yn yn ôl am ogoniant Duw"; a'r gair arall: "Nid oes neb cyfiawn; nid oes neb a wna ddaioni; gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol." (Rhuf. iii. 23; 10—2).
O gydnabod hyn, cei wybod hefyd fod Crist yn anghenrhaid i ti, yr hwn a ddioddefodd ac a atgyfodwyd er dy fwyn i'th droi trwy ffydd ynddo ef yn ddyn arall, a'th holl bechodau wedi eu maddau a thithau wedi dy gyfiawnhau trwy haeddiannau arall, hynny yw, trwy haeddiant Crist yn unig.
Ni all y ffydd hon lywodraethu ond yn y dyn oddi mewn, fel y dywed Pawl: "A'r galon y credir i gyfiawnder" (Rhuf. x. 10).
A chan mai trwy'r ffydd hon yn unig y cyfiawnheir dyn, eglur yw na chyfiawnheir ac na all y dyn oddi mewn ddyfod yn rhydd ac yn ddedwydd trwy unrhyw fath o weithred allanol. Nid oes a fynno gweithredoedd ag achubiaeth.
Felly hefyd o'r ochr arall, trwy wadu Duw ac anghrediniaeth y galon yn unig, y gwneir dyn yn euog ac yn gaethwas i bechod, ac nid trwy unrhyw weithred bechadurus allanol.
Am hynny, gofal cyntaf pob dyn a ddylai fod bwrw o'r neilltu bob ymddiried mewn gweithredoedd, a chryfhau ei ffydd o hyd, a thrwyddi gynyddu mewn gwybodaeth—nid o weithredoedd ond o Grist Iesu a ddioddefodd ac a atgyfododd er ei fwyn (1 Pedr v.). Ni all dim ond ffydd wneuthur Cristion, fel y dywed Crist wrth yr Iddewon pan ofynnent iddo pa beth a wnaent er mwyn gweithio gweithredoedd Duw. Gwrthyd y llu gweithredoedd y gwêl eu bod hwy'n ymfalchio ynddynt. Un gorchymyn yn unig a rydd iddynt: Hwn yw gwaith Duw, sef credu o honoch yn yr hwn a anfonodd ef. "Canys er mwyn hyn yr ordeiniodd Duw'r Tad ef" (Ioan vi. 28, 29).
Am hynny, y mae ffydd iawn yng Nghrist yn drysor digymar a ddwg gyda hi bob iechydwriaeth ac a'n ceidw rhag pob drwg, fel y dywed Marc: "Y neb a gredodd ac a fedyddiwyd a fydd cadwedig. Y neb ni chredodd a ddemnir" (Marc xvi. 16).
Â'i olwg ar y trysor hwn y dywedodd Eseia: "Ar fyr y gwna'r Arglwydd ei ewyllys gyfan ar y ddaear ac fe lifa drosom mewn cyfiawnder." (Eseia x. 22, 23). Fel pe dywedai: Fe leinw ffydd sydd yn grynodeb o bob cyflawniad o'r gyfraith, y neb a gred a'r fath gyfiawnder ag na fydd angen mwy arnynt. Felly y dywed Pawl hefyd: "A'r galon y credir i gyfiawnder (Rhuf. x. 10).
Y DDEDDF A'R EFENGYL.
2. Ond gofynni: Paham ynteu y mae'r Ysgrythur yn gorchymyn cynifer o weithredoedd, o seremonïau ac ddeddfau os gall ffydd yn unig gyfiawnhau dyn a chyfleu trysor mor fawr o ddaioni heb weithredoedd? Atebaf finnau: Yn fwy na dim, rhaid yw cadw mewn cof mai ffydd yn unig ar wahan i weithredoedd a gyfiawnha, a ryddha ac a achub. Dywedwyd hynny eisoes, a gwnawn ef yn eglurach fyth.
Cadwer mewn cof y ffaith fod holl Ysgrythur Duw wedi ei rhannu'n ddwy ran, sef yw hynny, gorchmynion ac addewidion. Fe ddysg y gorchmynion i ni lawer o weithred— oedd da, ond y mae bwlch rhwng dysgu a chyflawni. Dengys y gorchmynion yr hyn y dylem ei wneuthur, ond ni roddant y nerth i'w gyflawni. Ordeiniwyd hwy i ddatguddio dyn iddo ef ei hun, profi ei anallu i wneuthur y da a'i orfodi i amau ei nerth ei hun. Dyna paham y gelwir y Ddeddf yr Hen Destament neu'r Hen Gyfamod. Ynddo y cawn y gorchmynion.
Er enghraifft, "Na chwennych" yw'r gorchymyn a'n hargyhoedda ein bod oll yn bechaduriaid gan na all neb beidio â "chwennych pa mor egnïol bynnag ei ymdrech. Am hynny, er mwyn iddo beidio â chwennych a chyflawni'r gorchymyn, gorfodir iddo anobeithio am dano ei hun a chwilio yn rhywle arall a thrwy rywun arall am yr help na chaiff ynddo ef ei hun. Fel y dywed Hosea: "Y mae dy ddistryw ynot ti dy hun, O Israel, a'th unig gynorthwy ynof Fi." (xiii. 9). Ond yr hyn a wneir gan y gorchymyn hwn a wneir hefyd gan yr holl orchmynion—canys y maent oll yr un mor amhosibl i ni.
Ond yn awr, wedi yr argyhoedder dyn o'i anallu ei hun gan y gorchymyn a'i ddwyn i bryderu pa fodd y gall fodloni'r ddeddf, yna fe ddaw'r rhan arall o'r Ysgrythur i mewn, sef, addewidion Duw a gyhoedda ogoniant Duw ac a ddywed: Os ti a fynni gadw'r ddeddf a pheidio â chwennych, wele, cred yng Nghrist. Ynddo ef addewir i ti ras a chyfiawnder a hedd a rhyddid. Os credi, cei bob peth; oni chredi, ni chei ddim. Canys yr hyn sydd amhosibl i ti trwy holl weithredoedd y ddeddf, ti a'i gwnei'n hawdd ar unwaith trwy ffydd. Pennodd Duw Dad bopeth i ffydd. Pwy bynnag sydd ganddo ffydd y mae popeth ganddo, a phwy bynnag nid oes ganddo ffydd, nid oes dim ganddo. Canys Duw a'u caeodd hwynt oll mewn anghrediniaeth, fel y trugarhâi wrth bawb" (Rhuf. xi. 32).
GRYM FFYDD.
(a) Felly, fe rydd addewidion Duw'r hyn a hawlir gan y gorchmynion. Cyflawnant yr hyn a orchymyn y ddeddf. Dyledus ŷm i Dduw am y cwbl—y gorchmynion ac ufudd-dod iddynt. Ef ei hun a orchymyn. Ef ei hun a rydd rym i ufuddhau. Am hynny y perthyn addewidion Duw i'r Testament Newydd; yn hytrach, hwy yw'r Testament Newydd. Y mae'r addewidion dwyfol hyn yn eiriau santaidd, gwir, cyfiawn, rhydd, tangnefeddus, a llawn o bob daioni. Am hynny fe unir yr hwn a lŷn wrthynt yn anwahanadwy â hwynt. Yn wir, fe'i cymethir mor llwyr â hwy nes ei drwytho â phob rhinwedd o'r eiddynt. Canys os oedd cyffwrdd allanol â Christ yn iachau, pa faint mwy o lawer y gwna'r cyffyrddiad tynerach hwn yn yr ysbryd, yr uniad byw hwn â'r Gair—pa faint mwy y gwna hwn yr enaid yn gyfrannog o holl rinweddau'r Gair.
Hon ynteu yw'r ffordd y cyfiawnheir, y santeiddir, yr heddychir, y rhyddheir ac y cyflenwir yr enaid â gwirionedd gan Air Duw, y llenwir ef â phob rhyw ddaioni, ac y gwneir ef yn blentyn Duw, fel y dywed Ioan: "Rhoddodd iddynt allu i ddyfod yn feibion Duw—hwy a gredant yn ei enw Ef " (Ioan i. 12)
Oddiwrth hyn oll, hawdd yw deall o ba le y cafodd ffydd y fath allu, a phaham nad yw unrhyw weithredoedd da i'w cyffelybu â hi. Ni all unrhyw weithred lynu mor agos wrth Air Duw na chartrefu fel hi yn yr enaid. Ffydd yn unig a'r Gair a fedr arglwyddiaethu ar yr enaid ac ynddo. Y peth yw'r Gair, hynny hefyd a fydd yr enaid a greir ganddo: fel y try'n haearn a boethir yn eirias i ddelw'r tân y mae ynddo.
Eglur yw, gan hynny, fod ei ffydd yn ddigon i'r Cristion ar gyfer popeth. Nid oes arno angen am weithredoedd i'w gyfiawnhau. Ac onid oes arno angen am weithredoedd, nid oes arno angen am ddeddf chwaith. Onid oes arno angen am ddeddf, y mae'n rhydd oddiwrth y ddeddf; a gwir yw'r gair nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y ddeddf (1 Tim. i. 9). Am hynny, rhyddid Cristnogol yw hyn, sef ein ffydd ni, y ffydd a'n gwna nid yn esgeulus nac yn ddiofal o ymarweddiad da ond yn ddiangen am ddeddf a gweithredoedd er mwyn ein cyfiawnhau a'n hachub.
GEIRWIREDD DUW.
(b) Cyfrifwn hyn oll fel grym cyntaf ffydd, a cheisiwn weled beth yw'r ail.
Un o nodweddion ffydd hefyd yw y gesyd yr anrhydedd pennaf ar wrthrych ei chred ac y coledd y syniad uchaf am dano—gan ei bod yn edrych arno fel un geirwir a theilwng. Nid oes anrhydedd tebyg i'r parch a roddwn i eirwiredd a chyfiawnder yr hwn y credwn ynddo. Pa rinwedd uwch a fedrwn ei phriodoli i neb na gwirionedd a chyfiawnder a daioni diffael? O'r ochr arall, pa sarhad mwy a fedrwn ei osod ar neb na'i warthnodi â'r enw anghyfiawnder a chelwydd, neu ei ddrwgdybio fel y gwnawn pan wrthodwn ei gredu?
