Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Afon y Nos

Oddi ar Wicidestun
Priflys y Gwyllnos Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Y Breuddwyd

XXII.
AFON Y NOS.

Trwy froydd breuddwydion hud
Y llifa afon y nos;
A ffrydiau'r meddyliau mud
Ymdroellant mewn gwaen a rhos.

Ymdywallt wna'r llif di-hedd
O gaddug yr oesau fu,
Ac aber ceulannau'r bedd
A'i gollwng i'r cefnfor du.

Fe droir yn freuddwydiwr syn
Pwy bynnag a ddrachtio'r dwr;
Unigrwydd cysgodau'r glyn
Fydd bythol aneddle'r gwr.

Yn wylaidd estynna 'i law
I chwilio'r gyfrinach ddofn,
Dan deyrnged i frenin braw
Yn nheyrnas y barnol ofn.


Ond cilio wna'r gobaith cu,
A goleu'r addewid dlos:
Cyfaredd y gwpan ddu
Sy'n nyfroedd afon y nos.



Nodiadau

[golygu]