Pan gred yr enaid yn addewidion Duw, fe'i peirch fel un geirwir a chyfiawn—ac ni ellir priodoli dim mwy gogoneddus i Dduw na hynny. Yr addoliad uchaf a fedrwn ei roddi i Dduw yw priodoli geirwiredd a chyfiawnder iddo a phob rhinwedd sy'n ddyledus i'r hwn y credwn ynddo. Wrth wneuthur hyn, dengys yr enaid ei barodrwydd i ufuddhau i'w holl ewyllys. Dyna'r ffordd i santeiddio enw Duw a rhoddi iddo'r hawl i wneuthur a fynno â ni, gan lynu wrth ei addewidion Ef heb amau dim ar ei eirwiredd, ei gyfiawnder, na'i ddoethineb i wneuthur a threfnu a gofalu am bob peth yn y ffordd orau.
Onid yw enaid o'r fath mewn ffydd fel hon yn barod i roi ufudd-dod ymhob peth i Dduw? Pa orchymyn a erys heb ei gyflawni gan ufudd-dod fel hwn? Pa gyflawni mwy a all fod na llwyr ufudd-dod? Nid gan weithredoedd y cyflewnir hyn ond gan ffydd yn unig. Ar y llaw arall, pa wrthryfel, pa annuwioldeb, pa sarhad mwy a ellir ei osod ar Dduw na gwrthod credu ei addewid? Pa beth yw hyn amgen na gwneuthur Duw'n gelwyddog neu amau ei eirwiredd— priodoli geirwiredd i ni'n hunain a chelwydd i Dduw? Onid gwadu Duw yw hyn a gosod delw o honom ein hunain yn ein calon? Pa les yw gweithredoedd, boed hwy angylaidd neu apostolaidd—a ninnau mewn cyflwr o'r fath?
Iawn y gwnaeth Duw, ynteu, yn cloi popeth, nid mewn dig nac mewn nwyd, ond mewn anghrediniaeth fel na ryfygo neb gredu yr achubir ef trwy honni ei fod yn cadw'r ddeddf, trwy hyd yn oed weithredoedd pur a glân y ddeddf. Gan ei fod wedi ei gau i mewn yn y pechod anghrediniaeth, rhaid yw iddo naill ai gofyn am drugaredd neu oddef cyfiawn ddamnedigaeth.
Eithr pan wêl Duw y priodolir geirwiredd Iddo ac yr anrhydeddir Ef gan ffydd ein calon â'r parch sy'n ddyledus Iddo, fe'n hanrhydedda yntau ninnau yn herwydd ein ffydd, gan briodoli geirwiredd a chyfiawnder i ninnau hefyd. Canys gweithreda ffydd yn eirwir a chyfiawn pan rydd eiddo Duw i Dduw; ac am hynny'n gyfnewid, fe ogonedda Duw hefyd ein cyfiawnder ninnau.
Gwir a chyfiawn yw mai gwir a chyfiawn yw Duw; a chyffesu hyn am Dduw, dyna yw bod yn eirwir a chyfiawn. Am hynny y dywedir: "Fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygaf" (1 S. ii. 30). Felly y dywed Pawl hefyd am Abraham—fod ei ffydd wedi ei chyfrif iddo'n gyfiawnder am iddo roddi gogoniant i Dduw trwyddi (Rhuf. iv. 3). Cyfrifir ein ffydd ninnau hefyd yn gyfiawnder os credasom.
UNDEB A CHRIST.
(c) Trydydd gras digymar ffydd yw yr una'r enaid â Christ fel mewn glân briodas. Yn y Sacrament hon (fel y dysg yr Apostol), fe wneir Crist a'r enaid yn un.
Yn awr, os ydynt "un cnawd," ac os bu gwir briodas rhyngddynt y briodas berffeithiaf yn wir o bob priodas, canys nid yw priodasau dynol ond ffigurau gwan o'r briodas ddigyffelyb hon, y mae'n canlyn fod eu holl nodweddion yn myned yn eiddo i'w gilydd, y da fel y drwg. Pa beth bynnag sydd gan Grist, gall yr enaid ffyddlon ei feddiannu ac ymfalchio ynddo fel ei eiddo ei hun. A pha beth bynnag a berthyn i'r enaid, fe ddaw hwnnw'n eiddo Crist hefyd. Cymharwn y ddau a gwelwn mor amhrisiadwy yw'r trysor a gaiff yr enaid.
Y mae Crist yn llawn gras a bywyd a iechydwriaeth; a'r enaid yn llawn pechodau, marwolaeth a damnedigaeth. Uner hwy mewn ffydd ac fe ddaw'r pechod a'r marw a'r uffern yn eiddo Crist; a'r gras a'r bywyd a'r iechydwriaeth yn eiddo'r enaid. Canys gweddus yw i'r gŵr dderbyn yr hyn sydd gan y wraig a rhoddi iddi yr un ffunud yr hyn sydd ganddo ef ei hun. Canys yr hwn a rydd ei gorff ac ef ei hun iddi, pa wedd hefyd na ddyry ef iddi gwbl o'i eiddo. A'r hwn a dderbyn gorff ei wraig, pa wedd hefyd na dderbyn ef bopeth sy'n eiddo iddi?
Yma, ynteu, gwelwn olygfa hyfryd nid yn unig o gymundeb ond hefyd o frwydr fendigedig_ac o fuddugoliaeth, o iechydwriaeth ac o brynedigaeth. Gan fod Crist yn Dduw ac yn ddyn; yn un na phechodd, na fydd marw, ac na ddemnir; ac yn un na all bechu na marw na chael ei ddamnio; a chan fod ei gyfiawnder, ei fywyd a'i iechydwriaeth yn anorchfygol, yn dragwyddol ac yn hollalluog; a phan gymer un o'r fath trwy briodas ffydd, feddiant ar bechodau, marw ac uffern ei wraig, a'u trin fel ei eiddo ef ei hun, fel pe bai ef ei hun wedi pechu; pan ddioddefa, pan fydd farw, pan ddisgyn i uffern er mwyn buddugoliaethu ar bob peth— fe welir yn hawdd pan ddigwydd hyn oll, y gorchfygir pechod a marw ac uffern yr enaid gan Grist mewn brwydr ofnadwy. re gyfyd ei gyfiawnder ef ymhell uwchlaw pechodau pawb o'r dynion. Grymusach yw ei fywyd ef na phob marw. A mwy anorchfygol yw ei iechydwriaeth ef na phob uffern.
Felly y daw'r enaid ffyddlon trwy ernes ei ffydd yng Nghrist, yn rhydd o bob pechod, yn ddibryder rhag marw, yn ddiogel rhag uffern, ac i feddiant o gyfiawnder tragwyddol, o fywyd ac o iechydwriaerh Crist. . .
Pwy ynteu a all feddwl yn rhy uchel o briodas frenhinol fel hon? Pwy a all amgyffred cyfoeth gogoniant y gras hwn?
Yma gwelir Crist, y priodfab cyfoethog a ffyddlon, yn priodi'r butain dlawd ac anffyddlon, gan ei hachub o'i holl ddrygau a'i haddurno â'i holl roddion daionus ef ei hun. Amhosibl i'w phechodau ei dinistrio yn awr. Trosglwyddwyd hwy i Grist, a gorchfygir hwy ganddo ef. Caiff hithau ei chyfiawnder yng Nghrist ei phriod, a gall yn hyderus ei godi yn erbyn ei phechodau, yn wyneb angau ac uffern, a dywedyd: Os pechais i, ni phechodd fy Nghrist y credaf ynddo; eiddo ef yw popeth sydd gennyf, ac y mae ei gwbl ef yn eiddo i minnau. Fel yr ysgrifennwyd gynt: "Fy anwylyd sydd eiddof i, a mi yn eiddo yntau" (Can. Sol. ii. 16).
Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn a roddodd i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist (1 Cor. xv. 57) —buddugoliaeth ar bechod ac angau, yn ôl fel y dywedir: "Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith" (1 Cor. xv. 56).
Oddiwrth hyn, gwelir eto paham y priodolir cymaint i ffydd a phaham y dywedir mai trwy ffydd yn unig y cyflewnir y gyfraith ac y cyfiawnheir dyn ar wahan i unrhyw weithredoedd. Canys gweli mai trwy ffydd yn unig y cyflewnir y gorchymyn cyntaf a ddywed: "Un Duw yn unig a addoli." Pe na bait ddim amgen na gweithredoedd da o'th sawdl i'th gorun, ni fyddit gyfiawn, ac nid addolit mo Dduw, ac ni ellit gyflawni'r gorchymyn cyntaf, canys ni ellir addoli Duw oni phriodolir iddo ogoniant gwirionedd a phob daioni. Ond ni wneir hyn trwy weithredoedd eithr trwy ffydd y galon yn unig. Nid trwy weithredu ond trwy gredu y gogoneddwn Dduw ac y cyffeswn ei eirwiredd ef. Am hynny, ffydd yn unig, yw cyfiawnder y Cristion, a ffydd yn unig sy'n cyflawni'r holl orchmynion. Canys pwy bynnag a gyflawna'r cyntaf, hawdd yw iddo gyflawni'r lleill i gyd. Ni all gweithredoedd a hwythau heb fod ond pethau direswm ogoneddu Duw, er y gellir eu gwneuthur i ogoniant Duw os bydd ffydd yn cydweithio.
Ond ar hyn o bryd, nid gofyn yr ydym am natur a gwerth y gweithredoedd a wneir ond am nodweddion y gweithredydd sy'n gogoneddu Duw a chrewr y gweithredoedd. Ffydd y galon yw pen a hanfod ein holl gyfiawnder. Am hynny, athrawiaeth ddal! a pheryglus yw honno a ddysg gyflawni'r gorchmynion trwy weithredoedd, canys cyn bod gweithredoedd fe ddylid cyflawni'r gorchmynion trwy ffydd. Dilyn cyflawniad ffydd a wna'r gweithredoedd fel y cawn glywed.
OFFEIRIAID A BRENHINOEDD.
3. Er mwyn i ni gael golwg ehangach ar y gras hwn sydd gan y dyn oddi mewn yng Nghrist, rhaid yw i ni gofio i Dduw yn yr Hen Destament gysegru pob cyntafanedig iddo'i hun. Yr oedd y cyntafanedig o werth arbennig ac yn hawlio rhagoriaeth ddeublyg ar y lleill, sef yr offeiriadaeth a'r frenhiniaeth. Y mab cyntafanedig oedd offeiriad a brenin ar y lleill i gyd. Trwy'r ffigur hwn y rhagddangoswyd Crist, gwir gyntafanedig Duw Dad a Mair Forwyn, gwir Frenin ac Offeiriad—er nad mewn ystyr ddaearol. Ei deyrnas ef nid yw o'r byd hwn; mewn pethau nefol ac ysbrydol y gweinydda ef fel brenin ac offeiriad. A'r pethau nefol hyn yw cyfiawnder, gwirionedd, doethineb, hedd, iechydwriaeth, etc. Gwyddom fod popeth ar y ddaear ac yn uffern yn ddarostyngedig iddo— yn amgen, pa fodd y gallai ein hamddiffyn a'n gwaredu rhagddynt. Er hynny, nid yn y gallu hwn na thrwyddo y saif ei deyrnas ef. Nid mewn rhwysg gwisgoedd nac osgo y saif ei offeiriadaeth chwaith fel offeiriadaeth ddynol Aaron a'n hoffeiriadaeth eglwysig ni ar hyn o bryd—ond mewn pethau ysbrydol. Eiriol a wna drosom gyda Duw yn y nef. Offryma ef ei hun yno, a gwna holl ddyletswyddau offeiriad, fel y disgrifia Pawl ef yn yr Hebreaid—o dan ffigur Melchisedec. Nid yn unig gweddïo ac eiriol drosom a wna, fe'n dysg ni hefyd yn yr ysbryd â gwersi byw ei Ysbryd, Yn y ddeubeth hyn y mae gwaith arbennig offeiriad fel dangosir hwy i ni yng ngweddïau a phregethau offeiriaid gweledig daear.
Fel y derbyniodd Crist y swyddi hyn trwy enedigaeth— fraint, felly hefyd y gwna pob credadun ynddo'n gyfrannog ohonynt trwy ddeddf priodas. Am hynny, yng Nghrist yr ŷm ni bawb sydd yn credu ynddo, yn offeiriaid ac yn frenhinoedd, fel y dywed Pedr (1 ii. 9). Chwychwi ydych genedl etholedig, ei ddewis—bobl Ef, offeiriadaeth frenhinol a brenhiniaeth offeiriadol fel y mynegoch rinweddau'r hwn a'ch galwodd chwi allan o'r Tywyllwch i'w ryfeddol Oleuni Ef." A dyma ystyr offeiriadaeth a brenhiniaeth y saint:
BRENHINIAETH Y CREDADUN.
Yn Gyntaf, ynglŷn â'r frenhiniaeth, fe godir pob Cristion trwy ffydd mor bell uwchlaw pob peth ag i fod mewn grym ysbrydol yn arglwydd ar bob peth. Ni all dim yn y byd wneuthur niwed iddo. Y mae popeth yn hytrach yn ddarostyngedig iddo ac yn is—wasanaethgar i'w iechydwriaeth ef, fel y dysg Sant Pawl: Rhaid yw i bob peth gydweithio er daioni i'r etholedigion" (Rhuf. viii. 28). "Y mae popeth yn eiddo chwi, pa un bynnag ai bywyd neu angau, ai pethau presennol ai pethau i ddyfod, a chwithau'n eiddo Crist." (1 Cor. iii. 22). Nid fel pe bai un Cristion allan o lawer wedi ei ethol i feddiannu a gweini pob eiddo trwy allu daearol—fel y breuddwydia llawer o wŷr eglwysig. Gwaith brenhinoedd a thywysogion yw hynny. Fe'n dysgir gan brofiad ei hun mai ni, yn yr ystyr hon, sy'n ddarostyngedig i bob peth, ac yn dioddef dan lawer o ddrygau hyd at farw. Yn wir, po fwyaf o Gristion fydd dyn, mwyaf i gyd o ddioddef drygau sydd yn ei hanes, fel y dengys hanes Crist ei hun a phawb o'i frodyr, y saint. Y mae'n ddigon amlwg nad arglwyddiaeth ddaearol ond arglwyddiaeth ysbrydol yw'r eiddom ni. Llywodraetha ynghanol gelynion, a dengys ei grym ynghanol erledigaethau. Perffeithir ei nerth mewn gwendid. Fe all orfodi pob peth i hyrwyddo fy iechydwriaeth. Rhaid yw hyd yn oed i'r groes ac angau weini arnaf a chyd— weithio er fy iechydwriaeth. Urddas uchel a gogoneddus yw hon, arglwyddiaeth wir a hollalluog, teyrnas ysbrydol yw. Nid oes dim mor dda na dim mor ddrwg ynddi fel na chydweithia er fy lles os medraf yn unig gredu.
Ar y llaw arall, nid oes arnaf angen am ddim—gan fod ffydd yn ddigon i'm hachub—os arfer fy ffydd ei grym ac arglwyddiaeth ei rhyddid.
Wele'r frenhiniaeth ynteu y mae grym a rhyddid amhrisiadwy'r Cristion ynddi. Brenhinoedd ydym, a'r mwyaf rhydd o bawb.
OFFEIRIADAETH Y SAINT.
Yn Ail, yr ydym yn offeiriaid hefyd am byth. Peth ardderchocach yw hyn na brenhiniaeth; canys trwy'r offeiriadaeth fe'n gwneir yn deilwng i ymddangos ger bron Duw, i eiriol dros eraill ac i addysgu'n gilydd yn y pethau a berthyn i Dduw. Dyletswyddau offeiriaid yw'r rhai hyn, ac ni ellir caniatau i neb anghredadun ymyrryd â hwy.
Enillodd Crist i ni'r fraint, os credwn ynddo, i fod fel brodyr, cydetifeddion a chydfrenhinoedd iddo, ie, a chydoffeiriaid hefyd a faidd ymddangos yn hyderus ger bron Duw, a llefain "Abba Dad" a gweddïo dros ei gilydd a gwneuthur popeth a wneir gan yr offeiriadaeth weledig a daearol wrth ei swydd.
Ond y neb ni chredo, ni all dim weini arno na chydweithio er ei ddaioni. Y mae ef ei hun yn gaethwas i bopeth; a'i hudo i ddrwg a wna pob peth, oblegid defnydd annuwiol a wna o bopeth—i'w les hunanol ef ei hun ac nid i ogoniant Duw. Am hynny, ni all ef fod yn offeiriad: dyn halogedig yw. Try ei weddi'n bechod; ni ddaw byth i olwg Duw.
Pwy ynteu a all amgyffred uchter urddas y Cristion? Arglwyddiaetha trwy ei rym brenhinol ar bob peth, angau a bywyd a phechod a phopeth arall. Yn ei ogoniant offeiriadol, gyda Duw y mae pob peth yn bosibl iddo. Gwna Duw yr hyn a gais, fel y mae'n ysgrifenedig: Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant; gwrendy hefyd eu llefain ac a'u hachub hwynt" (Salm cxlv. 19). I urddas fel hwn, yn sicr ni ddaw neb trwy unrhyw waith o'i eiddo ond trwy ffydd yn unig.
Gwelir yn eglur oddiwrth hyn oll pa fodd y mae'r Cristion yn rhydd oddiwrth bob peth ac uwchlaw pob peth. Nid oes angen arno am unrhyw weithredoedd er mwyn bod yn gyfiawn a bendigaid. Daw popeth iddo'n helaeth trwy ffydd yn unig.
Pe bai mor ffôl â meddwl y gall ddyfod yn gyfiawn, yn rhydd, yn gadwedig ac yn Gristion trwy unrhyw weithredoedd da, fe gollai ar unwaith ffydd ei hun ynghyda'i holl fendithion. Ceir darlun cywir o ffolineb o'r fath yn y ddameg am y ci a red dros afon a darn o gig yn ei safn. Twyllir ef gan gysgod y cig yn y dwfr, a thrwy agor ei geg i'w gipio, fe gyll y darn cig sydd ganddo ynghyda'r cysgod a chwennych.
Ond yma ti ofynni: Wel, os yw pawb sydd yn yr Eglwys yn offeiriaid, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y rhai a elwir yn awr yn offeiriaid a'r lleygwyr?
Fy ateb yw: Gwneir cam â'r geiriau offeiriad, "clerigwr," pan gyfyngir hwy i'r ychydig a elwir yn awr yn ôl arfer ddrwg yn wŷr eglwysig. Ni wna'r Ysgrythur Lân unrhyw wahaniaeth rhyngddynt. Yn unig, fe eilw'r rhai a wasanaetha eraill trwy bregethu'r gair iddynt a'u hyfforddi mewn ffydd yng Nghrist a rhyddid Cristnogol— fe'u geilw hwy'n weinidogion, gweision
stiwardiaid yn lle Pabau ac esgobion ac arglwyddi, fel y gwneir yn awr yn haerllug. Er ein bod ni, bawb fel ei gilydd, yn offeiriaid, ni ddylem oll hyd yn oed pe gallem, weinidog aethu a dysgu'n gyhoeddus. Am hynny y dywed Pawl:
"Cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion i Grist a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw" (1 Cor. iv. 1.).
Erbyn hyn y mae'r hen gyfundrefn ddrwg eglwysig wedi troi'n arddangosfa fostfawr o awdurdod ac yn ormes ofnadwy. Nid oes unrhyw deyrnas nac ymerodraeth i'w chymharu â hi, ac fe edrychir ar aelodau cyffredin yr eglwys fel pe baent rywbeth amgen na Christnogion. Trwy'r trawsedd hwn, fe drenga pob gwybodaeth o ras, o ffydd, o ryddid Cristnogol ac o Grist ei hun. Yn eu lle, fe ddaw caethiwed annioddefol i weithredoedd a deddfau dynol. Fel y dywed Galarnad Ieremeia, fe'n gwnaed ni'n weision i'r gwaelaf o ddynion sydd ar y ddaear, a throesant ein trueni i'w dibenion ysgeler a gwaradwyddus eu hunain (i. 11).
YSTYR PREGETHU CRIST.
I ddyfod yn ôl i'r man y dechreuasom, credaf i mi ddangos yn eglur nad yw'n ddigon nac ychwaith yn beth Cristnogol bregethu gweithredoedd, bywyd a geiriau Crist fel hanes neu gronicl o'r hyn a fu. Nid yw gwybodaeth ohonynt fel esiampl yn ddigon chwaith i feithrin bywyd arno—er mai hon yw ffordd y rhai a gyfrifir y pregethwyr gorau ar hyn o bryd. Llai Cristnogol fyth yw bod yn ddistaw am fywyd a geiriau Crist a dysgu yn eu lle ddeddfau a dyfarniadau'r Tadau. Y mae llawer heddiw'n pregethu ac yn darllen am Grist er mwyn cynhyrfu teimladau dynion i gydymdeimlo â Christ ac i sorri wrth yr Iddewon; a gwnânt lawer o ffolinebau plentynnaidd a benywaidd tebyg. Er mwyn creu ffydd yng Nghrist y dylid pregethu—fel nad arhoso ef yn Grist iddo'i hun yn unig ond yn Grist hefyd i ti a minnau'n bersonol a gweithredu o hono ynom ninnau'r hyn a ddywedir am dano ef mewn hanes a'r hyn yw ef ei hun.
Fe dyf y ffydd hon ac fe'i meithrinir pan bregethir paham y daeth Crist, pa beth a wnaeth ac a roddodd i ni, pa ddefnydd a fedrwn ei wneuthur o hono ac i ba ddiben y dylid ei dderbyn. Hyn a wneir lle bynnag y dysgir iawn ystyr y rhyddid Cristnogol a gawn ganddo ef, a pha fodd y'n gwneir ni bawb o'r Cristnogion yn frenhinoedd ac yn offeiriaid, a pha fodd yr ydym yn arglwyddi ar bob peth, a phaham y gallwn fod yn hyderus y bydd popeth a wnawn yn boddhau Duw, ac y gwrendy Ef arnom ni.
Pa galon, o glywed hyn oll, na lawenycha i'w gwaelodion, ac o dderbyn y fath gysur dirfawr, na swynir gan gariad Crist—cariad na ellir ei gyrraedd trwy unrhyw ddeddfau neu weithredoedd. Pwy a all wneuthur niwed i'r fath galon a bwrw ofn arni? Coded cydwybod ei chri yn erbyn pechod, bwried marw'i ofn arnom, parod fydd y galon hon o hyd i obeithio yn yr Arglwydd. Nid ofna'r drygau gwaethaf, ac ni syflir hi nes gorchfygu o honi ei gelynion oll. Canys cred y Cristion fod cyfiawnder Crist wedi dod yn eiddo iddo, a'i bechod yntau nid yn eiddo ef mwy ond yn eiddo Crist. Diflanna pob pechod o flaen cyfiawnder Crist. Fe ddysg y Cristion gyda'r Apostol i wawdio pechod ac angau a dywedyd: O fedd, pa le mae dy fuddugoliaeth? O angau, pa le mae dy golyn? Colyn angau yw pechod a grym pechod yw'r gyfraith. Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist." (1 Cor. xv. 55). Canys llyncwyd angau mewn buddugoliaeth —nid eiddo Crist yn unig ond yr eiddom ninnau hefyd. Trwy ffydd ac yn ein ffydd y mae'r fuddugoliaeth i ninnau hefyd.
Hyn o draethu, ynteu, am y dyn oddi mewn, am ei ryddid a'r cyfiawnder cyntaf a phennaf sydd o ffydd nad oes arni angen am na deddfau na gweithredoedd. Gwnânt niwed iddi'n hytrach os honna dyn y cyfiawnheir ef drwyddynt.
{{c|II.
GWEITHREDOEDD FFYDD.
TROWN yn awr at y rhan arall: at y dyn allanol. Yma rhoddwn ateb i'r neb a gythruddir gan y gair am arglwyddiaeth ffydd, a'r pethau mawr a ddywedwyd gennym am dani.
Fe ddywedir: Os gwna ffydd bopeth, ac os yw o honi ei hun yn ddigonol i gyfiawnhau, paham ynteu y rhoddir gorchymyn i weithredoedd da? A gawn ni fyw'n esmwyth a segur gan ymfoddloni ar ffydd?
Atebaf innau: Na, nid felly, annuwiolion, nid felly.
Tebyg mai fel hyn y byddai pe na bai gennym ond bywyd oddi mewn ac ysbrydol. Ond ni symudir ni i fyd yr ysbryd hyd y dydd diweddaf yn atgyfodiad y meirw. Tra fôm yma'n y cnawd, ni wnawn ond dechrau cyfeirio'n camre at y bywyd a berffeithir yn y byd a ddaw. Dyna paham y geilw'r Apostol y peth sydd gennym yn y bywyd hwn yn flaenffrwyth yr ysbryd" (Rhuf. viii. 23). Yn y byd a ddaw y cawn gynhaeaf llawn yr ysbryd.
Am hynny, dyma lle perthyn yr hyn a ddywedwyd o'r blaen, sef bod y Cristion yn was i bob peth ac yn ddarostyngedig i bob peth. Lle mae'r Cristion yn rhydd, nid oes a fynno â gweithredoedd; lle mae'n was, gweithredoedd yw'r cwbl.
Ein gwaith yn awr yw gofyn sut y gall y pethau hyn fod.
1. Fel y dywedais, fe gaiff dyn trwy ffydd ddigonedd o gyfiawnder yn ei fywyd mewnol yn yr ysbryd. Caiff bopeth y mae arno angen am dano. Ond rhaid yw i ffydd a'r cyfoeth ysbrydol hwn dyfu o ddydd i ddydd tuag at y bywyd a ddaw. Ar yr un pryd, erys dyn yn y bywyd marwol hwn ar y ddaear, lle y mae gan bob un ei gorff y mae'n rhaid iddo'i lywodraethu, a'r lle y mae dynion eraill y mae'n rhaid iddo gymdeithasu â hwy, a byw yn eu plith.
Dyma'r lle, ynteu, y cyfyd yr angen am weithredoedd. Ni faidd fyw'n esmwyth ac yn segur. Rhaid yw iddo'n wir ddisgyblu ei gorff trwy ymprydiau, gwyliadwriaethau, trwy lafur a thrwy lawer disgyblaeth gyson. Rhaid yw iddo ddarostwng y corff dan lywodraeth yr ysbryd fel yr ufuddhao ac y cydymffurfio â dibenion y bywyd mewnol a ffydd. Rhaid yw cadw'r corff rhag gwrthryfela yn erbyn ffydd a'i rhwystro hi, oblegid dyna anian y cnawd oni osodir ef dan orfod.
Y mae'r dyn oddi mewn wedi cydymffurfio â Duw ac wedi ei greu yn ôl delw Duw trwy ffydd. Ymlawenycha ac ymhyfryda yng Nghrist yr hwn a roddodd fendithion mor fawr iddo. Am hynny, nid oes ganddo ond y gwaith hwn o'i flaen, sef gwasanaethu Duw mewn llawenydd, diolch o gariad ewyllysgar a rhydd.
DISGYBLU'R CORFF.
Ond bod yr enaid a'i holl fryd ar y gwaith hwn, wele yn ei gorff ei hun fe gyfyd gwrthryfelwr cyndyn sydd am wasanaethu'r byd a cheisio'i foddhad ei hun. Hyn ni all ysbryd ffydd ei oddef, ac ni wna chwaith. Y mae mewn brys brwd i ffrwyno a darostwng ewyllys y cnawd. Fel y dywed Pawl: Ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw yn ôl y dyn oddi mewn. Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod." Yr wyf yn cosbi fy nghorff ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd bregethu i eraill, a bod fy hun yn wrthodedig Y rhai sydd yn eiddo Crist a groeshoeliasant y cnawd a'i chwantau" (Rhuf. vii. 22; 1 Cor. ix. 27; Gal. v. 24).
Ond ni ddylid gwneuthur y gweithredoedd hyn gyda'r syniad o ennill cyfiawnder ger bron Duw trwyddynt. Ni all ffydd oddef syniad celwyddog o'r fath gan mai trwyddi hi yn unig y'n cyfiawnheir ni ger bron Duw. Fe ddylai'r gweithredoedd godi o'r angen am ddarostwng y corff a'i buro o'i chwantau pechadurus.
Gan fod yr enaid wedi ei buro trwy ffydd ac wedi troi at gariad Duw, gesyd ei fryd ar buro popeth arall hefyd, a mwy na dim ei gorff ei hun fel y caro popeth Dduw, a'i ogoneddu Ef. Gan hynny, ni all dyn fyw'n segur pe na bai ond oherwydd anghenion ei gorff ei hun. Rhaid yw iddo fod yn brysur mewn gweithredoedd da er mwyn darostwng ei gorff i ufudd-dod. Ond nid moddion i'w gyfiawnhau ger bron Duw yw'r gweithredoedd hyn. Fe'u gwna dyn hwy'n hytrach o'i fodd ac am ddim, o gariad—heb fod dim yn ei feddwl ond boddio'r Duw y dymuna fod yn ufudd was iddo ymhob dim.
Ar yr egwyddor hon, fe all pob dyn wybod yn hawdd i ba fesur ac ymha fodd y dylai ddisgyblu ei gorff. Ymprydied, a gwneled bob gweithred sy'n angenrheidiol i ffrwyno maswedd a chwantau ei gorff. Nid yn y gweithredoedd eu hunain y mae'r gwerth ond yn eu diben. A'r rhai sy'n gosod y gwerth ar y gweithredoedd eu hunain mor bell â niweidio'u hymennydd, a dinistrio'u galluoedd naturiol. Nid yw hyn ond ffolineb anferth, a ffrwyth anwybodaeth o ystyr bywyd Cristnogol a ffydd. Cyfyd o'r mympwy y gall dyn ei achub ei hun trwy ei weithredoedd.
Er mwyn egluro'r hyn a feddyliwn ymhellach, goddefer i ni ei osod allan mewn ffigur. Dylid edrych ar weithredoedd y Cristion a gyfiawnheir ac a achubir trwy ei ffydd o ras rhad Duw a'i drugaredd, yn yr un golau â gweithredoedd Adda ac Efa ym Mharadwys. Am danynt hwy, fe ddywedir: "A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn ac a'i gosododd ef yng ngardd Eden i'w llafurio ac i'w chadw hi" (Gen. ii. 15). Yn awr, fe grewyd Adda gan Dduw yn gyfiawn ac uniawn. Ni allai fod angen am ei gyfiawnhau a'i wneuthur yn uniawn trwy gadw'r ardd a'i llafurio hi. Rhoddodd Duw'r gwaith hwn iddo er mwyn ei gadw rhag segura.
Dyma ynteu weithredoedd a wneir mewn rhyddid perffaith er mwyn boddio Duw yn unig ac nid er mwyn cyfiawnhau dyn.
Y mae'r un peth yn wir am weithredoedd y credadun. Gosodir ef gan ei ffydd o'r newydd ym Mharadwys—wedi ei greu o'r newydd. Nid oes arno angen am weithredoedd i'w gyfiawnhau ond er mwyn ei gadw rhag segura ac er mwyn disgyblu ei gorff a'i gynnal. Dylai wneuthur ei weithredoedd da o'i fodd ac i foddio Duw.
Y drwg yw nad ydym eto wedi ein cwbl—greu o'r newydd mewn ffydd a chariad perffaith. Rhaid yw i'r ffydd a'r cariad gynyddu—ond trwyddynt eu hunain ac nid trwy weithredoedd.
DYN A'I WEITHREDOEDD.
Dyma enghraifft arall. Pan gysegro esgob eglwys, pan weinyddo Gonffirmasiwn, neu pan gyflawno unrhyw ddyletswydd arall a berthyn i'w swydd, amlwg_yw nad trwy'r gweithredoedd hyn y cysegrir ef yn esgob. I'r gwrthwyneb, oni bai ei fod eisoes wedi ei gysegru'n esgob, ni fyddai gwerth dilys yn un o'r gweithredoedd hyn. Ni fyddent ond pethau ffôl, plentynnaidd a diystyr. Yr un modd am y Cristion—wedi ei gysegru gan ei ffydd, fe wna weithredoedd da. Ni wneir ef yn ddyn mwy cysegredig nac yn Gristion trwyddynt. Gwaith ffydd yn unig yw hynny. Yn wir, oni bai ei fod eisoes yn gredadun ac yn Gristion, ni fyddai gwerth yn y gweithredoedd a wna. Pechodau annuwiol a damniol a fyddent. Am hynny, y mae gwirionedd yn y ddau ddywediad hyn: "Ni wna gweithredoedd da, ddyn da; ond dyn da a wna weithredoedd da. Ni wna gweithredoedd drwg, ddyn drwg; ond dyn drwg a wna weithredoedd drwg."
Anghenrhaid yw bod y sylwedd neu'r person yn dda cyn y gellir gwneuthur gweithredoedd da; ac fe ddylai gweithredoedd da godi o berson da. Fel y dywed Crist: Ni all pren drwg ddwyn ffrwythau da; a phren da ni all ddwyn ffrwythau drwg" (Mat. vii. 18). Eglur yw nad y ffrwyth sydd yn dwyn y pren. Nid yw pren chwaith yn tyfu ar y ffrwyth. I'r gwrthwyneb, y pren sydd yn dwyn y ffrwyth, ac ar y pren y tyf y ffrwyth. Rhaid yw i'r pren fodoli o flaen ei ffrwyth, ac nid y ffrwyth a wna'r pren yn dda nac yn ddrwg. Yn hytrach, y mae pob math o bren yn dwyn ffrwyth o'r un math â'r pren ei hun—drwg neu dda.
Yn yr un modd rhaid yw i'r dyn ei hun fod yn ddrwg neu dda cyn y gall wneuthur gwaith drwg neu dda. Nid ei weithredoedd a'i gwna yn ddrwg neu'n dda, ond ef ei hun a wna'r gweithredoedd yn ddrwg neu'n dda.
Gwelir yr un peth ynglŷn â phob crefft. Ni wna tŷ da neu wael y saer yn dda neu'n wael; ond saer da neu wael a wna dŷ da neu wael. Ni wna'r gwaith y gweithiwr yr un fath â'r gwaith, ond y gweithiwr a wna waith yr un fath ag ef ei hun.
Y mae'r un peth yn wir hefyd am weithredoedd dynion. Fel y dyn ei hun, ffyddiog neu anghrediniol fydd y weithred a wna—da, os bydd y weithred o ffydd, drwg os o anghrediniaeth.
Ond nid yw'r gosodiad cyferbyn yn wir—fel y weithred, felly y bydd y dyn. Canys ni wna gweithredoedd ddyn yn gredadun. Ni wnânt ddyn wedi ei gyfiawnhau chwaith. Ond ffydd a wna ddyn yn gredadun, a gwna hefyd ei weithredoedd yn dda.
Am hynny, gan na chyfiawnheir neb trwy weithredoedd a bod yn rhaid cyfiawnhau dyn cyn y gall wneuthur unrhyw weithred dda, ni all dim fod yn eglurach na'r ffaith mai trwy ffydd yn unig o drugaredd Duw yng Nghrist a thrwy gyfrwng ei air y gellir cyfiawnhau dyn yn llwyr a'i achub; nid oes ar y Cristion angen am unrhyw weithredoedd na deddf er mwyn ei achub. Trwy ffydd y mae'n rhydd oddiwrth bob deddf. O'i fodd mewn rhyddid perffaith y gwna bopeth a wna, heb ofyn am ddim ond boddio Duw gan ei fod eisoes yn gyfoethog o bob peth a thrwy ras Duw yn gadwedig trwy ffydd.
Y mae'n ddigon gwir y gall dynion weled a yw neb yn ddrwg neu yn dda trwy ei weithredoedd. Fel y dywed Crist: "Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy" (Mt. vii. 20). Ond mater o arddangosiad allanol yw hyn oll; ac fe'u twylla llawer eu hunain pan feiddiant ysgrifennu a dysgu y cyfiawnheir ni gan weithredoedd da heb hyd yn oed enwi ffydd. Cerddant yn eu ffyrdd eu hunain. Twyllant eraill a thwyllir hwy. Ant o ddrwg i waeth—y dall yn arwain y dall, yn eu blino'u hunain â llawer o weithredoedd ac heb byth gyrraedd gwir gyfiawnder. Am y bobl hyn y dywed Pawl: A chanddynt ffurf duwioldeb ond yn gwadu ei rym, yn dysgu beunydd ond heb fyth ddyfod i wybod y gwirionedd (2 Tim. iii. 5, 7).
GWERTH GWEITHREDOEDD.
Pwy bynnag ynteu nad yw am fyned ar ddisberod gyda'r deillion hyn, rhaid yw iddo edrych ymhellach na gweithredoedd y ddeddf neu athrawiaeth gweithredoedd. Rhaid yw iddo'n wir droi oddiwrth weithredoedd o bob math a chadw'i lygad ar y person a'r modd y gellir ei gyfiawnhau. Trwy air Duw (hynny yw trwy addewid ei ras) a ffydd y cyfiawnheir ac yr achubir ef—fel y byddo'r gogoniant i Fawrhydi Duw a'n hachubodd yn ôl ei drugaredd trwy air ei ras.
Oddiwrth hyn oll, hawdd yw deall ar ba egwyddor y dylid gwrthod neu dderbyn gweithredoedd da ac wrth ba reol y dylid deall pob athrawiaeth a ddysgir am weithredoedd. Canys os cysylltir gweithredoedd â chyfiawnder, ac os gwneir hwy o dan yr argyhoeddiad celwyddog a dieflig y'n cyfiawnheir trwyddynt, fe'n gwthiant ni dan iau caethiwed. Dinistriant ryddid ynghyda ffydd, ac oherwydd hynny nid ŷnt mwy'n dda ond yn ddamniol. Nid gweithredoedd rhydd ydynt mwyach, a chablant ras Duw i'r hwn yn unig y perthyn y gwaith o'n cadw trwy ffydd. Hyn ni allant ei gyflawni, ac eto yn eu rhyfyg annuwiol fe honnant ei wneuthur, a thrwy hynny cipiant trwy drais swydd gras a'i ogoniant.
Gan hynny, nid gwrthod gweithredoedd da yr ydym. Yn hytrach derbyniwn a dysgwn hwy hyd yr eithaf. Nid y gweithredoedd eu hunain a gondemniwn ond yr ychwanegiad annuwiol atynt a'r syniad pengam o geisio'n cyfiawnder trwyddynt. Oherwydd y syniad hwn nid ydynt yn weithredoedd da ond mewn enw'n unig. Twyllir dynion ganddynt a'r dynion a dwylla eraill trwyddynt fel bleiddiaid rheibus yng ngwisgoedd defaid.
Ond fe geir y syniad pengam hwn fel rhyw Lefiathan mawr anorchfygol lle bynnag nad oes ffydd syml yn bodoli. Ni ellir ei fwrw allan gan wneuthurwyr gweithredoedd santaidd hyd nes y daw ffydd i'w ddinistrio a llywodraethu yn ei le yn y galon. Ni all natur ei fwrw allan yn ei grym ei hun. Yn wir, nid adnebydd ef yn iawn. Cydnebydd ef yn hytrach fel pe bai'r diben santeiddiaf. A phan ddaw defod hefyd a chadarnhau llygredd natur (fel y digwydd trwy athrawon annuwiol), fe wneir y drwg yn anaele, fe huda filoedd i ddifancoll, ac nid oes diwedd ar y distryw a wna.
Am hynny, er mai da yw pregethu edifeirwch ac ysgrifennu am dano, ac am gyffes iawn, twyllodrus a dieflig yw'r athrawiaethau hyn yn ddiau os arhosir gyda hwy heb ddysgu ffydd yn gyflawn. Am hynny y dywedodd Crist a Ioan nid yn unig "Edifarhewch," ond gan ychwanegu'r gair am ffydd dywedant, "Y mae Teyrnas Nefoedd yn neshau" (Mt. iv. 7).
Rhaid yw pregethu dau air Duw ac nid un yn unig, dwyn y newydd a'r hen allan o'r drysorfa, llais y ddeddf a gair gras. Fe ddylid cyhoeddi llais y ddeddf i fwrw ofn ar ddynion a'u dwyn i wybod a theimlo'u pechodau, a thrwy hynny eu dwyn i edifarhau a'u troi i ffordd well o fyw. Ond ni ddylid aros yma. Clwyfo'n unig a fyddai hynny heb geisio gwella, taro'n unig heb iachau, lladd heb adfywhau, bwrw i uffern heb ddwyn yn ôl, darostwng yn unig heb ddyrchafu. Am hynny, fe ddylid hefyd bregethu gair gras a'r addewid am faddeuant er mwyn dysgu a chreu ffydd. Canys heb ffydd, ofer yw dysgu deddf ac edifeirwch. Gwir bod yn ein plith o hyd bregethwyr edifeirwch a phregethwyr gras, ond nid ydynt yn llwyddo i gyfuno'r ddeddf â'r addewid er mwyn dysgu dynion ymha fodd y daw edifeirwch a gras. Canys o ddeddf Duw y daw edifeirwch, ond ffydd neu ras a ddaw o addewid Duw fel y dywed Pawl: "Ffydd o glywed ond clywed trwy air Duw " (Rhuf. x. 17). Dyna paham y cysurir ac y dyrchefir ysbryd dyn trwy ffydd yn addewid Duw ac yntau wedi ei ddarostwng trwy fygythion ac ofn deddf Duw ac wedi ei ddwyn i wybodaeth o hono ei hun. "Dros brynhawn yr erys wylofain; erbyn y bore bydd llawenydd" (Salm xxx. 5).
Hyn a ddywedwn am weithredoedd yn gyffredin ac yn arbennig am y gweithredoedd hynny yr ymarfer y Cristion â hwy ynglŷn â'i gorff ei hun.
GWEITHREDOEDD CARIAD.
2. Yn olaf, trown at weithredoedd y Cristion i'w gymdogion. Nid yw dyn yn byw iddo'i hun nac i'w gorff marwol ef ei hun yn unig, ond i bawb o'r dynion ar y ddaear hefyd. Yn wir, er mwyn eraill yn unig y mae'n byw ac nid er ei fwyn ei hun. Diben disgyblu a darostwng ei gorff yw ei alluogi i wasanaethu eraill yn fwy rhydd a gonest. Fel y dywed Pawl: "Nid yw'r un o honom yn byw iddo'i hun nac yn yn marw iddo'i hun. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw" (Rhuf. xiv. 7, 8). Am hynny, amhosibl yw i'r Cristion fyw'n segur yn y bywyd hwn heb weithio er daioni i'w gymdogion. Rhaid yw iddo siarad â hwy a gweithio a byw yn eu plith, fel Crist ei hun a fu byw fel dyn ymhlith dynion. . . .
Dyma ynteu'r hyn a ddylai'r Cristion ei gadw mewn golwg yn ei holl weithredoedd, sef gwasanaethu eraill ymhob dim a wna, heb feddwl am ddim ond am angen a lles ei gymydog. Gorchymyn yr Apostol yw i ni weithio â'n dwylo fel y byddo gennym beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno (Eph. iv. 28). Gallai fod wedi dywedyd "fel y medrom ein cynnal ein hunain," ond" cyfrannu " a ddywed i'r hwn y mae angen arno."
Y mae gofalu am ein corff yn waith Cristionogol am ei fod yn ein galluogi ni, trwy ei iechyd a'i gryfder, i lafurio ac i ennill a chadw cyfoeth a fydd yn help i rai mewn angen. Fel hyn y gwasanaethir y gwan gan y corff ac y down ninnau'n blant Duw yn gofalu ac yn gweithio dros ein gilydd, yn dwyn beichiau ein gilydd a chyflawni cyfraith Crist.
Wele! dyma'r bywyd Cristnogol gwir, dyma ffydd yn gweithio mewn gwirionedd trwy gariad, pan rydd dyn ei hun mewn llawenydd a chariad i gaethiwed gweithredoedd o'i fodd er mwyn gwasanaethu eraill yn rhad ac am ddim, ac yntau ei hun wedi ei foddio'n llwyr ar gyflawnder cyfoeth ei ffydd. Hyn yw ystyr y gair a ddywed Pawl ar ôl iddo ddysgu'r Philippiaid am y cyfoeth a ddaeth iddynt trwy eu ffydd yng Nghrist: "Od oes gan hynny ddim cysur yng Nghrist. . . nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, ond ar yr eiddo eraill hefyd " (Phil. ii, 1—4). Gwelir yn eglur y gesyd yr Apostol y rheol hon i lawr ynglŷn â'r bywyd Cristnogol, sef mai er mwyn eraill y dylem wneuthur ein holl weithredoedd. Y mae gan y Cristion ddigonedd o bob peth yn ei ffydd. Y mae ei holl weithredoedd eraill a'i holl fywyd allanol ganddo dros ben i wasanaethu a gwneuthur lles i'w gymydog o wirfodd ei galon. Er mwyn ein perswadio i hyn, fe ddengys Grist i ni fel esiampl: "Bydded ynoch y meddwl yma yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu, yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw, ond efe a'i gwaghaodd ei hun gan dderbyn ffurf gwas, ei wneuthur yng nghyffelybiaeth dynion a'i gael mewn dull fel dyn, fe fu'n ufudd hyd angau.
Tywyllwyd ystyr y gair iachusaf hwn o eiddo'r Apostol gan rai na ddeallasant y geiriau "ffurf Duw, ffurf gwas, a chyffelybiaeth dynion." Meddyliwyd mai sôn yr oedd Pawl am natur y Duwdod a natur dynoliaeth. Ond y peth y mae am ddywedyd yw hyn. Pan oedd Crist yn gyflawn ar ffurf Duw ac yn llawn o bopeth da, fel nad oedd arno angen am na gweithredoedd na deddf er mwyn bod yn gyflawn a chadwedig (gan fod yr holl bethau hyn ganddo o'r dechrau); eto nid ymfalchiodd ynddynt hwy, nis cododd ei hun uwchlaw i ni ac ni hawliodd unrhyw awdurdod drosom ni. I'r gwrthwyneb, gwnaeth bob peth—gweithredu a llafurio, dioddef a marw—fel pe bai debyg i ddynion eraill ac fel pe bai angen arno am wneuthur yr holl bethau hyn. Gwnaeth y cwbl er ein mwyn ni, i'n gwasanaethu ni fel y deuai'r holl weithredoedd a wnâi ef yn ei yrfa ddynol yn eiddo i ninnau hefyd. Cafodd Y Cristion hefyd fel ei Ben, sef Crist, afael ar ffurf Duw," a llannwyd ef â phopeth da trwy ffydd. Y mae'r ffydd hon i'w pherffeithio. Dyma fywyd y Cristion, ei gyfiawnder a'i gadwedigaeth. Trwy'r ffydd hon y cedwir ef. Trwyddi hi y medr foddio Duw. Trwyddi hi hefyd y daw iddo bopeth sydd gan Grist.
Ond er ei fod fel hyn yn rhydd oddiwrth bob gweithred— oedd, fe ddylai er hynny roi heibio'r rhyddid hwn a derbyn ffurf gwas," ei wneuthur mewn cyffelybiaeth dynion a'i "gael mewn dull fel dyn." Dylai wasanaethu a helpu a thrafod ei gymydog yn union fel y gwêl Dduw'n ei drafod ef trwy Grist. Hyn oll a ddylai ei wneuthur o'i fodd heb feddwl am ddim ond boddio Duw.
Fel hyn y dylai ymresymu ag ef ei hun: Wele! fy Nuw, heb unrhyw haeddiant o'm tu i, o'i drugaredd pur a rhad yn unig, a roddodd i mi, greadur annheilwng condemniedig, holl gyfoeth cyfiawnder a chadwedigaeth yng Nghrist. Nid wyf mwy mewn angen am ddim ond ffydd i gredu bod hyn yn wir. I Dad fel hwn, ynteu, a'm llethodd â'i gyfoeth mor amhrisiadwy, oni wnaf innau, o wirfodd fy nghalon, yn rhydd ac yn llawen, bopeth a wn a fydd yn ei foddio? Rhoddaf fy hunan fel math o Grist i'm cymydog, fel y rhoddodd Crist ef ei hunan i mi. Ni wnaf ddim yn fy mywyd ond yr hyn a welaf y bydd angen ar fy nghymydog am dano a'r hyn a fydd o les iddo ef, gan fod popeth da gennyf i eisoes yng Nghrist trwy ffydd. Wele! dyma fel y llifa cariad a llawen— ydd yn yr Arglwydd o ffydd; ac o gariad fe lifa ysbryd rhadlon, rhydd ac eiddgar, parod o'i fodd i wasanaethu cymydog heb ddisgwyl am ddiolch, trwy glod a thrwy anfri, heb ofyn am dâl nac ofni cosb. Nid ennill clod dynion yw diben bywyd fel hwn. Gwasanaetha gyfeillion a gelynion, y diolchgar a'r diddiolch fel ei gilydd. Fe rydd ei hun ac fe wna ddaioni, diolch neu beidio, ennill neu golli. Fel y Tad, yr hwn a rydd bopeth i bawb yn rhydd ac yn hael ac a wna i'w haul godi ar y cyfiawn a'r anghyfiawn, felly hefyd y gweithreda'r mab. Fe wna ac fe ddioddef y cwbl mewn llawenydd rhydd yn ôl mesur y llawenydd sydd ganddo trwy Grist yn Nuw.
Am hynny, ti weli pan sylweddolwn mor fawr a gwerthfawr yw'r bendithion a roddwyd i ni, fe lifa cariad ar unwaith trwy'r ysbryd a'r galon fel y dywed Pawl (Rhuf. v. 5).
Fe'n gwna ni'n rhydd a rhadlon, yn rymus, yn weithgar, yn goncwerwyr ar ein holl brofedigaethau, yn wasanaethwyr ein cymdogion, ac ar yr un pryd yn arglwyddi ar bob peth. Pwy bynnag ni theimla werth y bendithion a gânt trwy Grist, iddynt hwy yn ofer y ganwyd Crist.
POB CRISTION YN GRIST.
Yn union fel y mae'n cymydog mewn eisiau ac yn gofyn o'n cyflawnder ni, felly yr oeddym ninnau mewn angen gerbron Duw o eisiau ei drugaredd ef. Am hynny fel y cynorthwyodd y Tad nefol nyni yng Nghrist yn rhad, felly y dylem ninnau helpu'n cymydog yn rhad trwy'n corff a phob gweithred o'n heiddo. Dylai pob un o honom fod yn fath o Grist i'r lleill. Dylai pob un o honom fod yn Grist i'w gilydd, a'r un Crist ynom oll. Hynny yw, dylem fod yn Gristnogion yn wir.
Pwy ynteu a all amgyffred cyfoeth a gogoniant bywyd y Cristion? Fe all bob peth; y mae popeth ganddo; nid oes arno eisiau dim; y mae'n arglwydd ar bechod, angau ac uffern. Ar yr un pryd y mae'n was ufudd i bawb. Ond gwae ni nid oes neb yn y byd yn gwybod dim am beth o'r fath heddiw. Ni phregethir ef. Nid oes neb yn ei geisio. Anwybodus ydym am ein henw ein hunain, paham yr ydym yn Gristnogion a phaham y'n gelwir ni wrth yr enw. Sicr yw mai ar enw Crist y'n gelwir—y Crist nad yw bell oddiwrthym ond yn trigo ynom, cyhyd, hynny yw, ag y credwn ynddo ef a chyhyd ag y byddom yn Gris y naill i'r llall, bob un i'w gilydd, ac yn gwneuthur â'n cymydog fel y gwna Crist â ni. Heddiw, ysywaeth, yn ôl athrawiaeth dynion, ni'n dysgir ond i geisio tâl a gwobrwy a phethau sydd gennym eisoes. Gwnawn Grist yn erbyn ei ewyllys yn gaethfeistr caletach na Moses. . .
Gall pob un sydd â'r wybodaeth hon ganddo'i gadw ei hun yn hawdd rhag pob perygl ynghanol gorchmynion ac ordeiniadau dirif y Pab a'r esgobion, y mynachtai, yr eglwysi, y tywysogion a'r ynadon. Fe ddywed rhai bugeiliaid ffôl fod ufuddhau i'r holl orchmynion hyn yn hanfodol er mwyn ein hachub, a galwant hwy'n ordeiniadau'r eglwys. Nid ydynt ddim o'r fath. Er hynny, fe ddywed y Cristion a ŵyr ei fod yn rhydd oddiwrthynt fel hyn wrtho'i hunan: Mi ymprydiaf, mi weddïaf, gwnaf y peth hwn a'r peth arall a orchmynnir i mi gan ddynion—nid am fod eu hangen arnaf, ond am fy mod yn barod i wneuthur a dioddef pob peth er mwyn fy ngosod fy hun at wasanaeth y Pab, yr esgob, y cyfundeb hwn neu'r awdurdod arall, neu er mwyn esiampl i'm cymydog. Fe wnaeth Crist ac fe ddioddefodd lawer mwy trosof i er nad oedd angen arno am eu gwneuthur er ei fwyn ei hun. Ac er i ormeswyr wneuthur cam â mi a'm treisio trwy fynnu ufudd-dod o'r fath oddiwrthyf, er hynny ni wnânt niwed i mi cyd ag na bônt yn erbyn Duw.
Oddiwrth hyn oll, fe all unrhyw un feithrin barn sicr a dysgu'r ffordd i wahaniaethu'n gyson rhwng gwahanol weithredoedd a deddfau, a gwybod yn iawn pwy sydd ddall a ffôl a phwy sydd onest a da ymhlith y gweinidogion. Pa waith bynnag nad etyb i'r diben naill ai i ddisgyblu'r corff neu i wasanaethu cymydog—a chaniatau na ofyn am ddim sydd yn erbyn ewyllys Duw—nid yw'r gwaith hwnnw'n dda nac yn Gristnogol.
Ofnaf yn fawr hefyd nad oes mwy nag ychydig, os oes un o'n sefydliadau eglwysig, ein mynachtai, ein gweithredoedd a'n swyddi eglwysig a haedda'r enw Cristnogol. Gellid dywedyd yr un peth am ein hymprydiau a'n gweddïau arbennig i seintiau arbennig. Ofnaf, meddaf, mai dibenion hunanol yn unig a geisiwn yn yr holl bethau hyn. Hynny yw, credwn y gwneir iawn am ein pechodau ac y cawn afael ar iechydwriaeth trwyddynt. Am hynny, dinistriant seiliau’n rhyddid Cristnogol.
Hyn a ddaw o anwybodaeth am ystyr a gwerth ffydd a rhyddid Cristnogol. Gwneir yr anwybodaeth hon yn fwy a'r dinistr yn llwyrach gan lawer o weinidogion dall sydd wrthi'n brysur yn annog ac yn cymell y bobl i lynu'n ffyddlonach wrth y pethau allanol hyn, gan eu moli ac utganu eu clod trwy eu maddeuebau ac anghofio dysgu ffydd yn llwyr.
Ar hyn rhoddaf gyngor dwys i ti: Os yw dy fryd ar weddïo neu ymprydio neu ar roi gwaddol i sefydliad eglwysig, gofala na wnei hynny er mwyn derbyn unrhyw les tymhorol na thragwyddol i ti dy hun. Canys trwy hynny gwnei gam â'th ffydd. Hi yn unig a all roi popeth i ti―a'r unig beth y dylit ofalu am dano trwy dy waith a'th ddioddef yw hyrwyddo'i chynnydd hi. Os rhoi, rho o'th fodd ac yn rhad fel y caffo eraill fudd a lles ohonot ti a'th ddaioni. Dyna'r ffordd i fod yn dda ac yn Gristion. Pa beth yw dy weithredoedd da a'th feddiannau i ti yn fwy na moddion i ddarostwng a disgyblu dy gorff, gan fod gennyt ddigonedd i ti dy hun yn dy ffydd. Ynddi hi, fe roddodd Duw i ti bob peth.
Dyma reol dda i ti fe ddylai'r pethau da a gawn gan Dduw lifo o un i'r llall a dyfod yn gyffredin i bawb, a phob un fel pe bai'n mynd i mewn i fywyd ei gymydog ac yn delio â'i gymydog fel pe bai ef ei hun wedi cymryd lle ei gymydog. Llifasant a llifant oddiwrth Grist atom ni. Gwisgodd ni am dano a gweithredodd trosom ni fel pe bai ef ei hun yr hyn ydym ni. Oddiwrthym ni fe lifa'r bendithion at y rhai sydd mewn angen am danynt. Fe ddylai fy ffydd a'm cyfiawnder i ddyfod ger bron Duw i eiriol dros bechodau fy nghymydog. Dylwn wisgo fy nghymydog am danaf fy hun a byw a dioddef fel pe bai'n eiddo i mi. Felly y gwnaeth Crist trosom ni. Hwn yw gwir gariad a gwirionedd gonest bywyd y Cristion. Nid yw'n onest nac yn wir ond lle mae ffydd onest a gwir. Oherwydd hyn y dywed yr Apostol am gariad: "Nid yw'n ceisio'r eiddo ei hun."
Ein casgliad gan hynny yw nad yw'r Cristion yn byw iddo'i hun ond i Grist a'i gymydog. Heb hyn, nid oes Gristion yn
bod. Byw yng Nghrist trwy ffydd a wna ac yn ei gymydog trwy gariad. Trwy ffydd codir ef uwchlaw ef ei hunan at Dduw. Trwy gariad darostyngir ef islaw iddo'i hun at ei gymydog, gan aros o hyd ar yr un pryd yn Nuw a'i gariad fel y dywed Crist: "Yn wir y dywedaf i chwi, ar ôl hyn cewch weled y nef yn agored ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar fab y dyn " (Ioan i. 51).
Fe fydd hyn yn ddigon ynglŷn â rhyddid. Fel y gwelwch, rhyddid gwir yr ysbryd yw, a wna'n calonnau'n rhydd oddiwrth bob pechod, deddf a gorchymyn, fel y dywed Pawl:
Ni wnaethpwyd y ddeddf ar gyfer y cyfiawn" (I Tim. i. 9). Rhyddid yw a gyfyd ymhell uwchlaw pob rhyddid allanol arall, fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear. Rhodded Crist i ni ddeall o'r rhyddid hwn a grym i'w ddiogelu. AMEN. (Hyd yma, fel y danfonwyd y traethawd i'r Pab.)
RHYDDID, NID PENRHYDDID.
Yn ddiweddglo, gosodaf air yn ychwaneg at yr uchod, er mwyn y bobl na ellir dywedyd dim yn rhy eglur iddynt ei gamddeall, mewn gobaith gwan y llwyddant y tro hwn i ddeall fy neges. Y mae llu o bobl, cyn gynted ag y clywant am y rhyddid hwn sydd o ffydd, a'i troant ar fyr yn gyfle nwyd a blys penrhydd. Ni fynnant weled dynion rhydd a Christnogion mewn dim ond mewn beirniadu a dirmygu seremonïau, traddodiadau a deddfau dynol, fel pe credent eu bod yn Gristnogion am nad ydynt yn ymprydio ar y dyddiau penodedig, neu am eu bod yn bwyta pan fydd eraill yn ymprydio, neu am nad offrymant y gweddïau arferedig. Tybiant fod rhinwedd mewn dirmygu ordeiniadau dynion ac anghofio popeth arall a berthyn i Gristnogaeth. Ar y llaw arall, gwrthwynebir y bobl hyn yn gyndyn gan y rhai a gais iechydwriaeth trwy eu gofal am seremonïau yn unig fel ped achubid hwy am eu bod yn ymprydio ar y dyddiau penodedig neu am eu bod yn adrodd y gweddïau eglwysig. Molant ordeiniadau'r eglwys a'r tadau ond ni hidiant flewyn am y pethau a berthyn i'r wir ffydd.
Y mae'r ddwy blaid yn eglur ar fai gan eu bod yn esgeuluso'r pethau sydd o bwys ac yn hanfodol i iechydwriaeth ac yn cweryla'n stwrllyd am bethau dibwys a diangen.
Gymaint gwell yw cyngor yr Apostol a'n dysg i gerdded ar ganol y ffordd, gan osgoi'r eithafion o bob tu: Yr hwn sydd yn bwyta na ddirmyged yr hwn nid yw'n bwyta; a'r hwn nid yw'n bwyta na farned yr hwn sydd yn bwyta.' (Rhuf. xiv. 3). Gwelwch fel y beiir yma'r bobl hynny a esgeulusa ac a ddifrïa'r seremonïau, nid oherwydd duwioldeb, ond mewn dirmyg. Dysg yr Apostol hwy i beidio â dirmygu: gan na ddengys hynny ond gwybodaeth yn ymchwyddo. Ond fe ddysg hefyd y bobl a lŷn yn gyndyn wrth seremonïau i beidio â chondemnio'u gwrthwynebwyr. Nid yw un o'r ddwy ochr yn arfer y cariad sy'n adeiladu.
Ar y mater hwn, dylem wrando'r Ysgrythur a'n dysg i beidio â throi i'r dde nac i'r aswy law ond dilyn yn gyson orchmynion yr Arglwydd a lawenha'r galon. Nid yw neb yn gyfiawn am ei fod yn gofalu am ddefodau seremonïol ac yn glynu wrth weithredoedd. Ni chyfrifir ef yn gyfiawn chwaith am ei fod yn eu hesgeuluso a'u dirmygu. Mewn gwirionedd, nid oddiwrth weithredoedd y rhyddheir ni gan ffydd yng Nghrist ond oddiwrth ofergoel gweithredoedd, hynny yw, oddiwrth y rhyfyg a ymddiried mewn gweithredoedd am iechydwriaeth. Gwaredir ein cydwybodau, fe'u gwneir yn gywir a chedwir hwy gan ffydd am mai trwyddi hi y sylweddolwn na ellir ein cyfiawnhau trwy weithredoedd, er na allwn ac na ddylem fod heb weithredoedd da, mwy nag y medrwn fyw heb fwyta ac yfed a holl waith y corff marwol hwn. Tra fôm yn y byd hwn gosodir ni dan orfod gan anghenion bywyd y corff: ond nid ynddynt hwy y mae ein bywyd. Fy mrenhiniaeth i nid yw oddiyma nac o'r byd hwn," meddai Crist; ond ni ddywedodd: "Fy mrenhiniaeth i nid yw yma nac yn y byd hwn." Fe ddywed Pawl: "Er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd! Yr hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw (Gal. ii. 20; 1 Cor. x. 3).
Am hynny, dan orfod y bywyd hwn yn y byd ac er mwyn llywodraethu'r corff y gwnawn ein holl weithredoedd ac y dilynwn ein defodau. Dyna paham y dylai'r Cristion gerdded canol y ffordd a gwybod pa fodd i drafod y ddau ddosbarth a ennwyd.
Gall gyfarfod â defodwyr ystyfnig a phengam a wrthyd fel y nadroedd byddair, wrando ar y gwirionedd am ryddid. Molant eu seremonïau a chymhellant hwy arnom fel pe gallent ein cyfiawnhau heb ffydd. Pobl o'r fath oedd yr Iddewon na fynnent ddeall er mwyn byw'n iawn. Fe ddylai'r Cristion wrthwynebu'r dynion hyn, gweithredu'n hollol groes i'w harfer hwy a'u tramgwyddo'n hy rhag iddynt dwyllo llawer eraill â'r syniad annuwiol hwn o'u heiddo. Yng ngolwg defodwyr o'r fath, peth da yw bwyta cig a thorri rheolau ympryd a bod yn hy, i wneuthur yn enw rhyddid ffydd y pethau a gyfrifir ganddynt hwy y pechodau pennaf. . .
O'r ochr arall, fe all y Cristion hefyd gyfarfod â dynion syml, heb wybodaeth, y gwan eu ffydd," fel y geilw'r Apostol hwy—pobl wedi methu ganddynt hyd yn hyn ddeall na derbyn y rhyddid hwn sydd o ffydd, pa mor barod bynnag fônt i'w dderbyn. Dylem fod yn dyner wrthynt hwy rhag eu tramgwyddo. Dylem arfer amynedd wrth eu gwendid hyd nes y dysgant well. Nid o falais y gweithredant ond o wendid ffydd. Am hynny, yn hytrach na'u tramgwyddo, dylem ymprydio ar yr amserau penodedig a gwneuthur llawer o bethau eraill hanfodol yn eu golwg hwy ond diangen i'n ffydd ni. Gofynnir am hyn oddiarnom gan gariad na wna niwed i neb ond a wasanaetha bawb. Nid ar y personau hyn y mae'r bai am eu bod yn wan, ond ar eu bugeiliaid a'u dug yn gaeth yn rhwydau eu traddodiadau y gweinidogion a glwyfodd eu heneidiau pan ddylasent roi rhyddid a iechyd iddynt trwy eu galw i ffydd. Os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd," meddai'r Apostol, ni fwytaf i gig fyth. Mi wn nad oes dim, trwy yr Arglwydd Iesu, yn aflan ond i'r hwn sydd yn tybied bod peth yn aflan: ond beius yw'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd." (1 Cor. viii. 13; Rhuf. xiv. 14, 20).
Am hynny, dylem wrthwynebu'n hy yr athrawon a esyd yr holl bwys ar draddodiadau, a dylem farnu'n llym ddeddfau'r pendefigion eglwysig sydd yn drais ar bobl Dduw. Ar y llaw arall, dylem arbed y dorf ofnus sydd mewn caethiwed i ddeddfau'r gormeswyr annuwiol hyn hyd nes y rhyddheir hwy. Ymladder â'r bleiddiaid rheibus, ond dros y defaid ac nid i'w herbyn. Gelli wneuthur hyn trwy wrthwynebu'r deddfau a'r deddfroddwyr, os ufuddhei ar yr un pryd i'r deddfau gyda'r gweiniaid hyd nes y teimlant faich yr ormes eu hunain a deall ystyr eu rhyddid. Os mynni arfer dy ryddid, paid â gwneuthur hyn yn gyhoeddus lle gwelo'r gwan.
Fel y dywed yr Apostol: "A oes ffydd gennyt ti? Bydded hi gyda thi dy hun ger bron Duw?" (Rhuf. xiv. 22).
Ar y llaw arall, ym mhresenoldeb y gormeswyr a'r gwrthwynebwyr pengam, arfer dy ryddid beunydd er eu gwaethaf, fel y deallont eu bod yn ormeswyr, ac nad oes ganddynt hawl i sefydlu deddfau o'r fath.
Ni allwn fyw'r bywyd hwn heb seremonïau a gweithred— oedd. Y mae angen am ddisgyblu'r ieuanc dibrofiad a byrbwyll trwy ymrwymiadau o'r fath, a rhaid yw i bob un gadw'i gorff ei hun dan lywodraeth trwy arferion o'r fath. Am hynny, fe ddylai gwas Crist fod yn ddoeth a ffyddlon i arwain a dysgu pobl Crist ynglŷn â'r materion hyn yn y fath fodd ag na bo un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu yn eu plith a llygru llawer, fel y rhybuddia Pawl yr Hebreaid. Hynny yw, dylai ddysgu yn y fath fodd ag na bo perygl iddynt golli eu ffydd a'u llygru gan gred mewn gweithredoedd fel sail cyfiawnhad. Fe all hynny ddigwydd yn hawdd a llygru llawer onid argymhellir ffydd ar yr un pryd a gweithredoedd yn ddyfal arnynt. Yn wir, amhosibl yw osgoi'r perygl hwn lle ni sonnir am ffydd ac y dysgir ordeiniadau dynion yn unig. Dyna a wnaethpwyd hyd yn hyn gan draddodiadau annuwiol y pendefigion eglwysig a chan ddyfarniadau'r diwinyddion sy'n dwyn pla heinus a distryw ar eneidiau. Hud-ddenwyd eneidiau aneirif i lawr i uffern gan ledrithion o'r fath. Yn hyn y gelli adnabod waith priod yr Anghrist.
Yn fyr, fel y peryglir tlodi ynghanol cyfoeth, gonestrwydd ynghanol masnach, gostyngeiddrwydd ynghanol teitlau, dirwest ynghanol gloddesta, a diweirdeb ynghanol pleserau, felly hefyd peryglir y cyfiawnder sydd o ffydd ynghanol defodau a seremonïau. Dywed Selyf: A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes heb losgi ei ddillad " (Diar. vi. 27). Ond fel y mae'n rhaid i ni fyw ynghanol cyfoeth a masnach a theitlau a phleserau a gwleddoedd, felly hefyd y mae'n rhaid i ni fyw ynghanol seremonïau—hynny yw, ynghanol peryglon o bob math i'n ffydd. . .
FFYDD YN BENNAF.
Yn y bywyd Cristnogol, fe ddylid edrych ar seremonïau a defodau fel yr edrych adeiladwyr ar y paratoadau a wneir ar gyfer adeiladu. Ni wneir hwy er mwyn iddynt aros nac oherwydd dim gwerth sydd ynddynt hwy eu hunain, ond yn unig am na ellir adeiladu hebddynt. Pan gwblheir yr adeilad, fe'u tynnir oll i lawr. Yma, fe weli nad yw'r paratoadau i'w dirmygu ond i'w gwerthfawrogi. Ond rhaid yw condemnio cred ffôl ynddynt—pa bai rhywun mor ffôl â meddwl mai hwy yw'r adeilad sydd i aros. Pe bai dyn wedi colli ei synhwyrau i'r fath raddau â chysegru ei fywyd i'r unig ddiben o osod i fyny ysgaffaldiau, gan wario'i arian a'i amser arnynt, heb fyth feddwl am godi adeilad cyfan; pe bai ei fost beunydd yn y paratoadau diddefnydd hyn, onid tosturio wrth y gwallgofddyn a wnâi pawb, gan gofio y gellid codi adeilad mawr ardderchog â'r arian a wastreffid ganddo?
Felly ninnau hefyd, nid ydym yn diystyru gweithredoedd a defodau eglwysig. Yn wir, y mae gennym feddwl mawr ohonynt. Diystyru a wnawn yn unig y gred ffôl mewn gweithredoedd. Ni ddylai neb eu rhoi yn lle'r gwir gyfiawnder fel y gwna'r rhagrithwyr a dreulia'u holl fywyd yn dilyn defodau a gweithredoedd ac eto heb fyth gyrraedd y peth y gwneir y gweithredoedd er ei fwyn. Fel y dywed yr Apostol, y maent yn dysgu beunydd ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd (2 Tim. iii. 7). Y maent fel pe'n dymuno adeiladu, a gwnânt baratoadau mawr, ond nid ydynt byth yn adeiladu. Y mae ganddynt ffurf duwioldeb ond heb gyrraedd at ei rym. Yn y cyfamser boddheir hwy gan brysurdeb eu gwaith, a beiddiant gollfarnu pawb arall nad yw'r fath ysblander o ddefodau fel gwisgoedd gwych am danynt. Ar yr un gost, pe bai ganddynt ffydd, llwyddent i wneuthur gwrhydri mawr dros eu hiechydwriaeth hwy eu hunain a'r eiddo eraill hefyd. Yn lle hynny, gwastraffant roddion Duw ar ddim. Ond y mae'r natur ddynol yn ofergoelus, ac amhosibl yw iddi ei rhyddhau ei hun o'r caethiwed hwn i weithredoedd, ac adnabod a chydnabod y rhyddid sydd o ffydd.
Am hynny, y mae arnom angen am weddïo am i Dduw ein harwain a'n gwneuthur yn barod i'n dysgu gan Dduw; ac am i Dduw ysgrifennu ei ddeddf yn ein calonnau. Heb hynny nid oes obaith am danom. Oni ddysg Ef ei hun y doethineb hwn inni, ni all ein natur ond ei gondemnio a'i farnu fel heresi. Nid yw doethineb Duw ond rhwystr i'n natur gnawdol. Ffolineb yw iddi. Dyna fel y bu yn yr hen oesau ynglŷn â'r proffwydi a'r apostolion. Dyna a wna'r pendefigion dall ac annuwiol—hwy a'u cynffonwyr—dyna a wnânt â minnau heddiw ac â phawb tebyg i mi.
Trugarhaed Duw wrthym oll o'r diwedd a thywynned ei wyneb arnom er mwyn i ni wybod ei ffordd ef ar y ddaear a'i iechydwriaeth ef ymhlith yr holl genhedloedd.
Bendigedig fyddo'i enw am byth.
AMEN.
Anno Domini 1520.
- Wittenberg.
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.